Mike Hedges: Prif Weinidog, diolch am eich ateb. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd chwaraeon proffesiynol. Ers mis Mawrth, mae chwaraeon proffesiynol yng Nghymru naill ai heb fod yn cael eu chwarae neu wedi cael eu chwarae heb wylwyr. Mae clybiau chwaraeon proffesiynol fel y Gweilch a chlwb pêl-droed Dinas Abertawe yn gyflogwyr mawr yn Abertawe, yn ogystal â'u pwysigrwydd fel cenhadon i'r ardal a'r...
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i chwaraeon proffesiynol? OQ55449
Mike Hedges: 9. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol amlinellu effaith masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd ar delerau Sefydliad Masnach y Byd, ar Gymru? OQ55450
Mike Hedges: Beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i gefnogi pobl hŷn sy'n byw ar eu pen eu hunain yn ystod y pandemig?
Mike Hedges: A gaf i hefyd ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddechrau drwy ddweud bod gennyf bryderon difrifol am y ffordd y mae newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar y tywydd? Bydd unrhyw un a aeth i'r ysgol yn y 1970au yn cofio glaw mân parhaus bron. Nawr, pan fydd hi'n bwrw glaw, bydd hi'n tywallt y glaw ac rydym ni'n gweld llifogydd. Bu mwy o lifogydd ym Mhrydain eleni nag yn hanner can...
Mike Hedges: Diolch, Gweinidog. Pwysigrwydd cyhoeddiadau cyfrwng Cymraeg lleol—mae Julie James, Rebecca Evans a minnau'n hysbysebu'n effeithiol yn ein cyhoeddiad Cymraeg misol Wilia. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i sicrhau parhad cyhoeddiadau o'r fath?
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb yna? Mae rhai ohonom yn amheus o'r dull y mae'r Trysorlys yn San Steffan yn dosbarthu cyllid canlyniadol i Gymru, ac mae'r hyn y maen nhw'n ei gynnwys yn cael effaith sylweddol ar gyllideb Cymru. A wnaiff y Gweinidog gyhoeddi faint o arian sydd i'w ddarparu, a chyfrifiad y Trysorlys a gynhyrchodd y cyfanswm ar gyfer yr arian canlyniadol a roddwyd i...
Mike Hedges: 5. A wnaiff y Gweinidog nodi'r cyllid ychwanegol a ddisgwylir o ganlyniad i wariant gan Lywodraeth y DU yn Lloegr mewn meysydd a ddatganolwyd i Gymru? OQ55346
Mike Hedges: 1. A wnaiff y Gweinidog ddarparu diweddariad ar gefnogaeth Llywodraeth Cymru i gyhoeddiadau Cymraeg lleol yn ystod y pandemig? OQ55349
Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Roeddwn i'n ceisio darganfod ble roedd y botwm i agor y meic ar y sgrin. A gaf fi ddweud, cyn i mi ddechrau rhoi sylw i'r gyllideb atodol gyntaf, hoffwn wneud dau bwynt byr iawn, ond rwy'n credu eu bod yn bwysig iawn? Yn gyntaf, credaf mai pennu cyllideb gychwynnol a chyllideb atodol yw'r pethau pwysicaf y mae'r Senedd yn eu gwneud gyda'i gilydd. Heb y penderfyniadau hyn, ni...
Mike Hedges: Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw. Hoffwn ganmol yn gyhoeddus hefyd y rhai sy'n cael eu cyflogi gan awdurdodau lleol a'r trydydd sector sydd wedi gweithio ar ddigartrefedd, i sicrhau nad oes rhaid i'r rhai nad ydynt am gysgu ar y stryd wneud hynny. Rwy'n—Rwy'n siŵr fod y Gweinidog—yn pryderu bod rhai, er gwaethaf holl ymdrechion gorau awdurdodau lleol a sefydliadau'r...
Mike Hedges: Fe agoraf fy microffon eto—mae’n ddrwg gennyf. Diolch, Brif Weinidog. Mae'r cyfryngau wedi bod yn hanfodol i roi sylw i newyddion da a drwg yn y cyfnod heriol hwn, ac yn anffodus, nid yw'r sylw a roddwyd i farwolaethau wedi'i gyfyngu i'r coronafeirws, ond rydym hefyd wedi gweld llofruddiaeth erchyll George Floyd yn America a'r ymosodiad dychrynllyd â chyllell yn Reading dros y...
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r cyfryngau lleol er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i breswylwyr yn ystod y pandemig Covid-19? OQ55303
Mike Hedges: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae digartrefedd wedi'i leihau ers dechrau'r pandemig Covid-19? OQ55304
Mike Hedges: O blaid.
Mike Hedges: O blaid.
Mike Hedges: Unrhyw benderfyniadau a wnawn yn awr, rhaid inni wneud yn siŵr fod cyfleoedd i bawb gael eu llais wedi'i glywed, i gymryd rhan a chael dweud eu barn yn ystyrlon. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn am alw arnaf i gymryd rhan yn y ddadl hon. Rwy'n mynd i edrych ar economi Cymru. Gellir ei rhannu'n bum rhan: yr economi hanfodol, yr economi adfer, meysydd sy'n gallu ffynnu gyda chefnogaeth, meysydd sy'n galw am hyder defnyddwyr, a meysydd y bydd yn anodd iawn eu hadfer yn y tymor byr iawn. Rydym yn gwybod am yr economi hanfodol; mae wedi bod yn...
Mike Hedges: Prif Weinidog, fe wnaethoch gyhoeddi ar 1 Mai y byddai Llywodraeth Cymru yn ariannu taliad ychwanegol o £500 i weithwyr gofal cymdeithasol mewn cartrefi gofal a gweithwyr gofal cartref ledled Cymru: 'Diben y taliad hwn yw rhoi cydnabyddiaeth bellach o’n gwerthfawrogiad am bopeth' y mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn ei wneud i 'gefnogi ein GIG a’r gymdeithas ehangach.' Dyma fy...
Mike Hedges: Diolch, Llywydd. Hoffwn siarad am les anifeiliaid. A gaf i ddweud bod Andrew Davies yn siarad ar ran llawer ohonom ni yn y Cynulliad pan soniodd am yr angen am gyfraith Lucy? Credaf fod cefnogaeth bron yn unfrydol i gyflwyno cyfraith Lucy, ac a gaf i ddweud y byddai'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn gwneud unrhyw beth yr ydych chi'n ei ofyn i ni er mwyn i gyfraith...