Caroline Jones: 5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddigideiddio gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52537
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog. Ac er fy mod yn croesawu rhai o'r mesurau a amlinellwyd gennych yn eich rhaglen ddeddfwriaethol, nid wyf i'n teimlo ei bod mor uchelgeisiol ag y dylai fod. Rydym bron hanner y ffordd drwy'r Cynulliad hwn ac mae gennym wyth Deddf ar y llyfrau statud ac, ar wahân i Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 a Deddf Tribiwnlys Anghenion Dysgu Ychwanegol...
Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Dywedodd Huw Vaughan Thomas bod adroddiad comisiwn Williams yn nodi'n eglur natur problemau systemig y mae angen eu datrys. Ychwanegodd ei fod yn canfod ei fod yn rhwystredig ac yn gynyddol bryderus nad yw llawer o'r galwadau rhybudd eglur i weithredu y mae Cymru wedi eu clywed dros y degawd diwethaf wedi creu'r newidiadau gwirioneddol sydd eu hangen ar frys bellach, ac...
Caroline Jones: Rwy'n cytuno a'r cyn Archwilydd Cyffredinol mai cyni cyllidol yw'r her fwyaf sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ynghyd â'r cynnydd mewn galw. Mae'r gwasanaethau hyn yn wynebu pwysau anhygoel. Tra bod gwariant y GIG wedi parhau i gynyddu, mae toriadau awdurdodau lleol yn effeithio ar ofal cymdeithasol, sydd, yn ei dro, yn effeithio ar ofal iechyd. Rydym ni'n gwario mwy y pen ar...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru sydd ar fin gadael y swydd wedi bod yn feirniadol iawn—[Torri ar draws.]
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru sydd ar fin gadael ei swydd wedi bod yn feirniadol iawn o anallu sector cyhoeddus Cymru i addasu i gyllidebau llai. Mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, dywedodd Huw Vaughan Thomas y gallai gwasanaethau cyhoeddus fod yn diwygio er gwell, ond eu hunig ymateb i gyni cyllidol fu torri costau. Dywedodd hefyd ei fod yn...
Caroline Jones: Hoffwn gofnodi fy niolch i glercod y pwyllgor, staff Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau, a'r tystion amrywiol sydd wedi ein helpu i gynnal yr ymchwiliad hwn. Roedd adroddiadau'r tystion yn aml yn ddirdynnol ac yn anodd gwrando arnynt. Mae dementia yn fater iechyd cyhoeddus pwysig yng Nghymru; credir ei fod yn effeithio ar oddeutu 42,000 o bobl yng Nghymru ac mae i'w weld yn fwyaf cyffredin ymysg...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae angen cymysgedd go iawn o ddulliau cynhyrchu ynni ar Gymru os ydym am fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd a diogelu ffynonellau ynni. Un o'r heriau mwyaf ar gyfer ynni adnewyddadwy yw natur anrhagweladwy cynhyrchiant. Dros yr ychydig wythnosau diwethaf, rydym wedi cynhyrchu mwy o lawer o ynni solar nag sydd ei angen, ac o ganlyniad, mae wedi'i wastraffu. Mae...
Caroline Jones: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwyddom bellach fod Llywodraeth y DU wedi gwneud eu penderfyniad ar sail ffigurau anghywir, a oedd yn tanddatgan gwir fudd a chost morlyn llanw bae Abertawe. Dengys archwiliad a wnaed gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes mai ychydig bach yn ddrytach yn unig a fyddai'r chwe morlyn arfaethedig na Hinkley C. Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni hyn, a fyddwch...
Caroline Jones: 5. Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i beidio â chefnogi morlyn llanw bae Abertawe, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog a chefnogi cynlluniau cynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ52490
Caroline Jones: 8. Pa drafodaethau diweddar y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael ynghylch cynigion amgen ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru? OAQ52489
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i annog cydweithio agosach rhwng byrddau iechyd ac awdurdodau lleol drwy fyrddau gwasanaethau cyhoeddus?
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, arweinydd y tŷ, ac am eich datganiad ysgrifenedig yn gynharach. Eleni rydym yn dathlu canmlwyddiant y menywod cyntaf yn gallu pleidleisio mewn etholiadau seneddol, a 90 mlynedd ers inni gael y bleidlais ar yr un telerau. Mae cydraddoldeb rhwng y rhywiau wedi dod ymhell yn y 90 mlynedd hynny, ond nid yw wedi dod yn ddigon pell. Mae bwlch enfawr rhwng cyflogau,...
Caroline Jones: Mae'n ddrwg gen i?
Caroline Jones: Yn ôl eto, aie? Dim ateb. Iawn. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?
Caroline Jones: Gyda Phlaid Cymru. Diolch. Mae'n ddrwg gen i, ni wnes i ddim clywed hynna'n iawn. Diolch, Prif Weinidog. Sylwaf bod eich Llywodraeth wedi amlinellu heddiw cynigion ar gyfer cymorthdaliadau fferm pe byddem ni fyth yn gadael yr UE, a chroesawaf y cynigion, sydd, yn ôl yr RSPB, yn nodi ffordd newydd o weithio. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin wedi rhoi cadwraethwyr a ffermwyr benben â'i...
Caroline Jones: Prif Weinidog, yn anffodus, mae safbwynt y Blaid Lafur yn ddryslyd. Mae'r AS Llafur dros Aberafan yn credu'n gryf y dylai Llafur ymrwymo'n llwyr i fodel Brexit a fyddai'n golygu bod y DU yn parhau i wneud cyfraniadau ariannol i'r UE a derbyn llawer o'i ddeddfau. Mae'n amlwg nad yw arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn siŵr beth y mae ef ei eisiau—un diwrnod, mae angen i ni aros yn y...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU mewn cythrwfl ac yn benderfynol, mae'n ymddangos, o wneud cymaint o lanastr llwyr o Brexit fel nad oes gennym ni unrhyw ddewis heblaw aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf dymuniadau etholwyr y DU. Cefnodd David Cameron ar y DU, yn amharod i gyflawni dymuniadau democrataidd yr etholwyr. Mae Theresa May wedi gwneud cawl o bob trafodaeth...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae bargen ddinesig Bae Abertawe yn seiliedig ac yn dibynnu ar gysylltedd digidol. Yn yr achos busnes cychwynnol ar gyfer y fargen ddinesig, cynigiwyd gosod cebl trawsatlantig newydd â chapasiti terabit rhwng Efrog Newydd a Bae Oxwich, ond ni chafodd ei gynnwys yn y fargen derfynol. Byddai'r cyswllt newydd wedi rhoi rhanbarth Bae Abertawe ar draffordd ddigidol,...
Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae'n fraint enfawr gallu sefyll yma heddiw a dathlu 70 mlynedd o’r GIG. Heb y gwasanaeth iechyd gwladol, fyddwn i ddim yn yma heddiw. Un ar ddeg mlynedd yn ôl, darganfu meddyg GIG gweithgar ganser ar fy mron a gwnaeth byddin o feddygon, nyrsys, radiograffyddion a fferyllwyr eraill gweithgar achub fy mywyd i. Heb y GIG, fyddai llawer o'm...