Mohammad Asghar: Pa gynlluniau sydd gan Ysgrifennydd y Cabinet i adolygu polisi Llywodraeth Cymru ar dderbyn i ysgolion?
Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am waith gwasanaeth gwrth-dwyll y GIG?
Mohammad Asghar: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar bolisi derbyn ysgolion yng Nghymru? Bydd Aelodau'r Cynulliad yn ymwybodol mai'r oedran ysgol gorfodol yw dechrau'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn bum mlwydd oed. Fodd bynnag, mae hyn yn rhoi plant a anwyd rhwng 1 Ebrill a 31 Awst, a elwir yn blant a anwyd yn yr haf, o dan anfantais. Mae rhieni plant pedair blwydd...
Mohammad Asghar: A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi mai gwaith yw un o'r ffyrdd gorau allan o dlodi? A wnaiff ef ymuno â mi i groesawu'r ffaith bod diweithdra ym Merthyr Tudful a Rhymni wedi gostwng gan 52 y cant ers 2010?
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, mae adroddiad cynnydd diweddar Llywodraeth Cymru ar gynhwysiant digidol yn nodi bod Merthyr Tudful yn ardal heb lawer o weithgarwch cynhwysiant digidol yn digwydd ynddi. Arweiniodd hyn at ffurfio partneriaeth Get Merthyr Tydfil Online. O gofio bod mynegai datblygu digidol Barclays 2017 wedi honni bod sgôr gweithwyr yng Nghymru ymhlith yr isaf o holl ranbarthau'r DU o...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am argymhellion y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y dylid ystyried pobl sy'n cysgu allan yn bobl ag angen blaenoriaethol am dai. Fodd bynnag, cyn y gellir gweithredu hyn, bydd angen digon o adnoddau a chymorth ar waith i ymdopi gyda'r newid hwn. Pa drafodaethau a gawsoch gyda'ch cyd-Aelodau o'r Cabinet ynglŷn â...
Mohammad Asghar: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau ar gyfer treth ar dir gwag yng Nghymru?
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar yr amseroedd aros am lawdriniaeth ddargyfeiriol ar y galon yng Nghymru? Mae ystadegau swyddogol yn dangos bod cleifion wedi bod yn aros ar gyfer llawdriniaeth 79 diwrnod ar gyfartaledd rhwng mis Ebrill 2016 a mis Mai 2017, o gymharu â 43 diwrnod y flwyddyn flaenorol. Yr amser aros cyfartalog am lawdriniaeth...
Mohammad Asghar: Roedd nofio am ddim i blant yn un o bolisïau blaenllaw'r Blaid Lafur. Fe'i cynlluniwyd i annog plant yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill yng Nghymru i fod yn heini ac yn iach. Cyhoeddwyd erbyn hyn bod Chwaraeon Cymru yn adolygu ei gefnogaeth i nofio am ddim ar gyfer plant. O gofio bod gordewdra ymhlith plant yng Nghymru yn codi i'r entrychion, a wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth...
Mohammad Asghar: Mae'r adroddiad ar gyfer Comisiwn Dylunio Cymru wedi amlygu bod budd enfawr y gellid ei gael o farchnata treftadaeth ddiwydiannol Merthyr Tudful, gan droi'r dref yn gyrchfan dwristiaeth flaenllaw. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod gan strategaeth farchnata sy'n cynnwys holl safleoedd treftadaeth ddiwydiannol y de, gan gynnwys camlesi fel Mynwy ac Aberhonddu, y potensial i roi hwb...
Mohammad Asghar: Croesawaf adroddiad y pwyllgor, sy'n ymdrin â materion yn ymwneud ag un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu Llywodraeth Cymru: sut i fynd i'r afael â'r bwlch sgiliau yng Nghymru. Mae arolwg economaidd chwarterol Siambr Fasnach Prydain ar gyfer chwarter terfynol 2017 yn dangos bod prinder sgiliau yn cyrraedd lefelau critigol. Mae cwmnïau yn y sector gweithgynhyrchu a'r sector gwasanaethau yn nodi...
Mohammad Asghar: Weinidog, mae'r penderfyniad i agor canolfan newydd ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau yn Nhrefforest wedi cael ei groesawu gan arweinydd Llafur Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, yn dod fel y mae wedi cyhoeddiadau y bydd pencadlysoedd Trafnidiaeth Cymru, Addysg a Gwella Iechyd Cymru, ac Awdurdod Cyllid Cymru oll yn cael eu lleoli yno—yn fwy tebygol, po fwyaf o gyflogaeth y...
Mohammad Asghar: Un o'r nodau llesiant yw creu Cymru iachach. Yn ôl Diabetes UK Cymru, mae Cymru'n wynebu epidemig diabetes tra bod adroddiad blynyddol diweddaraf y Rhaglen Mesur Plant Cenedlaethol yn dangos bod mwy na chwarter y plant yng Nghymru dros eu pwysau neu'n ordew. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar rôl gwasanaethau cyhoeddus wrth fynd i'r afael â gordewdra a diabetes, gan helpu i...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ofyn am ddatganiad ar wasanaethau gofal seibiant ar gyfer pobl yr effeithir arnynt gan ddementia yng Nghymru? Mae'r comisiynydd pobl hŷn wedi cynhyrchu adroddiad sy'n honni bod gofal seibiant traddodiadol, nad yw'n diwallu anghenion pobl, yn andwyol i'w hiechyd a'u lles. Mae adroddiad pellach yn honni nad yw gwasanaethau seibiant traddodiadol yn aml yn ddigon...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, mae'n rhaid i unrhyw gynllun i sicrhau'r budd economaidd mwyaf posibl o brifddinas-ranbarth Caerdydd gynnwys ffordd liniaru ar gyfer yr M4. Mae nifer o berchnogion busnes wedi cysylltu â mi yn mynegi eu siom iddi ymddangos yn ddiweddar bod Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, a'ch darpar olynydd, wedi taflu dŵr oer ar y llwybr du arfaethedig. Fel y dywedodd un perchennog...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae ystadegau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr eleni yn dangos, er mai beicwyr modur oedd llai nag 1 y cant o'r traffig yng Nghymru yn 2016, eu bod yn 23 y cant o'r holl bobl a gafodd eu lladd a'u hanafu'n ddifrifol yng Nghymru hefyd. Lladdwyd 22 o feicwyr modur i gyd ar ffyrdd Cymru yn 2016. Mae'n ffigur brawychus ac yn gwbl annerbyniol. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru...
Mohammad Asghar: Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i dyfu sector twristiaeth yr economi dros y 12 mis nesaf?
Mohammad Asghar: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad heddiw. Rwy'n croesawu'r newyddion y bydd prifysgolion Abertawe a Chaerdydd yn derbyn cyllid i ehangu codio mewn ysgolion, colegau a chymunedau. Bydd hyn yn helpu'r prifysgolion hyn i fod yn rhan o Sefydliad Codio'r DU, a grëwyd gan y Llywodraeth Geidwadol, sy'n bartneriaeth â chwmnïau technoleg blaenllaw, prifysgolion a chyrff y diwydiant...
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad ar lefelau gordewdra ymhlith plant yng Nghymru? Mae adroddiad blynyddol y rhaglen mesur plant ddiweddaraf yn dangos bod mwy na chwarter y plant yng Nghymru yn rhy drwm neu'n ordew. Mae hyn yn llawer uwch nag yn Lloegr. Cafodd ardaloedd megis Blaenau Gwent a Chaerffili yn fy rhanbarth ill dau ganlyniadau uwch na chyfartaledd Cymru. Rwyf ar ddeall bod...
Mohammad Asghar: Y prosiect i ddeuoli ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd yw'r cynllun adeiladu ffyrdd mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd. Ym mis Hydref y llynedd, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth raglen gynhwysfawr ac adolygiad cost o'r prosiect oherwydd yr oedi o ran targedau cwblhau a chanddynt oblygiadau cost sylweddol. A wnaiff y Prif Weinidog dros dro nodi'r amserlen ar gyfer...