Canlyniadau 441–460 o 2000 ar gyfer speaker:Suzy Davies

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Rôl Porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit (12 Meh 2019)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am hynny. Fel y gwyddoch, mae cryn dipyn o borthladdoedd yn fy rhanbarth i, ac un o'r cyfleoedd i Gymru os gadawn yr UE fyddai datblygu porthladdoedd rhydd, gan y byddent yn caniatáu i nwyddau gael eu mewnforio i rannau o Gymru, eu storio neu eu cynhyrchu'n gynnyrch gorffenedig cyn eu hallforio heb drethi a thariffau. Wrth gwrs, mae gennym borthladdoedd rhydd yn y DU yn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Bysiau yng Ngorllewin De Cymru (12 Meh 2019)

Suzy Davies: Diolch i chi am y sylwadau hynny, roeddwn yn meddwl eu bod yn ddefnyddiol iawn, ac rwy'n edrych ymlaen at y Papur Gwyn hefyd. Yn y cyfamser, fodd bynnag, yn 2016, fe gyhoeddoch chi gynllun pum pwynt i gefnogi llwybrau bysiau, gan gynnig cymorth i bob cwmni bysiau yng Nghymru drwy Busnes Cymru a Cyllid Cymru, ac ar yr un pryd, fe alwoch—fel rydych wedi'i wneud eto heddiw—ar awdurdodau...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit): Rôl Porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit (12 Meh 2019)

Suzy Davies: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch rôl porthladdoedd Cymru ar ôl Brexit? OAQ54001

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth (12 Meh 2019)

Suzy Davies: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am rôl yr M4 o ran datblygu economi Gorllewin De Cymru?

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn ichi—diolch, Dirprwy Lywydd. Roedd hwnnw'n ddatganiad llawn iawn, a gwerthfawrogaf eich atebion heddiw. Ond, mewn ymateb i'r hyn yr oeddech yn ei ddweud wrth John Griffiths, fy nealltwriaeth i yw bod cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru dros hawliau dynol a chydraddoldeb yn berthnasol i holl adrannau'r Llywodraeth. Nid mater i'r Cynulliad yn unig yw hyn, ac un o'r pethau yr...

3. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth (11 Meh 2019)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Gweinidog. Rwy'n siŵr, fel pawb yn y Siambr hon, mewn gwirionedd, ein bod ni'n gweld athrawon sy'n parhau i ddweud wrthym ni mai'r llwyth gwaith yw un o'r materion pwysicaf iddyn nhw a bydd y diweddariad a gawsom ni heddiw yn ein helpu i ddeall ac efallai'n gofyn iddyn nhw pa un a ydyn nhw wedi cael y math o gymorth yr ydych chi wedi bod yn sôn amdano yn yr ysgolion lle...

Cwestiwn Brys: Ffatri Beiriannau Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr (11 Meh 2019)

Suzy Davies: Diolch am y cwestiwn heddiw, Carwyn Jones, a'ch ymateb, Gweinidog. A gaf i ddechrau, fodd bynnag, trwy ddweud fy mod i o'r farn os byddwn yn rhoi gormod o bwyslais ar Brexit mewn unrhyw sgyrsiau o'r math hwn, y byddwn yn cyrraedd pwynt pan fyddwn yn beio popeth ar Brexit ac yn methu â gwerthuso effaith Brexit mewn gwirionedd? Felly, er fy mod i'n fodlon derbyn y gall fod elfen o hyn, rwy'n...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Dysgu Cymraeg i Oedolion ( 5 Meh 2019)

Suzy Davies: Wel, credaf fod ein dysgwyr Cymraeg yn adnodd nad oes digon o ddefnydd arno yng Nghymru. Ac fel y gwyddom, ni fydd pob oedolyn sy'n byw yng Nghymru wedi bod drwy system ysgolion Cymru. I lawer ohonynt, bydd gwefan Dysgu Cymraeg yn fan cychwyn iddynt allu dysgu rhywfaint o Gymraeg, a chefais fy synnu o weld bod y gwahaniaeth rhwng argaeledd sesiynau blas—sesiynau blas yn benodol—i oedolion...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Meh 2019)

Suzy Davies: Iawn, wel, Weinidog, dyna ddau gwestiwn nad ydych wedi'u hateb bellach. Rwyf wedi darllen briff Prifysgol Caerdydd, fel rydych chithau wedi'i wneud, yn amlwg. Roeddwn yn awyddus i wybod beth oeddech chi'n ei feddwl, ac rwy'n awyddus i wybod beth ydych chi'n ei feddwl am y sefyllfa hon yn gyffredinol ynghylch benthyciadau heb eu talu, sy'n dod yn grantiau gan y Llywodraeth i bob pwrpas, a'r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Meh 2019)

Suzy Davies: Am ateb gwresog. Nid oeddwn yn awgrymu am eiliad y dylem fod yn dilyn arweiniad Lloegr yn hyn o beth. Meddwl yr oeddwn tybed beth fyddai effaith, neu beth gredwch chi fyddai effaith yr adolygiad penodol hwn ar brifysgolion Cymru, ac nid wyf yn credu fy mod wedi dysgu mwy o hyn. Un peth y mae Augar yn ei ddweud yn ei adolygiad, fodd bynnag, yw bod gwahaniaethau i'w cael eisoes rhwng systemau...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Meh 2019)

Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Rwy'n gweld y byddwch yn cyfarfod â'ch cyd-Weinidogion addysg uwch yn yr Alban a Llywodraeth y DU cyn bo hir—efallai eich bod eisoes wedi gwneud hynny, nid wyf yn gwybod—i drafod Brexit a chanfyddiadau adolygiad Augar. Mae mater ariannu addysg ôl-16 wedi'i ddatganoli, wrth gwrs, ond mae'r systemau yn yr holl wledydd hyn yn cefnogi cystadleuaeth...

7. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar Raglen Weithredu Adolygiad Amber ( 4 Meh 2019)

Suzy Davies: Gweinidog, a gaf i ofyn pam ein bod ni'n dal i fod yn y sefyllfa eithaf chwerthinllyd hon lle nad yw cyd-ymatebwyr y gwasanaeth tân yn cael eu galw allan i ddigwyddiadau oren, a hwythau wrth gwrs yn gallu atal y galwadau hynny rhag dwysáu'n alwadau statws coch drwy oedi, neu, mewn rhai achosion, dileu'r angen i gael ambiwlans neu ysbyty o gwbl? Mae'n rhaid i mi ddweud, nid yw'r frwydr hon...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Yr Argyfwng Newid Hinsawdd ( 4 Meh 2019)

Suzy Davies: Prif Weinidog,  galwais ar eich Gweinidog yr amgylchedd ym mis Mawrth i ystyried, ynghyd â gweddill eich Cabinet, y rhesymau amgylcheddol, yn ogystal â'r rhesymau economaidd, dros gynorthwyo Tata Steel i greu ei gyflenwad ynni lleol ei hun, trwy orsaf bŵer o'r radd flaenaf arfaethedig. Ar y pryd, dywedwyd wrthyf y byddai Gweinidog yr amgylchedd a Gweinidog yr economi yn cael cyfarfod ar y...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr Economi (22 Mai 2019)

Suzy Davies: Na, rwy'n sylweddoli—. Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad ychydig yn ddiweddarach. Yn eich sylwadau agoriadol, fe ddywedoch chi eich bod yn meddwl y byddai pobl Cymru yn ddigon hapus fod Cymru wedi dal i fyny â gweddill y DU. A ydych chi'n siŵr nad yw hwnnw'n uchelgais braidd yn isel, pan ddylem fod wedi defnyddio cyfle datganoli i wneud i Gymru godi i’r entrychion ac nid dim ond dal i...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr Economi (22 Mai 2019)

Suzy Davies: Nawr, yn wahanol i Israel neu'r Unol Daleithiau, nid yw ein diwylliant yn derbyn methiant fel y cam nesaf tuag at lwyddiant, ac rwy'n credu bod hynny'n ddi-fudd; mae'n cyfyngu ar greu cyfoeth. Ond pan fyddwch yn defnyddio arian fy etholwyr i’w roi ar geffyl, byddai'n well i chi wybod sut i ddarllen y cofnod o'i gyflawniadau. Eich cofnod chi sy’n peri diffyg hyder i ni ar hyn. Efallai y...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Yr Economi (22 Mai 2019)

Suzy Davies: Wrth nodi ein bod yn dal i fod heb weld yr adroddiad ar kukd.com eto, credaf fy mod am ddechrau gydag ymateb y Prif Weinidog i gwestiynau’r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf pan gyhuddodd fy mhlaid o fethu bod yn barod i gymryd risgiau wrth gefnogi busnesau. Rwy'n credu iddo anghofio ei fod yn siarad â'r Ceidwadwyr. Dyma'r union grŵp a fu'n annog y Llywodraeth hon ers blynyddoedd maith i...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Hyrwyddo'r Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru (22 Mai 2019)

Suzy Davies: Weinidog, ddeufis yn ôl, wnes i ofyn i chi am eich 20 swyddog Cymraeg i fusnes a'ch llinell cymorth cyfieithu. Ateboch eich bod yn—quote—meddwl bod angen i ni wneud mwy o farchnata yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno 100 y cant, yn arbennig yn fy rhanbarth i. Mae'n flwyddyn ariannol newydd, felly faint o waith newydd ydy'r swyddogion hynny'n ei wneud a sawl ymholiad newydd ydy'r llinell...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Monitro a Rheoli Cyllidebau (22 Mai 2019)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, oherwydd gan mai chi sy'n goruchwylio hyn, rwy'n siŵr y byddwch yn cofio y dylai penderfyniadau cyllidebol ystyried egwyddorion cydraddoldeb, a chofio wrth gwrs am y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog Addysg ynglŷn â chymorth ariannol i'r rheini sy'n gallu darparu'r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Ardrethi Busnes (22 Mai 2019)

Suzy Davies: Weinidog, mae gwahaniaeth rhwng edrych ar rywbeth fel rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn, a rhywbeth y dylid ei guddio rhag y cyhoedd mewn gwirionedd. Yn fy rhanbarth i, ymddengys bod rhywfaint o ddryswch ynghylch sut y caiff hyn ei ddyfarnu, gyda dau o'r cynghorau yn fy rhanbarth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio am fusnesau a allai elwa o hyn, gan eu cynghori...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Monitro a Rheoli Cyllidebau (22 Mai 2019)

Suzy Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o fonitro a rheoli cyllidebau? OAQ53923


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.