Russell George: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau heddiw, os gallaf i, ar effaith y pandemig ar fusnesau Cymru ac economi Cymru. Rwy'n credu, ar y cyfan, bod pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cydweithio'n dda, gan ymdopi â heriau'r pandemig. Ond er i ni ddechrau'n dda gyda'n gilydd, mae problem wedi codi ac mae mor siomedig i mi ein bod yn llacio'r cyfyngiadau symud ar...
Russell George: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n credu fy mod yn arbennig o awyddus i ddeall sut y gall busnesau wneud cais am y cynllun cyn bod y gwiriwr ar gael. Ni allant baratoi oni bai eu bod yn gwybod os ydynt yn gymwys ai peidio. Tybed, hefyd, a wnewch chi roi sylw i'r rheswm pam eich bod mor amharod, mae'n debyg, i gyhoeddi amserlen uchelgeisiol gyda cherrig milltir clir ar gyfer ailagor economi Cymru...
Russell George: Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad a'r ffordd adeiladol y buoch yn gweithio gyda llefarwyr yr wrthblaid? Fe soniwch eich bod yn annog Gweinidogion Llywodraeth y DU i'ch cynnwys mewn trafodaethau, a tybed a ydych chi hefyd wedi estyn gwahoddiad i Weinidogion Llywodraeth y DU fod yn rhan o'ch trafodaethau chi ar gam nesaf y gronfa cadernid economaidd. Rwy'n arbennig o falch eich...
Russell George: Brif Weinidog, yn eich datganiad heddiw fe sonioch chi am ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol. Pan fydd pobl yn clywed yr hyn sy'n ymddangos yn ddata anghyson o ran achosion, neu nifer y marwolaethau, mae'n achosi peth pryder. Byddai pobl ym Mhowys, er enghraifft, wedi clywed adroddiadau newyddion ddoe yn dweud, yn anffodus, fod 12 wedi marw ym Mhowys, tra bo ffigurau'r Swyddfa Ystadegau...
Russell George: Rwy'n derbyn y pwynt olaf hwnnw, Weinidog, ond credaf fod problem o hyd gyda'r ffaith bod awdurdodau lleol yn nerfus ynghylch dangos rhywfaint o ddisgresiwn, ac efallai y gellid rhoi rhywfaint o ystyriaeth ychwanegol i hynny. Mae fy set olaf o gwestiynau, yn fyr iawn, yn ymwneud â'r cyfnod adfer, ac rwy'n credu wrth gwrs ein bod i gyd yn gobeithio y gallwn symud ymlaen ato cyn gynted â...
Russell George: Diolch am eich datganiad, Weinidog, a diolch i chi am eich sesiynau briffio rheolaidd i'r llefarwyr hefyd. Weinidog, fe sonioch chi fod y gronfa cadernid economaidd wedi'i rhewi ddydd Llun diwethaf. Tybed a allech chi roi mwy o fanylion am gam nesaf y cynllun, oherwydd bydd busnesau'n awyddus iawn i wybod pryd y caiff hynny ei gyhoeddi a beth fydd ei gynnwys. Gwn o'n trafodaethau fod rhai...
Russell George: Iawn?
Russell George: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Russell George: Diolch yn fawr, Weinidog. A gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, ac a gaf fi hefyd ddiolch i chi am eich cyfarfodydd wythnosol gyda llefarwyr y gwrthbleidiau? Rwy'n credu eu bod yn amhrisiadwy, gan eu bod yn caniatáu i ni godi materion yn uniongyrchol gyda chi, yn ogystal â chael y wybodaeth ddiweddaraf. Felly, mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr, Weinidog. A gaf fi roi croeso...
Russell George: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddaf mor gyflym ag y gallaf yn holi fy nghwestiynau. Ac a gaf i yn gyntaf ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn hapus iawn i weithio'n adeiladol iawn gyda'ch Gweinidogion cyllid a busnes ac economi mewn ffordd adeiladol i helpu i gefnogi economi busnes Cymru? Ac rwy'n mawr obeithio bod eich cyd-Aelodau yn gwrando—rwy'n siŵr eu bod—ar y materion yr wyf yn eu...
Russell George: Ond rwyf mor rhwystredig nad ydym yn gweithio ar sail consensws, Ddirprwy Lywydd. Dewch, gadewch inni ddod at ein gilydd ar yr adeg hon. Rwy'n mynd i geisio mynd drwy fy nghwestiynau mewn ffordd bwyllog. Ddoe, Weinidog, cyhoeddodd y Llywodraeth fesurau ychwanegol ar gyfer cymorth i fusnesau. Fe ddywedoch chi y byddwch yn gwneud cyhoeddiad yn ddiweddarach heddiw, rwy'n credu, ac rwy'n...
Russell George: A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb cytbwys, rwy'n meddwl, i Alun Davies? A chwestiwn Alun Davies—rwy'n siomedig iawn gyda thôn ei ymagwedd oherwydd, fel y dywedais ddoe, Weinidog, rwyf am weithio gyda chi a'r Llywodraeth, gan graffu ond hefyd mewn ffordd gytbwys a chyda chydweithrediad, ar yr adeg hon nas gwelwyd ei thebyg o'r blaen. Cawsom y Canghellor ddoe, yn ychwanegol at gyllideb yr...
Russell George: Diolch. I'r dyfodol, mae'n bosib y gellir gofyn sut y gallai strwythur Busnes Cymru newid a datblygu yn ôl y galw, hefyd. Rwy'n credu bod gwir angen helpu gweithgynhyrchwyr a'r diwydiant twristiaeth—dau ddiwydiant pwysig iawn i ni yng Nghymru—felly, unrhyw gyngor y gallwch ei gael yn hynny o beth. Yn ogystal â hynny, mae mater amseru'r cyhoeddiadau hefyd. Er fy mod i'n dymuno bod mor...
Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw, yn gyntaf, ac a gaf i ddweud, o'm rhan i fy hunan a'r meinciau hyn, ein bod ni'n awyddus i fod yn gefnogol i'r Llywodraeth a'i dull hi o weithredu? Yn amlwg, mae cydbwysedd, rwy'n credu, rhwng craffu ar y Llywodraeth, ond hefyd bod mor gefnogol i'r Llywodraeth ag y gallwn ar yr achlysur arbennig hwn. Mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd yn...
Russell George: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o werth am arian unrhyw fenthyciadau a ddarperir i gyrff allanol?
Russell George: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Russell George: Y pwynt yw y gallai'r Llywodraeth—a dweud y gwir, pob Llywodraeth—fod wedi gwneud mwy i gefnogi'r maes awyr yn ystod y cyfnod hwnnw, megis cysylltiadau ffyrdd, cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, cysylltiadau rheilffyrdd. Gallai pob Llywodraeth o bob lliw fod wedi gwneud mwy i gefnogi'r maes awyr pan oedd mewn perchenogaeth breifat, ac efallai na fyddem ni wedi cyrraedd y sefyllfa yr...
Russell George: —neu buaswn i'n hapus gwneud hynny. Ac, yn olaf, byddem hefyd eisiau gweld gwelliannau o ran cysylltiadau trafnidiaeth i'r maes awyr o ran rheilffyrdd, ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Ond rydym ni ar y meinciau hyn yn credu y dylid cael enillion teg am arian y trethdalwyr, y buddsoddiad. Talodd pob trethdalwr yng Nghymru £38.50 am y buddsoddiad gwreiddiol hwnnw ym Maes Awyr...
Russell George: Diolch. Dim ond ceisio rhywfaint o arweiniad oeddwn i. Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ond, yn sicr o ran ein cynllun ar gyfer y maes awyr, mae gennym ni nifer o bwyntiau y byddem yn eu cyflwyno. Yn gyntaf oll, byddem yn buddsoddi yn seilwaith cyfalaf y maes awyr er mwyn galluogi'r maes awyr i arallgyfeirio a chynhyrchu ffynonellau refeniw newydd. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Gallai'r maes...
Russell George: Wel, diolch am yr eglurhad yna. Byddai'n ddefnyddiol cael gwybod gan y Gweinidog, ar ddiwedd y ddadl hon, os mai dyna yw safbwynt y Llywodraeth hefyd. O ran y maes awyr arall y soniodd Carwyn Jones amdano, wrth gwrs, fe brynwyd hwnnw am bris teg. Nid wyf yn gwybod beth yw manylion y maes awyr penodol hwnnw, ond yr hyn a ddywedaf yw hyn: rydym ni, ar y meinciau hyn yn y fan yma, yn credu y...