Mark Isherwood: Rwy'n cynnig.
Mark Isherwood: Cynigiwyd.
Mark Isherwood: Mae safbwynt y Gweinidog yn peri dryswch i mi, a chredaf y byddai'n lleihau hawliau democrataidd yr holl etholwyr. Mae ffyrdd eraill o bleidleisio, a chânt hwythau hefyd sylw o dan rannau o'r Bil hwn, neu ddarpariaeth sy'n bodoli cyn y Bil hwn. Ni fyddai cyflwyno'r cynsail newydd hwn ar hyn o bryd yn cyflawni'r nodau a nodwyd gan y Gweinidog, a chredwn, i'r gwrthwyneb, y gallai fynd yn groes...
Mark Isherwood: Onid wyf yn ymateb?
Mark Isherwood: Peidiwch â phoeni, rydych wedi cael dau ddiwrnod hir iawn, wedi'r cyfan.
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 8 yn fy enw i. Yn syml, mae'r gwelliant hwn yn gadael adran 6 allan er mwyn atal pleidleisio ar fwy nag un diwrnod. Fel y dywedais ddoe, rydym yn cydnabod yr angen i bleidleisio ddigwydd ar un diwrnod a heb ei wasgaru dros fwy nag un diwrnod. Mae etholiad a gynhelir dros fwy nag un diwrnod yn cynyddu pryderon diogelwch yn ymwneud ag uniondeb yr...
Mark Isherwood: Mae'n cael ei gynnig.
Mark Isherwood: Cynnig.
Mark Isherwood: Mae'n wrthwynebiad. Roeddwn yn meddwl y byddech yn agor fy meic, ond rwy'n gwrthwynebu.
Mark Isherwood: Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn credu, os caiff etholiad ei ohirio, y byddai'n well ei gynnal yn ystod misoedd yr haf yn hytrach nag yn y gaeaf, oherwydd mae hi hefyd wedi dweud hynny wrthyf yn gyson yn flaenorol. Mae'n anghynaliadwy yn ddeallusol felly i alluogi'r posibilrwydd, neu ddarparu ar gyfer y posibilrwydd, o gael yr union etholiad hwnnw yn y gaeaf. Mae ein safbwynt yn gynaliadwy,...
Mark Isherwood: Rwy'n cynnig gwelliannau 5, 9, 10, 11, 12 a 13. Mae'r rhain yn nodi mai 26 Awst yw'r dyddiad diweddaraf y gellir gohirio etholiad. Fel y dywedais ddoe yn ystod trafodion Cyfnod 2, mae gohiriad o chwe mis i'r etholiad a drefnwyd ar 6 Mai yn rhy hir. Arferai Cynulliad Cenedlaethol Cymru eistedd am dymor o bedair blynedd ac mae'r Senedd yn eistedd am bump. Byddai gohirio tan noson tân gwyllt yn...
Mark Isherwood: Byddwn yn cefnogi gwelliannau 3 a 4, ond ni allwn gefnogi gwelliant 16 Plaid Cymru. Byddai'n ymddangos yn rhyfedd iawn gorfodi'r Prif Weinidog i egluro ei resymau dros beidio â gwneud rhywbeth. Mae hyn yn gwbl ddigynsail ac nid yw'n rhywbeth y credaf fod neb, fel y dywedais ddoe mewn cyd-destun gwahanol, yn galw amdano'n fwriadol. Os credwch y dylid cynnal yr etholiad, ni chredwn y dylid...
Mark Isherwood: Diolch. Pan gynghorodd Llywodraeth Cymru ysgolion i gau y tro cyntaf mewn ymateb i'r argyfwng COVID-19, dywedodd na ddylai hyn gynnwys darpariaeth ar gyfer plant sy'n agored i niwed, neu blant y mae eu rhieni'n hanfodol i'r ymateb i COVID-19. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn nodi bod plant sy'n agored i niwed yn cynnwys rhai sy'n cael gofal a chymorth neu sydd â chynlluniau cymorth a'r...
Mark Isherwood: Rwy'n eich annog i edrych ar y gwasanaethau hanfodol sy'n cael eu darparu gan y sector, y byddai gwaith pawb yn y Llywodraeth yn anos hebddynt, ond hefyd byddai ein gwaith yn yr wrthblaid yn anos, a byddai bywydau pawb yn llawer anos hefyd. Un o'r rheini, wrth gwrs, yw hosbisau. Er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £6.3 miliwn i gronfa argyfwng yr hosbisau ar y cychwyn, roedd hyn yn llai hael na...
Mark Isherwood: Byddwn yn hapus i roi copi o'r adroddiad hwnnw i chi os nad oes gennych un, oherwydd mae'n dangos eu bod yn ymwybodol o'r ffrydiau ariannu presennol ac wedi manteisio arnynt lle maent wedi gallu gwneud hynny. Wrth ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid ar gynigion cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, dywedodd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru: 'Mae'n rhaid i'r sector gwirfoddol gael...
Mark Isherwood: Mae Llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi eu bod yn darparu grantiau ar gyfer hostelau a thai bynciau i'r Alban gyda chronfa gymorth gwerth £2.3 miliwn ar gyfer hostelau. Mae nifer o weithredwyr tai bynciau gwledig a busnesau awyr agored amgen yn y gogledd wedi ysgrifennu ataf yn galw am gronfa gymorth i hostelau a thai bynciau sy'n cyfateb i hyn yng Nghymru. Fel y dywedasant, 'Rydym yn darparu...
Mark Isherwood: 1. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu ar gyfer disgyblion awtistig mewn lleoliadau ysgol yng Nghymru? OQ56257
Mark Isherwood: Pa ddarpariaeth ariannol y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gwneud o fewn ei chyllideb flynyddol i gefnogi'r sector lletygarwch?
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Mae ein gwelliant yn galw ar i'r Senedd hon gydnabod nad yw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22 yn galluogi Cymru i ailgodi'n gryfach ac adfer ar ôl pandemig COVID-19. Mae'r term 'ailgodi'n gryfach' yn cydnabod yr angen am strategaeth dwf yn sgil coronafeirws sy'n darparu swyddi, sgiliau a seilwaith ym mhob cwr o Gymru ac yn mynd i'r afael â heriau mawr heb...
Mark Isherwood: Cysylltodd llawer o ddarpar frechwyr, gan gynnwys nyrsys a meddygon teulu, â mi ar ddechrau'r broses gyflwyno, yn rhwystredig gyda'r dechrau araf bryd hynny, ond maen nhw wedi gweld canmoliaeth enfawr am y ffordd wych honno y maen nhw wedi ymateb i'r her ers hynny. Fe wnaethoch chi gyfeirio at ail frechlynnau. Credaf mai'r ffigurau diweddaraf yng Nghymru yw un o bob 909 o bobl; yn Lloegr...