Julie James: Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i ymateb i'r ddadl hon. Fel Llywodraeth Lafur, credwn fod gan y wladwriaeth rôl hanfodol i sicrhau bod cyfoeth yn yr economi yn cael ei ddosbarthu'n deg. Mae dosbarthu cyfoeth yn fwy cyfartal yn mynd law yn llaw â ffyniant a gwaith teg. Fodd bynnag, nid ydym yn credu mewn creu gelyn cyfleus o fuddiannau allanol. Rydym yn byw mewn byd rhyng-gysylltiedig...
Julie James: Yn ffurfiol.
Julie James: Sut ar y ddaear y credwch y gallwn gael afonydd yn llawn ffosffadau ac adeiladu tai is na'r safon dros holl dir gwyrdd Cymru a chael ymagwedd gydlynol at yr argyfyngau hinsawdd a natur, ni allaf ddeall. Felly, mae angen ichi edrych yn ofalus arnoch chi'ch hunain a mabwysiadau ymagwedd gydlynol at hyn. Rwyf wedi cyfarfod â nifer fawr o fuddsoddwyr sector preifat sy’n hoff iawn o’r dull...
Julie James: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth nodi’r cynnig ar gyfer Bil ar reolaethau rhent, credaf ei bod yn wirioneddol bwysig nodi’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu. Mae’r ymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu'n adlewyrchu’r ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru 2021 i ddatblygu cynllun cenedlaethol i osod cyfyngiadau ar renti i deuluoedd a phobl ifanc sydd wedi’u prisio allan o’r farchnad...
Julie James: Diolch, Rhianon. Felly, fel y dywedais i, mae Jane Hutt a minnau wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol, Kwasi Kwarteng, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, yn galw am bum cam eithaf syml: dileu'r costau polisi cymdeithasol ar filiau ynni'r cartref a'u symud i drethiant cyffredinol oherwydd, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, maen nhw'n dreth atchweliadol...
Julie James: Diolch yn fawr iawn am hynna, Sam. Yn sicr, ceir rhai problemau hirdymor. Mae'r holl fater ynghylch diogelwch ynni a bod yn hunangynhaliol o ran ynni yn sicr yn un ohonyn nhw. Ein bwriad, wrth gwrs, yw cael Cymru i'r pwynt lle mae'n allforiwr ynni net, felly rydym ni'n cynhyrchu cymaint o ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru fel y gallwn ni ei allforio, ac mae ein holl anghenion yn cael eu...
Julie James: Diolch, Vikki. Felly, un neu ddau o bethau yn y fan yna. Y cap gwahaniaethol, roeddem ni’n trafod gydag Ofgem sut y gallai hwnnw weithio. Rydym ni wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried rhoi cap ar brisiau gwahaniaethol ar waith. Braidd yn groes i’r amcan hefyd, ac maen nhw wedi ei gyhoeddi bellach, fe wnaethon ni hefyd ofyn iddyn nhw edrych ar adolygu'r pris yn amlach, oherwydd un o'r...
Julie James: Diolch yn fawr iawn, Jane. Un o'r pethau yr ydym ni eisiau eu hystyried wrth y bwrdd crwn yw sut y gallwn ni dargedu microfusnesau yn benodol. Felly, mae gennym ni'r cynllun rhyddhad ardrethi busnes ar waith, wrth gwrs, felly ni fydd llawer iawn o fusnesau bach yn talu ardrethi eisoes gan y byddan nhw'n manteisio ar hwnnw. Ond rydym ni'n awyddus iawn i dargedu cymorth arall i fusnesau. Felly,...
Julie James: Diolch, Joyce. Felly, un neu ddau o bethau yn y fan yna. Yn bendant, ar y pwynt storio, er mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud mewn gwirionedd yw symud oddi wrth danwydd ffosil i ynni adnewyddadwy. Mae un o'r materion sy'n ymwneud â'r buddsoddiad a'r diffyg buddsoddiad a'r modelau buddsoddi yn ddiddorol iawn. Felly, fe wnaeth Llywodraeth y DU ymgynghori y llynedd, ac yna derbyn, o ganlyniad...
Julie James: Diolch. Felly, ie, fe wnaf i redeg drwy rhai o’r rheini, yn gyflym iawn. Felly, cafodd Jane Hutt a minnau gyfarfod da iawn gydag Ofgem. Mae'n ddrwg gen i, mae pob diwrnod yn cymysgu â'i gilydd—rwy'n credu mai dydd Gwener yr wythnos diwethaf oedd hi. Yn hwyr yr wythnos diwethaf beth bynnag. Efallai mai yn hwyr iawn ddydd Iau oedd hi, ond dydw i ddim yn gallu cofio. Ond, beth bynnag, roedd...
Julie James: Wel, ble i ddechrau? Arbed—mae Arbed wedi cael rhai problemau, yn sicr, ac fel y dywedodd Janet Finch-Saunders ei hun, rydyn ni wedi cymryd cyfrifoldeb dros y rheini drwy ein hawdurdodau lleol ac fel Llywodraeth Cymru. Yn anffodus, roedd cynlluniau blaenorol cyn Arbed mae Llywodraeth y DU wedi'u lledaenu—mae llawer o'r Aelodau yma wedi cael problemau ofnadwy gyda nhw yn eu hetholaethau....
Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y rheoleiddiwr ynni, Ofgem, y cap ar brisiau a fydd yn dod i rym o fis Ebrill eleni ar gyfer defnyddwyr ynni preswyl. Fel y nododd fy nghyd-Aelod Jane Hutt ddydd Iau, mae'r cynnydd o 54 y cant yn y cap yn amlwg yn ergyd drom i aelwydydd a theuluoedd sydd eisoes dan bwysau ac sydd eisoes yn cael trafferth gyda chostau byw. Daw'r cynnydd...
Julie James: Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (Diwygio) 2022, sy'n gwneud mân ddiwygiadau technegol i Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Mae effeithiau'r gwelliannau hyn yn ddeublyg: yn gyntaf, bydd y pwerau rheoleiddio a gorfodi sydd ar gael i reoleiddwyr cenedlaethol wrth arolygu safleoedd yn...
Julie James: Diolch, Janet. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i ddiwygio'r ddeddfwriaeth. Cafodd y ddeddfwriaeth ei phasio, wrth gwrs, cyn inni gael y parth 200 milltir forol, felly rydym wedi ymrwymo'n llwyr i wneud hynny, ac rwy'n siŵr y bydd cyfle addas i'w roi mewn Bil perthnasol rywbryd yn nhymor y Senedd hon; rydym yn bendant yn awyddus i wneud hynny. Yn y cyfamser, rydym yn ymddwyn fel pe bai Deddf yr...
Julie James: Diolch, Janet. Rwyf wedi ymrwymo i amgylchedd morol gwydn sy'n cwmpasu holl barth morol Cymru. Mae ein rhaglen lywodraethu yn ein hymrwymo i raglen adfer a gwella ecosystemau morol. Mae'r broses ddynodi ar gyfer parthau cadwraeth morol alltraeth yn bennaf a'r camau rheoli ar gyfer ein hardaloedd morol gwarchodedig yn cefnogi'r nod hwn.
Julie James: Rwy'n hapus i ymateb yn rhannol, Lywydd. Yn wir, nid yw'n ymwneud yn llwyr â phwynt y cwestiwn gwreiddiol, ond Joel, rwy'n gwbl ymwybodol o'r materion sy'n codi ynghylch beicio oddi ar y ffordd, yn enwedig sgramblo ac yn y blaen, yn ogystal â beicio mynydd. Yr ateb byr yw fy mod yn credu ei bod yn bwysig iawn inni sefydlu ardaloedd arbennig lle gall pobl gymryd rhan mewn gweithgaredd...
Julie James: Ie, Vikki, rwy'n croesawu'n llwyr y penderfyniad a wnaed gan CNC. Wrth gwrs, mae CNC yn gwneud y penderfyniad ar ran Llywodraeth Cymru ar ei thir cyhoeddus, felly mae llawer iawn o dir cyhoeddus bellach yn dod o dan y penderfyniad i beidio â chaniatáu hela trywydd ar y tir hwnnw. Byddwn yn sicr yn gweithio gyda deiliaid tir cyhoeddus eraill—awdurdodau lleol, ac yn y blaen, ledled...
Julie James: Diolch, Vikki. Gwnaed penderfyniad Cyfoeth Naturiol Cymru i wahardd hela trywydd ar ystad goed Llywodraeth Cymru yn dilyn canlyniad achos llys yn erbyn un o uwch arweinwyr Cymdeithas y Meistri Cŵn Hela ac mewn ymateb i'r achos hwnnw.
Julie James: Lywydd, y Dirprwy Weinidog yw’r Gweinidog sy’n gyfrifol am aer glân, felly tybed a ellid dadfudo ei feicroffon.
Julie James: Yn sicr, Delyth. Cytunaf yn llwyr y dylid datganoli Ystad y Goron i Gymru. Mae'n gwbl warthus ei bod wedi'i datganoli i'r Alban ac nid i ninnau, a bod enillion Ystad y Goron yn mynd yn syth yn ôl i Drysorlys Ei Mawrhydi. Nid ydynt hyd yn oed yn mynd drwy drefniant fformiwla Barnett. Felly, rwy'n sicr wedi ysgrifennu i ddweud ein bod am i Ystad y Goron gael ei datganoli, a'n bod am iddi gael...