Lee Waters: Diolch i chi am hynny. Mae Rhianon Passmore yn iawn i dynnu sylw unwaith eto at y penderfyniad anghyfiawn gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hedfan, sy'n rheswm ychwanegol pam mae angen iddyn nhw ddod i'r adwy o ran y pecyn hwn i ddangos eu bod nhw yr un mor ymrwymedig i godi lefel yn uwch ym mhob rhan o'r DU ag y maen nhw'n ei honni. I ateb cwestiwn Rhianon Passmore, fel y dywedais i, yn sicr fe...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Gallaf roi tawelwch meddwl i David Rowlands nad oes unrhyw amwysedd wrth ddefnyddio'r term 'derbyn mewn egwyddor'; y ffaith amdani yn syml yw mai gweledigaeth 10 mlynedd yw hon ac efallai y bydd angen ystwytho'r manylion i ryw raddau wrth i'r agweddau ymarferol gael eu harchwilio wrth fynd ymlaen, ac nid lleiaf gan fod yna brosesau statudol i fynd drwyddynt, y mae gan...
Lee Waters: Wel, diolch i chi am eich sylwadau cefnogol. Mae'n hollol wir, pe byddai Llywodraeth y DU yn ddiffuant o ran ei rhethreg am godi lefel yn uwch, yna mae angen gweld y prawf am hynny yn ei hymateb i'r adroddiad hwn a'r buddsoddiad y mae'n barod i'w roi ynddo, a pharodrwydd Network Rail i flaenoriaethu'r llwybrau hyn. Fel yr oeddech chi'n dweud, argymhelliad rhif 1 yw'r un allweddol mewn...
Lee Waters: A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am groesawu'r dull a nodwyd gennym ni heddiw, ac am ei chyfres adeiladol o gwestiynau? Rydym ni, wrth gwrs, yn cefnogi datganoli seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru, a chafwyd dadl a phleidlais yn y Senedd yn ôl ym mis Chwefror 2019 a oedd yn galw am hynny. Felly, rwy'n credu fy mod i'n awyddus i sicrhau bod Plaid Cymru yn deall y pwynt hwnnw—mae hwnnw'n...
Lee Waters: Diolch. Wel, dyna amrywiaeth o gwestiynau. Rwy'n falch fod y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r argymhellion. Mae Russell George yn holi ynglŷn ag amheuon o ran y cyflawni, ac, wrth gwrs, rwy'n deall hynny, oherwydd mae Llywodraethau Cymru wedi bod yn bwriadu mynd i'r afael â thagfeydd yng Nghasnewydd ers cryn amser, ac mae'r tagfeydd yno o hyd, ac felly yn sicr mae angen inni neidio i mewn...
Lee Waters: Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am ein hymateb ni i'r argymhellion a wnaeth Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru.
Lee Waters: Erbyn hyn, mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â Thrafnidiaeth Cymru, wedi cwblhau adolygiad cychwynnol o'r holl argymhellion a wnaeth Arglwydd Burns a'i gyd gomisiynwyr. Ac, unwaith eto, rydym ni'n diolch iddyn nhw am eu gwaith. Heddiw, rydym wedi cyhoeddi ymateb fesul llinell er mwyn inni gael bod yn gwbl glir ynghylch statws pob un o'r argymhellion. Mae hon yn gyfres hyderus ac ymarferol o...
Lee Waters: Yn gyntaf, ar y gost, o fis Ionawr ymlaen, cyhoeddodd Trafnidiaeth Cymru—mis Ionawr eleni—fod pris tocynnau'n cael ei ostwng ganran, sydd wedi bod yn mynd yn groes i'r duedd. Yn amlwg, yr ateb go iawn i docynnau fforddiadwy dros amser yw sicrhau bod gennym system drafnidiaeth gyhoeddus lwyddiannus sy'n cael ei defnyddio'n helaeth, a bod gennym fuddsoddiad parhaus ynddi. O ran rheilffordd...
Lee Waters: Rydym yn croesawu'n fawr y cyfeiriad y mae'r adroddiad yn mynd iddo ac rydym yn ystyried yr argymhellion yn fanwl. Mae angen i welliannau i reilffordd Glynebwy fod yn rhan o'r pecyn o welliannau ac estyniadau i seilwaith rheilffyrdd ar draws y rhanbarth.
Lee Waters: Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn fy rhoi mewn sefyllfa anodd yn fwriadol, gan ei bod yn gwybod yn iawn beth yw fy marn ar fuddsoddi mewn ffyrdd yn erbyn trafnidiaeth gynaliadwy, ac yn sicr yn ein strategaeth drafnidiaeth yng Nghymru rydym wedi nodi ein bod, yn y dyfodol, am symud ein pwyslais tuag at newid moddol. O ran y prosiect penodol hwn, fel y gŵyr ac fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud...
Lee Waters: Mae'r dystiolaeth ar ardaloedd menter yn gymysg, ac yn sicr roedd adroddiad y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau arnynt ychydig flynyddoedd yn ôl yn atgyfnerthu hynny. Ddoe gwnaethom nodi’r gweithgareddau, yn benodol yn ardal tasglu’r Cymoedd, ar ystod eang o ymyriadau’n ymwneud â chreu lleoedd, ac rydym wedi nodi cefnogaeth ariannol sylweddol i fusnesau sy’n dioddef oherwydd y...
Lee Waters: Wel, rwy'n cytuno â hynny. Rwy'n credu bod trefi'n wynebu newid mawr. Nid oes amheuaeth fod aflonyddwch digidol wedi cael effaith enfawr, roedd eisoes yn digwydd cyn y pandemig, ac mae'r pandemig yn sicr wedi ei gyflymu. Ond ar y llaw arall, fel y noda Alun Davies yn gywir, ceir cyfleoedd wrth newid agweddau ac ymddygiad. Mae’n un o'r rhesymau pam rydym wedi nodi cyfle ochr yn ochr â hyn,...
Lee Waters: Diolch. Ein strategaeth yw gosod sylfaen gref ar gyfer newid ledled y rhanbarth. Rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i’r Senedd ddoe ar y cynnydd a wnaethom gyda thasglu’r Cymoedd. Yn ogystal â hynny, mae'r rhaglen Cymoedd Technegol wedi gwneud ymrwymiadau o dros £22 miliwn i helpu i greu 600 o swyddi cynaliadwy, ac mae ffocws cryf ar Flaenau’r Cymoedd yn ein rhaglen trawsnewid trefi...
Lee Waters: Wel, un elfen bwysig o'r hyn a wnaeth y tasglu, sydd wedi bod y tu ôl i'r llenni mewn gwirionedd, oedd dod â gwahanol ddarnau o weithgarwch y Llywodraeth ar ôl troed y Cymoedd ynghyd i sicrhau bod gennym ni ddull integredig, ac nid yw hynny'n rhywbeth sy'n cyrraedd datganiad gweinidogol mewn gwirionedd, ond credaf y bu hynny yn un o'i gyfraniadau allweddol o fewn y Llywodraeth. Mae'r...
Lee Waters: Wel, a gaf i dalu teyrnged i Rhianon Passmore am hyrwyddo Llwybr Coedwig Cwm-carn a gwneud achos cadarn iawn dros fuddsoddi yno yn ei hetholaeth? Rwy'n credu bod y pandemig a'r cyfyngiadau symud wedi dangos i ni pa mor bwysig fu cael cyfleusterau tirwedd ac amgylcheddol o safon ar garreg ein drws i gynifer o bobl yn ystod cyfnod anodd iawn. Rwy'n credu y bu Llwybr Coedwig Cwm-carn yn esiampl,...
Lee Waters: Nid wyf yn adnabod y darlun a gyflwynodd David Rowlands, ac rwy'n cydnabod y byddai wedi drafftio ei sylwadau cyn iddo gael cyfle i wrando ar fy nghyfraniad. Efallai wrth ei ddarllen eto, y caiff gyfle i adlewyrchu nad ydym ni yn mynd ar drywydd swyddi gweinyddol, rydym ni yn mynd ar drywydd swyddi go iawn a gwelliant economaidd gwirioneddol. Ac o ran ei sylw bod gormod o sefydliadau yn...
Lee Waters: Diolch am y sylwadau hael. Byddaf, wrth gwrs, yn mynd i'r afael â'i sylw ynglŷn â sut rydym ni wedi cyrraedd y targedau, ac rwy'n ffyddiog y byddwn wedi gwneud hynny, er gwaethaf yr amgylchiadau hynod heriol. O ran y prosiect Cymoedd Technoleg, mae hwn yn bwnc yr ydym ni wedi mynd i'r afael ag ef yn y Siambr hon o'r blaen. Rwy'n ffyddiog y bydd gennym ni—. Yn amlwg, mae'n brosiect 10...
Lee Waters: Rwy'n siomedig ond nid wyf wedi fy synnu gan y cyfraniad yna. Credaf fod yr honiad y dylai'r Rhondda elwa'n fwy nag ardaloedd tasglu'r Cymoedd yn mynd at wraidd problem y cyfraniad. Mae'n chwilio'n gyson am gŵyn i gydio ynddi a manteisio arni, yn hytrach nag edrych mewn ysbryd o gydweithredu i weld sut y gall yr holl awdurdodau gydweithio. Soniodd Leanne Wood eto am enghraifft cwmni...
Lee Waters: Wel, Dirprwy Lywydd, rwy'n credu, ers yn rhy hir o lawer, bu'r ddadl ynghylch y Cymoedd yn dipyn o sioe Pwnsh a Jwdi, gyda phobl yn tynnu sylw'n briodol at effaith dad-ddiwydiannu ac effaith Llywodraeth Thatcher, ac rwyf wastad wedi bod yn amharod i gymryd yr abwyd yna, ond roedd y cyfraniad hwnnw gyda'r mwyaf chwerthinllyd i gyd, mae'n rhaid imi ddweud. I Laura Anne Jones dynnu sylw at...
Lee Waters: Mae'r pandemig wedi dangos swyddogaeth hollbwysig gwasanaethau bob dydd a gweithwyr allweddol. Ac mae ymrwymiad ehangach i gefnogi sylfeini economi'r Cymoedd wedi bod wrth wraidd dull gweithredu'r tasglu. Y llynedd, lansiais brosiect arbrofol cronfa her economi sylfaenol i arbrofi gyda gwahanol ddulliau. O'r 52 prosiect arbrofol, mae 27 yn y Cymoedd. Drwy'r prosiectau hyn, rydym ni wedi...