Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni yn wynebu argyfwng iechyd: argyfwng sy'n rhoi bywydau mewn perygl, sy'n lladd; argyfwng sy'n golygu mai'r bregus sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf; argyfwng y dylwn ni i gyd fod yn dyheu, rhyw ddydd cyn hir, gobeithio, i'w roi y tu ôl inni. A, na, nid sôn am y pandemig ydw i. Sôn ydw i am yr anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli yng Nghymru. Mae'r...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i'r Gweinidog am dderbyn yr ymyrraeth. Dwi yn cymryd yr hyn dwi wedi'i glywed gan y Gweinidog yn fanna fel cam positif, ei bod hi'n barod i drafod. Dwi'n meddwl un o'n gofynion ni yw bod hyn yn digwydd ar fyrder. A fyddwn ni'n cael rhywfaint yn rhagor o ymrwymiad o ran parodrwydd i symud yn gyflym iawn ar hyn? Oherwydd dwi'n meddwl ei bod hi'n angenrheidiol, os oes yna newid yn gallu...
Rhun ap Iorwerth: A dydy pethau ddim cweit mor straightforward, wedi dweud hynny, efo'r ail set, sef rheoliadau Rhif 23. Y nod canolog yn fan hyn—rydym ni'n hapus iawn efo hynny—ydy'r rheoliadau ar weithio o gartref. Roedd hynny'n gwneud synnwyr, dwi'n credu, ac yn dilyn cyngor gwbl glir gan gynghorwyr gwyddonol, technegol y Llywodraeth. Ond mae yna elfen o'r rheoliadau yma dydyn ni ddim yn gyfforddus efo...
Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cyfle i amlinellu safbwynt Plaid Cymru ar y tri set o reoliadau yma. Mi wnaf i eu cymryd nhw yn eu trefn, yn dechrau efo'r hawsaf, Rhif 22. Dwi ddim yn gweld bod yna lawer yn ddadleuol yn fan hyn; newidiadau bach sydd yna, mewn difrif, o ran ambell i ddiffiniad o gwmpas y pàs COVID, o ran gwisgo gorchudd wyneb. Rydyn ni'n hapus i'w cefnogi nhw. Yr unig beth y gwnaf innau dynnu...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am y datganiad. Ydyn, rydyn ni mewn sefyllfa ansicr. Mae niferoedd achosion positif yn uchel. Rydyn ni'n gwybod hynny—rydw i'n gwybod o brofiad fy nheulu cyfan i a'm mhrawf positif i ar Ddiwrnod y Nadolig cymaint o ledaenu cymunedol sydd wedi bod. Ond edrych ymlaen sy'n bwysig i'w wneud rŵan. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog eisiau taro tôn ddifrifol efo'r...
Rhun ap Iorwerth: Rwyf am ddechrau gyda chyfaddefiad. Pan alwais i a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru am yr ymchwiliad cyhoeddus i’r pandemig yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, efallai na nodais rywbeth yn ddigon clir: pan nododd y Llywodraeth eu bod hwythau hefyd yn cefnogi ymchwiliad, tybiais yn anghywir eu bod hwy, fel finnau, yn cyfeirio at ymchwiliad penodol i Gymru. A phan eglurodd y...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau newydd yma heddiw. Maen nhw'n synhwyrol iawn ar adeg sydd yn amlwg yn un peryglus unwaith eto yn y pandemig. Mae'n bwysig gwneud y pethau sylfaenol yn iawn ac, wrth gwrs, mae ynysu yn un o'r pethau sylfaenol hynny mae angen bod yn reit llym ynglŷn ag o ar y pwynt yma. Felly, dwi'n croesawu'r newid hwn, sydd yn ymddangos i...
Rhun ap Iorwerth: Dwi'n gobeithio, i roi nodyn mwy positif, fod peth o'r dystiolaeth gynnar rydan ni'n ei gweld yn mynd i brofi yn gywir, a'n bod ni efallai yn symud i mewn i bennod o'r pandemig lle mae'r feirws, o bosib, yn llai peryglus. Ond, wrth gwrs, am rŵan, dydyn ni ddim yn gwybod hynny, ac mae'n rhaid sylweddoli bod yna niferoedd uchel iawn yn mynd i gael y feirws rŵan. Hyd yn oed os ydy cyfradd y...
Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Rydw innau'n sicr yn cytuno efo'r Gweinidog bod y sefyllfa yn ddifrifol tu hwnt, a dwi'n diolch ymlaen llaw i'r holl weithwyr hynny mewn gwasanaethau iechyd a gofal, a gwasanaethau brechu a phrofi ac olrhain, ac yn y blaen, sydd eto yn mynd i fod o dan bwysau mawr yn y cyfnod o'n blaenau ni, a hwnnw'n gyfnod o bwysau mawr beth bynnag, heb omicron.
Rhun ap Iorwerth: Faint o arbenigwyr symudedd a sefydlu sydd yng Nghymru i gefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg?
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad Holden ac adeiladu ar y drafodaeth a gawsom fel rhan o'r ddadl fer dan arweiniad Llyr Gruffydd ychydig wythnosau'n ôl. Er bod ychydig wythnosau wedi mynd heibio bellach ers rhyddhau'r adroddiad damniol hwn o'r diwedd, mae'n werth nodi bod y Llywodraeth yn dal i fod heb ddefnyddio ei hamser Senedd ei hun i...
Rhun ap Iorwerth: 'at ddiben gwarchod neu wella fflora, ffawna neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol, neu harddwch naturiol neu amwynder, unrhyw dir.'
Rhun ap Iorwerth: Does yna ddim cymal o'r fath wedi'i ychwanegu at ddeddfwriaeth Cymru, ac mae'n amser i ni i'w weld o. A thu hwnt i ddeddfwriaeth, mae'n rhaid dweud, mae'n wir bryder i fi bod yna ddiffyg deialog gadarn rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff gwarchodaeth. Mae'n rhywbeth dwi wedi'i godi dro ar ôl tro. Mae partneriaeth yn gorfod bod yn rhan o'r ateb i warchod y wiwer. I gloi, dwi'n edrych...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnaf innau ddatgan fy mod innau yn aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, a dwi'n falch iawn o fod yn Aelod sy'n cynrychioli ynys sydd, yn ei chyfanrwydd, yn bencampwyr y creadur arbennig yma. Ryw flwyddyn yn ôl oedd hi pan oeddwn i'n rhedeg efo fy ngwraig lai na milltir o'm cartref i ac mi neidiodd wiwer goch fach o'r clawdd a dechrau...
Rhun ap Iorwerth: Mi ddylai popeth, wrth gwrs, gael ei wneud i atal colli mwy o ysgol, ond, efo nifer yr achosion mor uchel, mae yna broblemau ymarferol mewn ysgolion o sicrhau bod yna ddigon o staff ar gael i gadw dosbarthiadau ar agor ac, wrth gwrs, mae yna bryder go iawn a dealladwy iawn am drosglwyddiad o fewn ysgolion gan staff a rhieni sy'n cysylltu efo fi, yn cynnwys pryderon am effaith posib hynny ar...
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Yr amser cinio yma, roeddwn i'n cadeirio'r cyfarfod diweddaraf o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion digidol, a sgiliau oedd y testun dan sylw gennym ni heddiw. Trafodaeth ddifyr iawn ac mi glywsom ni enghreifftiau o waith rhagorol sy'n digwydd yn barod, nid yn unig yn Ynys Môn yn y parc gwyddoniaeth yn M-SParc, ond hefyd yng Ngwynedd—strategaeth ddigidol...
Rhun ap Iorwerth: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu sgiliau digidol yn Ynys Môn? OQ57347
Rhun ap Iorwerth: —cael eu profi gan bobl sydd â motor neurone. Dyna dwi'n meddwl sydd yn mynd i gyfrannu eto tuag at safon bywyd. Mae yna ormod o bobl yn gorfod teithio dros y ffin ar hyn o bryd am driniaeth. Rydyn ni angen gweld sut mae cryfhau'r ddarpariaeth yma yng Nghymru.
Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl yma heddiw yma. Rydym ni'n cyd-fynd â'r neges glir sydd yn y cynnig ei hun, ac yn gofyn am gefnogaeth i'n gwelliant ni hefyd. Ychydig o eiriau sydd gen i yn fan hyn. Mi allaf i grynhoi ein safbwynt ni, mewn ffordd, drwy roi pwyslais ar ddau beth: yn gyntaf, yr angen i bobl sydd yn byw efo afiechyd motor...
Rhun ap Iorwerth: Diolch i Mabon am ddod â'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw yma. Mae pobl Cymru'n aros yn rhy hir am driniaeth canser, ac mae hynny'n effeithio ar ba mor debygol ydyn nhw o oroesi. Dyna ydy'r gwir sylfaenol sy'n gefndir i'r cynnig yma heddiw, ac wrth wraidd yr ateb mae'r angen am gynllun canser cenedlaethol newydd i Gymru. Mae'r Gweinidog wedi clywed y galwadau cyson ac uchel gan y gwahanol...