Canlyniadau 441–460 o 20000 ar gyfer speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth OR speaker:Rhun ap Iorwerth

7. Dadl Plaid Cymru: Anghydraddoldebau iechyd (12 Ion 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rydyn ni yn wynebu argyfwng iechyd: argyfwng sy'n rhoi bywydau mewn perygl, sy'n lladd; argyfwng sy'n golygu mai'r bregus sy'n wynebu'r bygythiad mwyaf; argyfwng y dylwn ni i gyd fod yn dyheu, rhyw ddydd cyn hir, gobeithio, i'w roi y tu ôl inni. A, na, nid sôn am y pandemig ydw i. Sôn ydw i am yr anghydraddoldebau iechyd sy'n bodoli yng Nghymru. Mae'r...

5., 6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 (11 Ion 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch i'r Gweinidog am dderbyn yr ymyrraeth. Dwi yn cymryd yr hyn dwi wedi'i glywed gan y Gweinidog yn fanna fel cam positif, ei bod hi'n barod i drafod. Dwi'n meddwl un o'n gofynion ni yw bod hyn yn digwydd ar fyrder. A fyddwn ni'n cael rhywfaint yn rhagor o ymrwymiad o ran parodrwydd i symud yn gyflym iawn ar hyn? Oherwydd dwi'n meddwl ei bod hi'n angenrheidiol, os oes yna newid yn gallu...

5., 6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 (11 Ion 2022)

Rhun ap Iorwerth: A dydy pethau ddim cweit mor straightforward, wedi dweud hynny, efo'r ail set, sef rheoliadau Rhif 23. Y nod canolog yn fan hyn—rydym ni'n hapus iawn efo hynny—ydy'r rheoliadau ar weithio o gartref. Roedd hynny'n gwneud synnwyr, dwi'n credu, ac yn dilyn cyngor gwbl glir gan gynghorwyr gwyddonol, technegol y Llywodraeth. Ond mae yna elfen o'r rheoliadau yma dydyn ni ddim yn gyfforddus efo...

5., 6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 22) 2021, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 23) 2021 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 25) 2021 (11 Ion 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch am y cyfle i amlinellu safbwynt Plaid Cymru ar y tri set o reoliadau yma. Mi wnaf i eu cymryd nhw yn eu trefn, yn dechrau efo'r hawsaf, Rhif 22. Dwi ddim yn gweld bod yna lawer yn ddadleuol yn fan hyn; newidiadau bach sydd yna, mewn difrif, o ran ambell i ddiffiniad o gwmpas y pàs COVID, o ran gwisgo gorchudd wyneb. Rydyn ni'n hapus i'w cefnogi nhw. Yr unig beth y gwnaf innau dynnu...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (11 Ion 2022)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am y datganiad. Ydyn, rydyn ni mewn sefyllfa ansicr. Mae niferoedd achosion positif yn uchel. Rydyn ni'n gwybod hynny—rydw i'n gwybod o brofiad fy nheulu cyfan i a'm mhrawf positif i ar Ddiwrnod y Nadolig cymaint o ledaenu cymunedol sydd wedi bod. Ond edrych ymlaen sy'n bwysig i'w wneud rŵan. Dwi'n gwybod bod y Gweinidog eisiau taro tôn ddifrifol efo'r...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymchwiliad cyhoeddus annibynnol i bandemig COVID-19 yng Nghymru (15 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Rwyf am ddechrau gyda chyfaddefiad. Pan alwais i a fy nghyd-Aelodau Plaid Cymru am yr ymchwiliad cyhoeddus i’r pandemig yng Nghymru yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, efallai na nodais rywbeth yn ddigon clir: pan nododd y Llywodraeth eu bod hwythau hefyd yn cefnogi ymchwiliad, tybiais yn anghywir eu bod hwy, fel finnau, yn cyfeirio at ymchwiliad penodol i Gymru. A phan eglurodd y...

11. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 21) 2021 (14 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau newydd yma heddiw. Maen nhw'n synhwyrol iawn ar adeg sydd yn amlwg yn un peryglus unwaith eto yn y pandemig. Mae'n bwysig gwneud y pethau sylfaenol yn iawn ac, wrth gwrs, mae ynysu yn un o'r pethau sylfaenol hynny mae angen bod yn reit llym ynglŷn ag o ar y pwynt yma. Felly, dwi'n croesawu'r newid hwn, sydd yn ymddangos i...

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (14 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Dwi'n gobeithio, i roi nodyn mwy positif, fod peth o'r dystiolaeth gynnar rydan ni'n ei gweld yn mynd i brofi yn gywir, a'n bod ni efallai yn symud i mewn i bennod o'r pandemig lle mae'r feirws, o bosib, yn llai peryglus. Ond, wrth gwrs, am rŵan, dydyn ni ddim yn gwybod hynny, ac mae'n rhaid sylweddoli bod yna niferoedd uchel iawn yn mynd i gael y feirws rŵan. Hyd yn oed os ydy cyfradd y...

6. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Diweddariad ar COVID-19 (14 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Diolch, Llywydd. Rydw innau'n sicr yn cytuno efo'r Gweinidog bod y sefyllfa yn ddifrifol tu hwnt, a dwi'n diolch ymlaen llaw i'r holl weithwyr hynny mewn gwasanaethau iechyd a gofal, a gwasanaethau brechu a phrofi ac olrhain, ac yn y blaen, sydd eto yn mynd i fod o dan bwysau mawr yn y cyfnod o'n blaenau ni, a hwnnw'n gyfnod o bwysau mawr beth bynnag, heb omicron.

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (14 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Faint o arbenigwyr symudedd a sefydlu sydd yng Nghymru i gefnogi plant a phobl ifanc â nam ar eu golwg?

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau iechyd meddwl ( 8 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i drafod adroddiad Holden ac adeiladu ar y drafodaeth a gawsom fel rhan o'r ddadl fer dan arweiniad Llyr Gruffydd ychydig wythnosau'n ôl. Er bod ychydig wythnosau wedi mynd heibio bellach ers rhyddhau'r adroddiad damniol hwn o'r diwedd, mae'n werth nodi bod y Llywodraeth yn dal i fod heb ddefnyddio ei hamser Senedd ei hun i...

5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth ( 8 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: 'at ddiben gwarchod neu wella fflora, ffawna neu nodweddion daearegol neu ffisiograffigol, neu harddwch naturiol neu amwynder, unrhyw dir.'

5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth ( 8 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Does yna ddim cymal o'r fath wedi'i ychwanegu at ddeddfwriaeth Cymru, ac mae'n amser i ni i'w weld o. A thu hwnt i ddeddfwriaeth, mae'n rhaid dweud, mae'n wir bryder i fi bod yna ddiffyg deialog gadarn rhwng Cyfoeth Naturiol Cymru a chyrff gwarchodaeth. Mae'n rhywbeth dwi wedi'i godi dro ar ôl tro. Mae partneriaeth yn gorfod bod yn rhan o'r ateb i warchod y wiwer.  I gloi, dwi'n edrych...

5. Dadl ar ddeiseb P-06-1208 Deddfau newydd i amddiffyn gwiwerod coch prin rhag colli cynefinoedd sy'n achosi dirywiad yn eu poblogaeth ( 8 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi wnaf innau ddatgan fy mod innau yn aelod anrhydeddus o Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Cymru, a dwi'n falch iawn o fod yn Aelod sy'n cynrychioli ynys sydd, yn ei chyfanrwydd, yn bencampwyr y creadur arbennig yma. Ryw flwyddyn yn ôl oedd hi pan oeddwn i'n rhedeg efo fy ngwraig lai na milltir o'm cartref i ac mi neidiodd wiwer goch fach o'r clawdd a dechrau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Colli Amser Ysgol ( 8 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Mi ddylai popeth, wrth gwrs, gael ei wneud i atal colli mwy o ysgol, ond, efo nifer yr achosion mor uchel, mae yna broblemau ymarferol mewn ysgolion o sicrhau bod yna ddigon o staff ar gael i gadw dosbarthiadau ar agor ac, wrth gwrs, mae yna bryder go iawn a dealladwy iawn am drosglwyddiad o fewn ysgolion gan staff a rhieni sy'n cysylltu efo fi, yn cynnwys pryderon am effaith posib hynny ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Sgiliau Digidol ( 7 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Yr amser cinio yma, roeddwn i'n cadeirio'r cyfarfod diweddaraf o'r grŵp trawsbleidiol ar faterion digidol, a sgiliau oedd y testun dan sylw gennym ni heddiw. Trafodaeth ddifyr iawn ac mi glywsom ni enghreifftiau o waith rhagorol sy'n digwydd yn barod, nid yn unig yn Ynys Môn yn y parc gwyddoniaeth yn M-SParc, ond hefyd yng Ngwynedd—strategaeth ddigidol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Sgiliau Digidol ( 7 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: 5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu sgiliau digidol yn Ynys Môn? OQ57347

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Clefyd niwronau motor ( 1 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: —cael eu profi gan bobl sydd â motor neurone. Dyna dwi'n meddwl sydd yn mynd i gyfrannu eto tuag at safon bywyd. Mae yna ormod o bobl yn gorfod teithio dros y ffin ar hyn o bryd am driniaeth. Rydyn ni angen gweld sut mae cryfhau'r ddarpariaeth yma yng Nghymru. 

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Clefyd niwronau motor ( 1 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl yma heddiw yma. Rydym ni'n cyd-fynd â'r neges glir sydd yn y cynnig ei hun, ac yn gofyn am gefnogaeth i'n gwelliant ni hefyd.  Ychydig o eiriau sydd gen i yn fan hyn. Mi allaf i grynhoi ein safbwynt ni, mewn ffordd, drwy roi pwyslais ar ddau beth: yn gyntaf, yr angen i bobl sydd yn byw efo afiechyd motor...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Diagnosis a thriniaeth canser ( 1 Rha 2021)

Rhun ap Iorwerth: Diolch i Mabon am ddod â'r cynnig yma o'n blaenau ni heddiw yma. Mae pobl Cymru'n aros yn rhy hir am driniaeth canser, ac mae hynny'n effeithio ar ba mor debygol ydyn nhw o oroesi. Dyna ydy'r gwir sylfaenol sy'n gefndir i'r cynnig yma heddiw, ac wrth wraidd yr ateb mae'r angen am gynllun canser cenedlaethol newydd i Gymru. Mae'r Gweinidog wedi clywed y galwadau cyson ac uchel gan y gwahanol...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.