Elin Jones: Rŷn ni'n mynd ymlaen i'r ddadl fer.
Elin Jones: Y bleidlais nesaf fydd ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths. Agor y bleidlais. Mae'r bleidlais yna hefyd yn gyfartal, ac felly, yn unol â Rheolau Sefydlog, dwi'n bwrw fy mhleidlais yn erbyn gwelliant 1, sy'n golygu bod gwelliant 1 wedi ei wrthod. Dyw'r cynnig heb ei ddiwygio a heb ei dderbyn, ac felly does yna ddim canlyniad i'r bleidlais yna.
Elin Jones: Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae gyda ni bleidleisiau ar eitem 5 ac eitem 7. Eitem 5 sydd gyntaf. Mae'r bleidlais yma ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar y lwfans cynhaliaeth addysg. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Luke Fletcher. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn.
Elin Jones: Mae'r bleidlais nesaf ar eitem 7, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. O blaid y cynnig 25, neb yn ymatal, 25 yn erbyn, ac felly, yn unol â'r Rheolau Sefydlog, rwy'n arfer fy mhleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly...
Elin Jones: Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Elin Jones: Oni bai fod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, mi symudaf i'r cyfnod pleidleisio. Mae mwy na thri Aelod yn dymuno i fi wneud, felly gwnawn ni gymryd seibiant i ganu'r gloch.
Elin Jones: James Evans i ymateb i'r ddadl.
Elin Jones: Y Gweinidog iechyd nawr i gyfrannu i’r ddadl, Eluned Morgan.
Elin Jones: Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar y Gweinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Elin Jones: Wedi'i gynnig yn ffurfiol. Felly, Sioned Williams.
Elin Jones: Diolch i'r Gweinidog.
Elin Jones: Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau amserol. Un cwestiwn heddiw, a hwnnw i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac i'w ofyn gan Delyth Jewell.
Elin Jones: Y cwestiwn olaf, cwestiwn 8, Natasha Asghar.
Elin Jones: Llefarydd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor.
Elin Jones: Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Samuel Kurtz.
Elin Jones: Diolch i'r Gweinidog.
Elin Jones: Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a'r Gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Heledd Fychan.
Elin Jones: Ac yn olaf, cwestiwn 8, Luke Fletcher.
Elin Jones: Bydd angen ichi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn yn gyntaf.
Elin Jones: O'r gorau.