Lynne Neagle: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau'r defnydd o wrthfiotigau mewn amaethyddiaeth? OAQ53093
Lynne Neagle: Diolch am yr ymateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un o blith yr Aelodau yn y Siambr hon sy'n gorfod tawelu meddyliau etholwyr ar ôl iddynt gael y llythyr hwnnw gan CThEM nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i godi treth incwm yng Nghymru, oherwydd mae'r llythyr wedi dychryn rhai o fy etholwyr i, yn sicr. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i fy etholwyr nad oes...
Lynne Neagle: 2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella'r ddealltwriaeth o gyfraddau treth incwm Cymru? OAQ53047
Lynne Neagle: Rwyf yn siarad heddiw ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Dyraniadau cyllideb yw un o'r ffyrdd pwysicaf i Lywodraeth Cymru ddangos ei hymrwymiadau datganedig i feysydd polisi a grwpiau poblogaeth. Nid yw dyraniadau a wnaed i gefnogi ein plant a'n pobl ifanc yn eithriad. Un o'n swyddi fel pwyllgor yw craffu ar y flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i ariannu gwasanaethau...
Lynne Neagle: Ie. Rwy'n gwbl ymwybodol o hynny, ond rwyf hefyd yn ymwybodol iawn nad yw democratiaeth yn rhywbeth cyfyngedig sy'n rhewi mewn amser, ac mae fy etholwyr yn poeni am y dyfodol sy'n eu hwynebu gyda'r cytundeb hwn. Fel gwladgarwr, na fu ofn arnaf erioed bod yn Gymraes ac yn Brydeinwraig, ac sy'n eithriadol o falch o'r ddau, byddaf yn dadlau yn yr ymgyrch sydd ar ddod ar gyfer yr unig ddewis sy'n...
Lynne Neagle: A gaf i fod yn glir o'r cychwyn cyntaf y byddaf yn pleidleisio o blaid gwelliant 3 yn enw Rhun ap Iorwerth, a bod y grŵp Llafur wedi fy ymryddhau i wneud hynny? Llywydd, ni fyddaf yn pleidleisio i gymeradwyo Brexit Mrs May mewn unrhyw fodd. Fel llawer yn y Siambr hon, rwy'n cynrychioli rhai o'r bobl dlotaf ym Mhrydain, a wna i ddim pleidleisio dros unrhyw beth sy'n eu gwneud yn dlotach, a...
Lynne Neagle: Diolch, arweinydd y tŷ. Mae tai cymunedol Bron Afon wrthi'n ymgynghori ar hyn o bryd ar gau tair canolfan tai gwarchod yn fy etholaeth i—Tŷ Glanwern, Pen-y-Bryn, a'r Beeches. Fel y byddwch yn gallu gwerthfawrogi, mae hyn yn achosi llawer iawn o bryder i breswylwyr yn y canolfannau hynny ac mae'n bryder arbennig wrth i ni agosáu at y Nadolig. A fyddech chi'n cytuno â mi, er bod gan...
Lynne Neagle: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y rôl y gall tai gwarchod ei chwarae yn y dyfodol o ran darparu tai o ansawdd uchel i bobl hŷn? OAQ53061
Lynne Neagle: Diolch i chi, mae hynny'n galonogol iawn. Fel y gwyddoch rwy'n siŵr, mae yna broblemau mawr ynglŷn ag amlder y trenau sy'n stopio, yn enwedig ym Mhont-y-pŵl, gan achosi heriau mawr i gymudwyr sy'n gorfod gyrru i Gwmbrân i gael trên oddi yno. Mae hynny er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth rheolaidd o Gaerdydd i Fanceinion yn pasio drwy Bont-y-pŵl ac yn mynd yn ei flaen i'r Fenni. A...
Lynne Neagle: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau trên yn Nhorfaen? OAQ53007
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Gwn eich bod yn ymwybodol o fy mhryder dwfn ynglŷn â'r penderfyniad gan gyngor Casnewydd i dynnu allan o'r gwasanaeth addysg arbenigol ledled Gwent ar gyfer plant â nam ar y synhwyrau, a elwir yng Ngwent yn SenCom. Yn anffodus, gwnaed y penderfyniad heb ymgynghori gyda theuluoedd nac awdurdodau lleol sy'n bartneriaid, ac rwy'n bryderus iawn y bydd tynnu...
Lynne Neagle: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu addysg i blant a phobl ifanc yng Ngwent sydd â nam ar y synhwyrau? OAQ52950
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau? Rwy'n cytuno bod gennym ni hanes da iawn yng Nghymru, un y gallwn ni fod yn falch ohono, ond ni allwn ni fod yn hunanfodlon, yn enwedig ar adeg o gyni pan fo'r fath flaenoriaethau yn gwrthdaro. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud ein gorau i sicrhau bod hawliau plant yn ganolog i'r hyn yr ydym yn ei wneud. Diolch i chi am grybwyll y...
Lynne Neagle: Diolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau. Rwy'n falch iawn o'i chael hi'n aelod o'r pwyllgor hefyd. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ynghylch y mater hawliau plant. Mae wedi bod yn thema gyson yn y Cynulliad—ein bod ni'n pryderu, er gwaethaf y cychwyn gwych hwn yn ôl yn 2011, bod yr ymrwymiad hwnnw wedi gwanhau yn ystod y blynyddoedd diwethaf am resymau teilwng iawn eu golwg, yn sgil pethau fel...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Julie, am y sylwadau hynny, a diolch ichi am y cyfraniadau cadarnhaol iawn yr ydych chi'n eu gwneud i'r pwyllgor yn gyson. Fe wnes i roi rhai enghreifftiau yn y datganiad o sut rwy'n credu ein bod wedi gallu sicrhau rhywfaint o newid. Fe wnaethoch chi gyfeirio at 'Cadernid Meddwl', ac, fel y gwyddoch chi, roedd y pwyllgor yn siomedig iawn ag ymateb Llywodraeth Cymru i 'Cadernid...
Lynne Neagle: Diolch, Janet Finch-Saunders, am y sylwadau hynny ac am y geiriau caredig, rwy'n eu gwerthfawrogi'n fawr. Roedd nifer o'r materion y gwnaethoch chi eu crybwyll yn ymwneud ag adroddiad y comisiynydd plant. Fel y gwyddoch chi, bydd y comisiynydd plant ger ein bron ddydd Iau, a bydd gennym ni gyfle i'w holi'n uniongyrchol ac i gymryd camau dilynol ar y materion hynny bryd hynny, ac mae pob mater...
Lynne Neagle: Yn rhan o'n gwaith craffu ar y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), fe wnaethom ni gynnal cyfres o weithdai gyda phobl ifanc a chynhadledd ar gyfer y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol gyda phlant ag anghenion dysgu ychwanegol er mwyn helpu i gasglu sylwadau ynglŷn â sut mae'r Bil wedi effeithio arnyn nhw. Ffurfiodd yr ymgysylltiad hwn ran hanfodol o'n gwaith craffu...
Lynne Neagle: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu gwneud y datganiad hwn heddiw, ar ran y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, i gydnabod pwysigrwydd Diwrnod Byd-eang y Plant y Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd Diwrnod Byd-eang y Plant gan y Cenhedloedd Unedig ym 1954 a chaiff ei ddathlu ar 20 Tachwedd bob blwyddyn i hybu undod rhyngwladol, ymwybyddiaeth ymhlith plant ledled y byd ac er mwyn...
Lynne Neagle: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i sicrhau y darperir cartrefi o ansawdd da i bobl hŷn?
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am eich datganiad? Rwy'n croesawu'r datganiad a'r cyllid ychwanegol yn fawr iawn. Fel y tynnwyd ein sylw ato, roedd hwn yn faes o bryder mawr i'r pwyllgor ac rwyf fi, am un, yn falch iawn bod y Llywodraeth wedi gallu ymateb mor gadarnhaol. Fel y tynnwyd ein sylw ato gennych, mae a wnelo hyn â'r cwricwlwm newydd, ond hefyd â buddsoddi yn ein gweithlu,...