Canlyniadau 441–460 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sgiliau'r Gweithlu ar ôl Brexit (22 Ion 2020)

David Melding: Wedyn, gwnaeth nifer o'r Aelodau y cysylltiad rhwng colegau addysg bellach a chyflogwyr, unwaith eto. Dechreuodd David Rowlands, yn deg iawn yn fy marn i, drwy dalu teyrnged i raglenni galwedigaethol Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, a chanmolodd yr hyn a oedd wedi bod yn llawer o weithgarwch cadarnhaol yn ei farn ef. Yna, dychwelodd at ei araith flaenorol yn y ddadl a gawsom yn gynharach, a...

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Sgiliau'r Gweithlu ar ôl Brexit (22 Ion 2020)

David Melding: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl ddiddorol iawn, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Dechreuodd Mohammad Asghar yn gadarn iawn a fframiodd ei ddadl yn gadarnhaol iawn yn fy marn i. Mae angen inni gyrraedd ein potensial llawn fel pobl ac fel economi, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno â hynny. Mae gweithlu medrus yn ganolog i economi wydn;...

8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol: Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit — Goblygiadau i Gymru (22 Ion 2020)

David Melding: Diolch i David Rees, Cadeirydd y pwyllgor am y ffordd y mae—wel, mae bob amser yn arwain y pwyllgor mewn modd rhagorol. Roedd hwn yn ymchwiliad pwysig iawn, ac rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig a'r adroddiad heddiw. Credaf fod David wedi ymdrin â'n prif bwyntiau, ond gadewch i mi ymhelaethu arnynt. Nid wyf yn meddwl y cânt eu lleihau mewn unrhyw fodd wrth eu hailadrodd. Mae'n amlwg mai'r...

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad (22 Ion 2020)

David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am fy ngalw yn y ddadl hollbwysig hon. A gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Lynne Neagle, sy'n llais ac yn arweinydd rhagorol yn y maes hwn, fel Cadeirydd y pwyllgor, ac yn gyffredinol yn ein dadleuon yma, ac sydd wedi gwneud cymaint i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, i ganmol y Llywodraeth pan fo'n gwneud yn dda, ond hefyd i'w hatgoffa pan fo bwlch enfawr sy'n dal i...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Parcio ar Balmentydd (22 Ion 2020)

David Melding: A gaf fi gytuno â Hefin? Credaf fod pob un ohonom wedi gwneud gwaith achos yn ogystal â gweld arferion gwael iawn. Hoffwn ganmol Living Streets Cymru, a gomisiynodd arolwg ymchwil o dros 1,000 o bobl—felly llawer o bobl yng Nghymru—a ganfu fod 83 y cant o’r ymatebwyr o blaid gwahardd parcio ar balmentydd. Nawr, yn ymarferol, gwn y byddai hynny'n creu problemau, yn enwedig mewn...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

David Melding: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

David Melding: Ar y pwynt hwn y bydd gwladwriaeth y DU a Llywodraeth y DU yn cymryd y swyddogaeth i orfodi rhai newidiadau cyfreithiol, wrth gwrs, mae hynny'n efelychu'r sefyllfa ar hyn o bryd—mae gan yr UE yr hawl i gyfarwyddo ein cyfraith ni mewn rhai ffyrdd ac rydym ni yn derbyn bod hynny yn rhan o'r trefniant cyfansoddiadol.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

David Melding: Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog Emeritws. Rydym ni mewn system cyfraith gyffredin. Yn y 1690au mynegwyd sofraniaeth seneddol gyntaf gan y llysoedd, a'r rheswm na ellir ei hamgodio yw mai'r Senedd ei hun yw'r mynegiant eithaf ac uchaf o'r gyfraith. Dyna'r system sydd gennym ni, oni bai ein bod yn symud i system wahanol.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

David Melding: Mae llawer o bethau a fyddai'n well o lawer gennyf yn ymagwedd Mrs May. Mae pawb yn gwybod yn y Siambr hon cymaint o blaid Ewrop ydw i, ac rwy'n teimlo'n anesmwyth iawn. Rwy'n credu bod yr heriau cyfansoddiadol hirdymor a wynebwn i gadw'r undeb gyda'i gilydd yn llawer anoddach nag y bydden nhw wedi bod pe byddem ni wedi aros yn yr undeb, ac fel cyn ddirprwy gyfarwyddwr Canolfan Materion...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

David Melding: Fe wnaf roi cyngor llawn ac ystyriol iddo ar y rhan honno pan fyddaf wedi ei darllen ac fe wnaf ysgrifennu ato. Nawr, dyna'r math o ateb yr arferwn i ei gael ganddo fe yn aml iawn, felly rwy'n gobeithio y bydd yn fodlon. [Chwerthin.] Aeth y Prif Weinidog yn ei flaen wedyn, fel rhyw ôl-ystyriaeth, yn fy marn i, i'r seiliau cyfansoddiadol, ac mae rhai ohonyn nhw yn gofyn am ymateb—nid yw'n...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Clywsom y Prif Weinidog yn cyfaddef yn haelionus fod Brexit yn mynd i ddigwydd, ac mae hyn o leiaf yn gam ymlaen, gan nad wyf i'n hollol siŵr am y llynedd, pryd y gwnaethoch chi wrthod cytundeb Mrs May er gwaethaf fy apeliadau angerddol bod hynny yn Brexit mor gadarnhaol ag yr oeddem ni'n debygol o'i gael. Wrth gwrs, roeddwn i'n frwd dros aros ac nid wyf i'n hapus...

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) (21 Ion 2020)

David Melding: Wrth gwrs, mae egwyddor Sewel yn seiliedig ar y ffaith nad yw cydsyniad yn cael ei ddal yn ôl yn afresymol, ac mae hynny'n gryn dipyn o brawf hefyd.

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu: Addysgu Hanes Cymru (15 Ion 2020)

David Melding: Dywedodd yr athronydd Michael Oakeshott, y tu hwnt i ffeithiau moel, 1066 a hynny i gyd—efallai y dylwn ddweud 1282—mai gweithred o wneud yw hanes—roedd yn ddiddorol sut y cychwynnodd Mick—neu o leiaf amgyffrediad, ymgais i ddeall. Ac mae pob cenhedlaeth yn gwneud hynny, ac mae'n gofyn am sgìl mawr. Byddai ein hen hen neiniau a'n hen hen deidiau wedi dweud mai brwydr Bosworth oedd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Canolfannau Diagnosis Cyflym (15 Ion 2020)

David Melding: Weinidog, credaf fod pob un ohonom wedi darllen y stori gadarnhaol iawn am Gastell-nedd Port Talbot ddoe. Wrth gwrs, maent wedi profi'r cynlluniau peilot yn Lloegr, ac maent yn mynd ati i sefydlu rhwydwaith cenedlaethol. Mewn gwirionedd, erbyn mis Ebrill eleni—fis cyfan cyn i'ch gwerthusiad gael ei gynnal o'r diwedd—bydd rhwydwaith ar waith yn Lloegr. Pam ein bod ni mor bell ar ei hôl hi?

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Adfywio Cymunedol ( 8 Ion 2020)

David Melding: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb am gymryd rhan yn y ddadl hon? Llawer o gyfraniadau—ni lwyddaf i fynd trwyddynt i gyd. Dechreuodd Mark gyda'i frwdfrydedd arferol a'r gafael llwyr sydd ganddo ar y pwnc am ei fod wedi golygu cymaint iddo drwy gydol ei yrfa fel Aelod o'r Cynulliad, lle mae wedi hyrwyddo'r holl gysyniad o gydgyflwyno, cydgynhyrchu a bod hynny'n...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Strategaeth Cysylltiadau Rhyngwladol Llywodraeth Cymru ( 8 Ion 2020)

David Melding: Lywydd, mae fy nghwestiwn ychydig yn llai rhyfelgar. [Chwerthin.] Os caf droi at Susie Ventris-Field, prif weithredwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, mae hi wedi tynnu sylw at ein cyflawniad dinesig gwych yng Nghymru mewn perthynas â hybu heddwch a chydsafiad rhyngwladol. Mae'n dyfynnu enghreifftiau fel y neges heddwch ac ewyllys da gan bobl ifanc Cymru, a fydd, yn yr ychydig...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

David Melding: Weinidog, os caf droi at gynhyrchu domestig, mae 27 mlynedd wedi bod bellach ers i ffilm Gymraeg gael ei henwebu am Oscar; Hedd Wyn, yn 1993, sy'n ffilm wych iawn. Ac wrth gwrs, gall hyn fod yn rhan allweddol o'n strategaeth ryngwladol i bortreadu i Gymru fodern y diwylliant Cymraeg hanfodol rydym yn ei fwynhau yma. Nawr, yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i'r...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.