Canlyniadau 441–460 o 800 ar gyfer speaker:Gareth Bennett

8. Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru (23 Ion 2018)

Gareth Bennett: Iawn, mae'n ddrwg gennyf. Efallai fy mod i wedi symleiddio'r hyn a ddywedasoch chi. Beth bynnag, rwy'n mynd i sôn am yr hyn sy'n digwydd yn Llundain. Nid oes tâl i fynd i mewn i Amgueddfa Victoria ac Albert, ond mae mynediad i arddangosfeydd arbennig—ac mae yna wastad nifer o arddangosfeydd arbennig yn y V&A—ar hyn o bryd yn amrywio o £8 i £19. Nawr, mae'n rhaid inni gofio bod...

8. Dadl: Adolygiad Thurley o Amgueddfa Cymru (23 Ion 2018)

Gareth Bennett: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nid wyf eto wedi cael unrhyw gyswllt ffurfiol gyda'r Gweinidog newydd, naill ai yn y Siambr nac mewn Pwyllgor, felly hoffwn ei groesawu i'w swydd newydd yn swyddogol. Credaf ein bod ni i gyd yn teimlo, yn sicr yn yr adran hon o'r Siambr—ac wrth hynny rwy'n golygu seddi UKIP—ei fod yn argoeli'n addawol iawn, ac rwy'n credu y gallai fod yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ddeallusrwydd Artiffisial ac Awtomeiddio (23 Ion 2018)

Gareth Bennett: Ydy, mae'n dda bod y mater hwn yn cael sylw ar lefel lywodraethol. Fodd bynnag, ceir tystiolaeth ddiweddar bod cwmnïau fel Tesco yn colli llawer mwy o arian o ddwyn o siopau ers cyflwyno awtomeiddio ar ffurf peiriannau hunan-sganio. A oes achos nawr i Lywodraeth Cymru weithio gyda'r cwmnïau hynny i geisio symud oddi wrth awtomeiddio diangen a mynd yn ôl tuag at gyflogi pobl go iawn i wneud...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Ion 2018)

Gareth Bennett: Ie, diolch. Rwy'n deall bod llawer o waith ar y gweill o hyd ac wrth gwrs, mae'n torri ar draws portffolio'r Gweinidog cyllid, felly edrychaf ymlaen at gael y newyddion diweddaraf maes o law. Felly, yn hytrach na mynd ar drywydd y mater hwnnw, efallai y gallwn droi'n ôl at broblem cartrefi gwag. Mae gan gynghorau yng Nghymru bŵer hefyd i gymryd rheolaeth o dai gwag drwy orchmynion rheoli...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Ion 2018)

Gareth Bennett: Ie. Diolch am yr ateb. Rwy'n credu y byddai dull cyfannol, fel rydych wedi'i awgrymu, yn dda, ond credaf fod angen i chi gadw ar ben y sefyllfa mewn perthynas â chartrefi gwag fel mater penodol. Nawr, o ran cynyddu'r cyflenwad tai mewn ffyrdd eraill, gwn eich bod chi a Mark Drakeford, y Gweinidog Cyllid, wedi bod yn trafod y posibilrwydd o dreth ar dir gwag. A allech chi roi...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (17 Ion 2018)

Gareth Bennett: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae problem digartrefedd wedi codi yn y newyddion sawl gwaith yn ddiweddar. Mae'n tueddu i fod yn bwnc mawr wrth i ni nesáu at y Nadolig bob blwyddyn, ond yn fwy arwyddocaol, mae gennym hefyd y ffigurau blynyddol diweddaraf ar gartrefi gwag, sy'n dangos cynnydd yng Nghymru o tua 23,000 o gartrefi gwag y llynedd i 25,000 o gartrefi erbyn hyn. Felly,...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cynllun Llifogydd y Rhath (17 Ion 2018)

Gareth Bennett: Ie, a diolch am drefnu'r cyfarfod hwnnw. Credaf fod hwnnw'n gyfarfod defnyddiol a lwyddodd i glirio'r aer, i ryw raddau. Y broblem yw, erbyn y pwynt hwnnw, roedd gennym eisoes lawer o drigolion lleol yn protestio yn erbyn cwympo coed drwy ddringo'r coed a gwneud gweithgareddau eraill ar y safle. Felly, yn amlwg, fe aeth rhywbeth o'i le gyda'r ymgynghoriad. A allech chi weithio gyda Cyfoeth...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Cynllun Llifogydd y Rhath (17 Ion 2018)

Gareth Bennett: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â datblygu cynllun llifogydd y Rhath yng Nghaerdydd? OAQ51572

Pwynt o Drefn (10 Ion 2018)

Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Cyfeiriaf at y pwynt o drefn a godwyd gyda chi ar 13 Rhagfyr y llynedd. Mae'n ddrwg gennyf fod pobl wedi'u tramgwyddo yn sgil yr hyn a ddywedais a hoffwn ei gwneud yn glir fy mod yn parchu eich awdurdod fel Cadeirydd. Fodd bynnag, rwy'n glynu at y safbwyntiau a fynegwyd gennyf am y newidiadau arfaethedig i'r Bil cydnabod rhywedd.

Pwynt o Drefn (13 Rha 2017)

Gareth Bennett: Diolch i chi, Lywydd. Ni fydd unrhyw ymddiheuriad. Ni fyddaf yn tynnu fy sylwadau yn ôl.

7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17 (12 Rha 2017)

Gareth Bennett: Oes, da iawn, Simon. Felly, fe ddylen nhw fwynhau rhai hawliau. Ond ni allwn ddal ati fel cymdeithas i gytuno'n dragwyddol â galwadau lleiafrifoedd. Rywbryd, mae'n rhaid inni gydnabod y bydd rhoi mwy o hawliau i grŵp lleiafrifol penodol yn cael effaith negyddol ar hawliau y rhan fwyaf o bobl yn ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd. Mae gennym enghraifft berffaith o hyn gyda'r dadleuon diweddar...

7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17 (12 Rha 2017)

Gareth Bennett: Diolch i Bwyllgor Cymru o'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol am eu hadolygiad blynyddol. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oes llawer ohonom ni yn UKIP yn rhannu yr un brwdfrydedd dros hawliau dynol, fel y'u gelwir nhw, â phobl mewn pleidiau eraill.

7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17 (12 Rha 2017)

Gareth Bennett: Ydy. Rydym yn pryderu'n benodol y bydd y pwyslais cynyddol ar hawliau lleiafrifoedd yn y pen draw yn cael effaith negyddol ar hawliau'r boblogaeth fwyafrifol. Nawr, mae'n rhaid inni wahaniaethu yma rhwng—[torri ar draws.] Na, nid wyf yn mynd i dderbyn unrhyw ymyriadau—

7. Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-17 (12 Rha 2017)

Gareth Bennett: Diolch am y cynnig, Joyce, ond nid oes amser. Nawr, mae'n rhaid inni wahaniaethu yma rhwng yr hawliau gwirioneddol ac ystyrlon iawn sydd gennym ni yma yn y Deyrnas Unedig sydd wedi esblygu dros 1,000 o flynyddoedd a mwy, a'r peth hawliau lleiafrifoedd cyfyng iawn yma y dywedir wrthym ni, heddiw, sy'n gyfystyr â  hawliau dynol. Mae gennym ddemocratiaeth sy'n gweithio yma yn y DU. Mae...

4. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gweithio Gyda'n Gilydd i Greu Cymunedau Mwy Diogel (12 Rha 2017)

Gareth Bennett: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r Gweinidog am ddatganiad heddiw. Mae diogelwch cymunedol yn bwnc diddorol. Genhedlaeth yn ôl, pan oeddwn yn tyfu i fyny, roedd yna lawer mwy o blant yn chwarae yn y strydoedd ac, yn yr haf, mewn parciau cyhoeddus heb oruchwyliaeth o gwbl gan oedolion. Roeddwn innau'n gwneud hynny fy hunan mae'n debyg pan oeddwn yn ifanc iawn. Sylwais rai blynyddoedd...

9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol ( 6 Rha 2017)

Gareth Bennett: Nid yw yntau yma ychwaith, Mike. I fod o ddifrif, nid wyf yn siŵr fod rhoi cyfrifoldeb am y system les i Iain Duncan Smith yn 2010 byth yn mynd i fod yn syniad da mewn gwirionedd. Dyma'r dyn a ddaeth i Ferthyr heb fod yn hir ar ôl ei benodi ac a ddywedodd, yn fyrfyfyr yn ôl pob golwg, y gallai fod yn syniad da pe bai rhai o'r bobl leol yn ystyried taro lawr i Gaerdydd i chwilio am...

9. Dadl Plaid Cymru: Credyd cynhwysol ( 6 Rha 2017)

Gareth Bennett: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl heddiw. Fel y dywedodd Siân Gwenllian yn ei sylwadau agoriadol, cyflwynodd Plaid Cymru ddadl ar y pwnc hwn chwe wythnos yn ôl, a rhoddais safbwynt UKIP bryd hynny. Mewn gwirionedd nid yw ein safbwynt wedi newid ers hynny, felly fe fyddaf yn eithaf cryno, yn enwedig o gofio mai dadl hanner awr yn unig yw hon. Rydym ni yn UKIP yn rhannu pryderon y...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod ( 6 Rha 2017)

Gareth Bennett: Diolch i David Melding am y cynnig deddfwriaethol gan Aelod heddiw. Mae'r syniadau hyn ynglŷn â chynyddu cyfranogiad dinasyddion yn ennyn fy chwilfrydedd. Wrth gwrs, mae'n nod canmoladwy, ond nid wyf yn siŵr pa mor hawdd y caiff ei gyflawni'n ymarferol. Yn fyr, nid wyf yn sicr fod y cynllun hwn, er ei fod yn arloesol, yn un ymarferol mewn gwirionedd. Y gwahaniaeth rhyngom ni yn y Siambr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Recriwtio Athrawon yng Nghanol De Cymru ( 5 Rha 2017)

Gareth Bennett: Bu problemau o ran cadw cynorthwywyr addysgu. Yn aml, mae cynorthwywyr addysgu yn gymwys fel cynorthwywyr addysgu lefel uwch, ond yn canfod nad ydynt yn cael y cyflog na'r cyfrifoldebau sy'n briodol i'r lefel newydd. Mae hyn wedi cyfrannu at lawer yn gadael y proffesiwn. Pa gamau all Llywodraeth Cymru eu cymryd i ddatrys y broblem hon?


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.