Jack Sargeant: Diolch, Prif Weinidog. Soniasoch yn eich ymateb am effaith cyni cyllidol, ac mae hyn yn digwydd ar bob un stryd fawr erbyn hyn. Nid problem mewn dinasoedd mawr yn unig yw hon erbyn hyn. Mae pobl wedi bod yn cysgu ar y strydoedd mewn trefi fel Cei Connah a Shotton, am y tro cyntaf yn fy nghof i. Nawr, mae'n bosibl iawn y gallai pethau fynd yn drech na chynghorau fel Sir y Fflint y gaeaf hwn,...
Jack Sargeant: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i rai sy'n cysgu ar y stryd yn Sir y Fflint? OAQ54805
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Ddirprwy Weinidog. Mae trais mewn perthynas yn fater iechyd cyhoeddus difrifol ymhlith plant a phobl ifanc. Cynhaliodd Prifysgol Caerdydd ymchwil helaeth i'r mater hwn yn ddiweddar, a chanfuwyd bod bylchau yn y cymorth. Ddirprwy Weinidog, os nad ydym yn mynd i'r afael â'r mater hwn, gallai cenedlaethau'r dyfodol syrthio drwy'r bwlch rhwng cymorth trais yn y cartref a...
Jack Sargeant: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu pobl ifanc sy'n profi trais mewn perthynas? 369
Jack Sargeant: Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod sut mae iechyd a lles yn cael eu llunio gan fwy nag ymyrraeth glinigol yn unig. Mae ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol, economaidd ac amgylcheddol yn cael effaith enfawr ar ganlyniadau iechyd. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn sôn am yr angen am ddull gweithredu cenedlaethol ar gyfer lles a'r angen i gynnwys yr holl ffactorau hyn...
Jack Sargeant: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd yng Nghymru?
Jack Sargeant: Gweinidog, a gaf i ddiolch i chi am gyflwyno'r datganiad hwn, am yr hyn sy'n newyddion hynod gythryblus? Rwy'n cytuno'n llwyr â chyfraniad Dai Rees, fel y gwnaf bob amser, o ran dur, ond ni allaf ddweud hynny am rai cyfraniadau eraill yr ydym wedi'u clywed y prynhawn yma. Fel y gwyddoch chi, Gweinidog, mae gweithwyr dur yn fy etholaeth i yn chwilio'n daer am yr wybodaeth hon, a byddwn i'n...
Jack Sargeant: Trefnydd, rwy'n croesawu eich sylwadau chi'n gynharach ynghylch iechyd meddwl ac iechyd meddwl dynion ac atal hunanladdiad, ac rwy'n croesawu gwaith y Llywodraeth yn hyn o beth. Nid oes un dull sy'n addas i bawb ar gyfer datrys hyn, ond rydym i gyd yn y Siambr hon a'r sefydliad hwn wedi colli rhywun ddwy flynedd yn ôl yn y modd hwn. Felly, hoffwn i atgoffa pawb fel unigolion, yn ogystal â'r...
Jack Sargeant: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo lles anifeiliaid yng ngogledd-ddwyrain Cymru?
Jack Sargeant: Diolch yn fawr, Dirprwy Weinidog, am y datganiad hynod bwysig hwn heddiw. Fe gefais i'r fraint o allu ymuno â chyn-filwyr ac aelodau'r cyhoedd yn y senotaff ar Sul y Cofio, rhywbeth y mae gennyf i atgofion melys iawn o'i wneud yn blentyn ifanc, law yn llaw â'm tad. Ac, unwaith eto, fe gefais i'r fraint o ymuno ag aelodau o'r cyhoedd a chyn-filwyr ddoe yn y senotaff yng Nghei Connah. Ddoe,...
Jack Sargeant: Diolch i chi am hynny, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae gennyf etholwyr sy'n gorfod teithio dros y ffin i Lerpwl a Manceinion i gael triniaeth. Byddant yn yr un adeilad â chleifion o Loegr sy'n gallu cael mynediad at y feddyginiaeth hon. Weinidog, a allwch fy sicrhau bod y negodiadau yn y sgyrsiau rydych yn eu cael gyda Vertex yn parhau a'u bod yn gadarnhaol fel y gall fy etholwyr a phobl Cymru...
Jack Sargeant: Diolch yn fawr am eich ateb, Weinidog. Mae Alun a Glannau Dyfrdwy yn gartref i rai o ddiwydiannau mwyaf uwch-dechnolegol a blaengar Cymru a'r gweithlu ymroddedig a medrus sydd yn yr ardal honno. I'r cyflogwyr a'r gweithwyr hyn, mae cynllunio'n allweddol. A all y Gweinidog fanylu ymhellach ar y cyswllt y mae ef a'i swyddogion, ac unrhyw gyd-Weinidogion eraill, wedi'i gael gyda phrif gyflogwyr...
Jack Sargeant: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda diwydiant yng ngogledd Cymru yn dilyn cyhoeddi estyniad i Brexit tan 31 Ionawr 2020? OAQ54631
Jack Sargeant: 1. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gwneud o benderfyniad GIG Lloegr i gymeradwyo'r defnydd o Orkambi a Symkevi? 359
Jack Sargeant: Diolch am godi'r cwestiwn pwysig hwn, Andrew. Fel Andrew R.T. Davies, rwyf innau hefyd wedi cael llawer o sgyrsiau gydag ysgolion uwchradd lleol ac ysgolion cynradd ond hefyd gyda’r awdurdod lleol, a chroesawaf y cyhoeddiad a wnaed ddoe, ac roedd fy nghwestiynau'n ymwneud â hynny, mewn gwirionedd. Felly, rwy'n croesawu hynny a diolch, Weinidog, ond a allwch roi sicrwydd i'r Cynulliad y...
Jack Sargeant: Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod?
Jack Sargeant: Roedd y ddau brofiad yn dangos pwysigrwydd cymuned i mi a phwysigrwydd peidio â sefyll o'r neilltu. Y rhan waethaf o'r profiadau oedd cael pobl yn cerdded heibio i chi gan edrych i lawr; roedd yr ymdeimlad o arwahanrwydd yn ofnadwy. Gwyddom hefyd fod iechyd meddwl ac unigrwydd yn arbennig o gyffredin ymhlith y bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw ar ein strydoedd. I lawer, bod yn berchen ar gi...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o arwain y ddadl fer hon, gan ganolbwyntio ar y rhwystr y mae llawer o bobl yn ei wynebu pan fyddant yn ceisio dod oddi ar y stryd a chael y cymorth y maent ei angen mor daer. I mi'n bersonol, yn enwedig os wyf wedi cael diwrnod anodd, boed hynny yn y gwaith, amgylchiadau personol neu pan fydd fy nhîm pêl-droed yn colli, nid oes llawer o bethau'n...
Jack Sargeant: A gaf fi ddiolch i Jenny Rathbone am gyflwyno'r cwestiwn hwn heddiw—cwestiwn hanfodol bwysig ar adeg dyngedfennol i'n planed ac i genedlaethau'r dyfodol? Weinidog, croesawaf eich sylwadau, ond a allwch ddweud wrthyf yn benodol beth rydych yn ei wneud i asesu a dadansoddi effaith gwariant presennol yn ogystal ag unrhyw wariant newydd o ran carbon, a sut rydych yn bwriadu cyhoeddi hyn i...
Jack Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Jenny Rathbone, yfory yw Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd, a hoffwn gofnodi fy niolch am y gwaith gwych y mae eich swyddfa'n ei wneud ar hynny. Yr wythnos diwethaf, cynhaliodd elusen y Samariaid frecwast briffio a diolch i fy nghyd-Aelod o'r meinciau gyferbyn, Dai Lloyd, am gefnogi hwnnw. Y thema eleni yw atal hunanladdiad, ac roedd...