Delyth Jewell: Ydy.
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Diolch i'r Aelodau am gymryd rhan yn y ddadl. Credaf mai dyma'r tro cyntaf i Laura a minnau ymateb i ddeddfwriaeth gyda'n gilydd ers iddi ddod i’r rôl hon, felly rwy'n ei chroesawu iddi. Credaf fod y ddadl fer rydym newydd ei chael yn dangos bod anghydbwysedd o hyd o ran dylanwad rhwng tenantiaid a landlordiaid. Byddwn yn sicr yn cytuno â'r hyn roedd y Gweinidog yn ei...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Nid yw'n gyfrinach ein bod yn credu y dylid gwahardd troi allan heb fai, ac mae'r gwelliannau rydym wedi'u cyflwyno heddiw yn adlewyrchu'r safbwynt hwn. Mae ein gwelliannau yn y grŵp hwn yn seiliedig ar fodel yr Alban, sy'n gwahardd troi allan heb fai ond yn caniatáu troi allan mewn nifer gyfyngedig o amgylchiadau. Nid oherwydd ein bod yn meddwl ei fod yn berffaith yw'r...
Delyth Jewell: 8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg Gymraeg yn Nwyrain De Cymru? OQ56285
Delyth Jewell: Diolch. Prif Weinidog, hoffwn eich holi chi am frechiadau i bobl ag anableddau dysgu sy'n byw mewn cartrefi gofal, sy'n fater a godwyd gyda mi gan nifer o etholwyr. Roedd y teuluoedd hyn yn meddwl y byddai eu hanwyliaid yn cael eu brechu yn y grwpiau blaenoriaeth cyntaf, oherwydd addewid y Gweinidog iechyd yn y Siambr hon y byddai holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi cael brechiad...
Delyth Jewell: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu brechlynnau COVID-19 yn Nwyrain De Cymru? OQ56297
Delyth Jewell: Wedi'r cyfan, pan sefydlwyd y llyfrgell fe'i cefnogwyd gan filoedd o bobl dosbarth gweithiol, gan gynnwys glowyr y Cymoedd. Diolch byth bod y frwydr wedi ei hailennill yn wyneb philistiaeth y Llywodraeth, fel nad yw aberthau gwreiddiol y bobl yna yn troi'n ofer, oherwydd, Dirprwy Lywydd, nid lle'r Llywodraeth fyddai wedi bod i gondemnio'r llyfrgell; mae hi'n eiddo i bobl Cymru, a daethom mor...
Delyth Jewell: Gall sŵn ennill llyfrgell, fe ymddengys. Rwy'n falch iawn bod cyd-destun ein dadl wedi newid sut gymaint dros nos. Mae ennill y ddadl hon yn arwyddocaol nid yn unig er mwyn gwarantu swyddi ein llyfrgell genedlaethol, er bod y rhain yn amlwg yn ddifrifol bwysig, ond mae hefyd yn gam tuag at ddiogelu dyfodol ein diwylliant. Mae dyfodol y llyfrgell gen yn fater o bwys cenedlaethol. Rwyf wedi...
Delyth Jewell: Mae'n debyg y bydd yr awdurdodau'n profi rhywfaint o anhawster ariannol yn y dyfodol agos, ond pan fydd y rhyfel anhapus hon ar ben, bydd pobl Cymru yn ddi-os yn ailadrodd y gwaith y maent wedi cynnig eu dwylo a'u calonnau mewn modd mor ganmoladwy i'w gyflawni.
Delyth Jewell: Wel, diolch, Weinidog. Rwy'n siŵr y bydd pob cyngor, gan gynnwys Caerffili, fel yr ychwanegwyd gennych, yn edrych ymlaen yn ddisgwylgar at y setliad terfynol. Yn olaf, hoffwn droi yn awr at y dreth gyngor. Mae Plaid Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru, fel y gwyddoch rwy'n siŵr, i roi mwy o arian i awdurdodau lleol er mwyn osgoi codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer eleni, pan fydd llawer o...
Delyth Jewell: Diolch am yr ateb yna. O ran y bwlch yn y gyfraith, efallai does dim ots am y semanteg gyda hyn, ond fel roeddech chi'n dweud, mae e'n fater o anghyfiawnder moesol bron, a dwi'n meddwl, oherwydd hynny, hyd yn oed os dyw llywodraeth leol ddim yn colli mas, mae angen gwneud yn siŵr bod hynna ddim yn digwydd, ac mae angen cau'r bwlch yna. Yn amlwg, mae hyn yn rhywbeth bydd yn rhaid i'r...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn eich datganiad yr wythnos diwethaf, fe wnaethoch chi gydnabod bod ail gartrefi yn broblem gynyddol mewn rhannau o Gymru. Ond mae'r camau hyd yn hyn gan y Llywodraeth yn rhai bach iawn i fynd i'r afael â hi. Fe wnaeth BBC Cymru Fyw gyfweld yn ddiweddar ag ymgyrchydd lleol dros hawliau tai teg, sef Rhys Tudur, a dywedodd Rhys fod pobl ifanc fel fe methu prynu tai...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Fe hoffwn i ofyn am ddatganiad, os gwelwch chi'n dda, yn esbonio pam mae rhai cartrefi gofal wedi cael eu dadflaenoriaethu ar gyfer brechlynnau. Mae yna gartref gofal bach ym mwrdeistref sirol Caerffili sydd wedi cysylltu â mi ac sy'n gofidio llawer na chaiff eu preswylwyr nhw eu cynnwys erbyn hyn yn y ddau grŵp blaenoriaeth cyntaf ar gyfer eu brechu. Fe ddywedwyd wrthynt...
Delyth Jewell: Diolch i chi am yr ateb yna. Fel y gwyddoch chi, wrth gwrs, mae'r argyfwng hwn a'r cyfyngiadau symud cysylltiedig wedi arwain at gynnydd mewn risg i fenywod sydd naill ai mewn perthynas gamdriniol neu sy'n ffoi rhagddynt. Ond mae argyfwng cyn waethed ar y gorwel sy'n gysylltiedig ag ariannu'r gwasanaethau cymorth arbenigol sy'n darparu achubiaeth yn llythrennol, neu'n drosiadol i'r menywod...
Delyth Jewell: 4. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am rôl gwasanaethau cymorth arbenigol o ran cefnogi goroeswyr trais domestig yn ystod y pandemig? OQ56241
Delyth Jewell: Gall llifogydd fod yn ddigon dinistriol pan fo'n digwydd unwaith i gymuned—y glanhau, y costau uchel, y cwmnïau yswiriant sy'n aml yn dod o hyd i fylchau yn y polisi ac yn rhy aml yn gwrthod talu—ond agwedd arall yr hoffwn dynnu sylw ati yw'r effeithiau seicolegol y mae llifogydd yn eu cael ar y rhai y mae'n effeithio arnynt. Ym mis Chwefror y llynedd, cafodd trigolion Stryd Edward yn...
Delyth Jewell: Dwi'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb yna. Mae'n amlwg yn annerbyniol ein bod, ar hyn o bryd, wedi colli'r pŵer i wahardd gwerthiant plastigau un-defnydd a deddfu yn y maes, felly rwy'n gobeithio bydd y Cwnsler Cyffredinol yn llwyddiannus yn yr achos llys. Mae gen i ddiddordeb yn y ffaith bod y Cwnsler wedi dweud mewn araith allanol diweddar ynglŷn â sail yr achos llys, y...
Delyth Jewell: 4. Pa ddadansoddiad mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei wneud o'r cyfyngiadau all Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 eu rhoi ar allu'r Senedd i ddeddfu nawr fod y cyfnod pontio wedi dod i ben? OQ56192
Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch chi'n dda, ar ei hymrwymiad parhaus i ddiogelu bioamrywiaeth. Mae erydu bioamrywiaeth yn achosi risgiau difrifol, wrth gwrs, i iechyd pobl, ac yn cynyddu risg pandemig, ac mae ganddo ran bwysig i'w chwarae i atal newid hinsawdd ar garlam. Mae sefyllfa benodol yn digwydd yn fy rhanbarth i, sy'n peri pryder ymhlith eiriolwyr bioamrywiaeth....
Delyth Jewell: Byddwn yn adleisio'r pwyntiau a wnaed am ddewrder ac ymroddiad staff bwrdd iechyd Aneurin Bevan—maen nhw'n glod i'n cymunedau. Roeddwn i eisiau codi mater ynghylch rhoi'r brechlyn yn yr ardal, os gwelwch yn dda. Mae rhai etholwyr wedi cysylltu â mi oherwydd eu bod nhw'n gofalu am berthynas oedrannus, ac mae'r perthynas oedrannus wedi cael ei alw i gael y brechlyn ond nid ydyn nhw fel...