Canlyniadau 461–480 o 2000 ar gyfer speaker:Huw Irranca-Davies

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol ( 5 Hyd 2021)

Huw Irranca-Davies: Mae'n hanfodol bod y Senedd yn rhoi sylw manwl i'w heffaith gyfunol ac yn gallu parhau i chwarae rhan lawn o ran diogelu buddiannau gorau Cymru yn sgil y trefniadau newydd hyn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol ( 5 Hyd 2021)

Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yr wythnos diwethaf, siaradais am adroddiad ein pwyllgor yn ystod y ddadl ynghylch a ddylai’r Senedd hon roi cydsyniad i Fil yr Amgylchedd. Yr wythnos hon, rydym yn trafod cydsyniad ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, a gyda’ch gwahoddiad chi, Dirprwy Lywydd a'r Llywydd hefyd, mae’n debyg y byddwch yn fy ngweld yn eithaf rheolaidd o ystyried...

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol ( 5 Hyd 2021)

Huw Irranca-Davies: Yn ein hadroddiad ar femorandwm cydsyniad Llywodraeth Cymru ar gyfer y Bil Cymwysterau Proffesiynol, rydym ni wedi nodi tueddiadau sydd, yn anffodus, eisoes yn dod i'r amlwg yn eithaf cynnar yn y Senedd hon, ac rydym ni wedi gwneud naw argymhelliad i'r Gweinidog, ac mae ein hadroddiad hefyd yn nodi nifer o gasgliadau i adlewyrchu ein hystyriaeth gyffredinol o'r memorandwm cydsyniad ar gyfer y...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 5 Hyd 2021)

Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am ddadl, yn hytrach na datganiad, ar gyfle elusennau a grwpiau cymunedol i fancio am ddim i? Yn anffodus, HSBC yw'r diweddaraf o'r banciau i gymryd yr arian a'i heglu hi, a byddan nhw'n cyflwyno taliadau i Sefydliad y Merched, grwpiau sgowtiaid a geidiaid lleol, clybiau chwaraeon lleol, ac eraill, o ddiwedd y mis hwn ymlaen. Mae'n beth pwysig iawn i rai grwpiau, sydd wedi cael...

5. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Amgylchedd (28 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Fe wnaf fy ngorau, Dirprwy Lywydd. A gaf i ragflaenu fy sylwadau drwy ddiolch i aelodau fy mhwyllgor am eu gwaith craffu, a'n tîm clercio hefyd, a nodi, cyn fy sylwadau, pan fydd ein pwyllgor yn gwneud ei waith yn dda y bydd weithiau yn herio'r Llywodraeth hefyd? Fel y dywedodd y Gweinidog wrthym, mae gan y Bil hanes hir, a chyhoeddodd ein pwyllgor blaenorol ddau adroddiad ar y Bil yn y...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad (28 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Diolch. Rwy'n ymddiheuro, Dirprwy Lywydd. Nid yw'n ymwneud â'i labelu naill ai'n 'DU' neu 'Cymru'; mae'n ymwneud â chyflawni dros y bobl yr ydym ni wedi ein hanfon yma i'w cynrychioli, ac mae ffordd well o wneud hynny na hyn. Gallwn ni helpu. Fyddech chi cystal â mynd â'r neges honno ymlaen?

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi: Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Codi’r Gwastad (28 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Dirprwy Lywydd, rwy'n datgan fy niddordeb fel cyn gadeirydd grŵp llywio'r buddsoddiad rhanbarthol i Gymru ac fel cadeirydd presennol y fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, y ddau heb dâl. Mae hynny wedi cymryd munud, Gadeirydd, i ddweud hynny. A gaf i ddweud, roeddwn i'n teimlo'n galonogol mewn gwirionedd o glywed sylwadau Paul Davies am yr 20 mlynedd o brofiad o...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cysylltiadau Rhynglywodraethol (28 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Prif Weinidog, diolch am y datganiad ond hefyd am yr adroddiad hwn, y byddwn i'n ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n ymhél â'r trefniadau cyfansoddiadol presennol ar hyn o bryd ac ystyr hynny i Gymru a'r DU. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, fel nododd Darren, fod rhai tameidiau da yma, ond mae'n rhaid i mi ddweud fod yma ddarlun cymysg hefyd, ac fe wnaiff, wrth ddarllen yr adroddiad hwn,...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (28 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad? Mae un ohonyn nhw mewn gwirionedd yn adleisio'r pwynt a gafodd ei wneud yn gynharach—byddai'n wych cael datganiad ar amseriad canlyniad yr ymgynghoriad estynedig ar gludiant i'r ysgol. Mae wedi'i ymestyn i edrych ar y mater hwn ynghylch yr agweddau teithio am ddim a'r pellter. Yn draddodiadol, darparodd Pen-y-bont ar Ogwr cludiant fwy hael na'r rhan fwyaf o...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cymorth Cyfreithiol a'r Prawf Moddion (22 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Rwy'n croesawu'r ymateb hwnnw. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn gwybod, ers i gymorth cyfreithiol gael ei dorri ac ers gwneud y profion modd yn llymach o ganlyniad i Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012, Deddf LASPO, mae hynny wedi golygu bod llawer o'r achosion hyn bellach yn dod i'n cymorthfeydd—pob un ohonom. Rydym yn ei weld gyda dyledion cynyddol, rydym yn ei weld...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cymorth Cyfreithiol a'r Prawf Moddion (22 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: 7. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cyflwyno i Lywodraeth y DU ynghylch adfer cymorth cyfreithiol ar gyfer cyngor cynnar ac ailasesu'r prawf moddion? OQ56853

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad (22 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cynnal ynghylch diwygio'r peirianwaith rhynglywodraethol ar lefel y DU?

5. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Codau cyfraith Cymru: Rhaglen i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch (21 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwyf i'n croesawu'r datganiad hwn y prynhawn yma yn fawr, a hefyd y ddadl sydd wedi ei ddilyn a'r sylwadau, oherwydd ei fod yn dangos, ymhell o fod yn ddarn sych a chyfrin o fusnes prynhawn dydd Mawrth yma, ei fod yn mynd yn wirioneddol at wraidd ceisio gwneud y gyfraith yn hygyrch ac yn ddealladwy, nid yn unig i weithwyr proffesiynol, fel y soniwyd, ond i'r cyhoedd hefyd, ac...

3. Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Polisi Ffermio i’r Dyfodol a’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (21 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Rwyf i wir yn croesawu'r datganiad hwn heddiw. Ambell waith, rydym ni'n cael datganiadau yn y lle hwn nad ydyn nhw'n ein harwain ni lawer ymhellach. Mae'r datganiad hwn yn wir yn gwneud hynny, ac yn gwneud hynny mewn dwy ffordd: (1) o ran rhoi, rwy'n credu, sicrwydd da iawn o'r drafodaeth barhaus a fydd yna gyda ffermwyr a rheolwyr tir ynglŷn â'r dyfodol yn hyn o beth, ond o ran dyfodol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diogelwch Cymunedol yn Ogwr (21 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac un o'r pethau a roddodd y pleser mwyaf i mi dros ddegawd yn ôl oedd bod yn rhan o'r pwyllgor yn San Steffan a esgorodd ar swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu. Roedd yn bwyllgor maith a llafurus, ond fe wnaethom ni eu cyflwyno, ac fe wnaethom ni eu cyflwyno gan ein bod ni'n gwybod am y swyddogaeth a fyddai ganddyn nhw o ran mynd i'r afael ag...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diogelwch Cymunedol yn Ogwr (21 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: 5. Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i wella diogelwch cymunedol yn Ogwr? OQ56855

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffermio Âr a Da Byw (15 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb, ac mae 'ffermwyr gweithgar' yn allweddol i'r ateb hwnnw. Mae fferm Cwm Rhisga, fferm rwy'n ei hadnabod yn dda iawn—rwyf wedi ymweld â hwy droeon, yn fwyaf diweddar yn ystod yr wythnosau diwethaf—yn fenter deuluol glasurol o faint bach i ganolig. Mae wedi arallgyfeirio. Mae wedi ennill gwobrau hefyd. Mae'n fferm gymysg âr a da byw. Mae'n gwneud y peth...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid ychwanegol yn Lloegr (15 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am ei hymateb, ac fel rydym wedi'i glywed eisoes heddiw yn Siambr y Senedd, yr hyn a welwn i bob pwrpas yw hen dric lleidr pocedi—mae rhywun yn gwenu yn eich wyneb wrth fynd ag arian o boced gefn awdurdodau lleol; oddi ar gyflogwyr, y bydd rhai ohonynt yn cyflogi staff gofal; ac oddi ar staff ar gyflogau isel ym maes gofal ac yn y GIG. Felly, mae'n hen dric sâl i'w...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cyllid ychwanegol yn Lloegr (15 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: 3. Pa ystyriaeth y gwnaiff Llywodraeth Cymru ei rhoi i'r effaith ar Gymru o gyllid ychwanegol posibl y GIG a gofal cymdeithasol yn Lloegr wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OQ56802

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffermio Âr a Da Byw (15 Med 2021)

Huw Irranca-Davies: 7. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau dyfodol cynaliadwy ar gyfer ffermio âr a da byw cymysg ar raddfa fach a chanolig sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd yng nghymoedd de Cymru? OQ56801


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.