Mark Reckless: Wel, mae'n dibynnu beth yw'r tariff, ond ymddengys mai safbwynt yr Aelod yw bod unrhyw gytundeb masnach yn wych cyn belled â bod yr Undeb Ewropeaidd yn ei negodi a’n bod yn rhan ohono fel yr UE, ond bod unrhyw drefniant arall yn ddrwg yn awtomatig, heb edrych ar rinweddau maint a chydbwysedd y tariffau. [Torri ar draws.] Dywed yr Aelod yn ei sedd nad oedd wedi dweud hynny, ac fe dderbyniaf...
Mark Reckless: Gallaf roi’r union ffigur i'r gŵr bonheddig, sef dim. Ar ôl i'r cyfnod rhybudd o ddwy flynedd ddod i ben, daw ein rhwymedigaethau o dan y cytuniad i ben. Yn union fel pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, pan na wnaethant hwy ein digolledu am swm tybiannol ar gyfer cyfraniadau pensiwn pobl a oedd wedi bod yn gweithio iddynt ond nid i ni cyn i ni ymuno. Pan fydd rhywun yn gadael cwmni,...
Mark Reckless: Fe ildiaf i Gadeirydd y pwyllgor.
Mark Reckless: Diolch am fy ngalw, gadeirydd, ac rwy'n ddiolchgar am yr amser hwn i gyflwyno dadl gyntaf Plaid Brexit yn y Cynulliad Cenedlaethol, lle rydym yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, yn ddelfrydol, ni ddylai hynny fod yn angenrheidiol, ond fe wnaethom bleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, nid os yw'r UE yn cytuno neu'n amodol ar gael cytundeb gwych. Mae'r...
Mark Reckless: Tybed a gaf fi ofyn am eglurhad. Gyda'r uchelgais sero net, a yw'r sero net hwnnw ar gyfer Cymru neu a yw’n caniatáu ar gyfer gwrthbwyso rhyngwladol a thalu gwledydd eraill a allai leihau allyriadau carbon deuocsid yn rhatach na ni?
Mark Reckless: Un rheswm o ran bysiau trydan yw eu bod yn costio tua dwywaith cymaint â bysiau confensiynol. Efallai y bydd y gost honno'n gostwng, ond yn y cyfamser sut y byddai'r Aelod yn hoffi talu am y gost ychwanegol honno?
Mark Reckless: Rwy'n llongyfarch yr oddeutu 6,000 o ddeisebwyr am ddod â hyn i'n sylw heddiw. Rwy'n meddwl bod nifer debyg wedi llofnodi deiseb pan gefais fy ethol i gadeirio'r pwyllgor ar newid hinsawdd yn wreiddiol. Roedd yna bryderon tebyg ynghylch diogelwch ar y pryd, a chefais fy ngalw i mewn i gael trafodaeth arbennig ynglŷn â sut roeddem yn mynd i ymdrin â phryder fod protestwyr yn mynd i oresgyn...
Mark Reckless: Gweinidog, a wnewch chi egluro'r cyfyngiadau 50 milltir yr awr ymhellach? Mae pump ohonyn nhw, rydych chi'n dweud, yn cae eu gwneud yn rhai parhaol ar hyn o bryd. Pa dystiolaeth sydd gennym ni o ran sut y maen nhw wedi bod yn effeithiol o ran lleihau'r llygryddion yr ydym ni'n pryderu yn eu cylch? Rwyf i'n cael cwynion yn arbennig ynghylch y cyfyngiad 50 milltir yr awr wrth i chi ddod at...
Mark Reckless: Un arweinydd sydd wedi gweithio'n ddiflino i hyrwyddo diogelwch cymunedol yn y de-ddwyrain yw Julian Williams. Mae'n ymddeol y mis hwn fel Prif Gwnstabl Heddlu Gwent. Hoffwn ategu sylwadau'r comisiynydd heddlu a throseddu, Jeff Cuthbert. Dywedodd ei fod wedi bod yn arweinydd effeithiol iawn ar Heddlu Gwent ac wedi dangos proffesiynoldeb, wedi'i feddalu â thosturi, bob amser. Ac rwy'n gwybod...
Mark Reckless: Nid dyna a addawyd gennych chi eich maniffesto, nage? Mae'r Gweinidog y tu ôl i chi, Lee Waters, yn dweud ei fod yn dipyn o ystrydeb i awgrymu bod Cymru ar gau i fusnes—[Torri ar draws.] Nid dyna wnaethoch chi ei roi yn eich maniffesto. Roedd yn dweud—maniffesto Llafur— Byddwn yn cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer yr M4.
Mark Reckless: Nid ydych chi wedi gwneud hynny—rydych chi wedi torri eich addewid.
Mark Reckless: Felly, nid fy ngeiriau i oedd yr hyn y mae Lee Waters yn ei ddweud oedd yn ystrydeb—cyfarwyddwr Cydffederasiwn Diwydiant Prydain Cymru Ian Price a ddywedodd bod y diddymiad hwn yn cyfleu'r neges nad yw Cymru ar agor i fusnes. Bydd twf economaidd yn cael ei lethu, bydd ffydd yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi. Nawr, nid wyf i'n dyfynnu Ysgrifennydd...
Mark Reckless: Y penwythnos hwn, ymddangosodd y pennawd canlynol yn y South Wales Argus: Mae traffig yn ciwio a cheir oediadau difrifol ar...yr M4 o amgylch Casnewydd. Wrth iddyn nhw ei drydar, awgrymais efallai y bydden nhw'n hoffi rhoi'r neges ar frig eu tudalen yn y dyfodol. Ar yr achlysur hwn, adroddodd yr AA bod oediadau difrifol, gyda chyflymder cyfartalog o 15 mya. Yna dywedodd yr AA: ni fu...
Mark Reckless: Diolch. Cyn hynny, fe hyrwyddais o leiaf yr awydd i weld y llwybr glas yn cael ei ystyried ymhellach. Wedi darllen yr adroddiad, ar ôl mynd ar hyd y llwybr hwnnw gyda'r Athro Stuart Cole, a siarad â mwy o bobl yng Nghasnewydd ac mewn mannau eraill am y peth, caf fy narbwyllo gan lawer o'r pwyntiau y mae'r arolygydd yn eu dweud, a hoffwn gofnodi hynny.
Mark Reckless: A yw'r Gweinidog yn awgrymu datganoli toll teithwyr awyr fel dewis amgen yn lle ffordd liniaru M4? Nid wyf yn siŵr y byddai ar yr un raddfa o ran yr effaith ar dagfeydd. Er hynny, tybed a allai egluro, oherwydd mae wedi defnyddio'r gair 'amrywio' toll teithwyr awyr, a chredaf fod Andrew R.T. Davies, yn gwbl ddealladwy, wedi ystyried y gallai hynny ddynodi newid polisi o'r Prif Weinidog...
Mark Reckless: Wrth gwrs roedd y drafodaeth Brexit ddiweddaraf gyda Llywodraeth y DU yn ymwneud â defnydd, neu ddiffyg defnydd, y Prif Weinidog o gar y Swyddfa Dramor ym Mrwsel heddiw. Fodd bynnag, ar fater y GIG, ni chaiff ei fasnachu. Pan fydd rhywbeth yn wasanaeth cyhoeddus, nid yw'n rhywbeth sy'n rhan o gytundeb masnach yn y ffordd a awgrymir. Wrth gwrs, os oes gennych gaffael cyhoeddus, fe fyddwch am...
Mark Reckless: Gwnaethoch hefyd gyhoeddi maniffesto a oedd yn dweud: Byddwn yn darparu ffordd liniaru ar gyfer y M4. Onid yw'n wir na fydd y comisiwn hwn ac unrhyw gynigion a gyflwynir ganddo, a allai liniaru tagfeydd ar yr ymylon, yn cael fawr o effaith o gymharu â'r hyn a addawyd yn eich maniffesto?
Mark Reckless: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd traffig o amgylch Casnewydd? OAQ53993
Mark Reckless: Beth am yr holl arian ychwanegol y mae trigolion Cymru yn ei dalu o ran y prisiau uwch am fwyd y dywedodd amdano, ond hefyd, yn wir, am ddillad ac esgidiau?
Mark Reckless: Da iawn. Wel, rwy'n dymuno'n dda iddo ac rwy'n llongyfarch Stephen Kinnock ar y gwaith y mae'n ei wneud yma, a hefyd ar gysondeb ei safbwynt ar Brexit. Yn wahanol i'r Aelodau yma, nid yw ef wedi ei newid, ac rwy'n croesawu hynny. Rwy'n annog y Ceidwadwyr hefyd, gobeithio, i gysylltu â'r grŵp hollbleidiol seneddol hwn, i ystyried ble y gallan nhw ddylanwadu ar y ddadl fel y mae'n digwydd....