Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gennyf glywed bod unigolyn arall eto yn dioddef ac yn ei chael hi'n anodd oherwydd y rhestrau aros. Yn sicr, rwy’n bryderus iawn, yn enwedig, am bobl y gwn eu bod yn aros am lawdriniaethau cluniau. Rwy’n adnabod rhywun yn y Siambr hon y mae eu mam wedi cael clun newydd yn ddiweddar ac a fu'n sicr mewn llawer o boen cyn hynny. Felly, rwy'n awyddus iawn...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Mae mynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Fis diwethaf, lansiais y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio, sy’n nodi ein dull o leihau amseroedd aros yng Nghymru fel bod cleifion yn cael y gofal a’r driniaeth y maent yn eu haeddu, ac mae hynny wedi’i ategu gan fuddsoddiad rheolaidd ychwanegol o £170 miliwn.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Yn sicr, dyw Brexit ddim wedi helpu'r sefyllfa o ran nifer y nyrsys sy'n gweithio yn ein cymunedau ni ac yn ein hysbytai ni. Wrth gwrs, byddai'n well gyda ni weld pobl yn gweithio'n llawn amser i'r NHS a ddim yn gweithio i asiantaethau, felly mae'n rhaid inni fwrw ati yn gyson i sicrhau ein bod ni'n gallu gwella'r sefyllfa yna, a'r ffordd i wneud hynny yw sicrhau bod mwy o...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, ac mae'n ddrwg iawn gen i glywed hynny. Yn amlwg, mae hynny'n codi pryder. Mi wnes i gwrdd ag aelodau undeb yn y gogledd yn ddiweddar—aelodau o'r RCN ac aelodau o Unison—a doedd hwn ddim yn rhywbeth gwnaethon nhw godi gyda fi. Felly, yn amlwg, mae'n rhaid inni sicrhau bod yna ffyrdd eraill iddyn nhw godi pryderon fel hyn. Dwi yn meddwl ei fod yn bwysig bod pob un yn gallu...
Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy’n ymwybodol iawn o’r pwysau aruthrol y mae cleifion yn ei wynebu, yn ein hadrannau achosion brys yn enwedig. Rydym yn amlwg mewn sefyllfa lle mae’r pwysau hynny’n dod yn ormod mewn rhai mannau, ac un o’r pethau y bûm yn eu gwneud yw cynnal ymweliadau dirybudd â rhai o’n hadrannau damweiniau ac achosion brys er mwyn gweld y pwysau sydd arnynt...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae mynd i’r afael â’r ôl-groniad o gleifion yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth hon. Fis diwethaf, lansiais y cynllun adfer gofal wedi’i gynllunio sy’n nodi ein dull o leihau amseroedd aros yng Nghymru fel bod cleifion yn cael y gofal a’r driniaeth y maent yn eu haeddu, ac mae hynny wedi’i ategu gan fuddsoddiad rheolaidd ychwanegol o £170 miliwn.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn, Altaf, a hoffwn eich sicrhau, os oes angen triniaeth ddeintyddol ar frys neu os yw’r claf mewn poen, disgwylir y bydd gan fyrddau iechyd ddarpariaeth ar waith i ddarparu gofal yn gyflym. Ac un o'r pethau rwy'n eu gwneud ar hyn o bryd yw mynd drwy fanylion y cynlluniau tymor canolig integredig ar gyfer pob un o'r byrddau iechyd a sicrhau bod gan bob un ohonynt gynnig a...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Sioned. Ac fe fyddwch yn ymwybodol y bu problem benodol mewn perthynas â deintyddiaeth oherwydd yr angen am fesurau rheoli heintiau i sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn ddiogel, gan gynnwys cleifion a deintyddion eu hunain. A dyna pam ein bod wedi gweld gostyngiad o 50 y cant yn nifer y bobl sydd wedi gallu cael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG. Rydym wedi rhoi mesurau ar...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rŷn ni'n gweithio ar ddiwygio’r system ddeintyddiaeth ac yn symud ymlaen ar y cyd gyda'r rhaglen ddiwygio gofal sylfaenol yn 2022. Mae hyn yn cynnwys gweithio mewn partneriaeth gyda’r proffesiwn deintyddol i wella mynediad at ofal deintyddol, gwella'r profiad a gwella ansawdd y gofal.
Baroness Mair Eluned Morgan: Ar wahân i agor ysgol feddygol yn y gogledd, a oedd yn rhan o'n maniffesto ni, un o'r pethau rŷn ni'n ei wneud yw sicrhau bod yna bosibilrwydd i bobl sydd efallai yn dod o dramor i hyfforddi yma i gario ymlaen i weithio. Tan nawr, mae yna broblem wedi bod o ran cael certificate of completion training, ac felly beth roedden ni'n gofidio oedd y bydden ni'n gweld, yn ystod y tair blynedd...
Baroness Mair Eluned Morgan: I have regular meetings with health board chairs and vice chairs to discuss the planning and delivery of services. Primary care services across the whole of Wales are working hard to respond to increased pressure from patient demand.
Baroness Mair Eluned Morgan: The six goals for urgent and emergency care programme set clear expectations for delivery of more sustainable, safer and effective urgent and emergency care. Betsi Cadwaladr UHB will receive an additional £3m annually to deliver its local six goals programme, to help improve the outcomes and experience of patients who access emergency care, including in Emergency Departments.
Baroness Mair Eluned Morgan: I expect local health boards, as joint commissioners of ambulance services, to work with the Welsh Ambulance Services Trust to understand local challenges and agree collaborative actions to ensure patients within their communities receive a safe and timely response, through a whole system approach, ensuring ambulance crews are available to respond when needed.
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Wel, i ateb y cwestiwn olaf, 'Ydy hi'n amhosibl gweld gwahaniaeth yn yr allbynau?', wel, na, dyna pam mae gwneud rhywbeth ynglŷn ag anghydraddoldeb yn rhan allweddol o beth rydyn ni'n ei mesur fan hyn. Dwi'n awyddus iawn i beidio â jest siarad fan hyn; dwi'n glir iawn mai beth sydd ei angen yw pethau rydyn ni'n gallu eu mesur, a dwi'n benderfynol i sicrhau bod hynny'n bosibl...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Rwy'n falch ein bod ni ar yr un dudalen o ran hyn. Felly, rwy'n awyddus iawn i roi'r gorau i fod mewn sefyllfa lle rydym yn edrych yn gyson ar faint o arian yr ydym yn ei roi i'r system. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ddechrau ei fesur yw'r hyn sy'n dod allan y pen arall. Pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud i'r cyhoedd ac i gleifion? Ac os gallwn ni wneud hynny mewn ffordd effeithlon...
Baroness Mair Eluned Morgan: Mae'r canlyniad cyffredinol sydd wedi ei ddewis ar gyfer y fframwaith yn seiliedig ar y weledigaeth yn 'Cymru Iachach', sef pawb yng Nghymru yn mwynhau iechyd a llesiant da. Caiff hwn ei ategu gan 13 o gynigion ar gyfer dangosyddion poblogaeth a fydd, gyda'i gilydd, yn helpu i ddangos bod y canlyniad wedi'i gyflawni. Mae pump o'r 13 a fydd yn cael eu trafod gyda'r sector yn ddangosyddion...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch am siarad yn araf iawn.
Baroness Mair Eluned Morgan: Llywydd, a gaf i ddiolch i chi am y cyfle i amlinellu cynlluniau ein fframwaith canlyniadau iechyd a gofal cymdeithasol? Nawr, yn fy natganiad heddiw, byddaf yn amlinellu rôl a swyddogaeth y fframwaith canlyniadau, sut y mae'n cael ei ddatblygu ac yn trafod y camau nesaf arfaethedig. Mae'r Dirprwy Weinidogion a minnau wedi ymrwymo i wella iechyd a llesiant pobl Cymru. Rydym yn glir bod...
Baroness Mair Eluned Morgan: —yr ymchwiliad cyhoeddus i COVID, byddwch yn ymwybodol o'n safbwynt ni ar hyn. Rydym ni wedi ei gwneud yn glir drwy'r adeg ein bod ni'n annhebygol o gael ymchwiliad cyhoeddus yng Nghymru gan ein bod ni'n system lle mae COVID wedi ei integreiddio fwy neu lai â'r DU. Roedd llawer o'r penderfyniadau a wnaethom yn benderfyniadau yn seiliedig ar ddadansoddiad a thystiolaeth a gawsom drwy...
Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae'n dda i weld bod y niferoedd wedi dod i lawr, fel ŷch chi'n cyfeirio, ac rydym ni'n gwybod hyn oherwydd yr ONS a dŵr gwastraff. Mae'n glir bod canllawiau newydd wedi cael eu rhoi gerbron prifysgolion a cholegau ynglŷn â sut i ddelio â COVID nawr, ac fel rhan o hynny bydd gofyn i bobl ystyried sut maen nhw'n mynd i alluogi awyr iach i ddod i mewn i'w hystafelloedd nhw....