Lesley Griffiths: Mae amrywiaeth o wasanaethau yn parhau i gael eu datblygu ledled Cymru. Yn nhymor presennol y Senedd, byddwn, er enghraifft, yn cynyddu mynediad at eiriolaeth iechyd meddwl i fodloni safonau amddiffyn rhyddid newydd a hefyd yn creu gwasanaeth eiriolaeth newydd i rieni y mae eu plant mewn perygl o gael eu symud i ofal cyhoeddus.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, oherwydd argymhellir monitro glwcos parhaus ar gyfer pob unigolyn â diabetes math 1, ac mae'n bwysig eu bod nhw'n gallu cael mynediad at hynny. Nid wyf i'n ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o ran yr holl staff gofal iechyd yn meddu ar y gallu hwnnw, ond, yn amlwg, mae hi yn y Siambr ac...
Lesley Griffiths: Cyhoeddir meini prawf cymhwyso wedi'u diweddaru yn rheolaidd gan y cyrff sy'n gyfrifol am ganllawiau clinigol. Cyhoeddwyd cyngor diweddaraf Technoleg Iechyd Cymru ar y materion hyn ym mis Gorffennaf 2021. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal yn diweddaru ei ganllawiau ym mis Mehefin.
Lesley Griffiths: Wel, pe na baem ni wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ni fyddai gennym ni unrhyw fylchau yn ein llywodraethu amgylcheddol.
Lesley Griffiths: Diolch. Mae cyflawni newid teg a fforddiadwy i ddyfodol carbon isel yn golygu sicrhau bod ffynonellau newydd, glân, fforddiadwy o ynni adnewyddadwy ar gyfer Cymru. Mae angen i ni hefyd dyfu economi gydnerth, lle gallwn barhau i nodi a manteisio ar gyfleoedd yn y technolegau a'r marchnadoedd newydd a gwyrdd hynny. Ond, mae'n rhaid iddyn nhw gael eu seilio ar sylfaen ddiwydiannol aeddfed,...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, soniais i y bydd y contract newydd yn caniatáu i ragor o wasanaethau gael eu datblygu yn y dyfodol, ac rydych chi'n gwbl gywir bod swyddogaeth fferyllfeydd cymunedol wedi newid yn sylweddol dros y 10 mlynedd diwethaf. Maen nhw'n cyflawni swyddogaeth hanfodol i gleifion. Fe wnaethoch chi gyfeirio at y nifer o fferyllfeydd cymunedol, fel y gwnaeth Sioned Williams, a teg dweud nad...
Lesley Griffiths: Diolch. Y llynedd, fe wnaethom ni godi ein huchelgais i sicrhau allyriadau sero-net erbyn 2050. Cyn COP26, fe wnaethom ni gyhoeddi Sero Net Cymru, ein cynllun lleihau allyriadau. Rydym ni bellach yn canolbwyntio ar gyflawni'r camau gweithredu yn Sero Net Cymru a'n cynllun ymaddasu presennol ar gyfer yr hinsawdd, 'Ffyniant i Bawb: Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd'.
Lesley Griffiths: Os caf i ddweud o ran Pontardawe, yn amlwg, ni allaf wneud sylwadau ar achos unigol yn ymwneud ag apeliadau lleoliad fferyllfeydd, ond rwy'n ymwybodol bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi bod yn gweithio gyda'r ddwy fferyllfa ym Mhontardawe dros y flwyddyn ddiwethaf i sicrhau bod cynllun gweithredu ar waith i fynd i'r afael â phryderon ynghylch y ddarpariaeth o wasanaethau. Rwy'n...
Lesley Griffiths: Mae fferyllfeydd yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau ym mhob rhan o Gymru. Mae Presgripsiwn Newydd, y contract fferyllfeydd newydd, a gyflwynwyd ar 1 Ebrill, wedi ymestyn yr amrywiaeth o wasanaethau clinigol y gall pob fferyllfa ei darparu, gan leihau'r gofynion ar feddygon teulu a chefnogi mynediad at driniaeth heb fod angen aros am apwyntiad.
Lesley Griffiths: Diolch. Gan weithio gyda'n partneriaid, archwiliodd Llywodraeth Cymru y broses ECO flex i ddatblygu datganiad dewisol o fwriad Cymru gyfan dewisol, er mwyn ei gwneud mor hawdd ac mor ddeniadol â phosib i awdurdodau lleol ymgysylltu â'r cynllun hwn. Gwn fod swyddogion yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a hefyd prifddinas-ranbarth Caerdydd fel y...
Lesley Griffiths: Felly, alla' i ddim ateb y cwestiwn a fydd y Prif Weinidog yn ailystyried ei bresenoldeb oherwydd, yn amlwg, nid wyf i'n gallu siarad ag ef—mae'n sâl—ond rwy'n siŵr y bydd ei swyddfa wedi clywed eich cwestiynau. Felly, nid wyf i wir yn teimlo y gallaf i ateb hynna.
Lesley Griffiths: Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygiad datganiad o fwriad hyblyg y rhwymedigaeth cwmni ynni Cymru gyfan i'w ddefnyddio gan awdurdodau lleol. Mae'r datganiad unigol yma yn annog mwy o awdurdodau lleol i fanteisio ar y cynllun. Bydd y Gweinidog Newid Hinsawdd yn gwneud datganiad ehangach ar effeithlonrwydd ynni cwmnïau yng nghartrefi Cymru yn ddiweddarach yn y prynhawn. [Torri ar draws.]
Lesley Griffiths: Fe wnaethoch chi godi tri gwahanol bwynt yn y fan yna. Fe wnaethoch chi gyfeirio at yr Alban, ac rwy'n credu eich bod chi'n iawn, fe allwn ni ddysgu gan yr Alban. Yn ddiweddar, fis diwethaf, roedd y Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi a minnau yn bresennol yn Fforwm Iwerddon-Cymru, lle cawsom ford gron yn trafod ynni adnewyddadwy, ac roedd pobl eisiau siarad am yr Alban. Yn sicr, gwn fod y...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n iawn; mae'n bwysig iawn bod pob gwlad yn dangos arweinyddiaeth, ac rwy'n sicr yn credu y dylai arweinyddiaeth y DU, sef yr aelod-wladwriaeth, wneud hynny. Rwy'n falch iawn bod Prif Weinidog y DU wedi newid ei feddwl ac yn mynd i COP27, oherwydd rwy'n sicr yn meddwl bod angen i Lywodraeth y DU gamu i'r adwy. Fel gwlad, yma yng Nghymru, rydym ni'n sicr yn...
Lesley Griffiths: Bydd arweinydd yr wrthblaid yn ymwybodol bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru—yn ei chyfanrwydd, y chwaraewyr a'r rheolwyr—eisoes wedi ymrwymo i ymgyrch rhwymyn braich 'One Love', er enghraifft, i fynegi undod â chymunedau LHDTC+ ar draws y byd, ac rydym ni wedi ei gwneud hi'n eglur iawn ein bod ni'n cefnogi'r safbwynt hwnnw. Cefais fy nghalonogi'n fawr o glywed aelod o Gymdeithas Bêl-droed...
Lesley Griffiths: Felly, fel Llywodraeth, rydym ni'n adolygu'n rheolaidd y ffordd orau y gallwn ni hyrwyddo Cymru ar y llwyfan byd-eang, a'n penderfyniad yw ei bod hi'n gymesur i'r Prif Weinidog a Gweinidog arall fod yn bresennol yn nwy o'r gemau grŵp. Os byddwn yn symud ymlaen, ac yn sicr rydym ni i gyd yn gobeithio y bydd Cymru symud ymlaen drwy'r gemau grŵp ac ymlaen i'r cam nesaf, byddwn yn ystyried...
Lesley Griffiths: Wel, nid wyf i'n credu ei fod yn fater o gywir ac anghywir. Rydym ni mewn llywodraeth, fel rydych chi'n nodi, ac rwy'n credu ei fod yn wahanol o safbwynt gwleidydd llywodraeth nag ydyw i rywun sydd yn yr wrthblaid. Nid yw Plaid Lafur y DU wedi galw am foicotiau llywodraeth ffurfiol, er enghraifft, ac, rwy'n credu, ei fod ef a ninnau'n cydnabod safbwyntiau gwahanol iawn gwleidyddion, fel yr...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu eich bod wedi cael pethau yn y drefn anghywir. Fe wnaethoch chi gael pethau yn y drefn anghywir.
Lesley Griffiths: Mae'n bwysig iawn ein bod ni'n parhau i weithio gyda phobl ifanc a'n hysgolion yn hyn o beth. Fel y dywedais i wrth Delyth Jewell, nid yw'n ymwneud â'r wythnos hon yn unig; mae'n ymwneud â phob wythnos, on'd ydy, a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yn y ffordd honno. Yn amlwg, mae'r cwricwlwm yn caniatáu hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi eco-gynghorau a'n cynghorau ysgol, lle...
Lesley Griffiths: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n falch iawn eich bod chi wedi gallu cymryd rhan y bore yma yn nigwyddiad COP ieuenctid Cymru. Mae'n bwysig iawn bod lleisiau ein pobl ifanc yn cael eu clywed. Ac rwy'n credu bod Llywodraeth Cymru wir wedi bod yn flaenllaw o ran dod â phobl ifanc ymlaen yn hyn o beth. Fe wnaethoch chi sôn am Maint Cymru, ac rwy'n meddwl mai dyna un o'n polisïau mwyaf ardderchog. A...