Canlyniadau 461–480 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Bil Amaeth i Gymru (14 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: 4. Sut y bydd papur gwyn Llywodraeth Cymru ar Fil amaeth i Gymru yn cydnabod pwysicrwydd y sector i ddyfodol yr Iaith Gymaeg? OQ55707

9. & 10. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) a'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) (13 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid. Roedden ni wedi disgwyl clywed tystiolaeth gan y Gweinidog yn ôl ym mis Mawrth, wrth gwrs, ar y mater yma, ond bu'n rhaid inni ohirio'r sesiwn honno yn wyneb pandemig COVID-19. Yn lle hynny, mi wnaethon ni ysgrifennu at y Gweinidog yn gofyn am wybodaeth am oblygiadau ariannol y Bil, rhag...

3. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: Ailgylchu a'r Adferiad Gwyrdd (13 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Hoffwn dalu teyrnged hefyd i'r rhai sy'n gweithio yn y sector gwastraff, yn enwedig staff awdurdodau lleol sydd wedi cadw'r olwynion casglu gwastraff yn troi drwy'r pandemig hwn. Sylwaf, Gweinidog, yn eich datganiad, yn amlwg mae pwyslais canmoladwy ar ailgylchu a'r economi gylchol, ond, wrth gwrs, y peth allweddol yma yw bod yn rhaid inni roi'r gorau i gynhyrchu'r gwastraff hwnnw yn y lle...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog dros chwaraeon am yr heriau difrifol sy'n wynebu haenau uchaf pêl-droed yng Nghymru? Mae gemau uwch gynghrair Cymru, wrth gwrs, yn cael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig ar hyn o bryd ac mae hynny’n rhoi straen ariannol aruthrol ar y clybiau yma. Dyw hynny ddim yn gynaliadwy heb naill ai ganiatáu rhywfaint o gefnogwyr i fynychu’r gemau...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (13 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch am eich ymateb. Byddai ambell un yn dweud ei fod e'n ddynesiad unigryw Gymreig oherwydd rŷn ni wedi creu strwythur sylweddol iawn o bwyllgorau o'i gwmpas e. Ond yr hyn roeddwn i eisiau ei ofyn oedd: a ydych chi'n credu bod yna ormod o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus wedi deillio yn sgil y Ddeddf, a hefyd, wrth gwrs, pwy sy'n eu dal nhw i gyfrif—i bwy maen nhw yn atebol i sicrhau eu...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (13 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OQ55708

10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth ( 7 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Gaf i ffocysu yn fy sylwadau i ar y system gynllunio a sut mae angen i'r gyfundrefn honno newid er mwyn gwneud ei rhan i helpu amddiffyn y celfyddydau, diwylliant a'n treftadaeth ni? Efallai nad oes yna gysylltiad amlwg rhwng y ddau beth, ond dŷn ni'n gwybod bod yna nifer o leoliadau sydd wedi eu defnyddio at y dibenion yma bellach dan fygythiad oherwydd y pandemig. Mae nifer wedi eu gorfodi...

10. Dadl Plaid Cymru: Yr heriau sy'n wynebu sectorau'r Celfyddydau, Diwylliant a Threftadaeth ( 7 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Rhaid i mi ddweud nad wyf byth yn mwynhau cyfraniadau gan Aelodau nad oes ganddynt unrhyw beth adeiladol i'w ddweud o gwbl. Mae rhai pobl wrth eu bodd yn rhwygo cynigion pobl eraill ac nid oes ganddynt unrhyw beth cadarnhaol i'w ddweud, felly da iawn, Mandy Jones—neu ddim.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ( 7 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i'r sectorau hynny o'r economi yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y cyfyngiadau symud diweddaraf yng Ngogledd Cymru?

QNR: Cwestiynau i Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ( 7 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Sut y mae COVID-19 wedi effeithio ar allu Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y posibilrwydd o Brexit heb gytundeb ar ddiwedd y cyfnod pontio?

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd ( 6 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: A nawr mae'r Gweinidog, yn hwyr, yn cynnig neu'n addo adroddiad bob dwy flynedd neu ryw fath o wybodaeth ddiweddaraf reolaidd. Nid yw hynny'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r mater sylfaenol o beidio â chael y cymal machlud, sydd, wrth gwrs, yn un o ddiffyg democrataidd, o'n rhan ni fel Aelodau o'r Senedd hon. Cefais fy ngogleisio gan y disgrifiad o Gymru gan y Gweinidog fel gwladwriaeth...

10. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Pysgodfeydd ( 6 Hyd 2020)

Llyr Gruffydd: Mae rhaid i fi ddweud, mae yna deimlad o groundhog day o gwmpas y ddadl yma, oherwydd mae yna sawl tebygrwydd rhwng y dadl yma yr wythnos yma a'r ddadl gawson ni ar Fil Amaethyddiaeth y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf. Mae yna rai elfennau positif, wrth gwrs, o'n blaenau ni heddiw. Mae estyn cymhwysedd y Senedd mewn perthynas â physgota a physgodfeydd a iechyd pysgod yng nghyd-destun y...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Marwolaethau o ganlyniad i COVID-19 (30 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Wrth i rannau helaeth o'r gogledd symud i gyfyngiadau lleol yfory wrth gwrs, mae arnom angen sicrwydd yn awr gan y Llywodraeth hon fod gwersi wedi'u dysgu o'r clystyrau o achosion a gafwyd yr haf hwn mewn ysbytai megis Ysbyty Maelor Wrecsam. Cafwyd 32 o farwolaethau'n gysylltiedig â COVID mewn chwe wythnos—nawr, nid yw'n feirniadaeth o staff y rheng flaen sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Marwolaethau o ganlyniad i COVID-19 (30 Med 2020)

Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau o ganlyniad i COVID-19 o fewn ysbytai yn y gogledd? OQ55618

16. Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (29 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Dwi'n anghytuno gyda'r hyn ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, oherwydd y prif neges gen i i'r Llywodraeth ar y fframwaith datblygu cenedlaethol yw bod amgylchiadau nawr yn mynnu, yn fy marn i, fod y Llywodraeth yn cymryd cam yn ôl ac yn ailedrych ar y fframwaith yng ngoleuni, wrth gwrs, y pandemig. Oherwydd rŷm ni wedi cyrraedd y pwynt yma, ac mae wedi cymryd amser maith i gyrraedd y pwynt...

13. Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Amrywio Dros Dro Gyfraddau a Bandiau ar gyfer Trafodiadau Eiddo Preswyl) (Cymru) 2020 (29 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Gan mai dyma’r tro cyntaf i gyfraddau’r dreth trafodiadau tir gael eu newid yng nghanol y flwyddyn, ac o gofio’r goblygiadau i gyllideb a chynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru, mi roedd y pwyllgor yn awyddus i glywed tystiolaeth yn uniongyrchol gan y Gweinidog, ac mi wnaethom ni hynny ar 14 Medi. Ac roeddem ni'n ddiolchgar i’r Gweinidog am fod yn...

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Amaethyddiaeth (29 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Dwi yn meddwl bod y Bil yma'n amlygu popeth sy'n anghywir ynglŷn â'r broses o gydsynio deddfwriaethol a'r setliad cyfansoddiadol, fel y mae ar hyn o bryd. Rŷn ni'n ystyried yr LCM, fel rŷn ni wedi clywed, ar Fil sydd dal yn cael ei newid. Dŷn ni wedi cael pedwar LCM gan y Llywodraeth, gan gynnwys y trydydd dydd Gwener diwethaf a'r diweddaraf bore ddoe. Mae yna welliannau wedi cael eu...

13. Dadl Plaid Cymru: Ail Gartrefi (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Mae prynu i osod ar ben: buddsoddwch mewn cartref gwyliau yn lle hynny.

13. Dadl Plaid Cymru: Ail Gartrefi (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Dyna i chi bennawd i dorri calon cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru sy'n methu fforddio prynu eu tŷ eu hunain. Mae hwn yn argyfwng—mae'n argyfwng sy'n cael ei yrru gan anghyfartaledd economaidd, ac mae yna oblygiadau difrifol, wrth gwrs, yn sgil hynny i gynaliadwyedd cymunedau ar draws Cymru. 506 Pwrpas datganoli yw i ddod â grym ac i ddod â'r modd i weithredu yn nes at y cymunedau...

13. Dadl Plaid Cymru: Ail Gartrefi (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb, wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Bwriad Plaid Cymru wrth gyflwyno'r ddadl yma yw sicrhau bod yna ddealltwriaeth bod y sefyllfa bresennol yn un argyfyngus o safbwynt tai fforddiadwy ac, wrth gwrs, yn sefyllfa ac yn argyfwng sydd yn dwysáu, yn enwedig oherwydd yr amgylchiadau dŷn ni'n byw ynddyn nhw ar hyn o bryd. Ac roeddwn i'n falch...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.