Mike Hedges: Rwyf eisiau gwneud tri phwynt cyflym iawn ar fformiwla Barnett a symiau canlyniadol Barnett. Wrth gwrs, swm canlyniadol Barnett yw'r isafswm y mae'n rhaid inni ei gael; does dim rheswm pam na allwn ni gael mwy na fformiwla Barnett, a gwyddom fod Gogledd Iwerddon yn cael mwy na fformiwla Barnett yn eithaf rheolaidd. O ran symiau canlyniadol gwariant Lloegr yn unig mewn meysydd datganoledig,...
Mike Hedges: Rydym yn gwybod yn awr pa fathau o fusnesau y mae’r cynllun cymorth wedi methu eu cynnwys. Rydym wedi siarad llawer amdanynt y prynhawn yma. Nid yw grwpio gyffredinol yn gweithio fodd bynnag. Er enghraifft, mewn manwerthu, gydag archfarchnadoedd a manwerthwyr ar-lein yn cael yr hyn sy’n cyfateb i'r Nadolig bob wythnos a'r rhai sy’n siopau dillad a gemwaith yn bennaf, er enghraifft, ar...
Mike Hedges: Mae unig fasnachwyr yn cysylltu â mi—hyfforddwyr gyrru, ffotograffwyr, plymwyr—i ddweud bod eu gwaith newydd ddod i ben. Maent wedi gwneud ymholiadau ac maent wedi cael gwybod nad oes cefnogaeth iddynt o fewn y system bresennol. A yw hynny'n gywir, ac os nad yw'n gywir, a wnewch chi ofyn i bwy bynnag sy'n rhoi'r wybodaeth honno i ddweud wrthynt pa gymorth sydd ar gael iddynt, oherwydd...
Mike Hedges: Rwyf newydd gael fy nad-dawelu. Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi hefyd ategu fy niolch i'r bobl sy'n gweithio yn y rhan hanfodol o'n heconomi? Soniwn yn aml am ran sylfaen ein heconomi; rydym yn awr yn darganfod beth yw'r rhan hanfodol o'n heconomi. Gobeithio y byddwn yn defnyddio'r term hwnnw'n amlach o lawer. Mae etholwyr wedi dwyn llawer o faterion i fy sylw yr hoffwn eu codi gyda'r...
Mike Hedges: Credaf fod David Melding wedi codi pwynt pwysig iawn, gan fod llawer gormod o ddigwyddiadau cyfoes, a fydd yn cael sylw fel hanes yn y dyfodol, yn fyrhoedlog—maent yn cael eu cofnodi'n ddigidol, a byddant yn diflannu. Credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i bob un ohonom bryderu yn ei gylch. Ond hoffwn godi dau beth. Yn aml, mae dwy ran o hanes Cymru yn cael eu hanwybyddu. Yn gyntaf,...
Mike Hedges: A gaf fi gychwyn drwy ddweud bod fy chwaer yn fyddar iawn? Felly, rwy’n datgan buddiant. Ond os ydych yn fyddar, rydych yn llai tebygol o fod mewn gwaith cyflogedig; os ydych mewn gwaith cyflogedig, rydych yn debygol o fod ar gyflog isel, ac mae'n debygol na fydd gennych lawer o gymwysterau, os o gwbl. Yr un peth a fyddai’n gwella hyn yw gwella sefyllfa Iaith Arwyddion Prydain, gan ei...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Diolch. Credaf fod yr hyn y soniwch amdano’n bwysig iawn, gan fod pobl sydd fel arfer yn iach ymhlith y gwaethaf. Rwy'n meddwl am ein cyd-Aelod Steffan Lewis, a oedd yn unigolyn heini ac iach iawn. Ni chafodd ddiagnosis tan ei fod yn ddifrifol wael, yng ngham 4. Mae cael diagnosis cynnar mor bwysig.
Mike Hedges: Mae’r wythnos hon yn nodi can mlynedd ers marwolaeth Daniel James. Bardd a chyfansoddwr emynau oedd Daniel James, ond mae'n llawer mwy adnabyddus wrth ei enw barddol, Gwyrosydd. Er ei fod yn gyfansoddwr emynau toreithiog, mae'n fwyaf adnabyddus am gyfansoddi geiriau Calon Lân, a genir fel arfer ar dôn a gyfansoddwyd gan John Hughes o Ynysdawe yn Abertawe. Cafodd ei eni a'i gladdu yn...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ymateb hwnnw? Mae'n hawdd cyfrif faint o arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau, ond yr hyn sy'n anos i'w nodi yw'r canlyniadau a ddaw yn sgil yr arian hwnnw. A yw'r Gweinidog, ar hyn o bryd, neu a yw'r Gweinidog yn bwriadu gosod targedau i'w cyflawni gydag arian ychwanegol a ddarparwyd i'r gwahanol Weinidogion fel y gallwn weld ein bod yn cael gwerth...
Mike Hedges: 8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu proses flaenoriaethu cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ55192
Mike Hedges: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ateb. Rwy'n credu mai un o'r pethau nad ydym ni ei eisiau yw bod ein hadnoddau naturiol yn cael eu troi'n gyfoeth mewn lle arall yn hytrach na Chymru. Mae trosglwyddo ynni wedi newid o orsaf bŵer i ddefnyddiwr terfynol, gyda llawer o gynhyrchu lleol yn mynd i'r grid erbyn hyn. Rwy'n cofio'r diagram a oedd yn dangos gorsaf bŵer mewn un lle, llinellau'n mynd...
Mike Hedges: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i brosiectau cynhyrchu ynni lleol a chymunedol o amgylch Cymru? OAQ55191
Mike Hedges: Credaf mai'r unig ffordd y gallwch ymdrin â'r prinder tai yw adeiladu tai cyngor yn y niferoedd a adeiladwyd rhwng 1945 a 1979, a digwyddodd hynny ar draws Llywodraethau Ceidwadol a Llafur yn ystod y cyfnod hwnnw, a oedd wedi ymrwymo i adeiladu mwy a mwy o dai cyngor, a aeth i'r afael â'r broblem a achoswyd ar ôl yr ail ryfel byd lle'r oedd niferoedd enfawr o bobl angen tai, a thai...
Mike Hedges: Wrth gwrs, gallem ni fel unigolion wneud rhagor hefyd, a phlannu coed yn ein gerddi ein hunain. Rwyf am bwysleisio pwysigrwydd coed i leihau llygredd a llifogydd a gweithredu fel storfeydd carbon. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i amaeth-goedwigaeth a fyddai'n helpu i liniaru llifogydd, lleihau fflachlifoedd a lleihau llifddwr dros dir?
Mike Hedges: 3. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau i gynyddu nifer y coed a gaiff eu plannu ledled Cymru? OAQ55144
Mike Hedges: 9. Faint o anheddau cyngor y mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl fydd yn cael eu hadeiladu ym mlwyddyn ariannol 2020/21? OAQ55147
Mike Hedges: Mae i fyny i'r Llywodraeth yn San Steffan. Gallan nhw roi swm canlyniadol Barnett i ni, gallan nhw roi symiau o arian i ni amdano, neu gallan nhw roi dim byd i ni. Eu penderfyniad nhw yw hwnnw, a byddwn i'n gobeithio y byddech chi'n ymuno â phob un ohonom ni wrth ddweud y dylen nhw fod yn rhoi o leiaf rhywfaint ohono i ni.
Mike Hedges: Byddaf yn cefnogi'r gyllideb. Credaf fod angen mwy o arian ar lywodraeth leol, ond credaf fod angen mwy o arian ar y sector cyhoeddus i gyd yng Nghymru. Ond rwyf eisiau trafod y rheswm dros y cyllid allanol cyfanredol, yr hyn yr arferem ei alw'n setliad cyllideb Llywodraeth Cymru, ac yna trafod setliad eleni. Mae'r cyllid allanol cyfanredol yn gyfuniad o'r hyn yr arferai'r grant cynnal...
Mike Hedges: Gallaf i roi cyllideb amgen i chi, oherwydd byddwn i'n rhoi mwy o arian i addysg, mwy o arian i dai. Ni fyddwn i'n cefnogi Cymorth i Brynu—y cyfan y mae'n ei wneud yw chwyddo prisiau tai—ac ni fyddwn i'n gwario cymaint o arian ar bortffolio'r economi. Byddwn i'n ei wario ar addysg, a fyddai'n helpu'r economi. Felly, er fy mod yn cefnogi'r gyllideb ac y byddaf i'n pleidleisio o'i blaid,...