Caroline Jones: Diolch, Prif Weinidog. Er bod y diwydiant dur o bwysigrwydd cenedlaethol a strategol, ni allwn anwybyddu'r effaith y mae'n ei gael ar ein hamgylchedd. A minnau'n byw yng nghysgod gwaith Port Talbot, rwy'n gweld yn feunyddiol yr effaith y mae'r gwaith dur yn ei chael ar yr amgylchedd, wrth i blu enfawr o fwg oren pigog gael eu rhyddhau i'r aer yr ydym ni'n ei anadlu a haenau trwchus o lwch yn...
Caroline Jones: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn wir, mae gan Lywodraeth y DU lawer mwy i'w wneud ar gyfer y sector hwn. Ceir strategaeth i ddefnyddio 3 miliwn tunnell o ddur yn y pum mlynedd nesaf ar brosiectau seilwaith fel HS2, Hinkley C ac uwchraddio traffyrdd y DU, ond nid yw hyn yn mynd yn ddigon pell, oherwydd dylai pob un prosiect seilwaith fod yn defnyddio dur y DU, a dylai pob prosiect...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rhoddodd fy holl ranbarth a'i gymunedau ochenaid o ryddhad pan dorrodd y newyddion am y fargen yn cael ei tharo rhwng Tata a ThyssenKrupp. Daeth â blynyddoedd o ansicrwydd i weithwyr ym Mhort Talbot a Glannau Dyfrdwy i ben. Felly, bydd gwaith Port Talbot yn cael trwsio un o'i ffwrneisi chwyth, gan helpu i sicrhau swyddi'r miloedd o weithwyr tan 2026. Fodd...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am wneud y cynnig sydd ger ein bron heddiw. Y feirws papiloma dynol, neu'r enw haws i'w ynganu HPV, yw'r feirws a drosglwyddir yn rhywiol mwyaf cyffredin ar y blaned. Credir y bydd pedwar o bob pump o bobl yn cael un o'r 100 neu fwy o fathau o'r feirws ar ryw adeg yn eu bywydau. Yn y mwyafrif llethol o achosion, nid yw'r dynion a'r menywod sydd wedi'u...
Caroline Jones: Fel y dywedais ddoe, rwyf wedi cael fy siomi'n wirioneddol gan benderfyniad cibddall Llywodraeth Theresa May i wrthod y morlyn llanw. Mae siom mawr yn fy rhanbarth i hefyd ymysg y bobl sy'n sicr yn lleisio eu barn, a hynny'n briodol hefyd. Unwaith eto, mae Llywodraeth San Steffan wedi dangos eu dirmyg llwyr tuag at fy rhanbarth, ar ôl torri'r addewid i ddarparu trydaneiddio i Abertawe ac yn...
Caroline Jones: Diolch eto am eich ateb, Weinidog. Mae Paralympiaid y dyfodol yn dibynnu ar eu gofalwyr—rhai cyflogedig a di-dâl—i'w cefnogi wrth iddynt hwy ganolbwyntio ar ennill y medalau. Ond pwy sy'n cefnogi'r gofalwyr? Weinidog, yn anffodus, gwyddom nad yw dwy ran o dair o ofalwyr di-dâl wedi cael cynnig neu wedi gwneud cais am asesiad o anghenion, ac mae tri chwarter y gofalwyr hynny yn dweud...
Caroline Jones: Yn sicr. Diolch, Weinidog. Llwyddasom i sicrhau canlyniad boddhaol iawn yn achos Paul. Ond beth am y rheini nad oes ganddynt eu Haelod Cynulliad i ymladd drostynt? Weinidog, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod pob unigolyn anabl yng Nghymru yn gallu cyflawni eu huchelgeisiau, eu breuddwydion, heb gael eu rhwystro gan eu hanabledd?
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, rydym eisoes wedi trafod achos fy etholwr, Paul Davies, y Paralympiad a oedd yn wynebu'r posibilrwydd o fethu Tokyo 2020 oherwydd diffyg gofal cymdeithasol. Weinidog, gyda'ch cymorth chi, rwy'n falch o ddweud bellach fod gan Paul Davies y gefnogaeth sydd ei hangen arno er mwyn hyfforddi ar gyfer Gemau Paralympaidd Tokyo. Felly, Weinidog, a wnewch chi...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fy mwrdd iechyd lleol, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ddiffyg o dros £3 miliwn y mis. Er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg hwn, mae'r bwrdd iechyd yn cynnig lleihau nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael. Ysgrifennydd y Cabinet, o gofio bod cyfraddau defnydd gwelyau yn fy rhanbarth bron yn 90 y cant, a ydych o'r farn fod y cynnig i leihau...
Caroline Jones: Diolch am eich ateb. Ysgrifennydd y Cabinet, yng Nghastell-nedd Port Talbot y llynedd, disgynnodd canran y disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ac sy'n cyrraedd lefel 2 neu uwch yn eithaf sylweddol. Mae'r nifer ar ei isaf ers 2011. Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried hyn, ac o gofio sylwadau diweddar ynghylch effeithiolrwydd y grant amddifadedd disgyblion, a ydych o'r farn...
Caroline Jones: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella lefelau cyrhaeddiad ymysg disgyblion mwyaf difreintiedig Gorllewin De Cymru? OAQ52407
Caroline Jones: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran lleihau'r diffygion yng nghyllideb byrddau iechyd lleol? OAQ52409
Caroline Jones: Fel y mwyafrif o bleidleiswyr y DU, pleidleisiais i adael yr UE, ac nid yw fy marn wedi newid. Cafodd ein GIG ei greu ymhell cyn yr UE a bydd yma ymhell ar ôl inni adael. A oes unrhyw risgiau? Oes, ond nid oes unrhyw un mewn gwirionedd yn disgwyl na fydd y risgiau hyn yn cael sylw mewn bargen yn y dyfodol. Rydym yn gadael yr UE, nid Ewrop. Bydd ein cydweithrediad parhaus â gwledydd Ewrop yn...
Caroline Jones: Diolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwyf i, fel pob un ohonom ni yn y Siambr hon, wedi fy siomi'n fawr iawn, iawn gan gyhoeddiad Llywodraeth y DU ddoe. Unwaith eto, mae Llywodraeth y DU yn dangos dirmyg llwyr tuag at fy rhanbarth i gan fynd yn ôl hefyd ar yr addewid i ddarparu trydaneiddio i Abertawe a bellach rydym wedi difetha cyfle Abertawe i arwain y byd ym maes ynni...
Caroline Jones: Ie, ond mae'n rhaid i ni unioni'r fantol ac ystyried y cydbwysedd a chael sefyllfa o chwarae teg. Yn anffodus, yn ôl ysgol fusnes Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae'n rhy hwyr i achub ein manwerthwyr traddodiadol. Yn ôl Chris Parry, sy'n uwch ddarlithydd cyfrifeg a chyllid ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd, 2008 oedd yr adeg i ostwng ardrethi a rhenti, nid 2018. Dywedodd mai'r her i ni...
Caroline Jones: Rwy'n gwerthfawrogi'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Brif Weinidog, ond, dros y penwythnos, amlinellodd arbenigwyr manwerthu faint y broblem sy'n wynebu siopau adrannau Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad gan House of Fraser a'r newyddion y byddai siop Herbert Lewis yng Nghas-gwent yn cau. Mae Howells wedi bod ar stryd fawr Caerdydd ers 1879 ac yn fuan bydd yn mynd yr un ffordd â David Morgan, a...
Caroline Jones: Diolch, Llywydd. Brif Weinidog, mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn ofnadwy i stryd fawr Cymru, gyda nifer o fanwerthwyr mawr yn cyhoeddi y bydd eu siopau yn cau. Mae Mothercare yn cau 50 o siopau ledled y DU, gan gynnwys ei gangen yng Nghasnewydd. Mae New Look yn cau 60 o siopau, gan gynnwys ei siopau yng Nghaerdydd, Trefynwy, y Rhyl a Phont-y-pŵl. Cyhoeddodd Carphone Warehouse ei fod yn cau...
Caroline Jones: Angela, rwy'n derbyn eich pwynt, ond am y rhesymau y tynnais sylw ar y cychwyn ni allaf dderbyn eich—roedd yn rhaid i fi gynnwys fy ngwelliant. Felly, mae'n ddrwg gennyf. Diolch. Mae'r prinder nid yn unig yn cyfrannu at amseroedd aros hirach i gleifion, mae hefyd yn rhoi staff presennol o dan straen anhygoel, ac mae un o bob tri meddyg teulu yng Nghymru'n teimlo eu bod dan gymaint o...
Caroline Jones: Gwnaf.
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn gynnig yn ffurfiol y ddau welliant a gyflwynwyd yn fy enw, a hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Fel y gallwch weld o fy ngwelliannau, cytunaf â 99 y cant o gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Ni allaf gefnogi rhoi triniaeth flaenoriaethol i staff y GIG, ac er fy mod yn cydymdeimlo â'r angen i gael staff yn ôl ar y rheng...