Canlyniadau 461–480 o 800 ar gyfer speaker:Mohammad Asghar

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diwygio llywodraeth leol (25 Ebr 2018)

Mohammad Asghar: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle hwn i siarad am y gyfres ddiweddaraf o gynigion gan Lywodraeth Cymru i ddiwygio Llywodraeth Leol. Y ddogfen hon yw'r drydedd mewn cyfres o gynigion yn y tair blynedd diwethaf, a phwy a ŵyr, ar ôl ad-drefnu'r Cabinet sydd i ddod ar ddiwedd y flwyddyn hon, efallai nad hon fydd yr olaf. Mae angen diwygio llywodraeth leol yng Nghymru. Argymhellodd comisiwn Williams a...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Canser (25 Ebr 2018)

Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mis Ebrill yw Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn. Yn ôl adroddiad gan Bowel Cancer UK, mae cleifion mewn pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru yn aros yn rhy hir am brofion i wneud diagnosis o ganser y coluddyn, ac nid yw dros hanner y bobl sy'n gymwys am brofion sgrinio wedi'u cael. O gofio bod cyfraddau goroesi canser y coluddyn yng Nghymru ymhlith y gwaethaf yn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Dysgwyr Dan Anfantais yn Islwyn (25 Ebr 2018)

Mohammad Asghar: Bydd rhieni plant o dan anfantais oherwydd tlodi yn Islwyn wedi eu siomi wrth glywed am benderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar y grant gwisg ysgol i deuluoedd tlawd. Yr wythnos diwethaf, methodd y Prif Weinidog roi sicrwydd ynglŷn â chyllid a chymhwystra eich cynllun newydd arfaethedig. Felly, Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch gadarnhau na fydd unrhyw ostyngiad yn y cyllid a...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Dysgu Oedolion yn y Gymuned (25 Ebr 2018)

Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, Weinidog. Mae dysgu cymunedol yn cael effaith sylweddol wrth gynorthwyo pobl i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy yn y dyfodol. Fodd bynnag, dengys ffigurau Llywodraeth Cymru fod nifer y dysgwyr cymunedol yng Nghymru wedi gostwng i lai na hanner y nifer yn y pum mlynedd diwethaf. Mae Ymchwil Arad wedi disgrifio'r sector...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Dysgu Oedolion yn y Gymuned (25 Ebr 2018)

Mohammad Asghar: 2. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi dysgu oedolion yn y gymuned? OAQ52029

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (24 Ebr 2018)

Mohammad Asghar: Arweinydd y Tŷ, ddoe, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ddatganiad ysgrifenedig ar gymorth ar gyfer y lluoedd arfog yng Nghymru. Mae'r datganiad yn gorffen trwy ddweud bod Ysgrifennydd y Cabinet yn cydnabod yr angen i barhau i fuddsoddi yn y cymorth a roddir i gyn-filwyr ein lluoedd arfog a gwella'r cymorth hwnnw. Fodd bynnag, nid yw'n credu y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Adeiladwyr Tai (24 Ebr 2018)

Mohammad Asghar: Prif Weinidog, yn ôl y Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi, gallai Llywodraeth Cymru gefnogi adeiladwyr tai bach a chanolig eu maint trwy orfodi awdurdodau lleol i gyflymu'r cynnydd o ran darparu eu cynlluniau datblygu a'u cyflenwadau tir pum mlynedd. Datgelodd y gyd-astudiaeth o dir sydd ar gael ar gyfer tai mai dim ond chwech awdurdod lleol oedd â chyflenwad pum mlynedd o dir tai a oedd yn...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Cynllun Cyflogadwyedd (20 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Yr hyn yr wy'n ei ddweud yw bod yna fwlch mewn gwahanol feysydd yn y sector preifat—preifat ddywedaf i. Felly, a oes unrhyw gymhelliad yn y Llywodraeth hon—? Dylid annog y sector preifat i sicrhau cydbwysedd rhwng y rhywiau yn y sector cyflog. Dyna yw fy mhwynt i. Ni ddylai pethau fod fel hynny, y bwlch mawr rhwng dynion a menywod: yr un gwaith y maen nhw'n ei wneud, ond nid yw'r cyflog...

7. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Y Cynllun Cyflogadwyedd (20 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n diolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw. Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd addysg a hyfforddiant wrth roi'r sgiliau sydd eu hangen gan gyflogwyr er mwyn cael swyddi da a chynaliadwy i'r dyfodol. Mae'r Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru wedi gosod cyfres o dargedau ymestynnol ac uchelgeisiol yn ymwneud â diweithdra, gweithgarwch...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Mewn gwirionedd, gofynnwyd fy nghwestiwn cyntaf gan Mr Nick Ramsay, ac fe wnaethoch chi ei ateb yn huawdl.  Fy ail gwestiwn yw hyn. Cerddodd un o'm hetholwyr i mewn i'm swyddfa a gofynnodd y cyngor lleol iddo wneud—. Gan nad yw ei fusnes yn llewyrchus iawn, ar ôl 30 mlynedd mae eisiau rhoi'r gorau iddi, felly aeth at y cyngor a dywedodd y cyngor lleol, 'os caewch chi'r siop, bydd yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amseroedd Aros Ysbytai (20 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Un ffordd o leihau amseroedd aros mewn ysbytai yw mynd i'r afael â'r broblem o apwyntiadau cleifion allanol yn cael eu methu. Y llynedd, roedd bron i 300,000 o apwyntiadau a fethwyd, ar gost o fwy na £36 miliwn i'r GIG. Mae'n ffigur braidd yn syfrdanol. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau nifer yr apwyntiadau ysbyty cleifion allanol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Amseroedd Aros Ysbytai (20 Maw 2018)

Mohammad Asghar: 5. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amseroedd aros ar gyfer apwyntiadau cleifion allanol mewn ysbytai yng Nghymru? OAQ51924

3. Cwestiynau Amserol: Islamoffobia (14 Maw 2018)

Mohammad Asghar: A minnau'n Fwslim, rwy'n gwybod beth rwyf am ei ddweud. Mae hyn—. Weinidog, mae'r Islamaffobia hwn yn rhoi pobl—yn arwain at drais, ymyleiddio, camfanteisio, diymadferthedd. Islam yw'r ail grefydd fwyaf yn y Deyrnas Unedig, ac mae 99.999 y cant o'r bobl yma yn ddinasyddion heddychlon iawn sy'n parchu'r gyfraith, ac yn cyfrannu at y gymuned a'r wlad ar yr un pryd. Y senario gwaethaf yw...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Trosglwyddo Cleifion y GIG (14 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, dengys ffigurau ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf fod cleifion ar wardiau acíwt, adsefydlu cymunedol a wardiau eraill wedi wynebu llai o oedi cyn symud ymlaen at y cam nesaf o ofal na'r oedi a wynebwyd ar wardiau iechyd meddwl. Yn wir, mae bron i 80 y cant o'r cleifion sydd wedi wynebu dros 26 wythnos o oedi yn gleifion ar wardiau iechyd meddwl. Beth y mae Llywodraeth...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (13 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth am y budd posibl a gynigir gan ddyfrffyrdd Cymru i dwristiaeth yng Nghymru. Mae'r Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd wedi cyhoeddi cynlluniau i ailagor rhan segur o gamlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, rhwng Five Locks yng Nghwmbrân, i Barrack Hill yng Nghasnewydd. Rhagwelir y bydd hyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Dull Ataliol o Ymdrin â Iechyd Gwael (13 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Diolch i chi, Madam Llywydd. Prif Weinidog, mae nifer y bobl sy'n byw gyda diabetes yng Nghymru wedi dyblu bron yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gwent sydd â'r nifer uchaf o achosion yng Nghymru, gan fod gwaith ymchwil yn dangos bod 8 y cant o boblogaeth ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn byw â diabetes. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod y strategaeth gordewdra genedlaethol yn cwmpasu...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 6 Maw 2018)

Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar gymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnynt gan ffordd liniaru arfaethedig yr M4. Mae cwmni gweithgynhyrchu yng Nghasnewydd wedi cysylltu â mi gan ddweud y byddai'n dioddef colled sylweddol i'w fusnes na ellir ei hadennill, yn ogystal â mynd i gostau adleoli, oherwydd gorfod cau ei safle...

2. Cwestiynau i Arweinydd y Tŷ: Lleihau Troseddau Casineb Homoffobig (28 Chw 2018)

Mohammad Asghar: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, arweinydd y tŷ. Mae ymchwil gan Stonewall Cymru wedi dangos bod nifer y bobl lesbiaidd, hoyw, ddeurywiol a thrawsrywiol yng Nghymru sydd wedi dioddef troseddau casineb wedi cynyddu 82 y cant yn y pum mlynedd diwethaf. Canfu hefyd na roddir gwybod am bedair o bob pump trosedd neu ddigwyddiad casineb, gyda phobl iau yn arbennig o gyndyn o fynd at yr heddlu....

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Tasglu'r Cymoedd (28 Chw 2018)

Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, ers 2012, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario £94 miliwn ar ardal fenter Glyn Ebwy er mwyn creu 175 yn unig o swyddi amser llawn. Sut y bydd tasglu'r Cymoedd yn cefnogi a gwella perfformiad ardal fenter Glyn Ebwy, os gwelwch yn dda?

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Gwasanaethau Anstatudol (28 Chw 2018)

Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi cymeradwyo cyllideb a fydd yn arwain at doriadau i wasanaethau a fydd yn effeithio'n sylweddol ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn yr ardal. Maent yn cynnwys pobl â phroblemau iechyd meddwl sy'n agored i niwed, pobl ag anableddau dysgu a phlant ag anghenion dysgu ychwanegol. Beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn ei wneud i fynd i'r...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.