Suzy Davies: Fe wnaethoch chi ddweud yn eich datganiad, os wyf yn deall hyn yn iawn, mai UNESCO yw'r corff arweiniol ar gyfer cyd-gysylltu'r flwyddyn ar ran y Cenhedloedd Unedig.
Suzy Davies: Ydy hynny'n iawn?
Suzy Davies: Wel, ar ôl cael cipolwg sydyn ar eu gwefan cyn dod yma, sylweddolais eu bod yn trefnu pum digwyddiad yng Nghymru. Dydw i ddim yn siŵr a yw hynny mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, ond tybed a gaf i erfyn arnoch chi ar y dechrau yma i gysylltu â phwy bynnag sy'n gyfrifol am eu gwefan i egluro o’r pum lle hyn y maen nhw wedi’u rhoi ar eu map o Gymru, nad yw pedwar ohonyn nhw yng...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Weinidog, am y datganiad. Allaf i jest gofyn i ddechrau—?
Suzy Davies: Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu ei bod yn eithaf dewr i'r cyn Brif Weinidog godi'r cwestiwn hwn. Ar adeg ei ymadawiad, roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y Llywodraeth wedi cynyddu unwaith eto ac, wrth gwrs, dyma—beth gallaf i ei alw—asesiad Chwarae Teg o'r gwaith yr oedd wedi ei wneud yn yr wyth mlynedd o fod mewn grym: dylai deddfwriaeth a fframweithiau cyfredol, fel Deddf...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn i chi am hynny, Lynne. Gwrandewais â diddordeb mawr a chan wisgo fy het Gweinidog yr wrthblaid. Yn sicr, hoffwn weld yr adroddiadau y cyfeirioch chi atynt, ond hefyd roeddwn yn meddwl bod llawer o rinwedd yn y syniad ei hun. Rwy'n derbyn yr hyn a ddywedoch am y system yn Lloegr; yr hyn a ddywedwn i yw bod y rhan honno ohono—mae'n waith, addysg neu hyfforddiant, ac...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Rydych newydd ddweud nad oes tystiolaeth fod angen inni osod dyletswydd, ac fe dderbyniaf hynny ar ei olwg. A oes gennych dystiolaeth—? Beth yw'r dystiolaeth y bydd pob cyngor yn ddiwahân yn mabwysiadu pa fersiwn bynnag o'r cerdyn adnabod y byddwch yn ei gyflwyno?
Suzy Davies: Rwy'n siŵr y bydd y ddadl hon yn un rhadlon, lle bydd pob un ohonom yn edrych ar wahanol ffyrdd o gefnogi aelodau o'r boblogaeth y mae gan bawb ohonom ddiddordeb arbennig ynddynt. Rydym yn aml yn canmol nyrsys ac athrawon a gweithwyr gofal, a gweithwyr dur hyd yn oed, ond rwy'n credu bod ein gofalwyr di-dâl, yn enwedig ein gofalwyr ifanc, yn haeddu sylw arbennig gennym fel Aelodau Cynulliad.
Suzy Davies: Felly, fe wnaf i groesawu gwelliant Dai Lloyd. Rŷm ni'n mynd i gefnogi hwnnw, ac rydym yn edrych ymlaen at yr adroddiad ymlaen llaw.
Suzy Davies: Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n siomedig iawn ynglŷn â gwelliant y Llywodraeth. Gwn nad yw'n edrych fel fawr o newid ar yr olwg gyntaf, ond yr hyn a welaf fi yw enghraifft arall o rywbeth y mae'r Llywodraeth hon yn ei wneud dro ar ôl tro, sef defnyddio ei phwerau i 'ddisgwyl' yn hytrach na 'chyflawni'. Fe edrychais yn gyflym drwy Gofnod y Trafodion a gweld bod Gweinidogion wedi...
Suzy Davies: Yn sicr, ond nid wyf yn credu y gallwch neidio i'r casgliad hwnnw, Mike—os cymerwch yr ymyriad—oherwydd weithiau nid yw'r rhieni hynny gartref a'r hyn a welwch yw 85 o bacedi creision ar lawr.
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch. Rwy'n derbyn y pwynt a wnewch am blant sy'n byw mewn tlodi, ond mae plant o deuluoedd eithaf cefnog yn cael llond llaw o arian a'u hel i'r siop sglodion amser cinio. Felly nid wyf yn meddwl y gallwch ei roi mewn un categori o blant yn unig.
Suzy Davies: Cefais olwg ar ganllawiau 2013 i baratoi ar gyfer y ddadl hon, ac roedd yr hyn a ddarllenais yn fy atgoffa, mewn gwirionedd, o lawer iawn o giniawau ysgol hen ffasiwn, sef cig a llysiau, a chwstard yn bwdin. Yn amlwg, nid oedd dim yn yr hen ddyddiau, os gallwch ei roi felly, yn ymwneud â llysieuaeth neu feganiaeth—nid oeddent wedi'u dyfeisio bryd hynny. Mae'n debyg bod llawer mwy o halen...
Suzy Davies: Wel, Ddirprwy Weinidog, fe ddywedwch mai mater i'r llysoedd yw dehongli'r ddeddfwriaeth hon, ond mae hefyd yn ddyletswydd ar y ddeddfwrfa hon i wneud ei bwriad deddfwriaethol yn glir. Ac un o'r rhesymau pam nad oedd ein plaid yn arbennig o hoff o'r Bil hwn, fel yr oedd ar y pryd, yw nad oedd hi erioed yn glir i ni sut y gellid ei orfodi a hyd yn oed yn awr, mae'r dyletswyddau y buoch yn...
Suzy Davies: A gaf fi ddweud diolch am ein sicrhau nad ydym yn ôl yn yr un sefyllfa ag yr oeddem ynddi yn 2016? Rwy'n credu bod y buddsoddiad yn y ffwrnais chwyth a diddordeb y cwmni mewn cynhyrchu mwy o'i ynni ei hun yn arwydd da o hynny. Un neu ddau o gwestiynau'n unig oedd gennyf, oherwydd mae gan fy nghyd-Aelod Russell gwestiynau hefyd. Hoffwn ailadrodd rhai o'r cwestiynau a ofynnais pan oedd hi'n...
Suzy Davies: Ddechrau mis Chwefror, Weinidog, gofynnais a fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried rhoi arian i helpu cynghorau i uwchraddio eu trafnidiaeth gyhoeddus i'w gwneud yn fwy gwyrdd ac yn llai llygrol. Ar y pryd, dywedasoch wrthyf fod y syniad yn rhywbeth y byddech yn fwy na pharod i'w drafod gyda'r Gweinidog trafnidiaeth Ken Skates. Mae hynny dri mis yn ôl bellach, felly tybed a allech roi'r...
Suzy Davies: Mae'n rhaid sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i gael swyddi sy'n talu'n dda neu gyfleoedd hyfforddi, ac mae hynny'n sicr yn wir am bobl sy'n anabl, ac rwy'n credu bod angen rhoi blaenoriaeth i hynny pan fyddwn yn chwilio am Gymru sy'n fwy cyfartal. Byddai o ddiddordeb imi gael gwybod barn y Dirprwy Weinidog am ymgyrch Hyderus o ran Anabledd Llywodraeth y DU, sy'n helpu cyflogwyr i ddeall y...
Suzy Davies: Prif Weinidog, cadeiriais fforwm polisi yn ddiweddar. Roedd Tidal Lagoon Power yno ac yn siarad am y gwaith y maen nhw'n ei wneud i annog busnesau i brynu ynni ganddyn nhw er mwyn rhoi dyfodol i'r prosiect morlynnoedd. Mae gwasanaeth caffael cenedlaethol Llywodraeth Cymru yn dweud ei fod yn cydweithio â sefydliadau cyhoeddus i ddefnyddio grym prynu cyfunol i sicrhau bargen dda i Gymru, boed...
Suzy Davies: A gaf fi ddechrau drwy ddiolch yn ddidwyll i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am dderbyn y gwahoddiad gan y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i fynd ar drywydd ymchwiliadau pellach i berthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood? Mae'n adroddiad ardderchog. Nid wyf hyd yn oed yn gwybod lle rwyf am ddechrau arno, ond rwy'n meddwl y dechreuaf gyda'r pwynt yr oeddech chi'n sôn amdano, Bethan,...