Canlyniadau 461–480 o 2000 ar gyfer speaker:Lee Waters

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Diweddariad ar Dasglu'r Cymoedd ( 8 Rha 2020)

Lee Waters: Diolch. Fy menter gyntaf ar ddod yn gadeirydd tasglu'r Cymoedd ddwy flynedd yn ôl oedd edrych ar draws y Cymoedd am yr arferion da presennol i'w rhannu. Roedd amheuaeth ddealladwy pan sefydlwyd y tasglu am y tro cyntaf yn 2016, bod pobl wedi gweld mentrau i drawsnewid y Cymoedd yn mynd a dod. Nid oedd unrhyw awydd am ragor o fentrau llawn bwriadau da gan bobl o'r tu allan, a gwnaed...

7. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Datgarboneiddio trafnidiaeth ( 2 Rha 2020)

Lee Waters: Diolch yn fawr iawn, ac a gaf fi ddiolch i'r Aelodau a'r pwyllgor am y ddadl a'r adroddiad? Mae pandemig coronafeirws yn ein hatgoffa'n rymus ein bod yn dal i fod yn ddarostyngedig i natur, ac mae hefyd yn dangos bod gan y ffordd rydym yn trin y byd naturiol allu i effeithio ar bob un ohonom, mewn ffordd ddwys a phersonol iawn hefyd. Gellid dadlau bod newid hinsawdd yn fwy o fygythiad na'r...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol — Ymateb i Adolygiad Brown ( 1 Rha 2020)

Lee Waters: Diolch yn fawr am y sylwadau yna. Croesawaf naws a chynnwys y cyfraniad, ac rwyf innau hefyd yn cefnogi'r mentrau y mae M-Sparc yn eu cynnal yn Ynys Môn. Rwy'n credu eu bod yn arwain y ffordd o ran arloesedd, o brosiect o'u heiddo yr wyf yn ymwybodol ohono'n ddiweddar mewn hydroponeg wrth gynhyrchu bwyd, ond hefyd, rwy'n credu, rhywbeth arbennig o gyffrous yw eu defnydd o LoRaWAN, sef pyrth...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol — Ymateb i Adolygiad Brown ( 1 Rha 2020)

Lee Waters: Diolch. Roedd llawer yn y fan yna, a dim llawer o amser i ymateb, felly ceisiaf fod yn gryno. Croesawaf y sylwadau cadarnhaol a wnaeth David Rowlands am y dull yr ydym yn ei ddilyn, ac yn enwedig am y ganolfan arloesi seiber, sydd, mi gredaf, fel y mae'n cydnabod, â photensial sylweddol. Soniais, o ran y clystyrau diwydiannol digidol, ein bod yn ymgymryd â'r argymhelliad hwnnw yn adolygiad...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol — Ymateb i Adolygiad Brown ( 1 Rha 2020)

Lee Waters: Diolch yn fawr iawn i Jenny Rathbone, ac mae ei sylw yn un da iawn. Yn amlwg, rydym yn gweld heddiw realiti a chanlyniad tarfu digidol—rydym wedi'i weld mewn llawer o feysydd eraill hefyd. Gallwn ei weld yn nhynged y cyfryngau lleol, sydd wedi bod yn astudiaeth achos berffaith mewn tarfu digidol. Does dim dwywaith bod cwestiwn enfawr ynghylch dyfodol canol trefi a chanolfannau siopa wrth i...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol — Ymateb i Adolygiad Brown ( 1 Rha 2020)

Lee Waters: A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am naws gadarnhaol ei chyfraniad ac am y cwestiynau perthnasol iawn y mae hi wedi'u gofyn? Fe geisiaf ymdrin â'r rheini yn eu tro. Felly, o ran lledaenu arfer gorau a deall y rhwystrau rhag newid, y ffordd yr ydym ni wedi sefydlu'r canolfannau digidol—. Felly, arweiniais banel arbenigol ddwy flynedd yn ôl, cyn imi ymuno â'r Llywodraeth, yn edrych ar...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol — Ymateb i Adolygiad Brown ( 1 Rha 2020)

Lee Waters: Wel, diolch am y sylwadau yna, Russell George. Gallaf deimlo nad yw ei lefelau ynni yr un fath heddiw oherwydd ei broblemau TG, a chredaf y rheswm yn ôl pob tebyg yw absenoldeb Winston Churchill yn hongian y tu ôl iddo, sydd wedi bod yn gydymaith rheolaidd i Russell yn ystod ei bresenoldeb digidol yn y Siambr. Felly, rwy'n credu ei fod yn colli ei ysbryd heddiw, efallai. Yn sicr, dydw i...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol — Ymateb i Adolygiad Brown ( 1 Rha 2020)

Lee Waters: Mae Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau wedi rhybuddio, ers dechrau pandemig COVID-19, fod yr hyn sy'n cyfateb i werth pum mlynedd o awtomeiddio a digideiddio wedi digwydd, gyda swyddi lletygarwch, manwerthu a gweithgynhyrchu yn rhai o'r rheini a gafodd eu taro galetaf. Maen nhw'n dadlau bod yr ymateb i'r feirws o bosibl yn rhoi gobaith ffug i lawer o weithwyr yn y diwydiannau hyn heb ddyfodol...

5. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Arloesi Digidol — Ymateb i Adolygiad Brown ( 1 Rha 2020)

Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Ychydig dros flwyddyn yn ôl, cyhoeddodd yr Athro Phil Brown ei adroddiad terfynol ar effaith arloesi digidol ar yr economi a dyfodol gwaith yng Nghymru. Siaradodd yr Athro Brown am Gymru'n wynebu ras yn erbyn amser, gyda chyflymder a graddfa arloesedd digidol â'r potensial i oddiweddyd ein gallu fel cenedl i ymateb. Mae'r pandemig byd-eang wedi dod â heriau adolygiad...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Wel, cytunaf â Jenny Rathbone fod elfen enfawr o gyfiawnder cymdeithasol yn rhan o'r system drafnidiaeth. Mae'r bobl dlotaf yn fwy tebygol o fyw mewn ardal lle maen nhw'n dioddef mwy o lygredd; mae'r bobl dlotaf yn fwy tebygol o fod mewn damwain a chael eu taro gan gar; a gorfodir y bobl dlotaf i neilltuo mwy o incwm eu haelwydydd tuag at gost rhedeg car, oherwydd mae gwasanaethau wedi'u...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Cytunaf yn llwyr ag ef fod lleoli pencadlys Trafnidiaeth Cymru ym Mhontypridd yn cynnig cyfle gwirioneddol i adfywio'r dref, a chredaf ei bod yn enghraifft dda iawn o'r egwyddor 'canol trefi yn gyntaf', y mae'r Llywodraeth wedi'i mabwysiadu ar gyfer lleoli swyddfeydd yn y sector cyhoeddus. Mae'n anffodus bod y swyddfeydd yn barod ar adeg pan nad yw pobl yn defnyddio...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Wel, diolch am y cwestiynau yna. Fel y dywedodd, pan fo'r ffeithiau'n newid, rydych chi'n newid eich meddwl. Pan roedd yn gyfrifol am ysgrifennu maniffesto UKIP, roedd yn erbyn y llwybr du, ac yna newidiodd y ffeithiau, newidiodd blaid a newidiodd ei feddwl. Felly, wyddoch chi, rwy'n credu ei fod yn rhoi'r egwyddor honno ar waith yn y fan yma. Yr hyn a newidiodd, i ateb y cwestiwn, yw bod y...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Diolch i Dawn am ei chwestiwn, ac mae'n rhaid imi dalu teyrnged iddi fel aelod o dasglu'r Cymoedd a chadeirydd yr is-grŵp trafnidiaeth sydd wedi bod yn arwain y gwaith ar y cynllun Fflecsi ar alw. Ac fel y dywedais, mae'r cynllun ar brawf gennym ni mewn pedwar neu bum ardal wahanol ar hyn o bryd ac mae'r canlyniadau'n galonogol iawn. Ac yn enwedig yng Nghasnewydd, credwn fod cyfle cynnar i...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Roedd sawl sylw yn y fan yna. O ran cysylltu pentrefi, cytunaf yn llwyr, ac fel y soniais wrth Alun Davies, mae'r system hyblyg o drafnidiaeth sy'n ymateb i'r galw, sydd hefyd yn cael ei threialu yn sir Benfro mewn lleoliad gwledig ar hyn o bryd, rwy'n credu, yn cynnig ffordd inni allu ategu'r gwasanaeth bysiau a drefnwyd gyda math mwy hydrin o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gallu ymateb, wedi'i...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Diolch. Credaf fod David Rowlands yn amlinellu'n berffaith y cyfyng-gyngor yn y fan yna. Dywed, ar y naill law bod angen inni gael abwyd a ffon, ond yna mae'n gwingo wrth sôn am y ffon. Mae angen i chi gael y ddau gyda'i gilydd. Y sylw am godi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd yw'r model presennol yr ydym yn dibynnu arno—y mae'r Trysorlys yn dibynnu arno, fel y dywedwch chi yn gywir, i godi...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Diolch. Cytunaf ag Alun Davies mai dyna'r profion, a chroesawaf ei her i sicrhau bod y Llywodraeth yn llwyddo yn y profion hynny, oherwydd oni allwn ni lwyddo â'r profion hynny, yna ni fydd trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis amgen realistig i'r car, ac, ar y sail honno, bydd ein gweledigaeth a'n strategaeth yn methu. Felly, cytunaf yn llwyr â'r dyhead yn hynny o beth. Wrth gwrs, gweithredu...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Diolch yn fawr am y cwestiynau yna ac am y cynnig o gefnogaeth eang, yn enwedig ynglŷn â'r egwyddor o ddatgarboneiddio trafnidiaeth. Cytunaf fod hon yn agenda drawsbleidiol a bydd yn cymryd sawl tymor o'r Senedd i'w gweithredu, a chroesawaf ei sylwadau. O ran y sail gyfreithiol, yna, wrth gwrs, mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn sail i'r dull a nodwyd gennym ni, ymhlith darnau eraill o...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Diolch. Roedd nifer sylweddol o gwestiynau yn y fan yna. Gwnaf fy ngorau i geisio eu hateb cyn gynted ag y gallaf. O ran amserlenni, gweledigaeth 20 mlynedd yw hon ond mae'n amlinellu blaenoriaethau pum mlynedd, ac yna caiff cyflawniad manwl hynny ei gyflawni drwy gynllun cyflawni cenedlaethol, wedi'i ategu gan gynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol, a gaiff eu datblygu gan y cyd-bwyllgorau...

4. Datganiad gan Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Llwybr Newydd — Strategaeth Drafnidiaeth Newydd i Gymru (17 Tach 2020)

Lee Waters: Mae'r strategaeth yr ydym ni yn ei lansio heddiw yn nodi dechrau sgwrs wirioneddol y mae angen i bob un ohonom ni ei chael ynglŷn â sut y mae angen i'n rhwydweithiau trafnidiaeth newid dros y genhedlaeth nesaf, a phan fydd Aelodau'n darllen y dogfennau ymgynghori, byddant yn gweld eu bod yn deillio o ymgysylltu dwfn â rhanddeiliaid allweddol yn ysbryd cyd-gynhyrchu sydd ei angen gan Ddeddf...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.