Bethan Sayed: Hoffwn ddiolch i David Melding am gyflwyno'r cwestiwn hwn oherwydd credaf y byddai wedi bod o fudd i ni gael datganiad llafar gan y Gweinidog ar hyn. Ond yn eich datganiad, fe ysgrifennoch na fyddai'r pum datblygwr y mae gennych gytundebau â hwy ond yn adeiladu lesddaliadau o dan amgylchiadau y bernir gennych chi eu bod yn gwbl angenrheidiol. Tybed a allech egluro'r hyn y byddech chi a'r...
Bethan Sayed: Diolch am yr esboniad clir hwnnw o'r hyn sydd yn bwysig i fy ardal i ac eraill yn yr ystafell yma. Rwy'n gofyn y cwestiwn oherwydd un o brif bwyntiau eich cynllun economaidd yw twristiaeth a diwylliant. Rŷm ni wedi gweld yn ardal Castell-nedd Port Talbot fod yr awdurdod lleol wedi cynnig bod toriadau'n cael eu gwneud i amgueddfa Cefn Coed, sydd yn rhywbeth y dylem ni ei adfer a'i ddatblygu...
Bethan Sayed: Diolch am eich ateb. Mae’r polisi ad-drefnu ysgolion a chreu uwchysgolion canolog, yn enwedig yng Nghastell-nedd Port Talbot a ledled Cymru, wedi peri pryder, yn enwedig gyda'r posibilrwydd o gau Ysgol Gyfun Cymer Afan yn fy rhanbarth. Mae'n arbennig o ddifrifol mewn perthynas â Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, ac mae'n mynd yn erbyn y Ddeddf honno, oherwydd os yw'r ysgol yn cau bydd yn...
Bethan Sayed: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu datblygu system addysg sy'n adlewyrchu amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ51835
Bethan Sayed: 11. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella twristiaeth yn ne-orllewin Cymru? OAQ51853
Bethan Sayed: Rwyf eisiau gwneud sylwadau, yn y bôn, am yr hyn yr ydych wedi ei ddweud yn barod o ran amgylchiadau eithriadol. Rydym yn cytuno â chyfeiriad y rheoliadau, fel y dywedwch, o ran asio Lloegr, Cymru a'r Alban, ond rwy'n credu, ar gyfer y cofnod, ein bod yn awyddus i'w gwneud yn glir mai dim ond dan amgylchiadau eithriadol y byddai hynny'n digwydd lle nad oes modd dod o hyd i ddarpariaeth yng...
Bethan Sayed: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i bobl sydd wedi colli pensiynau o ganlyniad i gau cwmnïau?
Bethan Sayed: Mae Plaid Cymru'n cefnogi'r cynnig hwn heddiw yn fras. Credwn y dylai plant sy'n byw gydag anableddau ac anghenion arbennig allu cael profiadau bywyd pwysig a gwerthfawr y dylai unrhyw blentyn arall yn ein cymdeithas eu cael. Ond rwy'n teimlo ei bod yn anffodus, ar un ystyr, y dylem fod yn ystyried yr anghenion i osod chwarae cynhwysol a mynediad at gyfleoedd chwarae i blant ag anableddau ar...
Bethan Sayed: Diolch ichi am y datganiad heddiw. Rwy'n falch y bydd cyllid ychwanegol ar gael dros y blynyddoedd nesaf ar gyfer atal ac ymateb i ddigartrefedd. Yn y gorffennol, bu pwyslais ar fesurau ataliol, ond efallai na sylwyd ar raddau cynyddol yr argyfwng, gyda rhai yn llithro drwy'r bylchau yn y gwasanaethau sydd i fod yn ataliol. Fodd bynnag, wrth ddarllen drwy'r cynllun gweithredu a amlinellwyd...
Bethan Sayed: Roeddwn i'n meddwl tybed a gawn ni ddadl neu ddatganiad sy'n rhoi diweddariad inni ar dasglu'r Cymoedd a'i drafodaethau. Rwy'n ymwybodol eu bod wedi ymgysylltu â Chyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot yr wythnos diwethaf, a byddai'n ddefnyddiol i ni fel Aelodau Cynulliad ddeall beth oedd y trafodaethau hynny. Rwy'n dweud hyn yng nghyd-destun y ffaith fy mod i wedi bod mewn...
Bethan Sayed: Wel, nid yw cam-drin rhywiol hanesyddol yn dod yn hanesyddol os ydym yn ymdrin ag ef yn y fan a'r lle. Rydym ni'n gwybod bod ymchwiliad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru o ganlyniad i honiadau Kris Wade, ond bu'n rhaid cael pwysau cyhoeddus a gwleidyddol sylweddol i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd sefydlu'r adroddiad penodol hwn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Fe'm syfrdanwyd na...
Bethan Sayed: Wel, wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n credu, os ydym am gael y ddadl aeddfed rydych eisiau i ni ei chael am ddyfodol y gwasanaeth iechyd, mae angen i ni gael sector cyngor iechyd cymuned sy'n gallu ymateb yn effeithiol i'r alwad honno yn ogystal â gwleidyddion. Credaf fod cynghorau iechyd cymuned yn hanfodol, ond mae gennyf rai amheuon o fy ardal fy hun o ran sut y maent wedi ymateb...
Bethan Sayed: Diolch. Mae tudalen 8 'Addysg yng Nghymru' yn trafod yr angen am ymrwymiad cryf i gydweithredu effeithiol ynghyd ag integreiddio gwasanaethau lle’n briodol. A allech chi ehangu ar beth yw’r cyfleoen i weithio ar y cyd yn well rhwng colegau ac ysgolion? Er enghraifft, roedd Llywodraeth Cymru yn arfer ariannu fforymau 14 i 19 cyfrwng Cymraeg, ac roedd hwn yn ceisio hybu cydweithrediad rhwng...
Bethan Sayed: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau i wella addysg bellach i gefnogi mwy o bobl i ennill cymwysterau yng Nghymru? OAQ51681
Bethan Sayed: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu hynt y cynlluniau i newid cynghorau iechyd cymuned yng Nghymru? OAQ51680
Bethan Sayed: Roeddwn i eisiau gofyn a allwn ni gael dadl ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc. Mae hyn yn ymwneud â chwestiwn a ofynnwyd gan Siân Gwenllian i'r Prif Weinidog ynghylch sut y bydd yr arian newydd yn cael ei wario. Mae'n dal yn aneglur i ni—yma o leiaf, ar y meinciau hyn—sut y caiff yr arian hwnnw ei ddosbarthu. Cefais gyfarfod â chymdeithas tai arall hefyd, ar fy nhaith o amgylch...
Bethan Sayed: Prif Weinidog, mae galwadau i weithredu wedi'u cynnwys yn eich contract economaidd, y bydd yn ofynnol i fusnesau eu dilyn os byddant eisiau cael cymorth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru. Ond nid oes yr un o'r galwadau hynny i weithredu yn ymwneud yn benodol â mynnu cyflog byw nac unrhyw fathau o gymhellion ynghylch cyflogau yn benodol. O gofio bod Cymru yn wlad cyflog isel, â chyflogau...
Bethan Sayed: Roeddwn yn meddwl tybed a allech wneud gwaith i edrych ar sut y mae menywod sydd wedi cael plant ac wedi dod yn ôl i weithio yn dioddef gwahaniaethu. Cyn i Siân gael y ddadl hon, dywedodd un o aelodau ein plaid ei bod wedi wynebu gwahaniaethu lle na allai gael dyrchafiad yn ei gweithle oherwydd y math hwnnw o—weithiau gan fenywod di-blant neu fenywod nad ydynt yn deall yr heriau hynny....
Bethan Sayed: Fe sonioch eich bod yn cyfarfod ag Ysgrifennydd y Cabinet, ond rwy'n meddwl tybed pa Weinidogion eraill rydych yn ymgysylltu â hwy. Rwy'n meddwl yn benodol ynglŷn â chanfod cynnar, ac arwyddion o ymddygiad yn rhywun a fyddai'n cam-drin anifail, er enghraifft. Rwyf wedi codi hyn o'r blaen gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr amgylchedd, oherwydd mae ymchwil yn dangos, os ydynt yn cam-drin...
Bethan Sayed: Cawsom ddatganiad ysgrifenedig yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf ar gaffael dur, ac rwy'n croesawu hynny. Ond roeddwn i'n meddwl tybed a allem ni gael datganiad ysgrifenedig neu lafar ar elfennau eraill y cytundeb â Phlaid Cymru a wnaethom o ran y diwydiant dur, yn benodol ar gyllid ar gyfer gwaith pŵer? Rwy'n awyddus i wybod beth yw'r sefyllfa ynglŷn â hyn. Yn ystod yr wythnos...