Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod ac rwy'n falch eich bod wedi derbyn y llythyr yn dilyn eich cwestiwn yn ystod y cwestiynau busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos diwethaf a gobeithio bod hwnnw wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi o ran ein sefyllfa ar hyn o bryd. Fel y dywedais wrth yr Aelod yn gynt, ni allaf wneud sylwadau ar fwriad y datblygwr i ddechrau gweithredu erbyn diwedd y flwyddyn, ond...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Hoffwn gyfeirio'n ôl at yr hyn a ddywedais wrth yr Aelod etholaethol o ran yr amserlen. Rwy'n deall pam fod hyn yn peri cymaint o bryder a rhwystredigaeth, i gynrychiolwyr ac i bobl yn y gymuned leol. Ond ar hyn o bryd, rydym wrthi'n ystyried y sylwadau a wnaed, ac nid ydym yn bwriadu pennu terfyn amser ar gyfer gwneud penderfyniad terfynol ar asesiad...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Gwn fod hyn yn rhywbeth y mae wedi'i godi dros nifer o flynyddoedd, ac yn rheolaidd gyda mi ers imi ddechrau yn y swydd. Rwy'n deall rhwystredigaeth yr Aelod a thrigolion Barri'n llawn ynghylch yr amser a gymerwyd i ddod i benderfyniad terfynol ynglŷn ag a oes angen asesiad o'r effaith amgylcheddol ar brosiect Biomass UK No. 2. Yn anffodus, mae'r amser...
Hannah Blythyn: Rwy'n awyddus i sicrhau bod ein gweithredoedd fel Llywodraeth yn cynnal ein rhwymedigaethau rhyngwladol mewn perthynas ag asesiadau effaith amgylcheddol. Mae swyddogion yn ystyried cydymffurfiaeth â chyfarwyddeb yr asesiadau effaith amgylcheddol yn ofalus, gan roi ystyriaeth i sylwadau'r datblygwr, Grŵp Gweithredu Llosgydd y Dociau ac eraill.
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Byddai'n amhriodol imi wneud sylwadau ar yr arolwg staff; mater i Cyfoeth Naturiol Cymru yw hwnnw. Rydym wedi cael prif weithredwr newydd yn ddiweddar, ac rwyf wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. O ran gweithio gyda'r gymuned leol a rhanddeiliaid, rwyf eisoes wedi cael cyfarfodydd gyda Cyfoeth Naturiol Cymru lle rydym wedi trafod...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol. O ran cynllun lliniaru llifogydd Llanfaes, mae'r gwaith cynllunio yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau yn ddiweddarach eleni, gyda'r gwaith adeiladu i gychwyn yn fuan wedi hynny. Mae gwelliannau i'r systemau draenio yn y pentref i gynyddu capasiti a chyfres o fannau cronni llifogydd bach uwchlaw'r pentref—. Cynigir amddiffynfeydd ar...
Hannah Blythyn: Yn ystod oes y Llywodraeth hon, rydym wedi buddsoddi dros £5.7 miliwn mewn gwaith llifogydd ac arfordirol ym Mro Morgannwg. Yn ychwanegol, mae dros £4.5 miliwn wedi'i ddyrannu yn rhaglen eleni i gwblhau gwaith yn Nhrebefered a Coldbrook ac i fwrw ymlaen â chynlluniau Llanfaes, Tregatwg a Chorntwn.
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn olaf? Mae cytundeb rhynglywodraethol gennym ar waith ar hyn, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn ei bwysleisio ymhellach, o ran amddiffyn y ddeddfwriaeth sydd gennym ar waith ac rydym yn falch o fod wedi arwain y ffordd arni a'i rhoi ar waith yng Nghymru, yn ein cyfarfod pedairochrog ddydd Llun.
Hannah Blythyn: Rwy'n falch eich bod wedi gorffen dadlau gyda'r cyn-Weinidog ac wedi troi eich cwestiwn ataf fi yn awr. Ni fydd yn syndod ichi fy nghlywed yn dweud fy mod yn anghytuno'n llwyr â'r haeriadau a wnaed gennych yn awr. Fodd bynnag, mae gennym gyfarfod pedairochrog ddydd Llun y bydd Ysgrifennydd y Cabinet a minnau yn ei fynychu, ac mae hyn yn rhywbeth a fydd yn uchel ar yr agenda yn y cyfarfod hwnnw.
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn yn ymwneud â chynnal ein hegwyddorion amgylcheddol cryf yng Nghymru. Mae hyn wedi bod yn destun nifer o drafodaethau dwfn a chyfarfodydd pedairochrog rhwng Gweinidogion, Ysgrifennydd y Cabinet a swyddogion. Rydym wedi dadlau dro ar ôl tro dros drefniadau sefydliadol newydd a fframweithiau a gytunwyd er mwyn sicrhau y gall y DU weithredu'n...
Hannah Blythyn: Mae'r Aelod yn codi pwynt hynod bwysig o ran sut yn union y mae hyn—ac rwyf wedi crybwyll hyn eisoes, wrth sôn sut yr awn i'r afael ag ansawdd aer—yn flaenoriaeth ar draws y Llywodraeth, a dyna pam rwy'n gweithio gydag Ysgrifennydd yr economi—mae'n ddrwg gennyf, rwy'n baglu dros fy ngeiriau—i ystyried sut y defnyddiwn yr ysgogiadau sydd ar gael i ni, nid yn unig er mwyn...
Hannah Blythyn: A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n hollol iawn fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoleiddio gwaith dur Port Talbot, yn unol â'r drwydded a roddwyd o dan y gyfundrefn drwyddedu amgylcheddol. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y drwydded honno yn gosod amodau ar y gweithredwr. Ond mewn gwirionedd, o ran ystyried, pan fyddwn yn diweddaru'r cynllun gweithredu, sut y gallwn sicrhau ein...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Do, bu Port Talbot yn y penawdau yr wythnos diwethaf, ar ôl i Sefydliad Iechyd y Byd gyhoeddi eu canfyddiadau. Ond ers cyhoeddi'r canfyddiadau hyn, mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi adolygu'r ffigurau llygredd aer ac wedi derbyn bod y data a ddefnyddiwyd ganddynt yn cynnwys camgymeriad, ac maent wedi ymddiheuro i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd...
Hannah Blythyn: Yn ddiweddar, cyhoeddais ystod o fesurau i wella ansawdd ein haer, gan gynnwys datblygu cynllun aer glân i Gymru, a fydd yn nodi camau i leihau llygredd aer yng Nghymru, ac ymgynghoriad ar fframwaith parthau aer glân i Gymru, a gwefan newydd ar gyfer ansawdd aer yng Nghymru.
Hannah Blythyn: Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau ac am ei sylwadau hefyd. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedasoch chi yn ddiddorol iawn, er ei bod yn dystiolaeth anecdotaidd—pan oedd pobl yn cael dewis, roeddent yn ffafrio'r dewis amgen ecogyfeillgar. Fe ymunaf â chi wrth longyfarch Harlech hefyd, a da iawn hefyd i'r siop sglodion yn Aberteifi. Efallai y byddaf yn difaru dweud y byddaf yn ymweld â...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad, ac rwy'n credu eich bod yn iawn i grybwyll—. Rydych chi'n gwneud rhai sylwadau diddorol iawn y byddwn yn eu hystyried ynghylch ffynhonnau dŵr a'n hymagwedd tuag atynt. A hefyd, mewn gwirionedd, yr hyn a ddywedais o'r blaen, byddwn yn parhau'n hyblyg—ymchwilio ac ystyried potensial y Cynllun Dychwelyd Breindal neu'r dreth plastig untro ar lefel y DU,...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad difyr a dadlennol iawn, ac am ddod ag atgofion lu yn ôl hefyd. Nid wyf yn siŵr ai'r rheswm yr ydych chi wedi ymrwymo i ni gyflwyno'r Cynllun Dychwelyd Breindal yw oherwydd y gallwch chi gael ail fusnes yn casglu'r poteli, neu annog ieuenctid y genedl i wneud hynny? Credaf eich bod yn hollol gywir wrth ddweud, 'Edrychwch ar y cynnydd rydym ni wedi ei wneud.'...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau. [Anhyglyw.] Wrth sôn am y cynigion ynglŷn â bod yn genedl ail-lenwi a'r defnydd o ffynhonnau dŵr. Credaf eich bod yn iawn i ddweud fod gan fater y ffynhonnau dŵr rai elfennau cymhleth megis cynnal a chadw a hefyd y gwaith o gynnal a chadw o safbwynt hylendid. Er y ceir ffynhonnau dŵr mewn nifer o leoedd heddiw, mae rhai ohonynt yn perthyn i gyfnod...
Hannah Blythyn: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniadau niferus. Mae'n gwneud nifer o bwyntiau pwysig iawn. Mewn gwirionedd fe ddechreuoch chi drwy sôn am y Ship Inn yn Aberporth. Llwyddais i aros yno pan euthum i lansiad cymuned ddi-blastig Cei Newydd hefyd. Ac yr oedd yn wych i fynd i Natural Weigh yr wythnos ddiwethaf i edrych ar yr hyn y maen nhw wedi ei ddysgu oddi wrth eraill mewn mannau eraill, a nawr mae...
Hannah Blythyn: Wn i ddim a fedraf i dderbyn cwestiynau ynglŷn ag ystad y Cynulliad ar hyn o bryd. Rwy'n croesawu—