Canlyniadau 461–480 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

David Melding: Diolch am eich ateb, Weinidog, a chredaf fod pob un ohonom yn rhannu'r uchelgais hwn, ond mae a wnelo hyn mewn gwirionedd â'r map i'n cael ni yno; oherwydd, os edrychwn ar y strategaeth ryngwladol ddrafft, mae'n denau iawn ar yr hyn a wnawn i adeiladu ar ein llwyddiant blaenorol i gyflawni ein potensial llawn o ran yr hyn y gallai trawsnewid diwydiannau creadigol teledu a ffilm, yn benodol,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

David Melding: Roeddwn yn meddwl y byddai hyn yn eich plesio, Lywydd. Rwy'n ei longyfarch ar ei lwyddiant gwych hyd yn hyn. Ei ddawn yw gwneud i bobl gofio bod Cymru'n enwog fel magwrfa ar gyfer llwyddiant eithriadol ar y sgrin fawr, a hoffwn ddymuno'n dda iddo gyda'i yrfa yn y dyfodol. Er ei fod yn enghraifft wych o'r hyn y gallwn ei gyflawni yn niwydiant ffilm a theledu Cymru, at ei gilydd, Weinidog,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Ion 2020)

David Melding: Diolch yn fawr. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol ein bod ynghanol y tymor gwobrau teledu a ffilm ledled y byd, ac rwy'n siŵr y byddwch yn awyddus i ymuno â mi i longyfarch Taron Egerton o Aberystwyth ar ei lwyddiant—

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Rheoli'r Gyllideb ( 8 Ion 2020)

David Melding: Weinidog, mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru wedi dweud bod datgysylltiad o hyd rhwng dyraniadau'r gyllideb a'n dyheadau priodol iawn i ddod yn Gymru garbon isel a charbon niwtral. A sylwaf fod y pwyllgor hefyd wedi dweud y dylai'r gyllideb ddrafft egluro a dangos yn glir sut y bydd dyraniadau cyllid yn cefnogi'r flaenoriaeth ddatgarboneiddio. Felly, a allwn ddisgwyl y bydd...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Lesddeiliadaeth ar Dai ( 7 Ion 2020)

David Melding: Cwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr y bydd yr ateb hwnnw yn galonogol iawn i lawer o ddeiliaid tai ledled Cymru, gan gynnwys yn fy rhanbarth i. Er enghraifft, ym mhentref Sant Edern yng Nghaerdydd, mae llawer o drigolion wedi bod mewn anghydfod gyda'r adeiladwyr tai Persimmon ac yn teimlo'n ddig iawn bod deiliadaeth lesddaliad yn cael ei gyflwyno ar safleoedd a fyddai wedi bod yn rhydd-ddaliad...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ( 7 Ion 2020)

David Melding: A gaf i ddweud cymaint yw'r gefnogaeth i'r teimladau hynny ar yr ochr hon i'r Cynulliad hefyd? Efallai y clywsoch chi Brif Weinidog Cymru yn cyflwyno tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn dweud y bydd Prif Weinidog y DU yn cymryd canfyddiadau adolygiad Dunlop o ddifrif, gymaint ag y gwnaiff y Llywodraeth a gomisiynodd yr adolygiad hwnnw. Ac rwy'n sylwi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cefnogi Busnesau yng Nghanol De Cymru ( 7 Ion 2020)

David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion ddoe bod Grŵp Bancio Lloyds yn disgwyl cefnogi cwmnïau yng Nghymru eleni trwy hyd at £1.1 biliwn mewn benthyciadau. Mae hyn yn rhan o'u haddewid i fuddsoddi £18 biliwn mewn busnesau yn y DU yn 2020, ac maen nhw'n edrych ar fusnesau newydd, microfusnesau sy'n ceisio cynyddu eu maint i fod yn fusnesau bach, a'r rhai...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ( 7 Ion 2020)

David Melding: 1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ar ffyrdd o gryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon? OAQ54884

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Lesddeiliadaeth ar Dai ( 7 Ion 2020)

David Melding: 5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lesddeiliadaeth ar dai? OAQ54883

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Ysgol (11 Rha 2019)

David Melding: Buaswn yn sicr yn cytuno bod llesiant da, iach yn amddiffyniad gwych yn erbyn canlyniadau iechyd meddwl gwael iawn, a all arwain yn y pen draw mewn gormod o achosion, yn anffodus, at hunan-niweidio sylweddol a hyd yn oed at hunanladdiad. Felly, rwy’n cymryd y pwynt hwnnw.  Ond mae Cymdeithas y Plant yn cydbwyso eu nodyn briffio, gan ein hatgoffa y bydd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Ysgol (11 Rha 2019)

David Melding: A gaf fi ddechrau trwy ganmol gwaith Cymdeithas y Plant? Rwy'n credu bod llawer ohonom wedi derbyn eu briff ar y sgoriau llesiant. Maent yn gostwng yn y DU; ni chaiff ei wneud ar sail gwledydd y DU. Canfu’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod y DU yn ddeugeinfed allan o 44 o’r gwledydd a gymerodd ran, a bod hwnnw’n berfformiad gwaeth na phan gafodd ei fesur...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llochesi ar gyfer Pobl Ddigartref (11 Rha 2019)

David Melding: Rwy'n cytuno ag egwyddor y polisi a rhan olaf eich datganiad—fod angen y llochesi brys dros dro hyn arnom o hyd. A gaf fi dynnu eich sylw at y bygythiad i loches nos y Wallich yng Nglan yr Afon? Fel y gwyddom, mae cysgu allan wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf—yn ôl mesurau'r arolwg, beth bynnag, ymddengys bod hynny'n wir. Ac mae angen inni sicrhau bod arferion gorau, fel y rheini...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Tlodi Tanwydd (11 Rha 2019)

David Melding: Weinidog, nodaf fod Llywodraeth yr Alban wedi newid y diffiniad o dlodi tanwydd, ac wedi gwneud hyn yn dilyn her gyfreithiol, ac fe'i diffinnir bellach fel cartref lle mae preswylwyr ar incwm isel ac mae angen iddynt wario cyfran uchel o'r incwm hwnnw ar danwydd. Y diffiniad cyfredol yw aelwydydd sy'n gwario 10 y cant o'u hincwm ar danwydd, a gallai hynny gynnwys cwpl cyfoethog iawn sy'n...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Mawndiroedd (11 Rha 2019)

David Melding: Diolch am eich ateb calonogol. A gaf fi ddweud, Weinidog, fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cynnal cynhadledd ryngwladol y mis diwethaf o dan yr enw 'Rheoli’r Tanwydd: Lleihau’r Risg', er mwyn edrych ar beryglon tanau gwyllt? Roedd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar arferion rheoli tir rhyngwladol a rhai gwersi gwerthfawr iawn. Mae prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru hefyd yn...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Mawndiroedd (11 Rha 2019)

David Melding: 3. Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i adfer mawndiroedd? OAQ54822

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Llochesi ar gyfer Pobl Ddigartref (11 Rha 2019)

David Melding: 5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i lochesi ar gyfer y digartref? OAQ54823

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cynllun Aer Glân (10 Rha 2019)

David Melding: Gweinidog, a gaf i ganmol gwaith Awyr Iach Cymru, sef y grŵp ymbarél sy'n ymgyrchu dros Ddeddf aer glân? Ac rwy'n credu os edrychwch chi ar eu llenyddiaeth nhw a'r deunydd ymgyrchu fe welwch chi'n glir pam mae angen Deddf arnom i wreiddio canllawiau ansawdd aer Sefydliad Iechyd y Byd, i sicrhau ein bod ni'n gorchymyn strategaeth ar ansawdd aer bob pum mlynedd, ac yn sicrhau hefyd fod yna...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Gwasanaethau Cynghori (10 Rha 2019)

David Melding: Gweinidog, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n gwerthfawrogi swyddogaeth y sector gwirfoddol yn enwedig wrth roi cyngor, oherwydd, fel y gwnaethoch chi ei ddweud, maen nhw yng nghanol eu cymunedau, mae pobl yn fwy parod i'w defnyddio yn aml iawn, ac mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n parhau i gefnogi sefydliadau sydd â'r swyddogaeth hon a bod y ddinas hefyd yn...

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 (10 Rha 2019)

David Melding: Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae'r archwilydd cyffredinol wedi dweud bod dioddefwyr a goroeswyr yn wynebu system dameidiog sy'n anghyson, yn gymhleth ac yn fyrdymor. Ac mae'n dweud bod y cynnydd o ran cyflawni agweddau allweddol ar y Ddeddf yn wael ac nad yw wedi cael yr effaith ddymunol. Ac mae'n galw am gydweithio effeithiol a gweithio ar y cyd mewn meysydd allweddol, a bod yn rhaid i ni...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Canser y Pancreas (10 Rha 2019)

David Melding: Prif Weinidog, mae Pancreatic Cancer UK wedi dweud ei fod yn siomedig o weld Llywodraeth Cymru yn gwrthod cydnabod y ffaith bod canser pancreatig yn argyfwng canser pan fo Llywodraethau eraill y DU wedi derbyn yr angen i weithredu'n gyflymach pan fo angen clinigol. Nawr, rwyf yn croesawu'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, gan ei fod yn ymddangos yn newid pwyslais sylweddol o ran mynediad...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.