Gareth Bennett: Diolch i Mick Antoniw a'r amryw o Aelodau eraill a oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nid wyf yn credu y bydd cymaint o ddiddordeb gan y cyfryngau yn y ddadl hon â'r un flaenorol, ond mae'n bwnc pwysig, yn enwedig i ddeiliaid tai sydd wedi dioddef yn sgil gwaith inswleiddio waliau ceudod a wnaed yn wael. Nawr, yn ei araith i agor y ddadl heddiw, araith a oedd wedi ei hymchwilio'n...
Gareth Bennett: Diolch am eich ateb. Rwy'n gobeithio y bydd yna ddull cydgysylltiedig o fynd i'r afael â'r mater pwysig hwn. Nawr, mae llawer iawn o bobl ifanc y dyddiau hyn yn mynd i'r brifysgol neu i'r coleg, fel rwy'n siŵr eich bod yn gwybod. Ond efallai nad dyma'r llwybr gorau i bawb, ac yn wir, efallai bod nifer sylweddol o bobl ifanc nad ydynt eisiau mynd i'r coleg ac efallai y buasai'n well...
Gareth Bennett: Rydych hefyd yn dod â'ch gwaith o'ch rôl flaenorol o ddarparu rhaglen tasglu'r Cymoedd gyda chi, ac rydym wedi clywed cryn dipyn am hynny heddiw. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol ein bod wedi bod yn sôn llawer am hyn oherwydd mae'n bosibl ei fod yn bwnc—dros y 18 mis diwethaf, mae'n debyg nad ydym wedi clywed digon am fecanwaith y modd y bydd yn gweithio. Felly, credaf fod angen...
Gareth Bennett: Felly, croeso. [Chwerthin.] Mae'r adran y byddwch yn ei rhedeg wedi'i had-drefnu braidd—[Torri ar draws.] Mae'n flin gennyf. Mae'r adran y byddwch yn ei rhedeg wedi'i hadrefni braidd, yn yr ystyr fod gennych y cyfrifoldebau llywodraeth leol roedd Mark Drakeford yn arfer bod yn gyfrifol amdanynt a'r portffolio cymunedau hefyd, sydd wedi dod o adran wahanol. Felly, mae'n bosibl y bydd yn...
Gareth Bennett: Diolch, Lywydd. Hoffwn groesawu Ysgrifennydd y Cabinet i'w rôl newydd.
Gareth Bennett: Diolch am eich ymateb, Weinidog. Mae Fforest Fawr yn ardal gerdded leol boblogaidd iawn ger Castell Coch. Mae llawer o bobl leol yn poeni nad oes gan Cyfoeth Naturiol Cymru unrhyw gynllun ar waith i ailblannu'r ardal wedi’r difa. Lansiwyd ymgyrch i alw am raglen ailblannu. A gaf fi ofyn ichi ymgynghori â Cyfoeth Naturiol Cymru i ganfod beth arall y gellid ei wneud ynghylch yr ailblannu?
Gareth Bennett: 2. Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Cyfoeth Naturiol Cymru am y rhaglen cwympo coed yn Fforest Fawr yn Nhongwynlais? OAQ51376
Gareth Bennett: Yn gyntaf, cytunaf â sylwadau David Melding am y cyn-Weinidog, Carl Sargeant. Wrth gwrs, roedd gwahaniaethau gwleidyddol ar y Pwyllgor pan drafodwyd y Bil, ac mae'n anochel y bydd gwahaniaethau gwleidyddol, ond roedd bob amser yn gyfeillgar ar lefel bersonol. Felly, hoffwn gytuno â'r hyn a ddywedodd David am Carl. Fel grŵp, nid oedd UKIP yn cefnogi diddymu'r hawl i brynu. Roeddem yn...
Gareth Bennett: Yn anffodus, gallem ni gael safle gwag mawr yng ngogledd Caerdydd yn y pen draw, i ychwanegu at safleoedd a fydd hefyd yn wag yn y pen draw yn y swyddfa dreth a Tesco House. Mae'n bosibl iawn y gallai hyn arwain at fwy o gynlluniau tai dadleuol i ogledd Caerdydd. Beth all eich Llywodraeth ei wneud i ddiogelu trigolion rhag y broblem o orddatblygu trefol?
Gareth Bennett: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o gynigion ar gyfer rhyddhad treth stamp fel y cyhoeddwyd yng nghyllideb Llywodraeth y DU?
Gareth Bennett: Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw ar bwnc pwysig cyfamod y lluoedd arfog. Rydym yn cytuno, yn UKIP, y dylid rhoi blaenoriaeth uchel i les pobl sy'n gwasanaethu yn y lluoedd arfog a chyn-filwyr. Rydym hefyd yn awyddus i weld gweithgarwch cadetiaid yn cael ei annog. Felly, yn gyffredinol rydym yn rhannu diddordeb grŵp y Ceidwadwyr yn y maes hwn, ac rydym yn cymeradwyo egni...
Gareth Bennett: Ceir materion o ran diogelwch beicwyr, fel y codwyd gan y ddau Aelod diwethaf, ac mae angen i ni gymryd camau i annog pobl i feicio'n ddiogel. Yn anffodus, pan ddaw beicwyr oddi ar y ffordd ac ar y palmant, gallant hefyd ddod yn beryglus i gerddwyr. Yn Peterborough, mae'r cyngor wrthi'n cyflwyno hysbysiadau GGMC, sef gorchmynion gwarchod mannau cyhoeddus, i atal beicwyr peryglus. Mae mil o...
Gareth Bennett: Diolch am yr ateb. O ystyried y lefelau uchel o ordewdra yng Nghymru, rwy'n credu bod teithio llesol yn offeryn pwysig iawn er mwyn cael canlyniadau iechyd y cyhoedd gwell. Nawr, credaf fod y cyfrifoldeb adrannol dros weithredu teithio llesol wedi symud o'r adran iechyd i adran yr economi. Tybed beth yw eich syniadau ynglŷn â'r rhesymau dros hynny, a sut y bydd y newid hwn yn...
Gareth Bennett: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am effaith Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 ar iechyd yng Nghymru? OAQ51277
Gareth Bennett: Hoffwn innau hefyd groesawu arweinydd newydd y tŷ i'w swydd newydd. Mae ei swydd, fel y gwyddom, o ganlyniad i ad-drefnu tra sylweddol. Yr hyn yr hoffem ni yn UKIP ofyn amdano, yw datganiad ar beth yw costau amcanol yr ad-drefnu hwn i'r pwrs cyhoeddus. Mae'n ad-drefnu eithaf mawr. O'r hyn a ddywedwyd, mae nifer y Gweinidogion wedi cynyddu o 12 i 14. O gofio y bydd cost o ran dewiniaid...
Gareth Bennett: Diolch am ran olaf yr ateb. Rwy'n cytuno bod trafnidiaeth integredig yn hollbwysig. Un agwedd yr oeddwn i eisiau sôn amdani oedd diffyg gwybodaeth ar ymyl y ffordd. Mae llawer o fodurwyr wedi nodi bod gwell gwybodaeth ar gael yn aml ar ffyrdd mawr yn Lloegr ar arwyddion ffyrdd digidol nag yma yng Nghymru, er enghraifft amcangyfrif o amser teithio i gyffyrdd penodol, a all rybuddio gyrwyr am...
Gareth Bennett: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru tagfeydd cynyddol ar draffyrdd a chefnffyrdd yng Nghanol De Cymru? OAQ51297
Gareth Bennett: Ydw. Felly, yn gyffredinol, rydym yn cytuno bod hon yn broblem enfawr. Y broblem arall nad oes neb wedi siarad amdani, ac nad oes gennyf amser i’w thrafod, yw nad oes unrhyw ffordd ystyrlon o ailhyfforddi pobl drwy’r system ar hyn o bryd, a dyna’r elfen hanfodol. Os ydych yn mynd i gael pobl i weithio, pam nad oes unrhyw bwyslais go iawn ar eu hailhyfforddi a’u cael i mewn i...
Gareth Bennett: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl heddiw. Mae system newydd y credyd cynhwysol yn peri pryder mawr ymhlith y rhai a fydd yn cael eu heffeithio ganddi. Rydym yn gweld hyn o ganlyniadau’r broses o’i gyflwyno hyd yn hyn. Felly, yn UKIP, rydym yn rhannu’r pryderon. Rydym yn cytuno â Phlaid Cymru i’r graddau hynny, ac rydym yn meddwl bod Plaid Cymru’n iawn i gyflwyno hyn fel...
Gareth Bennett: Ie, diolch. Mae hynny, wrth gwrs—. Credaf fod angen i chi feddwl am yr anfanteision posibl, ac fe’u hamlinellwyd gennych, felly credaf fod hwnnw’n ateb synhwyrol. Nawr, datblygiad arall yn Lloegr—[Torri ar draws.] Datblygiad arall yn Lloegr yw bod o leiaf un cyngor wedi llwyddo i sefydlu cwmni ynni dielw. Robin Hood Energy yn Nottingham yw’r cwmni hwnnw. Nawr, pe bai’r pwerau...