Rhys ab Owen: 5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu, yr heddlu, ac asiantaethau cyfiawnder troseddol ynglŷn â hiliaeth yn y system cyfiawnder? OQ56864
Rhys ab Owen: 3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion y gyfraith ynghylch canfyddiadau diweddar adroddiad yr Ombwdsmon Seneddol a'r Gwasanaeth Iechyd, 'Women's State Pension Age: Our Findings on the Department for Work and Pensions' Communication of Changes'? OQ56875
Rhys ab Owen: Fel rŷch chi wedi dweud droeon, Cwnsler Cyffredinol, nid yw sofraniaeth Cymru bellach yn nwylo dynion fel Hywel Dda, ond yn hytrach fan hyn gyda phobl Cymru. Wedi dweud hynny, mae ysbryd Hywel Dda ac ysbryd Iorwerth ap Madog ar gerdded yn ein Senedd ni heddiw. Croesawaf hynny a mawr obeithiaf y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau yn yr ysbryd hwnnw ac yn datblygu ac yn amddiffyn cyfraith Cymru...
Rhys ab Owen: Mae'n cymhlethu'r sefyllfa ymhellach fod cyfreithiau a wneir yn y Senedd yma, a chyfreithiau a wneir yn Senedd San Steffan, yn ymestyn i Gymru a Lloegr, er efallai bod y cyfreithiau ddim ond yn ymwneud â Lloegr. Maent yn rhan o'r un system gyfreithiol, er efallai eu bod nhw ddim ond yn gymwys i Gymru neu ddim ond yn gymwys i Loegr. Onid yr ateb amlwg i'r broblem gymhleth yma fyddai creu...
Rhys ab Owen: Ac os nad yw'r sefyllfa yn anodd, yn ddigon cymhleth, onid ydych chi fel Llywodraeth Cymru yn ychwanegu at y cymhlethdod ac yn mynd yn groes i'ch dyletswydd o dan Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 drwy gydsynio mor aml i Lywodraeth San Steffan basio deddfwriaeth o fewn meysydd datganoledig? Ni fydd cyfreithiau a basiwyd gan Lywodraeth San Steffan o fewn meysydd datganoledig yn ddwyieithog, ni...
Rhys ab Owen: Fodd bynnag, nid yw'r cyhoeddiad hwn yn egluro llawer o'r materion, gan gynnwys cyfreithiau sy'n berthnasol i Loegr yn unig ond eto yn ffurfio cyfraith Cymru a Lloegr. Mae'n anodd iawn nodi a yw'r cyfreithiau a basiwyd gan Senedd y DU yn berthnasol i Loegr, yn berthnasol i Gymru a Lloegr, neu i Gymru yn unig. Er enghraifft, nid yw Deddfau a basiwyd gan Senedd y DU sy'n berthnasol i Loegr yn...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd dros dro. Cwnsler Cyffredinol, rwy'n croesawu'r datganiad yma yn fawr iawn. Hefyd, rwy'n croesawu'r sôn am gyfreithiau Hywel sydd ar gychwyn eich datganiad. Mae'n bwysig ein bod ni'n chwalu'r myth fan hyn yn y Senedd nad oes yna hanes cyfoethog a threftadaeth gyfoethog gyfreithiol yma yng Nghymru. Yn ôl llinyn mesur yr oes, roedd gan gyfreithiau Hywel Dda...
Rhys ab Owen: Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael i wella trefniadau etholiadol i'w gwneud yn haws i bobl gymryd rhan mewn etholiadau llywodraeth leol?
Rhys ab Owen: Braf oedd gweld disgyblion Ysgol Mynydd Bychan o Gaerdydd yn y galeri, yn yr Oriel heddiw, a Heledd Fychan a fi yn derbyn nifer o gwestiynau heriol oddi wrthyn nhw, gan gynnwys pa blaid fyddem ni oni bai am Blaid Cymru. Gallaf i ddweud, yn amlwg, dim Tories oedd yr ateb. Ond, Trefnydd, licen i fod mor hy a gofyn am dri datganiad heddiw. Yn gyntaf, oherwydd ei bod hi'n Wythnos Senedd...
Rhys ab Owen: Trefnydd, a gaf i hefyd ofyn am ddatganiad ynghylch diogelwch adeiladau mewn adeiladau uchel iawn? A yw Llywodraeth Cymru yn cytuno â Phlaid Cymru na ddylai lesddeiliaid diniwed dalu am waith diffygiol gan ddatblygwyr? A, Trefnydd, a gawn ni ddatganiad ysgrifenedig hefyd o ran yr effaith y mae hyn yn ei chael ar lesddeiliaid? Rwyf i wedi cwrdd â llawer erbyn hyn, ac mae'r straen yn amlwg ar...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr, Weinidog. Roeddwn yn falch iawn o weld y datganiad yn gynharach. Gwn fod hwn yn fater rwyf fi ac eraill ar draws y pleidiau wedi'i godi ar sawl achlysur y tymor hwn, a hynny am fod pobl sy'n gaeth yn eu cartrefi yn cysylltu â ni—fel y maent yn cysylltu â chithau, rwy'n siŵr—yn ddyddiol. Mae hyn wedi cael effeithiau difrifol ar eu harian a'u hiechyd. A nodaf o ymatebion...
Rhys ab Owen: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn fflatiau uchel yng Nghaerdydd? OQ56782
Rhys ab Owen: Mae sawl cwestiwn i'w ateb. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda chi dros fisoedd yr haf, a chyda phleidiau eraill, i lunio confensiwn a all adeiladu Cymru well, Cymru wyrddach, Cymru decach a Chymru fwy ffyniannus. Diolch yn fawr.
Rhys ab Owen: O ystyried comisiynau'r gorffennol unwaith eto, gwahaniaeth enfawr gyda'r confensiwn hwn yw'r cylch gwaith eang. Roedd comisiwn Thomas yn eang iawn, ond roedd hwnnw ar gyfer ystyried y system gyfiawnder. Roedd comisiwn Richard ar gyfer diwygio yn y fan hon. Mae'r dasg mor enfawr, ac fe all hynny fod yn broblem. Beth ydych chi'n dymuno ei gael o'r confensiwn hwn?
Rhys ab Owen: Sut ydych chi'n mynd i allu sicrhau, pan fydd pethau'n symud yn gyflym, bod y confensiwn yn aros yn berthnasol? Ac yn olaf, dwi wedi codi'r pwynt am bwysigrwydd annibyniaeth yn rhan o'r cwestiwn. Faint o gefnogaeth ydych chi wedi'i chael oddi wrth eich plaid yn Llundain ac oddi wrth Lywodraeth San Steffan tuag at y confensiwn yma?
Rhys ab Owen: Oherwydd dyw'r setliad datganoledig presennol ddim yn gynaliadwy. Mae e'n ddarostyngedig i fympwy Llywodraeth San Steffan. Dim ni sy'n sofran; Llywodraeth San Steffan sydd o hyd yn dweud eu bod nhw'n sofran. Dylai'r sofraniaeth fod fan hyn gyda phobl Cymru. Mae power grab Llywodraeth Boris Johnson yn gonsýrn i nifer ohonom ar draws y pleidiau. Roedd y TUC yn ddiweddar wedi dweud eu bod...
Rhys ab Owen: Yn hytrach, dylai hyn fod yn waith y genedl gyfan, gan gynnwys y Torïaid, ei holl bobl, ei safbwyntiau i gyd, yn gweithio gyda'i gilydd. Fe all confensiwn ddechrau'r gwaith o greu democratiaeth wirioneddol newydd i Gymru, rhywbeth y mae ei angen arnom yn fawr. Ni all hon fod yn siop siarad arall i'r henuriaid gynnal y status quo. Felly, mae'n rhaid i annibyniaeth fod yn rhan o'r gymysgedd o...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr ichi, Cwnsler Cyffredinol, am eich datganiad, a diolch yn fawr hefyd i Mr Millar am ei gydnabyddiaeth y bydd ei blaid e'n fodlon cydweithio â'r confensiwn yma. Cwnsler Cyffredinol, fel cyd-gyfreithiwr, dwi'n croesawu'r confensiwn yma, dwi'n croesawu'r cyfle i drafod materion cyfansoddiadol, ond dim rhywbeth i'r nerds cyfreithiol ddylai hyn fod. Mae eisiau iddo fe gynnwys, fel...
Rhys ab Owen: Drefnydd, dwi wedi bod yn ffodus iawn yn ddiweddar i gyfarfod â nifer o ysgolion yng Nghaerdydd—ysgol Gwaelod y Garth, ysgol Plasmawr ac ysgol uwchradd gorllewin Caerdydd—i siarad am waith arbennig y Senedd Ieuenctid. Bob tro fydd yna sesiwn cwestiwn-ac-ateb ar y diwedd, mae'r amgylchedd yn dod i fyny bob tro yn eu cwestiynau nhw. Roeddem ni i gyd, yn drawsbleidiol, dwi'n credu, yn...
Rhys ab Owen: Diolch yn fawr am hynny, Brif Weinidog, ac mae Heledd Fychan a fi wedi ysgrifennu llythyr at y Gweinidog yn gofyn am yr opsiynau posib i ddelio â hyn.