Canlyniadau 461–480 o 800 ar gyfer speaker:Hefin David

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Tai ( 9 Ion 2019)

Hefin David: Gwn fod tai yn rhan fawr o'r ymgyrch yng Nghaerffili, ac fel ymgeisydd UKIP, roedd yn ymgyrchu gyda'r tîm hwnnw yng Nghaerffili. Roedd eu safbwynt yn gwbl groes i bopeth y mae'n ei ddweud yn awr, felly a yw'n mynd i wadu'r hyn a ddywedodd yn ystod ymgyrch yr etholiad yn 2016?

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Argaeledd Meddyginiaethau Fferyllol Dros y Cownter ( 9 Ion 2019)

Hefin David: Cafodd rhai o'r materion y mae'r Gweinidog yn cyfeirio atynt eu dwyn i fy sylw gan Norgine, gweithgynhyrchwr fferyllol yn fy etholaeth gyda phresenoldeb sylweddol ac sy'n digwydd bod yn un o gwmnïau angori Cymru hefyd. Soniodd y cwmni wrthyf am yr ymgynghoriad sydd ar waith ar hyn o bryd gan Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru—credaf ei fod yn dod i ben ddydd Gwener—sy'n edrych ar...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Argaeledd Meddyginiaethau Fferyllol Dros y Cownter ( 9 Ion 2019)

Hefin David: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am argaeledd meddyginiaethau fferyllol dros y cownter? OAQ53150

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 8 Ion 2019)

Hefin David: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i gyrff ymchwil polisi annibynnol yng Nghymru?

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cyflog Byw (12 Rha 2018)

Hefin David: Ymddengys ein bod wedi teithio'n bell ers 1997, ac wrth wrando ar Mark Isherwood yn rhestru manteision cyflog byw, oni fyddai wedi bod yn wych pe bai wedi bod o gwmpas ynghanol y 1990au i geisio darbwyllo'r Llywodraeth Geidwadol i gyflwyno isafswm cyflog cenedlaethol? Roeddent yn ei wrthwynebu'n llwyr—yn gwbl bendant yn erbyn gwneud hynny. Yn ôl yr hyn a ddywedent, byddai isafswm cyflog...

6. Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Atal Gwastraff ac Ailgylchu (12 Rha 2018)

Hefin David: Gallwch ddweud beth sy'n Fil da, gyda llaw, yn ôl nifer y bobl sydd eisiau siarad. Mae Jenny Rathbone wedi cydnabod bod awdurdodau lleol yn y rheng flaen o ran sicrhau llwyddiant polisïau ailgylchu Llywodraeth Cymru dros y 10 mlynedd diwethaf neu fwy na hynny. Ond rhaid i mi dynnu sylw'r Siambr at ffatri yn fy etholaeth, o'r enw Bryn Compost, sydd wedi cael anawsterau. Gwn nad yw'n...

4. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol (12 Rha 2018)

Hefin David: A wnaiff arweinydd y tŷ dderbyn ymyriad?

4. Dadl: Diwrnod Rhyngwladol Hawliau Dynol (12 Rha 2018)

Hefin David: Araith wych hyd yn hyn, ond a wnaiff hi ystyried y ffaith nad yw arweinydd UKIP yng Nghymru, Neil Hamilton, yn bresennol yn y Siambr hon i wrando ar eich rhyddid i lefaru, eto i gyd roedd yn teimlo ei bod yn briodol iddo rannu llwyfan gyda Tommy Robinson yr wythnos diwethaf yn enw rhyddid i lefaru? A fyddai hi'n mynegi siom ynglŷn â hynny?

Enwebu'r Prif Weinidog o dan Reol Sefydlog 8 (12 Rha 2018)

Hefin David: Mark Drakeford.

2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol ( 4 Rha 2018)

Hefin David: A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?

2. Dadl ar y Cytundeb Ymadael â'r UE a'r Datganiad Gwleidyddol ( 4 Rha 2018)

Hefin David: Yn syml iawn, a yw'n cytuno nad ydych chi'n curo'r dde eithafol drwy ei foddio?

3. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Y diweddaraf am Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (27 Tach 2018)

Hefin David: Ar 16 Tachwedd, ymwelais â Chanolfan Arloesi Menter Cymru, sydd ym Mharc Busnes Caerffili, y dyfarnwyd arian Llywodraeth Cymru iddi'n ddiweddar er mwyn iddi ddod yn ganolfan fenter ranbarthol i annog a chefnogi entrepreneuriaeth, gan gysylltu â phob math o bartneriaid o'r prifysgolion, busnesau lleol, colegau a Banc Datblygu Cymru. Mae hefyd yn cysylltu â chanolfannau ategol, sydd i'w...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflenwad Cyffuriau Fferyllol (21 Tach 2018)

Hefin David: Mae fy nghwestiwn yn deillio o bryder a fynegwyd gan etholwr, yn ymwneud yn benodol â'r cyflenwad o inswlin i Brydain mewn Brexit 'dim bargen'. Cododd bryderon yn dilyn sylwadau a wnaed gan Syr Michael Rawlins o'r Asiantaeth Reoleiddio Cynhyrchion Gofal Iechyd, a rybuddiodd ar 30 Gorffennaf nad yw inswlin yn cael ei weithgynhyrchu ym Mhrydain, fod yn rhaid mewnforio'r cyfan ac na ellir ei...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflenwad Cyffuriau Fferyllol (21 Tach 2018)

Hefin David: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau wrth gefn ar gyfer cyflenwad parhaus o gyffuriau fferyllol i GIG Cymru os bydd Brexit yn digwydd heb fargen? OAQ52945

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (21 Tach 2018)

Hefin David: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddeunydd pacio cyffuriau presgripsiwn yng Nghymru?

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Symudedd Myfyrwyr Rhyngwladol (20 Tach 2018)

Hefin David: Mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwneud pwynt da ynghylch myfyrwyr rhyngwladol, a'r camau y mae hi wedi eu cymryd yn y Siambr hon sy'n cyferbynnu mor eithafol â pholisi sinigaidd Llywodraeth Geidwadol y DU o annog myfyrwyr rhyngwladol i beidio â dod i'r wlad hon am eu bod yn effeithio ar ffigurau mewnfudo. Dylai meinciau'r Ceidwadwyr yn y Siambr hon fod â chywilydd o'r Llywodraeth Geidwadol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain (20 Tach 2018)

Hefin David: Ac mae'n wir bod y Llywodraeth wedi ymrwymo i ddefnyddio cyllid cyhoeddus-preifat drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol o £500 miliwn i ariannu'n rhannol y gost o adeiladu ysgolion newydd. Yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid wrthyf na fyddai cynlluniau adeiladu ysgolion unigol yn ddigon mawr i fod yn gymwys i gael cyllid, ac yn hytrach byddai cynlluniau yn cael...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain (20 Tach 2018)

Hefin David: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer ariannu ysgolion sy'n rhan o fand B Ysgolion yr 21ain Ganrif? OAQ52976

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (14 Tach 2018)

Hefin David: Mae Capital Law wedi rhoi gwybod i Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau nad yw cynllun cyllid preifat fel y model buddsoddi cydfuddiannol ond yn dod yn effeithiol pan gaiff ei ddefnyddio gyda chynlluniau sy'n costio mwy na £200 miliwn. Gan gadw hynny mewn cof, beth yw peryglon defnyddio'r model i ariannu band B y rhaglen ysgolion ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain?

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Y Model Buddsoddi Cydfuddiannol (14 Tach 2018)

Hefin David: 6. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r model buddsoddi cydfuddiannol yn y dyfodol? OAQ52910


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.