Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Yn ôl ymchwil gan y South Wales Argus, roedd dros 32,000 o gleifion wedi aros y tu hwnt i'r cyfnod o 36 wythnos yng Ngwent hyd at fis Hydref, sef y dyddiad diweddaraf roedd ganddynt ffigurau ar ei gyfer. Un o'r prif resymau dros yr oedi yw nad oes digon o staff ar gael gan eu bod adref o’r gwaith yn sâl neu'n hunanynysu. Yn ôl Cymdeithas Feddygol Prydain, newidiodd...
Delyth Jewell: 3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am nifer y cleifion yn Nwyrain De Cymru sy'n aros mwy na 36 wythnos rhwng triniaeth ac atgyfeiriad? OQ56152
Delyth Jewell: Wel, yn gyffredinol mae Plaid Cymru'n croesawu'r Papur Gwyn hwn. Ein dealltwriaeth ni yw bydd e'n weithredol ar gyfer adeiladau newydd yn unig a ddim yn ôl-weithredol ar gyfer hen adeiladau. So, allwn ni ei gael e ar y record, plîs, bod y Llywodraeth hefyd eisiau taclo problemau mewn ffordd ôl-weithredol gan fod llawer o bobl yn byw mewn fflatiau sydd ddim yn ddiogel? A dwi'n gwybod bod y...
Delyth Jewell: Rwy'n croesawu'r datganiad hwn. Sylwaf fod agwedd fawr ar gynllun Burns yn gofyn am fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU; mae hynny wedi codi nifer o weithiau y prynhawn yma. O gofio nad yw'r tanfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith rheilffyrdd Cymru gan Lywodraeth y DU yn dangos unrhyw arwydd o leihau, beth fyddai'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud yw'r cynllun wrth gefn os gwrthodant ddarparu'r arian y...
Delyth Jewell: Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna ac am y pwyntiau yna. Fodd bynnag, mae llawer o deuluoedd ac unigolion yn fy rhanbarth i wedi wynebu caledi ariannol gwirioneddol er nad ydyn nhw'n gymwys i gael cymorth gyda'r dreth gyngor yn y modd y mae ar gael. Canfu adroddiad diweddar gan Sefydliad Bevan fod incwm bron i chwarter aelwydydd wedi gostwng ers dechrau'r pandemig, ac ar yr un pryd mae...
Delyth Jewell: 5. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o effaith cynnydd yn y dreth gyngor ar gyllid pobl yn Nwyrain De Cymru sy'n wynebu anawsterau ariannol? OQ56164
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Fe ddywedoch chi wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf fod angen gwario oddeutu £800 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn yn y flwyddyn ariannol hon os yw Llywodraeth y DU yn parhau i wrthod rhoi hyblygrwydd i chi ei gario ymlaen. Fe sonioch chi bryd hynny eich bod yn disgwyl defnyddio rhywfaint o’r arian hwn i roi rhagor o gymorth i fusnesau, a'ch bod hefyd yn ystyried...
Delyth Jewell: 2. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog wedi'i rhoi i gefnogi pobl y mae'r coronafeirws yn Nwyrain De Cymru wedi effeithio arnynt wrth lunio cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2021-22? OQ56117
Delyth Jewell: Hoffwn i gael datganiad, os gwelwch chi'n dda, gan y Llywodraeth yn esbonio pam mae cynifer o bobl sydd yn eu 80au a'u 90au ac sy'n gaeth i'r tŷ wedi cael eu gwahodd i apwyntiadau ar gyfer brechiadau mewn canolfannau brechu torfol, pan nad oedden nhw byth yn mynd i allu cyrraedd yr apwyntiadau hynny. Mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi, yng Nghaerffili yn bennaf, ond byddwn i'n tybio ei...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am yr ateb yna a roddodd i'm cyd-Aelod, Dai Lloyd. Diolch iddo hefyd am wneud cynlluniau i gyflwyno'r her hon yn erbyn darpariaethau annerbyniol y Ddeddf mewn cysylltiad â datganoli, yr oeddwn i, wrth gwrs, wedi'i annog i'w wneud ym mis Medi. Rwy'n cydnabod yr hyn y mae newydd ei ddweud o ran y datganiad ysgrifenedig y gallwn ei ddisgwyl yr...
Delyth Jewell: 3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i herio Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 yn y Goruchaf Lys? OQ56089
Delyth Jewell: Mae prydau ysgol am ddim yn ymwneud â mwy na bwydo plant llwglyd—maent yn ymwneud â mynediad at addysg, gallu plant i ganolbwyntio mewn gwersi, a sicrhau lles, iechyd a chyrhaeddiad. Mae'r pandemig rydym i gyd yn byw drwyddo wedi ein gorfodi i wynebu llawer o anghyfiawnderau sy'n rhan mor annatod o'n cymdeithas fel eu bod wedi dod i ymddangos yn endemig. Mae traean o blant Cymru yn byw...
Delyth Jewell: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Fe sonioch chi yn eich ateb blaenorol am COVID-19 a'r effaith y mae wedi'i chael ar gynifer o agweddau ar y farchnad dai. Nawr, mae'n amlwg fod y cyfyngiadau sydd wedi bod ar waith eleni wedi cael eu profi'n wahanol gan wahanol grwpiau o bobl. Rydym wedi siarad am hyn droeon. Ond mae'r gwahaniaeth yn adlewyrchu anghydraddoldebau ehangach yn ein cymdeithas....
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Dwi'n gwybod dŷn ni yn cytuno ar nifer o'r meysydd yma. Yn wir, dwi'n meddwl bod consensws yn gyffredinol bod angen gwrthdroi'r duedd yna dŷn ni newydd osod mas gydag angen, fel dŷch chi wedi'i ddweud, am fwy o dai cymdeithasol a mwy o gefnogaeth i bobl ifanc i allu dianc rhag gorfod rhentu—ar gyfer rhai pobl, byddan nhw'n dewis rhentu, ond rhag gorfod rhentu ac fel eu...
Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae'r nifer o gartrefi yng Nghymru sy'n cael eu rhentu yn breifat wedi mwy na dyblu. Er roedd dirywiad bach iawn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae dal yn wir fod dros 200,000 o gartrefi wedi eu rhentu gan landlord preifat, ac, yn gyfrannol, hwn oedd yr unig tenure a oedd wedi cynyddu dros y cyfnod hwnnw. Mae'r cartrefi sy'n cael...
Delyth Jewell: Diolch, Weinidog. Rwyf wedi ysgrifennu atoch ar sawl achlysur mewn perthynas â gweithgareddau Bryn Group ger Gelligaer, sydd wedi halogi tir drwy roi plastig wedi'i ddarnio drwy'r pridd, ac sydd yn ôl pob golwg wedi bod yn taenu hadau glaswellt i guddio hynny. Nawr, mae cyngor Caerffili a CNC wedi dweud nad oes problem gyda'r safle, er gwaethaf yr holl dystiolaeth rwyf fi ac eraill wedi'i...
Delyth Jewell: 9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal halogi tir yn Nwyrain De Cymru? OQ56058
Delyth Jewell: Dim ond rhai sylwadau byr sydd gen i.
Delyth Jewell: O dan y rheoliadau, Gweinidog, dim ond tan 11 Ionawr y caiff troi allan ei atal, fel yr ydych chi wedi ei nodi. Wrth gwrs, mae hyn i'w groesawu, ond fe wyddom ni i gyd hefyd, erbyn canol mis Ionawr, y gallem ni fod mewn sefyllfa waeth fyth gyda'r pandemig nag yr ydym ni nawr. Ac yn realistig, ni fydd effaith brechu i'w gweld tan ymhell i'r gwanwyn yn y sefyllfa orau. Felly, does dim dwywaith,...
Delyth Jewell: Mae’r mater a godwyd gan yr Aelod yn bwysig iawn. Mae gennyf gwestiwn am flaenoriaethau ar gyfer cyllid yn yr ardal, oherwydd mae trawsnewid canol trefi a darparu gwell trafnidiaeth gyhoeddus yn amlwg yn allweddol. Rwyf wedi bod yn mynegi pryderon wrth y Llywodraeth ynglŷn â chost deuoli darn o ffordd 11 milltir ar yr A465, sydd wedi cynyddu o'r amcangyfrif gwreiddiol o £428 miliwn i...