Mark Reckless: Fe wnaethom ni bleidleisio i adael, ac mae'n ddrwg gen i nad yw'r Aelod yn parchu hynny mwyach. Rwy'n sylwi na wnaeth ei aelodau bleidleisio yn erbyn sbarduno erthygl 50, ac eto dyma nhw yn ceisio dadwneud y canlyniad. Fodd bynnag, yr hyn yr wyf i'n ei gredu yw, i ddatblygu'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud, os bydd Boris Johnson, Michael Gove, Dominic Raab, neu yn sicr os bydd Boris Johnson neu...
Mark Reckless: Wedi dweud y ddau bwynt cychwynnol hynny, fe wnaf i geisio dychwelyd at y dull mwy cydsyniol yr oeddwn i wedi'i fwriadu. Rwy'n cytuno â chynnig y Llywodraeth. Rwy'n credu ei fod wedi'i eirio â phwyll ac, yn gyffredinol, synnwyr da. Pwynt 1(a)—rwy'n nodi'r gymhariaeth, hyd yn oed os ydym yn derbyn y ffigur hwnnw o £370 miliwn y flwyddyn, ei fod yn cymharu â'r swm yr ydym yn ei dalu i'r...
Mark Reckless: Rwyf eisiau cefnogi cynnig y Llywodraeth, felly roeddwn i'n gobeithio y gallwn i wneud sylwadau cydsyniol, ond mae'n rhaid imi ddweud ar y dechrau bod y Gweinidog wedi dweud ei bod hi eisiau gweld addewidion o refferendwm 2016 yn cael eu hanrhydeddu. Iawn, a beth am inni ddechrau drwy anrhydeddu canlyniad y refferendwm? Soniodd hi ei bod hi eisiau gweld deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno i...
Mark Reckless: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r Gweinidog yn nodi pedair blaenoriaeth. Tybed a allai hi egluro ychydig ar y gwahaniaethau rhyngddyn nhw. Mae gennym ni'r siarter a'r pecyn cymorth llwyth gwaith a lles, ac yna'r adnoddau lleihau llwyth gwaith a'r pecyn hyfforddi, ac yna, ar wahân, y modelau hyfforddi, rwy'n credu, sy'n dod oddi wrth y consortiwm. Tybed a allai hi ein helpu ni i ddeall ychydig yn...
Mark Reckless: Roeddwn i wedi cael ar ddeall y bwriadwyd i'r gyfundrefn mesurau arbennig fod yn ymyrraeth fyrrach neu fwy llym o leiaf, i newid corff sy'n methu neu o leiaf corff lle'r oedd problemau. Rwy'n meddwl tybed, gan fyfyrio ar y cwestiynau a gawsom gan arweinydd yr wrthblaid, a fyddai'r Prif Weinidog yn ystyried a yw'r gyfundrefn mesurau arbennig sydd wedi datblygu yn taro'r cydbwysedd cywir, gan...
Mark Reckless: Prif Weinidog, ar ôl eich trafodaeth o bron i 12 munud gydag arweinydd Plaid Cymru, a gaf i roi cynnig ar gwestiwn mwy cryno? Beth yn eich barn chi yw'r cydbwysedd cywir rhwng rheolaeth ganolog ac ymreolaeth leol i gyrff iechyd yng Nghymru?
Mark Reckless: [Anghlywadwy.]
Mark Reckless: Ar bwynt o drefn, mae'r Aelod newydd ddweud ei fod yn dweud celwydd. Mae hynny'n groes i'r drefn.
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio eto?
Mark Reckless: Rwy'n cofio gweld un peth lle'r oedd y nifer a bleidleisiodd dros 'adael' yn mynd i fyny wrth i bobl fynd yn hŷn, ac ymhlith y rhai hynaf oll—ac roedd yn sampl bach iawn—roedd y bleidlais dros 'adael' ychydig bach yn llai na'r hyn ydoedd ymhlith y grŵp ychydig yn iau, ond roedd yn gryf iawn dros adael.
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: O ble ar y ddaear y daw hynny? Yn fras, yn y refferendwm, po hynaf oedd y bobl, y mwyaf oedd y gyfran o blaid 'gadael'. Mae'r syniad fod pobl a oedd yno yn y rhyfel wedi pleidleisio 70 y cant dros aros—beth ar y ddaear yw eich ffynhonnell ar gyfer yr honiad hwnnw?
Mark Reckless: Tybed a sylwodd yr Aelod ar sylwadau'r Arlywydd heddiw nad oedd yn disgwyl i'r GIG fod yn rhan o unrhyw gytundeb masnach.
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mark Reckless: O ran yr adeg y cawsom ein hethol, rwy'n tybio bod yr Aelod o bosibl wedi anghofio am Nathan Gill.
Mark Reckless: Diolch i'r Aelod am ddweud hynny. O leiaf ni chefais fy ngalw'n ymwelydd ganddi. Y gwir amdani yw bod pobl wedi penderfynu. Pleidleisiasant mewn refferendwm. Pleidleisiasant 52 i 48 y cant ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, ychydig yn fwy yng Nghymru, a llawer mwy yn ein rhanbarth ni. Ond mae hi'n credu mai hi sy'n gwybod orau. Mae hi eisiau eu hanwybyddu. Ac addawodd ei phlaid dderbyn...
Mark Reckless: Rwy'n cynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Caroline Jones. Felly, rydym wedi clywed gan Delyth mai canlyniad y toriadau nid y cyfandir oedd y refferendwm. Tybed a allai hwnnw fod yn ddatganiad bachog y gellid ei ddyfynnu ar ôl y ddadl, oherwydd ei bod wedi edrych ar ei dail te a'i bod yn gwybod sut y pleidleisiodd pobl ein rhanbarth, pam y bu iddynt bleidleisio. Mae'n gweld i mewn i'w...
Mark Reckless: Buaswn wrth fy modd.
Mark Reckless: Fe ddywedoch chi wrthym na chaem wneud hynny—dim ond tri.