John Griffiths: Llawer o ddoethineb a gwybodaeth a gronnwyd, Llywydd. [Chwerthin.]
John Griffiths: Prif Weinidog, mae'r blynyddoedd cynnar yn hanfodol i gyfleoedd addysg a bywyd drwy gydol bywyd, felly a gaf i eich canmol chi a Llywodraeth Cymru ar ddatblygu rhaglen Dechrau'n Deg, yr wyf i'n credu sy'n werthfawr ac yn effeithiol? Ond, fel erioed, mae mwy i'w wneud, ac rwy'n credu bod y meini prawf cymhwysedd cod post ar gyfer Dechrau'n Deg yn codi cwestiynau o ran pa un a ellir gwneud mwy...
John Griffiths: Ie, Ysgrifennydd y Cabinet, buaswn yn cytuno'n gryf â hynny, ac yn y cyfnod hwn o gyni a achoswyd gan Lywodraeth y DU, mae'n fwy pwysig byth, rwy'n credu, ein bod yn canfod ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaethau, ac o ddarparu mwy gyda llai yn aml, ond yn amlwg mae honno'n dipyn o her. Mewn perthynas â llywodraeth leol yn gweithio ar y cyd â sefydliadau partner allweddol eraill, tybed a...
John Griffiths: 3. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn annog arloesedd mewn llywodraeth leol? OAQ53059
John Griffiths: Rwy'n siarad fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac fel yr ydym wedi clywed eisoes, yr oedd yn dda iawn i dri phwyllgor—fy mhwyllgor i; Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Lynne Neagle; a Phwyllgor Cyllid Llyr—gyfarfod ar y cyd ac ar yr un pryd i edrych ar ddull Llywodraeth Cymru o weithredu asesiadau effaith unigol ac integredig. Yr oedd yn ymarfer...
John Griffiths: Wel, fel y dywedais, rwy'n credu bod materion o ran atebolrwydd a chraffu. Gwn fod y sector y tu allan i'r Cynulliad yn teimlo hynny hefyd, ac rwy'n credu bod barn ein pwyllgor yn glir iawn. Cafwyd amryw o ddulliau gan Lywodraeth Cymru dros gyfnod o amser o ran sut yr ydych chi'n trechu tlodi yn fwyaf effeithiol, ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn pwysleisio dull...
John Griffiths: Mae'n rhaid imi ddweud, pan fyddaf yn siarad â'r bobl hynny sy'n ymwneud ag ymdrin â chanlyniadau polisi'r Llywodraeth a thlodi yng Nghymru—y trydydd sector, awdurdodau lleol, asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau yn uniongyrchol—ymddengys eu bod yn deall yn iawn mai agenda cyni Llywodraeth y DU sy'n sbarduno'r materion hyn i bob un ohonom ni: Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, a...
John Griffiths: Diolch, Dirprwy Lywydd—
John Griffiths: Dim problem o gwbl. Arweinydd y tŷ, fel y byddwch yn gwybod, mae'r pwyllgor yr wyf yn Gadeirydd arno, y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cymryd ymagwedd gyffredinol ar gyfer dychwelyd yr adroddiadau ac, yn wir, y ddeddfwriaeth yr ydym wedi craffu arni, i wneud yn siŵr bod y gweithredu yn cyrraedd y safon briodol, ac mae hynny'n cynnwys y darn penodol hwn o...
John Griffiths: Arweinydd y tŷ, mae dewis gwleidyddol Llywodraeth Dorïaidd y DU o gyni cyllidol yn achosi mwy a mwy o ofid a chaledi i'n cymunedau—tlodi cynyddol, digartrefedd a chysgu ar y stryd, ciwio mewn banciau bwyd, salwch meddwl a chorfforol. Hyn i gyd ym mhumed economi fwyaf y byd. Mae'r Athro Philip Alston, adroddwr y CU ar dlodi a hawliau dynol, newydd gyhoeddi adroddiad, sy'n hollol...
John Griffiths: 2. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd mewn ymateb i adroddiad Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2018, 'A yw Cymru'n decach?'? OAQ52990
John Griffiths: Rwy'n llongyfarch y Pwyllgor Cyllid ar ei adroddiad a'i argymhellion pwysig iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae pawb ohonom yn gwybod bod yr heriau sydd ynghlwm wrth Brexit yn enfawr, ac mae'r ansicrwydd yn fawr, ac mae hynny'n creu pob math o heriau anodd tu hwnt i sefydliadau, ac i bawb yng Nghymru yn wir. Mae ceisio dod o hyd i ffordd drwodd yn anodd eithriadol o ystyried cymhlethdod a chyrhaeddiad...
John Griffiths: Wrth ymateb i'n llythyr, dywedodd y Prif Weinidog fod trafodaethau ar y gweill gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â chytundeb gwleidyddol a fyddai'n cymeradwyo fframwaith presennol y ddeddfwriaeth triniaeth gyfartal sydd mewn grym ar draws rhannau cyfansoddol y DU. Dywedodd y Prif Weinidog wrthym hefyd y byddent yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i ofyn am sicrwydd ynglŷn â hawliau...
John Griffiths: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar ran y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Credaf mai dyma'r tro cyntaf i ddadl ar y cyd o'r fath gael ei chynnal. Rwy'n credu bod hynny'n dangos pa mor bwysig yw'r materion rydym yma i'w trafod. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i osod y bar yn uchel yng Nghymru...
John Griffiths: Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Yn ôl y cyfrif diwethaf, nid oedd ond 22 o wyddau talcenwyn yr Ynys Las ar y Ddyfi, a cheir gwarchodaeth gyfyngedig i'r adar sy'n gaeafu yng Nghymru y tu allan i ardaloedd lle y ceir moratoriwm gwirfoddol ar saethu. Felly, o ystyried y boblogaeth fach iawn ac mai cyfyngedig yw'r warchodaeth a geir yng Nghymru, buaswn yn ddiolchgar iawn pe bai'r...
John Griffiths: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ystyried cyflwyno gwaharddiad cyfreithiol ar saethu gwyddau talcenwyn yr Ynys Las? OAQ52845
John Griffiths: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bartneriaeth Lywodraeth Cymru gyda llywodraeth leol?
John Griffiths: Rwy'n falch o siarad yn y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol. Mae'r comisiwn, wrth gwrs, yn un o rhanddeiliaid allweddol ein pwyllgor, a thrwy gydol y cyfnod adrodd hwn bu gennym ni berthynas effeithiol ac adeiladol, sydd wedi helpu i ddylanwadu ar amrywiol agweddau o'n gwaith. Roeddwn yn falch o groesawu'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol i'r...
John Griffiths: Yn ein gwaith craffu, rydym wedi ystyried yr egwyddorion cyffredinol a'r darpariaethau yn fanwl, gan ganolbwyntio ar yr effaith ar denantiaid, landlordiaid ac asiantaethau gosod tai, sut y rhoddir gwybod am y newidiadau ac a oes angen corff gorfodi sengl neu arweiniol. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, daethpwyd i'r casgliad ein bod yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol y Bil ac wedi argymell bod...
John Griffiths: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn dilyn ein gwaith craffu ar y Bil. Hoffwn ddiolch i bawb a ddarparodd dystiolaeth i helpu i lywio ein gwaith, yn enwedig tenantiaid, landlordiaid ac asiantau gosod tai ar draws Cymru a wnaeth yr ymdrech i fod yn bresennol yn ein grwpiau ffocws. Rydym hefyd yn...