Lesley Griffiths: Diolch. Mae COP ieuenctid Cymru yn cael ei gynnal yr wythnos hon, pan fydd Llywodraeth Cymru yn noddi digwyddiadau lle gall pobl ifanc yng Nghymru drafod yr argyfwng hinsawdd yn uniongyrchol gyda Gweinidogion ac Aelodau o'r Senedd. Mae'r cyfarfodydd hyn yn cael eu cynnal yng nghyd-destun uwch-gynhadledd COP27 eleni, lle bydd penderfyniadau'n cael eu gwneud a fydd yn llywio bywydau pobl ifanc...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, yn sicr, mae gan ardaloedd gwledig eu heriau unigryw eu hunain, a chyfleoedd hefyd, ac rwy'n credu bod y galluogwyr tai gwledig yn sicr wedi chwarae rhan bwysig. Gwn fod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn edrych ar gynlluniau treialu yn yr ardaloedd hyn hefyd. Ac o ran cynllun prydlesu PRS, nod hwnnw yw dod ag eiddo presennol a gwag sy'n eiddo i landlordiaid i'r cynllun, ac, yn amlwg,...
Lesley Griffiths: Wel, yn sicr, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi newid defnydd, os hoffech chi, yng nghanol ein trefi. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod arferion siopa wedi newid am byth mae'n debyg, ac yn sicr mae angen i ni wneud rhywbeth ynghylch llawer o adeiladau gwag yng nghanol ein trefi. Yn amlwg, mae gennym ni'r gronfa Trawsnewid Trefi, sydd, yn fy marn i, wedi cael ei defnyddio'n dda gan y...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae'n sicr yn dda iawn clywed bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili unwaith eto yn adeiladu tai cyngor. Rwy'n meddwl bod llawer o arbenigedd yr ydym ni wedi ei golli dros y 30 mlynedd diwethaf o ran adeiladu tai cyngor, ac mae wedi bod yn dda gweld ein partneriaid yn dod at ei gilydd ar draws y wlad i gyd yn hynny o beth. Felly, rwy'n siŵr ei fod yn rhywbeth y bydd Llywodraeth...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo'r broses hon drwy oruchwylio'r asesiadau newydd o'r farchnad dai leol. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o'r fath, ond, o fis Ebrill 2022 ymlaen, bydd eu cynnyrch yn cael ei adolygu a'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.
Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.
Lesley Griffiths: Wel, fel y dywedais yn fy ateb i Sioned Williams, y cam nesaf fydd i’r cyngor ymateb; mater iddynt hwy, wedyn, yw dod at Lywodraeth Cymru gyda'u camau nesaf. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog—. Fel y soniais ar ddechrau fy ateb, yn amlwg, mae cyswllt etholaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, felly, yn amlwg, os yw’n rhywbeth penodol i’w wneud â’r etholaeth, bydd y Prif Weinidog yn...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, wrth symud ymlaen, yn amlwg, bydd swyddogion Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gweithio gyda’r awdurdod lleol. Yn amlwg, bydd rhaid iddynt ystyried yr hyn a gyflwynir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Fel y dywedaf, y peth nesaf iddynt, yn amlwg, yw ymateb. Fy nealltwriaeth i yw bod swyddogion wedi edrych ar y cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg ac...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae cyswllt etholaethol gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, felly rwy’n ymateb ar ran Llywodraeth Cymru. Deallaf fod y cyngor wedi nodi dyfarniad y llys mewn perthynas â chynnig cwm Tawe a'u bod yn ystyried eu camau nesaf. Mae gan y cyngor gyfnod o amser i benderfynu a fydd yn apelio, felly mae angen i unrhyw ystyriaeth bellach aros am benderfyniad y cyngor.
Lesley Griffiths: Diolch. Ni allaf roi unrhyw ddiweddariad penodol i chi, oherwydd, fel y gwyddoch, rydym yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol ar hyn o bryd i ddatblygu dogfen o fewn y cynllun lles anifeiliaid i edrych ar yr holl ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol sy'n canolbwyntio ar les anifeiliaid—fel y gallwch ddychmygu, mae hwnnw’n waith go arwyddocaol, ond yr hyn y bydd y gwaith hwnnw'n ei wneud...
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, byddwn yn dychmygu y bydd yr haen gydweithredol—. Rydym newydd fod yn cyfeirio at dair haen y cynllun ffermio cynaliadwy, a byddwn yn tybio y bydd haen gydweithredol y cynllun yn gallu cynnig cymorth i brosiectau ar lefel tirwedd ar wastadeddau Gwent, fel y nodwyd gennych yn awr, neu o fewn y gadwyn gyflenwi, fel y gallant gyflawni mewn perthynas â'r blaenoriaethau lleol a...
Lesley Griffiths: Diolch. Mae ein blaenoriaethau ar gyfer lles anifeiliaid wedi’u nodi yn ein cynllun lles anifeiliaid ar gyfer Cymru. Mae’n cynnwys amserlen ar gyfer cyflawni camau gweithredu allweddol yn erbyn y pedwar ymrwymiad sy'n ymwneud â lles anifeiliaid yn ein rhaglen lywodraethu, a chamau gweithredu ar gyfer ein blaenoriaethau lles anifeiliaid eraill.
Lesley Griffiths: Bydd y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig yn cefnogi ffermwyr a rheolwyr tir eraill i gydweithio i ddarparu atebion sy'n seiliedig ar natur ar lefel tirwedd. Mae gwastadeddau Gwent yn enghraifft wych lle gall mabwysiadu arferion rheoli tir cynaliadwy gefnogi busnesau fferm gwydn a gwella'r amgylchedd ar gyfer pobl a bywyd gwyllt.
Lesley Griffiths: Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn roeddwn yn ei ddweud mewn ateb cynharach: rydym yn dal ar gam cyd-gynllunio'r cynllun ffermio cynaliadwy, felly nawr yw'r amser i sicrhau bod pawb yn cyflwyno'u safbwyntiau. Soniais am yr arolwg—mae hwnnw'n agored tan 21 Tachwedd. Gofynnwch i unrhyw un sy'n cysylltu â chi gyda phryderon i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg. Mae gennym y tair haen, fel y...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu imi gael fy holi am hynny yn sicr, rwy'n credu mai Sam Kurtz a ofynnodd i mi am hynny yn y pwyllgor, ac mae'n bwynt pwysig iawn. Ond fe fyddwch yn deall ar hyn o bryd nad wyf hyd yn oed yn gwybod beth yw fy nghyllideb, felly mae'n anodd iawn rhoi unrhyw sicrwydd i chi. Mae'n bwysig fod yr arian sydd gennym yn cael ei gyfeirio at ffermwyr, ond wrth gwrs, bydd y...
Lesley Griffiths: Diolch. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais amlinelliad o'r cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig. Mae cynigion y cynllun yn arwydd o newid mawr yn y ffordd y bydd ffermwyr Cymru'n cael eu cefnogi. Bydd y cynllun yn allweddol i gefnogi ffermwyr Cymru i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o greu amgylchedd mwy gwydn ac economi wledig fwy gwydn.
Lesley Griffiths: Efallai eich bod wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach i Gareth Davies ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweithio gyda gweinyddiaethau eraill y DU, yn enwedig Llywodraeth y DU. Fel y dywedais, roeddem yn gweithio ar hyn gyda George Eustice yn ôl ar ddechrau'r flwyddyn. Yn anffodus, ni chyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol DEFRA a adawodd y Llywodraeth ddoe, ond byddaf yn sicr yn...
Lesley Griffiths: Gallaf yn sicr, ac rwy'n gweithio'n agos iawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd mewn perthynas â'r mater hwn hefyd. Cyhoeddodd y strategaeth liniaru ar gyfer ffliw adar mewn adar gwyllt yng Nghymru a Lloegr yn ôl ym mis Awst, rwy'n credu, a hynny er mwyn galluogi elusennau cadwraeth a rheolwyr tir— yn amlwg, mae hynny'n cynnwys y sector amaethyddol—i ymateb yn effeithiol a chyson i ffliw...
Lesley Griffiths: Pan fydd achos o ffliw adar yn cael ei gadarnhau mewn unrhyw safle yng Nghymru, mae mesurau llym i reoli afiechydon yn cael eu rhoi ar waith ar unwaith i atal lledaeniad pellach. Cyflwynodd Llywodraeth Cymru barth atal ffliw adar ar 17 Hydref, sy'n ei gwneud yn ofyniad gorfodol i geidwaid adar ddilyn mesurau bioddiogelwch llym.
Lesley Griffiths: Byddai'n rhaid i chi godi hynny'n uniongyrchol gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Yn amlwg, mater i Gyngor Caerdydd yw'r hyn y cyfeiriwch ato; hwy yw'r awdurdod cynllunio lleol. Ni fyddai'n briodol i unrhyw Weinidog Cymreig wneud sylw ar deilyngdod unrhyw gynnig, er enghraifft, gan y gallai ddod gerbron Gweinidogion Cymru rywbryd yn y dyfodol.