Joyce Watson: O blaid.
Joyce Watson: Rwyf wedi clywed safbwyntiau eithaf gwahanol yma y prynhawn yma, ond rwy'n amlwg yn mynd i siarad o blaid y Llywodraeth, ac rwy'n falch iawn o fod yn rhan o grŵp—y grŵp sy'n rheoli yng Nghymru—lle mae'r holl adborth a gaf yn canmol y dull tawel, ystyriol o helpu i gadw pobl yn ddiogel yng Nghymru; o helpu pobl i ymdopi â sefyllfa ddigynsail lle mae gennym feirws sy'n llechu o'n cwmpas....
Joyce Watson: O blaid.
Joyce Watson: Diolch, Llywydd. Un o'r cwestiynau yr oeddwn i eisiau ei godi, nad wyf yn credu ei fod wedi'i godi hyd yma, oedd i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun paru swyddi y gwnaethoch chi ei lansio bron i fis yn ôl. Fe wnaethoch chi ddweud ar y pryd—ac roeddem ni i gyd yn cytuno ein bod yn bryderus iawn am yr effaith yr oedd COVID-19 yn ei chael ar sectorau amaethyddol a garddwriaethol...
Joyce Watson: Diolch ichi am eich adroddiad, Gweinidog, ond yn sicr mae angen i Lywodraeth y DU feddwl o'r newydd, oherwydd yr hyn a ddangosodd yr adroddiad a ddatgelwyd oedd mai un o'u ffyrdd cyntaf o feddwl oedd rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus am ddwy flynedd, ar yr un pryd, codi treth incwm yn gyffredinol, yn ôl pob golwg, o 1 y cant. Felly, rydym ni wedi mynd yn ôl i'r un lle yn union a'n...
Joyce Watson: Un cwestiwn bach?
Joyce Watson: Iawn, o'r gorau, diolch.
Joyce Watson: Diolch, Lywydd. Ydy, mae'n wych fod gennym yr holl drafodaethau bwrdd crwn hyn yn digwydd. Yn fy marn i, mae'n wych fod Gordon Brown, pensaer Cychwyn Cadarn, yn rhan o hynny. Rwy'n falch iawn o fod yn rhan o blaid sydd â dymuniad ideolegol ac ysgogiad i gyflawni contractau cymdeithasol a phartneriaethau cymdeithasol—pethau sy'n amlwg yn anathema i Mark Reckless. Ond mae'r cwestiynau sydd...
Joyce Watson: Mae llawer o bobl wedi siarad heddiw am yr effaith negyddol ar dwristiaeth ledled Cymru ac wrth gwrs, mae twristiaeth yn cael effaith sylweddol ar fy ardal i, yn anghymesur efallai o gymharu ag ardaloedd eraill. Rydym yn gwybod bod twristiaeth yn werth £3 biliwn i economi Cymru, ond daw gwerth £2 biliwn o gronfeydd Llywodraeth Cymru. Felly, mae'n ymddangos yn debygol iawn pan geisiwn droi...
Joyce Watson: Crybwyllwyd sawl gwaith y bore yma ein bod yn rhoi taliad o £500 i ofalwyr—a hynny'n briodol, yn fy marn i—i gydnabod yr hyn y maent yn ei wneud. Ond yr hyn nas crybwyllwyd y bore yma, a thynnwyd fy sylw ato gan etholwr sy'n byw yn Sir Drefaldwyn ond sy'n gweithio dros y ffin, yw na fyddant yn derbyn y taliad hwnnw. Nawr, rwy'n gobeithio y byddwch yn ymuno â mi gyda'r Aelod Seneddol...
Joyce Watson: Hoffwn yn gyntaf ddiolch i'r holl bobl hynny sydd wedi gweithio ac wedi arwain mewn llywodraeth leol i helpu pobl yn eu hardaloedd. Rwyf i'n dymuno symud ymlaen, mewn gwirionedd, at bobl sy'n denantiaid yn y sector rhentu preifat. Rwyf i yn dymuno croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cymryd i sicrhau nad yw tenantiaid yn wynebu caledi ariannol ar hyn o bryd, ac nad ydyn nhw'n cael...
Joyce Watson: Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr holl bethau hynny y mae pobl wedi eu gofyn, ac eithrio ynghylch llwybrau troed. Pan gyhoeddwyd y rheoliad, cafwyd cyfnod adolygu 28 diwrnod hefyd. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog pryd fydd hi'n gwneud cyhoeddiad, ar ôl cynnal yr adolygiad hwnnw, oherwydd ymhen pythefnos bydd angen i hynny ddigwydd. Rwyf eisiau holi sut yr ydym yn mynd i lwyddo i gael y cnydau...
Joyce Watson: Gweinidog, rwy'n credu fy mod yn siarad yr un iaith â phawb yma pan ddywedaf byth, byth, yn ein dychymyg mwyaf eithafol y byddai unrhyw un ohonom sy'n eistedd yma heddiw yn dychmygu y byddem yma a bod gofyn inni bwyso botwm a fydd yn gweithredu deddfwriaeth eithaf didostur a'i gorfodi ar bobl yn eu cartrefi ac yn eu bywydau bob dydd. Ni ddaethom yma i wneud hynny. Ond yr hyn y daethom yma...
Joyce Watson: Y peth cyntaf, fel llawer un arall yma, yr wyf eisiau ei wneud heddiw yw diolch i'r holl staff sy'n parhau i fynd i'w gwaith ledled y GIG, ar draws y sector gofal ac ar draws yr asiantaethau cyflenwi i gael pethau i'r lle y mae eu hangen arnom ni a phan mae eu hangen arnom ni ar yr adeg dyngedfennol hon. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y bobl hynny'n deall, os nad ydyn nhw'n deall...
Joyce Watson: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r risg o gynnydd mewn trais domestig yn ystod y cyfnod o ynysu oherwydd yr achosion o coronafeirws?
Joyce Watson: Weinidog, rwy'n falch iawn fod y cwestiwn hwn wedi'i gyflwyno—a diolch i Alun Davies am wneud hynny—i roi cyfle i ni, a chyfle i chi, gynrychioli ein hardaloedd. Mae economi Canolbarth a Gorllewin Cymru yn dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth a busnesau bach, ond mae gan hynny, yn ei dro, ganran uchel o weithlu rhan-amser a dim oriau i'w gefnogi. Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad am gymorth...
Joyce Watson: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i gau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru?
Joyce Watson: Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.
Joyce Watson: Diolch. Galwaf ar Mark Reckless.
Joyce Watson: Rwyf wedi dewis y ddau welliant i'r cynnig, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.