Canlyniadau 481–500 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl—ac yn enwedig i'r Gweinidog, wrth gwrs, fel yr oedd hi'n cyfeirio ato fe yn gynharach, am dderbyn yr holl argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor? Dwi'n nodi yn enwedig, wrth gwrs, ei bod hi'n agored ei meddwl i ddatganoli pellach ar bwerau trethiannol i Gymru. Mae Mike Hedges wedi tynnu sylw...

11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Gan mai dim ond i incwm nad yw'n gynilion ac nad yw'n ddifidendau y mae'r pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru'n berthnasol, clywsom y bydd Cymru'n arbennig o agored i drethdalwyr yn lliniaru eu rhwymedigaeth drwy newid o enillion i fathau eraill o incwm. Er enghraifft, gallai'r rheini sy'n hunangyflogedig ymateb i amrywiadau treth drwy gorffori eu busnes, er mwyn talu treth...

11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Gyda diwedd y Senedd hon yn prysur agosáu, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid benderfynu ymchwilio i effeithiau posib cael cyfraddau treth incwm gwahanol ar draws ffin Cymru a Lloegr, yn enwedig o gofio faint o bobl sy’n byw’n agos at y ffin. Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn, ac i’r Gweinidog cyllid hefyd am ei hymateb hi i’n hadroddiad ni, ac am dderbyn pob un o’r...

11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael agor y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, ar ein hymchwiliad ni i effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Fel rydyn ni'n gwybod, syniad go newydd yw amrywio cyfraddau trethi incwm ar draws y Deyrnas Gyfunol, gyda threth incwm ond yn cael ei datganoli’n rhannol i Gymru ers Ebrill 2019. Hyd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Llywodraethiant Prosiectau Cyhoeddus (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am yr ateb, ond mi fyddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru i waith adnewyddu yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar. Roedd e'n waith a aeth £60 miliwn dros gyllideb. Nawr, mae yna gerydd amlwg i'r bwrdd iechyd yn yr adroddiad hwnnw, ond dyw Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ddim yn dod allan ohoni'n dda chwaith. Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Llywodraethiant Prosiectau Cyhoeddus (23 Med 2020)

Llyr Gruffydd: 2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lywodraethiant prosiectau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru? OQ55573

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Wel, yn y bôn, mae gennym ni ddatganiad gan y Gweinidog cyllid yn esbonio pam y mae hi'n credu bod tynnu'r cynllun grant ardrethi ar gyfer generaduron ynni dŵr yn ôl yn syniad da, o ystyried uchelgeisiau'r Llywodraeth o ran di-garbon-net.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Med 2020)

Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddau ddatganiad, Trefnydd, un gan Weinidog yr economi a thrafnidiaeth ynglŷn â'i gyhoeddiad diweddar ynghylch y cynnig llwybr coch sy'n ymwneud, wrth gwrs, â'r A55 ar hyd coridor Sir Fflint? Rwyf wedi cael lli o ymholiadau gan etholwyr sy'n bryderus iawn ac sy'n gweld tebygrwydd dilys a chlir rhyngddo a'r penderfyniad ynghylch ffordd liniaru'r M4 yng Nghasnewydd. Yn amlwg,...

6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael cyflwyno'r cynnig yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid, a gofyn i'r Senedd gytuno i benodi Lindsay Foyster yn gadeirydd ar fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a hynny, wrth gwrs, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Mae gan Lindsay Foyster brofiad helaeth o weithredu ar lefel bwrdd yn y trydydd sector ac yn y sector...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Gyllideb Llywodraeth Leol (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch i chi am yr ymateb hynny. Mae'r sicrwydd wedi cael ei roi, wrth gwrs, ynglŷn â digolledu yn y chwarter cyntaf. Dwi jest eisiau eglurder y bydd hynny yn dilyn yn ail chwarter y flwyddyn ariannol yma. Ond hefyd, wrth gwrs, mae nifer o awdurdodau lleol nawr yn cynllunio ar gyfer eu cyllideb y flwyddyn nesaf, a rhai ohonyn nhw yn ystyried toriadau adrannol. Felly, dwi'n gofyn i chi a oes...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Mapiau Llifogydd (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Wel, diolch i chi am yr ymateb yna, ond wrth ddelio â gwaith achos yn ddiweddar mi ddes i i sylweddoli bod 90 y cant o afonydd Cymru heb y gauges neu'r mesuryddion i fesur llif y dŵr yn yr afonydd hynny. Nawr, dyna'r data sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r mapiau yma ar draws Cymru, a'r mapiau hynny, wrth gwrs, sy'n sail ar gyfer nifer o benderfyniadau cynllunio ymhob rhan o Gymru a...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Iawn. Wel, bydd angen pob math o gynlluniau wrth gefn arnom, wrth gwrs, ac mae pobl yn disgwyl i Lywodraeth Cymru arwain o'r tu blaen ar hynny, yn amlwg, a byddwn yn gobeithio eich bod yn teimlo bod gennych yr adnoddau, neu os nad ydych, yna bydd angen i bob un ohonom weithio i sicrhau eu bod yno. Mae rhywun yn meddwl yn benodol am yr angen i ymdrin â chig oen dros ben mewn senario heb...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Y cynllun tymor hwy yw hwnnw; roeddwn yn gofyn i chi am drefniadau tymor byr, interim, oherwydd bydd cyfnod o ddwy i dair blynedd, felly, heb unrhyw fath o gefnogaeth bwrpasol i newydd-ddyfodiaid. Mae angen cefnogaeth yn awr yn enwedig gan fod arnom angen gwaed newydd, syniadau newydd a brwdfrydedd newydd yn barhaus. A chyda'r rhagolwg—y rhagolwg cynyddol, mewn gwirionedd—y cawn Brexit...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae eich ymgynghoriad ar gynigion i barhau â chefnogaeth amaethyddol i ffermwyr mewn cyfnod pontio ôl-Brexit hyd at ba bryd bynnag y byddwn yn llwyddo i basio Bil amaethyddol Cymru newydd yn cynnig cau'r cynllun ffermwyr ifanc ar gyfer ceisiadau newydd o'r flwyddyn nesaf ymlaen. A allwch roi cadarnhad neu eglurder inni ynghylch y bwriad yn y tymor hwy o ran...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Mapiau Llifogydd (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: 7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gywirdeb mapiau llifogydd Cymru? OQ55515

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Y Gyllideb Llywodraeth Leol (16 Med 2020)

Llyr Gruffydd: 4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb llywodraeth leol yng ngoleuni COVID-19? OQ55496

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai, Tlodi a Chymunedau (15 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Diolch, Weinidog, am eich datganiad chi. Roeddwn i'n nodi'r hyn roeddech chi'n ei ddweud ynglŷn â'r gwaith i daclo digartrefedd ac, wrth gwrs, i gynyddu nifer y tai cymdeithasol. Roeddwn i wedi gobeithio efallai clywed mwy gennych chi yn y datganiad ynglŷn â sut mae'r Llywodraeth am ddefnyddio'r system gynllunio i fynd i'r afael â'r anghyfartaledd a'r anghynaliadwyedd cynyddol rydym ni'n...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (15 Med 2020)

Llyr Gruffydd: Gweinidog, gawn ni ddatganiad am y camau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ymateb yn rhagweithiol i'r argyfwng tai dŷn ni'n ei weld mewn nifer o gymunedau ar draws Cymru? Mae yn argyfwng, wrth gwrs, sy'n cael ei yrru yn bennaf, ond nid yn unig, gan y ffaith bod nifer cynyddol o gartrefi nawr yn cael eu prynu fel ail gartrefi neu dai gwyliau. Mae'n cael ei ddwysáu hefyd, wrth gwrs, gan y...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (15 Med 2020)

Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lywodraethiant prosiectau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru?

16. Dadl y Pwyllgor Cyllid: Blaenoriaethau Gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyllideb Ddrafft 2021-22 yn sgil COVID-19 (15 Gor 2020)

Llyr Gruffydd: Roeddwn i'n mynd i ddechrau drwy ddweud nad dadl ynglŷn â rhestr siopa o ofynion buddsoddi oedd hwn. Ond, wrth gwrs, mae'n naturiol bod pobl yn teimlo'n gryf am nifer fawr o wahanol feysydd. Ond, nid rhyw fath o lythyr estynedig i Siôn Corn yw'r ddadl yma, wrth gwrs, fel roedd Alun Davies efallai yn awgrymu reit ar y dechrau. Mae hwn yn gyfle i ni ystyried, wrth gwrs, y newid diwylliannol...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.