Mohammad Asghar: 4. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i leihau nifer y troseddau casineb homoffobig yng Nghymru yn 2018? OAQ51796
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gymorth ariannol i brentisiaid yng Nghymru? Mae'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi adrodd bod tystiolaeth sylweddol i ddangos bod rhwystrau ariannol yn ddatgymhelliad, ac mewn rhai achosion yn atal pobl ifanc rhag manteisio ar brentisiaethau ledled Cymru. Mae'r Pwyllgor wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu grant...
Mohammad Asghar: Gweinidog, yr wythnos diwethaf, dywedodd yr Athro Patrick Minford o Brifysgol Caerdydd—[Torri ar draws.] Wel, do, fe wnes i wrando. Dywedodd wrth y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig y bydd defnyddwyr Cymru yn elwa'n aruthrol ar y prisiau is o ganlyniad i gystadleuaeth a chynhyrchiant cynyddol yn deillio o—[Torri ar draws.]
Mohammad Asghar: Diolch, Llywydd—yn deillio o adael yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Rhagwelodd y byddai aelwydydd tlotach fel y rheini yn Islwyn yn elwa mwy fyth. Pam mae Llywodraeth Cymru mor ddiystyriol a negyddol ynghylch safbwyntiau economegwyr fel yr Athro Minford ac yn amharod i gydnabod y cyfleoedd economaidd sy'n deillio o Brexit i Gymru?
Mohammad Asghar: Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cyflwyno yn 2018 i leihau amseroedd aros mewn ysbytai yng Nghymru?
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r cwmni dadansoddi traffig INRIX yn amcangyfrif bod y tagfeydd traffig ar ein ffyrdd y llynedd wedi costio bron i £278 miliwn i economi Cymru, sy'n ffigur trawiadol. Mae tagfeydd yn costio £134 miliwn i Gaerdydd, £62 miliwn i Abertawe, a £44 miliwn i Gasnewydd. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau y bydd y gost hon i economi Cymru yn cael ei hystyried wrth...
Mohammad Asghar: Prynhawn da, Weinidog. Ar hyn o bryd, bydd caniatâd cynllunio fel arfer yn dod i ben oni bai bod gwaith datblygu yn dechrau o fewn tair blynedd. Gall awdurdodau lleol gyflwyno hysbysiad cwblhau sy'n nodi y bydd y caniatâd cynllunio yn dod i ben os bydd cyfnod penodedig arall yn dod i ben, ond nid oes ganddynt bŵer i’w gwneud yn ofynnol i ddatblygiad gael ei gwblhau. Dyna'r senario. Pa...
Mohammad Asghar: Arweinydd y Tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd ar benderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod EMIS, y system glinigol sy'n darparu gofal iechyd integredig ac sy'n cael ei defnyddio gan hanner meddygfeydd Cymru? Mae pobl wedi dweud wrthyf i eu bod yn bryderus na fu unrhyw ymgynghori gyda'r meddygfeydd ac na roddwyd rheswm iddyn nhw dros y penderfyniad hwn,...
Mohammad Asghar: Diolch i chi, Llywydd. Yn ychwanegol at y cwestiwn yna, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud pryd y cyhoeddir y manylion am ba ysgolion a cholegau yn y de-ddwyrain fydd yn cael eu moderneiddio o dan fand B rhaglen addysg ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a sut y bydd y cynlluniau adeiladu hyn yn rhoi sylw i'r twf yn y galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn fy rhanbarth i yn arbennig?
Mohammad Asghar: Mae coridor yr M4 Casnewydd yn chwarae rôl hanfodol yn cysylltu de Cymru â Lloegr ac Ewrop. Mae'n un o'r ffyrdd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru, a choridor yr M4 yw'r porth economaidd a chymdeithasol i mewn i Gymru. Mae'n cysylltu ein porthladdoedd a'n meysydd awyr ac yn gwasanaethu ein diwydiant twristiaeth. Ddirprwy Lywydd, rwy'n byw o fewn 20m i 30m i'r M4 ac rwy'n teithio'n rheolaidd,...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb cadarnhaol hwnnw, Weinidog. Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn hanfodol ar gyfer marchnata Cymru yn effeithiol fel cyrchfan i dwristiaid. Mae Cynghrair Twristiaeth Cymru wedi mynegi pryder fod y gyllideb farchnata gyfredol ar gyfer Croeso Cymru, o'i chymharu â chyrchfannau sy'n cystadlu, yn annigonol i wireddu potensial y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. A yw...
Mohammad Asghar: 8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ddenu mwy o dwristiaid i Gymru yn y pumed Cynulliad? OAQ51704
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar amseroedd aros ar gyfer profion canser y coluddyn yng Nghymru? Mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Bowel Cancer UK wedi datgelu bod cleifion mewn pump o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru yn aros yn hwy ar gyfer y prawf i ddiagnosio canser y coluddyn. Mae'n achos pryder eu bod wedi canfod hefyd fod llai na hanner y...
Mohammad Asghar: Prif Weinidog, mae ymchwil wedi dangos bod menywod o gefndiroedd du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn llai tebygol o fynychu sgrinio serfigol na menywod gwyn. Canfu arolwg mai dim ond 28 y cant o fenywod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig fyddai'n gyfforddus yn siarad â meddyg teulu gwrywaidd am sgrinio serfigol, o'i gymharu â 45 y cant o fenywod gwyn. Dywedodd dwywaith gymaint o fenywod...
Mohammad Asghar: Fis Tachwedd diwethaf, Ysgrifennydd y Cabinet, cyhoeddodd Cymdeithas Feddygol Prydain bapur sefyllfa newydd ar y defnydd o e-sigaréts, a dyfynnaf yr hyn a ddywedai: Mae yna fanteision clir posibl i'w defnydd yn lleihau'r niwed sylweddol sy'n gysylltiedig â smygu, ac mae consensws cynyddol eu bod gryn dipyn yn llai niweidiol na defnyddio tybaco. Gyda rheoliadau priodol, mae gan e-sigaréts...
Mohammad Asghar: Ysgrifennydd y Cabinet, mae trafnidiaeth fforddiadwy yn hanfodol os yw pobl ifanc am gael mynediad at addysg a hyfforddiant er mwyn dysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar ein heconomi. Mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr yn nodi bod rhai prentisiaid yn gwario 20 y cant o'u hincwm ar deithio ac wedi galw am gyflwyno cerdyn teithio i brentisiaid. Clywais y Gweinidog yn sôn am fudd trethadwy. Ni...
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar ofalu am blant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, os gwelwch yn dda? Ddoe, dywedodd pennaeth gwasanaethau plant a theuluoedd cyngor Casnewydd, Sally Jenkins, wrth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus bod argyfwng o ran gofalu am blant sy'n derbyn gofal, gan fod y cynghorau yn ei chael hi'n anodd oherwydd diffyg gofalwyr maeth a gofal...
Mohammad Asghar: Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Bydd diddymu tollau ar bont Hafren ddiwedd y flwyddyn hon yn cael gwared ar un o'r rhwystrau sy'n atal ffyniant economaidd yn y de-ddwyrain. Clywsom yn gynharach, hefyd—yr wythnos diwethaf, cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, uwchgynhadledd yng Nghasnewydd ar sut y gallwn ni weddnewid rhagolygon economaidd a diwylliannol de...
Mohammad Asghar: 8. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella economi de-ddwyrain Cymru yn ystod y pumed Cynulliad? OAQ51658
Mohammad Asghar: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth ar yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau cysylltiadau agosach rhwng de-ddwyrain Cymru a Bryste a gorllewin Lloegr? Ddoe, cynhaliodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Alun Cairns, uwchgynhadledd twf Hafren yng Nghasnewydd ar sut y gallwn ni ddatblygu cysylltiadau economaidd, gan adeiladu ar ostwng y...