Mark Isherwood: Mae cyllidebu effeithiol yn ymwneud â faint a pha mor dda y caiff arian ei wario. Yn anffodus, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at fethiannau naill Lywodraeth Lafur Cymru ar ôl y llall wrth reoli ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Yn y flwyddyn cyn y pandemig, dyblodd amseroedd aros y GIG yng Nghymru a chynyddodd wyth gwaith yn ystod y pandemig. Adroddodd Sefydliad Joseph Rowntree y llynedd...
Mark Isherwood: Diolch. Diolch yn fawr am fy ngalw i. Yn dilyn fy nghwestiwn i'r Trefnydd yn gynharach, pan awgrymodd hi y gallwn i godi'r rhain gyda chi nawr, yn gyntaf, o ystyried eich cyfeiriad chi at yr heddlu yn benodol, sut fyddech chi'n ymateb i alwad Ffederasiwn Heddlu Gogledd Cymru am ystyried rhoi rhyw gymaint o flaenoriaeth i'r heddlu ar raglen frechu COVID-19. Fel y dywedodd eu hysgrifennydd...
Mark Isherwood: Rwy'n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch rhoi blaenoriaeth i oedolion awtistig ar gyfer y brechlyn COVID. Fel yr ysgrifennodd un etholwr, 'Mae fy mrawd yn byw yn y gogledd ac mae ganddo anabledd dysgu ac awtistiaeth. Fe gyfeiriodd at ymchwil ddiweddar gan Iechyd Cyhoeddus Lloegr a ganfu fod cyfradd y marwolaethau oherwydd COVID chwe gwaith yn uwch ymysg pobl ag anabledd dysgu...
Mark Isherwood: Mae Llywodraeth y DU wedi rhoi hwb o £7.4 biliwn i'r system les yn 2021, gan gynnwys y cynnydd dros dro o £20 yr wythnos i lwfans safonol credyd cynhwysol ac elfen sylfaenol credyd treth gwaith. Yn yr un ffordd â Llywodraeth Cymru, mae Llywodraeth y DU yn parhau i adolygu ei holl fesurau coronafeirws wrth i sefyllfa'r pandemig newid. Fel y cadarnhaodd Prif Weinidog y DU unwaith eto yr...
Mark Isherwood: Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fusnesau hunanarlwyo yn ystod y pandemig?
Mark Isherwood: Mae'n ddrwg gennyf, pwy wnaethoch chi ei alw?
Mark Isherwood: Mae'n ddrwg gennyf, ni allwn glywed. Mae ein DU wedi sicrhau cytundeb masnach gyda'r UE nad oedd neb yn credu ei fod yn bosibl. Moment wirioneddol hanesyddol i ni Brydeinwyr ar draws ein pedair gwlad. Y tro cyntaf erioed i'r UE gytuno ar gytundeb masnach di-dariff, di-gwota. Cytundeb sy'n galluogi Prydain fyd-eang sy'n edrych tuag allan i sicrhau cytundebau masnach â marchnadoedd newydd fel...
Mark Isherwood: Wel, mae pandemig COVID-19 wedi rhoi sioc fawr i farchnad dai'r DU, gyda nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd i gael eu hadeiladu yn ystod y tri chwarter cyntaf wedi gostwng ym mhob un o wledydd y DU. Fodd bynnag, roedd Cymru'n dechrau o'r sylfaen isaf. Y llynedd—y flwyddyn lle cafodd y lefel uchaf o gartrefi newydd eu cofrestru yn y DU ers 2007—cafwyd gostyngiad o dros 12 y cant yn y...
Mark Isherwood: Wel, rwyf am bwysleisio bod y cwestiynau rwyf wedi'u gofyn i chi wedi'u dwyn i fy sylw gan y sector, sy'n haeddu'r ganmoliaeth lawn y mae'r ddau ohonom wedi'i rhoi iddynt, ond hefyd maent yn poeni'n fawr na fydd y gyllideb eleni yr un fath â chyllidebau blynyddoedd blaenorol ac na fyddant yn cael y cynnydd sydd ei angen arnynt, o ystyried y gwaith gwych y maent wedi'i wneud a'r rôl hanfodol...
Mark Isherwood: Yn eich datganiad ar 23 Tachwedd, roeddech yn derbyn mewn egwyddor yr argymhellion yn nhrydydd adroddiad ac adroddiad terfynol y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd, gan gynnwys bwrw ymlaen ag ymyrraeth gynharach a gweithgarwch ataliol fel nad yw pobl yn mynd yn ddigartref yn y lle cyntaf. Dengys tystiolaeth fod bron i 50 y cant o bobl sengl ddigartref wedi mynd yn ddigartref am y tro cyntaf...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Mae COVID wedi dangos inni pa mor bwysig yw cyllid priodol i wasanaethau sy'n tynnu pwysau oddi ar wasanaethau statudol. Mae gwasanaethau a ariennir gan y grant cymorth tai yn chwarae rhan hanfodol yn atal digartrefedd a lleihau costau, yn enwedig i'r gwasanaeth iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae gweithwyr digartrefedd a chymorth tai wedi bod ar flaen y gad yn yr ymateb i...
Mark Isherwood: 7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cyflenwad o gartrefi newydd yng Nghymru? OQ56028
Mark Isherwood: Ar 3 Rhagfyr, cyhoeddodd yr arbenigwr troseddau a chyfiawnder Crest Advisory adroddiad ar linellau cyffuriau a phlant sy'n derbyn gofal. Yn seiliedig ar yr adroddiad hwnnw, galwais am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar gefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal yng ngogledd Cymru. Gan ddefnyddio data'r heddlu a chyfweliadau rhanddeiliaid yng ngogledd Cymru a Glannau Mersi a gafodd eu dewis i...
Mark Isherwood: Fel y dywed ein cynnig, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu dull mwy cymesur ac wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru. Maent yn datgan bod eu gweithredoedd yn seiliedig ar gyngor y grŵp cynghori technegol, ond er bod datganiad y grŵp ar 2 Rhagfyr yn cydnabod ymdrechion y diwydiant i greu amgylcheddau sy'n ddiogel rhag COVID, mae'n canolbwyntio yn lle hynny...
Mark Isherwood: Diolch. Mae ‘Cynlluniau Traffig wrth Gefn ar Ddiwedd y Cyfnod Pontio—Caergybi’, datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ddydd Llun, yn cyfeirio at waith gyda phartneriaid ledled gogledd Cymu, sy'n dda, ond mae'n hepgor cyfeiriad at ei waith gyda Llywodraeth y DU, a chyda Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi—CThEM—ac at y rôl allweddol sy'n cael ei chwarae gan AS Ynys Môn,...
Mark Isherwood: Ar sawl adeg dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi dwyn pryderon etholwyr i'ch sylw ynglŷn â'r llwybr coch arfaethedig i'r A55 yn Llaneurgain, gan nodi problemau, yn cynnwys effaith amgylcheddol ar gynefinoedd, dolydd a choetir hynafol. Rydych hefyd, fel y clywsom, wedi cael sylwadau helaeth ynglŷn â hyn i gefnogi'r llythyr agored gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, a anfonwyd...
Mark Isherwood: 2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael ynghylch Porthladd Caergybi ar ôl i gyfnod pontio'r UE ddod i ben? OQ55989
Mark Isherwood: Ar 23 Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru raglen beilot ar gyfer cefnogi ymweliadau â chartrefi gofal yng Nghymru. Rwy’n galw am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y ddarpariaeth i deuluoedd ymweld ag anwyliaid mewn cartrefi gofal y Nadolig hwn. Dywedodd datganiad Llywodraeth Cymru eich bod chi'n cynnig profion i ymwelwyr cartrefi gofal ar draws nifer fach o gartrefi gofal, gyda'r...
Mark Isherwood: Mae'r adroddiad 'Left Stranded', a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a phartneriaid, yn dangos bod pandemig y coronafeirws, yn ogystal â gwaethygu'r heriau hirsefydlog y mae pobl awtistig yn eu hwynebu yn sylweddol, wedi cael effaith andwyol iawn ar iechyd meddwl pobl awtistig a'u teuluoedd. Mae'r amseroedd aros am wasanaethau asesu a diagnosis a oedd eisoes yn hir yn...
Mark Isherwood: Ddiwedd mis Gorffennaf, cysylltodd etholwr â mi i ddweud bod ei gŵr, a oedd yn dioddef o gyflwr nad oedd yn COVID, wedi cael gwybod gan nyrsys fod tri chlaf wedi cael diagnosis o COVID ar ei ward yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Dim ond ar ôl i mi ymyrryd y cafodd ei symud i ward ochr un gwely gyfagos. Ni ddaliodd COVID-19. Y mis diwethaf, cysylltodd etholwr â mi i nodi bod ei dad, a oedd yn...