Lee Waters: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae pandemig y coronafeirws wedi ein hatgoffa y ceir llawer o bethau yr oeddem ni ar un adeg yn eu cymryd yn ganiataol nad ydym yn eu gwneud mwyach. Mae'r gallu i fynd i leoedd yn hawdd, i weld teulu, gweithio, neu gymdeithasu, yn bethau nad oes angen atgoffa yr un ohonom ni o'u pwysigrwydd wrth i 2020 ddod i ben. Er gwaethaf datblygiadau enfawr o ran defnyddio...
Lee Waters: Mae hynny'n anhygoel, oherwydd roeddwn ar fin gofyn i chi faint o amser oedd ar ôl gennyf.
Lee Waters: O'r gorau. Felly, i grynhoi, Ddirprwy Lywydd, rydym yn gwneud cynnydd. Nid yw'r cyflymder yn foddhaol i mi; mae'n peri rhwystredigaeth fawr, oherwydd mae'r rhwystrau, yn ddiwylliannol ac yn ymarferol mewn pandemig, yn sylweddol, ond byddwn yn eich annog i'n dwyn i gyfrif, oherwydd mae angen inni barhau i fwrw ymlaen â hyn. Nid agenda ar gyfer y tymor byr fydd hon; bydd yn cymryd amser i...
Lee Waters: Ac rydym yn cael rhai llwyddiannau, ond mae rhwystredigaethau hefyd, nid oes amheuaeth ynglŷn â hynny. A chredaf fod Jenny Rathbone yn iawn i herio'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn hyn o beth. Mae byrdwn y sylwadau hyd yma wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru, ond rydym angen dull system gyfan, ac mae gan bob corff cyhoeddus gyfrifoldeb i sicrhau eu bod yn defnyddio eu gwariant er budd eu...
Lee Waters: Ie, diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn ddadl ddadlennol oherwydd roeddwn wedi anghofio pa mor syml oedd hyn i gyd i'w ddatrys. Mae fy 23 mis diwethaf yn y Llywodraeth wedi fy nysgu ei fod ychydig yn fwy cymhleth, ond mae'n dda cael eich atgoffa ei fod yn llawer symlach na hynny. Roeddwn i'n meddwl ei fod yn adroddiad defnyddiol iawn, ac roedd y gwrandawiadau eu hunain yn...
Lee Waters: Wel, yn gryno, dyma'r trafodaethau yr ydym yn eu cael gyda'r diwydiant nawr. Rwy'n credu, o naws y datganiad y prynhawn yma, ein bod yn anfon neges gref atynt nad yw'n ddigon da bellach i ofyn am fwy o arian a bob tro yr ydym yn gofyn am rywbeth yn gyfnewid am hynny, i ddweud wrthym i neidio i mewn i lyn, sydd wedi digwydd yn ystod rhai o'r sgyrsiau yr ydym wedi'u cael gyda rhai o'r...
Lee Waters: Wel, o ran y pwynt olaf hwnnw, rydym yn datblygu modelu soffistigedig o'r rhagolygon ac ar gyfer profi senarios i ganiatáu i ddyfarniadau sy'n seiliedig ar ddata gael eu rhoi o ran lle i gyfeirio buddsoddiadau a lle mae bylchau yn y ddarpariaeth. Mae hwnnw'n rhywbeth y mae Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio arno, a dyna pam rydym yn awyddus i symud ymlaen at ddarparu'r gwasanaethau hyn...
Lee Waters: Wel, yn yr ysbryd hwnnw, Mr Melding, fe roddaf i'r bibell fygu o'r neilltu; ni fydd yna unrhyw sgyrsiau cil pentan yn y fan hon byth eto. Dim ond i ateb hanfod pwynt Dawn Bowden—. Mae'n rhaid i mi dalu teyrnged iddi am ei gwaith yn aelod o dasglu'r Cymoedd, gan gadeirio is-grŵp trafnidiaeth y tasglu, yn ein helpu ni i ddatblygu'r model sy'n ateb y galw, ac mae'r her a gyflwynodd i'r...
Lee Waters: Fe glywais i David Rowlands yn sôn am sawl bws yn dod yn fuan ar ôl ei gilydd ac yn cludo nifer fach o deithwyr. Mae hynny'n gwneud imi feddwl am yr holl bleidiau bach y mae ef wedi bod yn aelod ohonynt. Ond mae yna, wrth gwrs—. Mae'r sefyllfa y sonia amdani yn symptom o'r broblem sydd gennym gyda'n system trafnidiaeth gyhoeddus. Mewn amgylchedd nad yw'n cael ei reoleiddio, wrth gwrs, fe...
Lee Waters: Rwy'n credu bod bysiau wedi cael eu hesgeuluso fel rhan o'n system drafnidiaeth ni, ac maen nhw wir yn gwneud llawer iawn o waith cario. Y ffigur a grybwyllais i, i ailadrodd y pwynt am gyfiawnder cymdeithasol, yr wyf i'n credu ei bod hi'n werth ei ailadrodd—. Mae arolygon Trafnidiaeth Cymru o ddefnyddwyr bysiau'n dangos nad oes car preifat ar gael i 78 y cant o bobl sy'n teithio ar fws....
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn i chi. Yn amlwg, mae llawer iawn o ddiddordeb ar y cyd a chytundeb yn y sylwadau hynny gan Helen Mary, ac rwy'n croesawu hynny. O ran ei chwestiynau, bydd, fe fydd y rownd newydd o'r Gronfa Cadernid Economaidd ar gael, fel mewn rowndiau blaenorol, a oedd yn helpu cwmnïau bysiau a cherbydau, yn amodol, wrth gwrs, ar feini prawf cymhwysedd. Ond, mewn egwyddor, dyna yw ein...
Lee Waters: Diolch i chi. Nid wyf yn hollol siŵr pa fanylder ychwanegol y mae Russell George yn teimlo fy mod i'n ei gelu oddi wrth y Senedd. Mae gennyf sesiwn ddwy awr gerbron pwyllgor yr economi yn fuan, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at hynny, felly fe fydd yna ddigon o gyfle i fynd drwy unrhyw gwestiynau manwl sydd ganddo ef bryd hynny. Yn sicr, nid oes unrhyw ymgais wedi bod, ar fy rhan i, i guddio...
Lee Waters: Diolch. Fe hoffwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y trefniadau ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y cyfnod atal byr a gyhoeddodd y Prif Weinidog ddoe yn ogystal ag ateb cwestiynau am y goblygiadau i'n dull cyffredinol ni o weithredu. O ddydd Gwener ymlaen, rydym yn gofyn i bobl aros gartref. Fe fydd siopau manwerthu ar gau os nad ydyn nhw'n gwerthu nwyddau hanfodol, fe fydd...
Lee Waters: Cytunaf â hynny. Mae'n amlwg y bydd hyn—wyddoch chi, mae wedi cymryd degawdau inni gyrraedd y sefyllfa hon ac mae'n mynd i gymryd amser i newid y diwylliant ac i roi'r buddsoddiad ar waith ac ailgydbwyso'r buddsoddiad tuag at fesurau sy'n annog pobl i beidio â defnyddio ceir ac annog newid mewn dulliau teithio. Felly, ni fydd hyn yn digwydd drwy glicio bysedd. Gadewch i ni fod yn glir...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn. Croesawaf sylwadau Janet Finch-Saunders yn gynnes iawn. O ran y ddau bwynt penodol, mae gan awdurdodau lleol bwerau gorfodi sifil eisoes dros nifer o bethau. Yr hyn yr ydym yn ei wneud yn y fan yma yw ychwanegu arf at yr arfau. Felly, o safbwynt lleiafsymiaeth, nid ydym yn creu unrhyw waith ychwanegol na chyfrifoldebau ychwanegol iddynt; rydym yn rhoi arf ychwanegol...
Lee Waters: Roedd dau bwynt yn y fan yna, mewn gwirionedd. Yn gyntaf, cytunaf â Huw Irranca pan fo'n rhoi'r darlun a gyflwynodd Vikki Howells i ni hefyd, o strydoedd cul gyda cheir lluosog a cherbydau gwaith weithiau, ac rwy'n ailadrodd: ni allwn adeiladu ein ffordd allan o'r broblem hon. Mae hon yn broblem sydd wedi dod i'r amlwg dros yr 20 i 30 mlynedd diwethaf wrth i ddibyniaeth ar geir dyfu. Hyd yn...
Lee Waters: Dydw i ddim yn siŵr y byddaf yn gallu gwneud cyfiawnder â'r holl gwestiynau yna yn yr amser sydd ar gael. Mae nifer ohonyn nhw eisoes wedi cael sylw yn y datganiad. Felly, efallai y bydd Caroline Jones yn maddau i mi os nad wyf ond yn canolbwyntio ar y rhai nad ydynt wedi'u cynnwys. Credaf fod rhannu ceir yn fater hollbwysig, a bydd annog pobl i wneud yr hyn a elwir yn 'ddewisiadau...
Lee Waters: Diolch. Iawn ceisiaf fod yn gryno mewn ymateb. Rydym, fel rhan o'r 'Polisi Cynllunio Cymru' diweddaraf a gyhoeddwyd, tua dwy flynedd yn ôl bellach, wedi rhoi'r hierarchaeth o ddefnydd ffyrdd o fewn y canllawiau hynny, sy'n rhoi cerddwyr ar y brig a cheir ar y gwaelod, ac mae sicrhau bod hynny'n cael ei weithredu ym mhob adeilad newydd, mi gredaf, yn mynd i fod yn hanfodol er mwyn sicrhau nad...
Lee Waters: Diolch yn fawr iawn ac rwy'n gwerthfawrogi'r gefnogaeth honno. Rwy'n credu bod hwn yn fater trawsbleidiol ac y bydd yn cymryd nifer o flynyddoedd i ddod i rym, a chredaf, gan ei fod yn cael ei orfodi gan bob awdurdod lleol o bob lliw, mae'n bwysig cynnal y consensws hwnnw, ac rwy'n falch fy mod wedi cael trafodaethau gydag arweinwyr awdurdodau lleol a chyda chomisiynwyr heddlu a throseddu,...
Lee Waters: Diolch. Rwy'n credu y gallaf roi rhywfaint o sicrwydd i leddfu pryderon Russell George, oherwydd mae wedi nodi'r broses o orchmynion rheoleiddio traffig ac eithrio strydoedd ar draws ardal fawr a fyddai'n berthnasol pe bai gwaharddiad cyffredinol, ond, fel yr wyf wedi'i wneud yn glir, nid creu gwaharddiad cyffredinol yw cynnig y tasglu, na chynnig Llywodraeth Cymru. Felly, ni fydd angen yr...