Canlyniadau 481–500 o 2000 ar gyfer speaker:Jane Hutt

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: System Les i Gymru (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Mae'n hanfodol ein bod yn cael y cyllid, y budd-daliadau, i'r aelwydydd ar yr incwm isaf, ac mae angen inni symud hynny ymlaen, gan ddysgu gwersi a bwrw ymlaen â llawer o'r argymhellion, byddwn yn dweud, a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn y Senedd flaenorol ynghylch y nifer sy'n manteisio ar fudd-daliadau. Soniais am ddatblygu siarter ar gyfer system...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: System Les i Gymru (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Rydym yn cydgynhyrchu siarter gyda rhanddeiliaid a fydd yn sail i ddarparu system fudd-daliadau gydlynol a thosturiol i Gymru. Fodd bynnag, mae'r ffocws uniongyrchol ar sicrhau bod ein taliadau cymorth ariannol presennol a newydd yn cyrraedd aelwydydd ledled Cymru y mae eu hincwm dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Argyfwng Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Mae'n ymddangos bod rhai'n gwadu achosion yr argyfwng costau byw sy'n effeithio ar gynifer o'n plant a'n pobl ifanc a'n haelwydydd, yn sgil y nifer mawr o bwyntiau a chwestiynau a thrafodaethau a gawsom y prynhawn yma. Rwy'n falch iawn fod gennym y cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU, a chafodd ei ymestyn yr wythnos diwethaf gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn estyn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Argyfwng Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch, Vikki Howells. Rwy'n falch iawn eich bod wedi tynnu sylw at y cyhoeddiad diweddaraf ar 14 Mawrth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ynglŷn â'r grant datblygu disgyblion - mynediad, oherwydd roedd hynny'n rhan o'n cyhoeddiad £330 miliwn. Gallaf rannu yn awr ar draws y Siambr eto y bydd yn cynyddu £100 y dysgwr—mae'r Gweinidog wedi gwneud datganiad yn ei gylch—i'r rheini sy'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Argyfwng Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr. Mae hwnnw hefyd yn gwestiwn pwysig iawn, oherwydd roedd yn destun balchder pan gyhoeddwyd gennym, sawl blwyddyn yn ôl bellach, y byddai brecwast am ddim yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, ac roedd yn gynllun brecwast am ddim mewn ysgolion a oedd i fod ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru. Rwy'n ymwybodol fod gan rai ysgolion eu cynlluniau eu hunain cyn hynny. Yn amlwg, rhaid...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Yr Argyfwng Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Mae gwaith dadansoddi diweddar gan sefydliadau fel Sefydliad Joseph Rowntree, Sefydliad Bevan a Plant yng Nghymru wedi dangos bod cartrefi â phlant ymysg y rhai sydd wedi eu taro waethaf gan yr argyfwng costau byw. Mae hyn wedi effeithio'n benodol ar y rhai sy'n unig rieni a'u plant. 

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr iawn unwaith eto am eich cwestiwn dilynol. Mewn gwirionedd, rydym wedi gweithio gyda Llywodraeth yr Alban, fel y gwyddoch, fel bod Prif Weinidog yr Alban a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, wedi codi’r cynnig hwn inni ddod yn uwch-noddwyr, yn seiliedig ar ein profiad mewn gwirionedd, ein hymrwymiad fel cenedl noddfa, ein profiad o ganlyniad i’r bobl a adawodd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr, Sioned Williams. Ac wrth gwrs, rwy’n cymeradwyo ymrwymiad y Prif Weinidog i hyn. Mae angen inni sicrhau nad oes unrhyw rwystrau rhag cefnogi pobl sy’n ffoi rhag y rhyfel yn Wcráin. Rydym am ddarparu noddfa a diogelwch yng Nghymru. Rydym am iddynt ddod yma. Gellir gwneud unrhyw wiriadau sydd eu hangen pan fyddant wedi cyrraedd yma, felly rwy'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Gwneuthum ddatganiad ychydig wythnosau yn ôl, fel y byddwch yn cofio, ar urddas mislif, yn tynnu sylw unwaith eto at y ffaith ein bod wedi blaenoriaethu hyn yn ein rhaglen lywodraethu. Mae gennym ein cynllun gweithredu strategol ar urddas mislif o ganlyniad i ymgynghori, ac rwy'n cadeirio grŵp bord gron gyda rhanddeiliaid allanol, gan gynnwys y rheini o'r sector addysg, ysgolion a cholegau....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch, Mark Isherwood. Wel, rwy'n fwy na pharod i gyfarfod ag Hourglass. Ond hefyd, rwyf wedi cyfarfod â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru mewn perthynas â'r mater hwn, sydd, ei hun a chyda’i thîm, wedi gwneud ymchwil ac wedi ymgysylltu â phobl hŷn i nodi achosion o gam-drin pobl oedrannus. Mae hyn yn hanfodol i gam nesaf ein strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch, Mark Isherwood, am gwestiynau pwysig iawn mewn perthynas â chyflawni ein hymrwymiadau i Sipsiwn, Roma a Theithwyr er mwyn sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflawni eu dyletswyddau statudol i ddarparu safleoedd digonol a phriodol lle bo angen. Ac fe wnaethom ail-greu'r ddyletswydd hon—Llywodraeth Cymru a'r Senedd yma—i nodi a diwallu'r angen am lety priodol. Mae hynny o fewn—ac...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Jane Dodds. Wrth gwrs, bydd yr argyfwng costau byw yn arwain at drafferthion ariannol i lawer mwy o aelwydydd yng Nghymru, gan gynnwys y rheini mewn ardaloedd gwledig. Rydym wedi canolbwyntio ein cymorth, gyda'r Gweinidog cyllid, ar yr aelwydydd mwyaf agored i niwed ac rydym wedi cyhoeddi dadansoddiad sy'n dangos dosbarthiad ac effeithiau ein hymateb uniongyrchol, y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr, Heledd Fychan. Ac mae'n galonogol iawn eich bod wedi cynnal yr uwchgynhadledd leol honno hefyd a edrychai ar yr argyfwng costau byw. Cawsom dros 140 o bartneriaid yn yr uwchgynhadledd ar gyfer Cymru gyfan, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, sy’n hollbwysig ar lefel yr awdurdodau lleol ar gyfer cydgysylltu, yn ogystal â’r sector gwirfoddol i ateb y galw hwnnw....

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Wel, Janet Finch-Saunders, er budd y bobl sydd eisoes wedi elwa o'n cynllun cymorth tanwydd y gaeaf unigryw a phwrpasol, mae’n wirioneddol bwysig gweld y ffaith bod y cynllun hwnnw wedi estyn allan, yn enwedig at yr aelwydydd sy’n cael budd-daliadau oedran gweithio sy'n dibynnu ar brawf modd i’w cynorthwyo gyda chostau tai hanfodol, a chydnabod bod llawer ohonynt wedi colli credyd...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Alun Davies. Ac yn wir, canlyniad degawd o gyni a grëwyd yn Stryd Downing, yw bod pobl, aelwydydd yn wynebu'r argyfwng costau byw hwn. Mae’n argyfwng costau byw Torïaidd, ac mae’n cael ei achosi gan brisiau ynni cynyddol, ond hefyd, mae pwysau ar gyllidebau aelwydydd, newidiadau i'r credyd cynhwysol, yn golygu y bydd tri chwarter yr aelwydydd ar gredyd cynhwysol yn...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Costau Byw (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Ar 16 Tachwedd, cyhoeddais becyn cymorth gwerth £51 miliwn ar gyfer aelwydydd incwm isel. Yn ogystal, ar 14 Chwefror, gwnaethom gyhoeddi pecyn cymorth gwerth mwy na £330 miliwn, i ariannu amrywiaeth o fentrau a fydd yn cynorthwyo aelwydydd Cymru i ymdopi â'r argyfwng costau byw.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mike Hedges. Fis Hydref diwethaf, gwnaeth penderfyniad Llywodraeth y DU i ddod â'r codiad o £20 yr wythnos i'r credyd cynhwysol i ben orfodi miloedd o aelwydydd ledled Cymru i fywyd mewn tlodi. Hefyd, gyda rhagolygon y bydd chwyddiant yn cyrraedd 7 y cant, cafodd y cynnig i gymeradwyo’r cynnydd o 3.1 y cant yn unig mewn taliadau budd-daliadau lles o fis Ebrill ymlaen...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Diolch, Mark Isherwood. Wel, fe wyddoch mai'r ysgogiadau allweddol ar gyfer trechu tlodi yw'r pwerau dros y system dreth a lles sydd gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn gwneud popeth a allwn i leihau effeithiau tlodi a chefnogi'r rheini sy'n byw mewn tlodi. Ac fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'n cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ar gyfer 2022, gyda'r taliad o £200, a gynorthwyodd deuluoedd i dalu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Tlodi (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Mae ein rhaglen lywodraethu'n nodi uchelgeisiau clir i sicrhau Cymru fwy llewyrchus a mwy cyfartal a chreu canlyniadau gwell i bobl. Rwy’n gweithio gyda chyd-Aelodau o'r Cabinet i sicrhau bod ymrwymiadau'r rhaglen yn cael eu llunio a’u cyflawni gyda threchu tlodi ac anghydraddoldeb yn nod canolog.

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol (16 Maw 2022)

Jane Hutt: Mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer cartrefi ar incwm is yn arbed tua £300 y flwyddyn iddynt drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae cartrefi oedran gweithio cymwys hefyd yn elwa ar gymorth tanwydd y gaeaf, sef taliad o £200. Ac mae taliad costau byw o £150 yn cael ei wneud i eiddo ym mandiau treth gyngor A i D.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.