Canlyniadau 481–500 o 900 ar gyfer speaker:Carl Sargeant

9. 7. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016 (31 Ion 2017)

Carl Sargeant: Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon heddiw. Gan droi at y gwelliannau yn gyntaf, os caf, byddwn yn cefnogi gwelliant 1. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi amlinellu ei dull tri cham o werthuso Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a fydd yn cynnwys asesiadau o gymhwysedd unigolion sydd angen gofal a chefnogaeth. Mae'r dull a ddefnyddir yn darparu...

9. 7. Dadl: Yr Adroddiad Blynyddol ar Gydraddoldeb 2015-2016, gan gynnwys Adroddiad Interim Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2016 (31 Ion 2017)

Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar hyrwyddo mwy o gydraddoldeb, gan ganolbwyntio'n benodol ar y cynnydd a wnaed mewn partneriaeth â chyrff cyhoeddus eraill, a’r trydydd sector. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd yr adroddiad blynyddol 2015-16 ar gydraddoldeb, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Llywodraeth Cymru wedi bodloni’i dyletswyddau cydraddoldeb. Eleni,...

9. 9. Dadl Fer: Cywiro'r Cam — Honiadau Hanesyddol yn ymwneud â Disgyblion yn Ysgolion Preswyl y Royal Cambrian a Llandrindod ar gyfer Plant Byddar (18 Ion 2017)

Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Julie Morgan am arwain y ddadl hon heddiw. Er bod y sylwadau y gallaf eu gwneud ar yr honiadau penodol hyn yn gyfyngedig o reidrwydd, mae bob amser yn bwysig i ni ddysgu o’r gorffennol a chydnabod canlyniadau gydol oes cam-drin i oroeswyr. Gan fod Julie wedi nodi’r materion penodol yn ymwneud â honiadau hanesyddol mewn perthynas â...

2. Cwestiwn Brys: NSA Afan (17 Ion 2017)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Rwy’n gobeithio y bydd fy nhîm yn rhoi argymhellion i mi ar ddyfodol y NSA a'r rhaglen erbyn diwedd yr wythnos hon. Mae fy nhîm eisoes wedi dechrau trafodaethau â NSA Afan, a hefyd â'r awdurdod lleol o ran unrhyw ganlyniadau posibl yn y dyfodol.

2. Cwestiwn Brys: NSA Afan (17 Ion 2017)

Carl Sargeant: Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar am gyfraniad yr Aelod. Rwy’n diolch iddo ef ac i eraill am godi'r mater hwn gyda mi yn y gorffennol. Mae hyn yn cael ei ymchwilio gan Lywodraeth Cymru a gan yr heddlu ac nid wyf yn gallu rhoi unrhyw fanylion pellach am hyn i'r Siambr heddiw, ond pan fyddwn yn codi'r gwaharddiad, os byddwn yn gwneud hynny, ar gefnogaeth i NSA Afan, neu fel arall, byddaf yn...

2. Cwestiwn Brys: NSA Afan (17 Ion 2017)

Carl Sargeant: Lywydd, diolchaf i'r Aelod am ei chyfraniad. Mae'r Aelod yn gwneud llawer o ragdybiaethau yn ei chyfraniad, ac mae rhai ohonynt nad ydynt yn ffeithiol gywir. Mae NSA Afan yn destun ymchwiliad parhaus gan Lywodraeth Cymru, ac rydym yn gweithio gydag awdurdodau eraill, gan gynnwys yr heddlu, ar hyn o bryd.

2. Cwestiwn Brys: NSA Afan (17 Ion 2017)

Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae NSA Afan yn destun ymchwiliad parhaus Llywodraeth Cymru i honiadau o gamddefnyddio posibl o arian. Rydym yn gweithio gyda'r awdurdodau perthnasol, gan gynnwys yr heddlu, ar hyn o bryd. Byddai'n amhriodol imi wneud unrhyw sylwadau pellach.

7. 5. Dadl Plaid Cymru: Troi Allan Aelwydydd â Phlant (14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ddirprwy Lywydd, rwy’n hapus i gefnogi’r cynnig, sy’n adlewyrchu’r gwaith sy’n cael ei wneud eisoes gan Lywodraeth Cymru a’r cynghorau, a’n hymrwymiad ar y cyd i fynd â hyn ymhellach. Mae atal digartrefedd a mynd i’r afael â’i achosion sylfaenol yn parhau’n flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Mae hyn yn arbennig o bwysig lle y mae plant yn y...

3. Cwestiwn Brys: Darpariaeth Swyddfeydd Post (14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn iawn; bwriad yr ymgynghoriad sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd yw llywio’r cais nesaf am gymorth gwladwriaethol er mwyn caniatáu i’r Llywodraeth barhau i ariannu elfennau aneconomaidd rhwydwaith Swyddfa’r Post, a chredaf y dylent edrych ar hynny’n ofalus iawn. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud sylwadau a byddwn yn annog yr Aelod i wneud yr un peth.

3. Cwestiwn Brys: Darpariaeth Swyddfeydd Post (14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Credaf y byddai’n anodd pe baem yn dechrau cael cwestiynau brys gan y ‘Telegraph’ bob wythnos—am ei fod yn y ‘Telegraph’. Buaswn yn awgrymu nad oedd hynny’n wir yn yr achos hwn, ond gwelais innau’r erthygl yn y cyhoeddiad hwnnw. Byddaf yn hapus i rannu ymateb y Llywodraeth gyda’r Aelodau yn ogystal â’r ymateb gan Weinidogion y DU.

3. Cwestiwn Brys: Darpariaeth Swyddfeydd Post (14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Rwy’n sicr yn cefnogi’r egwyddor o gefnogi swyddfeydd post yn ein cymunedau, ac mae hynny’n briodol, ond mae’r Aelod yn iawn mai penderfyniad ar gyfer Llywodraeth y DU yw hwn. Nid wyf yn ymwybodol o’r cynlluniau i gau swyddfeydd post gwledig. Credaf efallai fod yr Aelod wedi darllen y stori hon yn y ‘Telegraph’—[Torri ar draws.]—a ffynonellau eraill o wybodaeth. Yn ôl yr...

3. Cwestiwn Brys: Darpariaeth Swyddfeydd Post (14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd swyddfeydd post a’r gwasanaethau pwysig y maent yn eu darparu i gymunedau lleol. Fel y gŵyr yr Aelod, nid yw hwn yn fater datganoledig, ond yn ôl yr hyn rwy’n ei ddeall, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar rwydwaith y swyddfeydd post ar hyn o bryd. Nid yw’r ymgynghoriad hwn yn cynnwys unrhyw gynigion penodol ar gyfer...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tasglu’r Cymoedd
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Yn wir. Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn pwysig o ran y gwaith anodd o newid rhai o’n cymunedau mwy datgysylltiedig y tu allan i’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae’r rhaglen Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid wedi cyflawni nifer o raglenni llwyddiannus, ond rwy’n cydnabod y mater a grybwyllodd yr Aelod, ac mae Alun Davies, yn benodol, wedi tynnu fy sylw at y materion hyn....

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tasglu’r Cymoedd
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Diolch am gwestiwn yr Aelod. Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi rhaglenni adfywio dilynol yn y Cymoedd, gan gynnwys y rhaglen gyfalaf bresennol, Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Rwyf wedi archwilio gyda’r Gweinidog sut y gall pob rhan o fy mhortffolio gefnogi’r gwaith y mae’n ei wneud ochr yn ochr â’r blaenoriaethau a ddaw’n amlwg ar gyfer y tasglu.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant yn Ne Cymru
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn iawn i nodi’r mater pwysig hwn, a gwnaethom ddatganiad ddoe a chredaf fy mod wedi cael tri chwestiwn heddiw ynglŷn â thlodi plant. Felly, mae’n rhan o agendâu pawb, ac mae hynny’n briodol. Dywedais yn y datganiad ddoe nad yw’r holl ddulliau ac ysgogiadau yn ein dwylo ni i allu cyrraedd y targed uchelgeisiol erbyn 2020, a byddaf yn agored iawn ynglŷn â hynny, ond...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Adfywio Cymunedau yn Sir Benfro
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Dyma holl ddiben y Ddeddf llesiant. Mae llesiant cymuned yn seiliedig ar edrych ar beth sydd ei angen ar y gymuned, yr hyn sydd gan y gymuned a’r hyn y gallwn ei ddatblygu gyda hwy. Unwaith eto, nid wyf yn gyfarwydd â’r hyn sydd yn y cwestiwn penodol iawn a ofynnodd yr Aelod, ond ymddengys i mi y gellid bod wedi cynllunio ar gyfer hyn yn y lle cyntaf. Buaswn yn annog yr Aelod i fynd ar...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Tlodi Plant yn Ne Cymru
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae ein blaenoriaethau o ran trechu tlodi plant yn cynnwys adeiladu economi gref, cynyddu cyflogadwyedd a chynorthwyo rhieni i gael gwaith, a gwella canlyniadau yn y blynyddoedd cynnar.

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Adfywio Cymunedau yn Sir Benfro
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr effaith y gall cau banc ei chael ar etholaethau, ac mae Aelodau eraill wedi nodi hynny hefyd. Ymddengys fod popeth wedi mynd o chwith ers i’r Aelod adael, efallai, o ran ei rôl flaenorol. Yn benodol yn Sir Benfro, rydym yn cefnogi Cyngor Sir Penfro gyda £1.25 miliwn drwy gynllun benthyciadau canol trefi Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid er mwyn lleihau nifer...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Rhaglen Atal Trais Caerdydd
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn hollol iawn, ac unwaith eto, mae’n rhaglen ardderchog, gyda’r ymchwil yn deillio nid o’r sector diogelwch cymunedol ond o’r sector meddygol, ac roedd hynny’n ddiddorol iawn. Wrth fesur yr effaith yng Nghaerdydd, gwelsom 42 y cant o ostyngiad yn lefelau trais, sy’n ostyngiad mawr iawn. Mae’n rhaid i ni barhau i gyflwyno’r rhaglen hon, ac fel y dywedais wrth...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Adfywio Cymunedau yn Sir Benfro
(14 Rha 2016)

Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Y blaenoriaethau adfywio ar gyfer Sir Benfro yw cefnogi canol trefi a helpu i gynnal cymunedau cryfion. Cyflawnir hyn drwy gymorth y gronfa benthyciadau canol trefi a chynllun partneriaeth canol y dref.

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.