Lynne Neagle: Diolch i chi, Ddirprwy Lywydd. Fel arfer, rwy'n cychwyn drwy ddweud ei bod hi'n bleser cael agor y ddadl, ond heddiw, mae'n fwy na phleser; rwy'n falch, ac mae'n fraint cael annerch y Siambr hon ar adroddiad 'Cadernid Meddwl' y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. I mi, iechyd emosiynol a iechyd meddwl ein plant a'n pobl ifanc yw un o'r materion pwysicaf, os nad y mater pwysicaf, i ni fel...
Lynne Neagle: Diolch. Yn ddiweddar, mynychais y digwyddiad plant, pobl ifanc a democratiaeth yma yn y Senedd, lle cefais weld yr hyn a oedd, yn fy marn i, yn brosiect Cyfraith Stryd gwirioneddol arloesol a gynlluniwyd i roi dealltwriaeth dda i blant o'r gyfraith a'u hawliau. Tynnwyd sylw ato, mewn gwirionedd, pan ymwelodd Hillary Clinton â Chymru yn ddiweddar. O gofio ein hymrwymiad i hawliau plant ac o...
Lynne Neagle: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n falch iawn fod gennyf gannoedd o etholwyr ar gyflogau da mewn swyddi medrus ac undebol ym maes gweithgynhyrchu yn y sector modurol yn Nhorfaen. Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel finnau, wedi gweld nifer o rybuddion gan arbenigwyr fod Brexit, yn enwedig Brexit lle rydym yn gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl, yn fygythiad difrifol iawn i weithgynhyrchu...
Lynne Neagle: 1. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o effaith Brexit ar y diwydiant moduron? OAQ52464
Lynne Neagle: 2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hawliau plant? OAQ52458
Lynne Neagle: Ychydig wythnosau yn ôl, fe wnes i gynnal lansiad 'Beichiogrwydd a babis', adroddiad pwysig newydd ar iechyd meddwl amenedigol yng Nghymru, a oedd yn gydweithrediad rhwng NSPCC Cymru, y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl, Mind Cymru a’r Sefydliad Iechyd Meddwl. Daeth y cyhoeddiad hwn, wrth gwrs, yn sgil cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar iechyd meddwl...
Lynne Neagle: Prif Weinidog, rydych chi'n gwbl ymwybodol o fy mhryder mawr ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i 'Cadernid meddwl'. Nawr, nid wyf i eisiau achub y blaen ar y ddadl yn y pwyllgor yfory, gan na fyddai'n bosibl gwneud cyfiawnder â'r mater hwn mewn cwestiwn, ond a gaf i ofyn i chi roi eich sicrwydd i mi y gwnewch chi ystyried yn ofalus iawn yr hyn sy'n digwydd yn y ddadl honno yfory, gyda'r nod...
Lynne Neagle: Rwy'n falch iawn o wneud cyfraniad byr yn y ddadl hon. Fel y nododd David Rowlands, cyflwynwyd y ddeiseb 'Gwnewch y MTAN yn gyfraith' gan un o fy etholwyr, Dr John Cox, ac rwyf wedi gweithio'n agos gydag ef ar y ddeiseb honno ac wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Deisebau ym mis Mai 2013. Fel y dywedodd David Rowlands, cyflwynwyd y ddeiseb wedi i gyngor Torfaen wrthod y cais ar gyfer...
Lynne Neagle: Wel, fel y mae Simon Thomas yn gwybod, mae un o'r materion allweddol yr ydym wedi'i godi gyda Llywodraeth Cymru yn ymwneud â holl dryloywder y ffordd y pennir y gyllideb, ac rwy'n gobeithio, yn y cylch cyllidebol y byddwn yn mynd i mewn iddo, y byddwn yn fwy tryloyw ac y gallwn graffu'n well ar y penderfyniadau hynny. Hefyd, rwy'n gobeithio y bydd ein hymchwiliad yn gwneud gwahaniaeth mawr,...
Lynne Neagle: Wel, rhaid i mi ddweud nad wyf yn cydnabod yr haelioni rydych wedi'i ddisgrifio gan Lywodraeth San Steffan, a chredaf ei bod hi'n anodd iawn gwneud cymariaethau rhwng Cymru a Lloegr ar ariannu ysgolion, a dyna un o'r rhesymau pam y credaf fod yr ymchwiliad hwn mor bwysig. Rhaid inni fynd at wraidd beth yn union sy'n cael ei wario, faint sy'n mynd i'r grant cynnal refeniw, faint mewn...
Lynne Neagle: Diolch i chi, Lywydd, am y cyfle i wneud cyfraniad byr i'r ddadl hon. Fel y bydd yr Aelodau'n deall, mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg wedi bod â diddordeb brwd iawn mewn materion cyllido ers inni gael ein sefydlu. Roedd un o'n hymchwiliadau cynharaf yn ymwneud â'r penderfyniad i gyfuno cyllid y grantiau a oedd wedi'u clustnodi'n flaenorol ar gyfer dysgwyr o leiafrifoedd ethnig a...
Lynne Neagle: Diolch. Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog wedi darllen, gyda phryder, manylion cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Brexit 'dydd y farn', fel y'i gelwir, lle byddai'r ail sefyllfa waethaf ohonom ni'n gadael yr UE heb gytundeb yn arwain at fethiant porthladd Dover, prinder bwyd, prinder tanwydd, a'r GIG yn rhedeg allan o feddyginiaethau o fewn pythefnos. A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog pa...
Lynne Neagle: 9. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau gyda Llywodraeth y DU am Brexit? OAQ52334
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon. Mae wedi bod yn ddadl ardderchog a defnyddiol iawn, a llawer ohoni wedi adlewyrchu rhai o'r tensiynau sy'n amlwg yn yr adroddiad, mewn gwirionedd. Dechreuodd Mark Reckless drwy sôn am y cyfaddawd rhwng darpariaeth gyffredinol a darpariaeth wedi'i thargedu, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n ganolog iawn i'r...
Lynne Neagle: Yn 2014, cyflwynwyd trefniadau allgymorth mewn ymateb i bryderon fod seilio hawl i wasanaeth ar god post teulu yn arwain at allgáu llawer o'r plant a oedd fwyaf o angen cymorth. Crëwyd elfen allgymorth y rhaglen i alluogi awdurdodau lleol i ddarparu pedair elfen graidd Dechrau'n Deg i ganran fach o'u poblogaeth sy'n byw y tu allan i ardaloedd dynodedig Dechrau'n Deg. Dewisom gynnal...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar elfennau allgymorth y rhaglen Dechrau'n Deg. Cyflwynwyd Dechrau'n Deg 11 mlynedd yn ôl ac fe'i hystyrir yn un o raglenni blynyddoedd cynnar blaenllaw Llywodraeth Cymru. Caiff ei chyflawni gan awdurdodau lleol mewn ardaloedd daearyddol diffiniedig ac fe'i hystyrir...
Lynne Neagle: Hoffwn innau hefyd roi croeso cynnes iawn i'r datganiad hwn heddiw. Mae'n gyffrous iawn gweld y cynnydd sydd wedi'i wneud a graddau'r cynigion a fydd yn galluogi ein pobl ifanc i gael llais go iawn yn y senedd ieuenctid newydd hon. Hoffwn ddiolch i'r Llywydd a'i thîm am eu holl waith, oherwydd gwn fod maint y logisteg yn hyn wedi bod yn heriol iawn, ond hefyd diolch i'r bobl ifanc ar hyd a...
Lynne Neagle: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am y datganiad pwysig hwn. Fel yr ydych chi'n ymwybodol, yn ddiweddar mae'r Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg wedi cyhoeddi ein hadroddiad i iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc, ac mae nifer o themâu sy'n codi yn ein hymchwiliad eang yn cyd-fynd â chanfyddiadau allweddol y panel o arbenigwyr. Yn gyntaf, bod y dull ysgol gyfan yn...
Lynne Neagle: A gaf i ddiolch ichi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet? Rwy'n croesawu hefyd eich bod yn cydnabod bod yr adroddiad yn amlinellu'r amrywiaeth o ddiffygion a arweiniodd at achosi niwed gwirioneddol. Mae gennyf ambell bwynt penodol yr hoffwn i holi yn eu cylch mewn cysylltiad â'r adroddiad. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r pryderon a grybwyllwyd ynglŷn â'r driniaeth y mae pobl yn ei...
Lynne Neagle: Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n falch iawn, er gwaethaf heriau cyni cyllidol, mai cyngor Torfaen oedd yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i eithrio pobl sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor tan neu bod yn 21 oed, neu'n 25 oed o dan rai amgylchiadau. Fel y byddwch yn gwybod, dilynwyd y penderfyniad hwnnw gan chwe awdurdod lleol arall. Bydd yr eithriad hwn yn cynnig cyfle hollbwysig i'r...