Laura Anne Jones: Rydym i gyd yn cydnabod pwysigrwydd cymryd rhan mewn chwaraeon i blant, pobl ifanc ac oedolion. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon tîm yn hybu iechyd a lles, yn adeiladu hyder, yn meithrin disgyblaeth i weithio fel tîm, ac mae'n helpu i gynnal iechyd meddwl. Mae angen i'r Llywodraeth hon ymrwymo i sicrhau bod plant ac oedolion o bob gallu yn y byd chwaraeon a phob rhan o Gymru, boed drefol neu...
Laura Anne Jones: Mae fy meic ar agor nawr. Mae'n ddrwg gennyf, fe gymerodd hynny beth amser. Diolch, Lywydd. Dadl yw hon ar baratoi at y dyfodol, am gaeau chwaraeon porfa artiffisial yng Nghymru. Diolch, Lywydd, ac rwyf wedi cytuno y gall Jack Sargeant a Rhun ap Iorwerth gael amser i gyfrannu at y ddadl, a diolch iddynt ymlaen llaw am eu cyfraniadau.
Laura Anne Jones: Diolch yn fawr.
Laura Anne Jones: Weinidog, rydym mewn ras i achub bywydau a busnesau ac iechyd meddwl. Mae croeso mawr i'r newydd heddiw gan y swyddog meddygol fod y gyfradd R wedi gostwng a bod gwelliant amlwg yng nghyfraddau'r trosglwyddiad cymunedol ledled ein gwlad. Mae hyn yn galonogol iawn. Fodd bynnag, fel y clywsom gan Helen Whyley o'r Coleg Nyrsio Brenhinol ar y BBC heddiw, ni allwn fod yn hunanfodlon. Mae'r GIG yn...
Laura Anne Jones: Diolch, Weinidog. Gan ehangu ar y cwestiwn hwnnw, hoffwn ofyn i chi am fusnesau sy'n cwympo drwy'r bylchau gan fod cryn dipyn o fusnesau’n cwympo drwy'r bylchau o hyd. Felly, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi'i ddweud, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion a'r hyn rydych yn bwriadu ei wneud yn ei gylch. A gaf fi ofyn i chi'n benodol ynghylch cymorth i bobl hunangyflogedig sy'n gweithio...
Laura Anne Jones: Rwy'n croesawu'r ddadl hon y prynhawn yma ar yr adolygiad blynyddol o gydraddoldeb a hawliau dynol. Mae'r adolygiad yn nodi pum nod blaenoriaeth ar gyfer cryfhau'r cyfreithiau cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a'r pethau hynny yr hoffwn i fynd i'r afael â nhw yn fy sylwadau heddiw. Eu nod cyntaf yw hyrwyddo cyfle cyfartal i fanteisio ar y farchnad lafur. Y ffaith drist yw bod menywod...
Laura Anne Jones: —a nawr maen nhw wedi colli eu trysor pennaf. Rwy'n annog y Llywodraeth i ryddhau cynlluniau ynghylch sut y byddan nhw'n gweithio gyda chyngor Casnewydd i adfywio canol y ddinas. Llawer o ddiolch.
Laura Anne Jones: Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad ar ymateb Llywodraeth Cymru i'r newyddion dinistriol y bydd siopau Debenhams nawr yn cau ledled ein gwlad? Mae cau'r siopau a'i gynlluniau i adfywio ein trefi a'n dinasoedd yn fater o frys nawr. Mae cau siopau Debenhams ledled ein gwlad, ar ôl iddyn nhw gael eu meddiannu gan Boohoo, yn golygu colli cannoedd o swyddi a bydd yn ergyd drom i ddinasoedd, fel...
Laura Anne Jones: Hoffwn innau, hefyd, ddiolch i bawb ym mwrdd iechyd Aneurin Bevan am y gwaith ardderchog y maen nhw'n ei wneud yn darparu'r brechlyn, ond hefyd y ffyrdd adweithiol eithriadol, fel y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud, y maen nhw wedi ymdrin â'r pandemig hwn. Fel y gwyddoch chi, Prif Weinidog, mae canolfan y Fenni yn Sir Fynwy yn darparu brechlyn Rhydychen-AstraZeneca ar ddiwrnod neu ddau...
Laura Anne Jones: Diolch. A yw hi'n iawn i mi siarad nawr, Ddirprwy Lywydd? Ni allaf eich clywed. Mae'n ddrwg gennyf, os ydw i—. A all pawb fy nghlywed? Gallwch, da iawn. O'r gorau. Rwy'n cymryd mai fi sydd i siarad. Iawn, diolch. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle a'r pwyllgor a phawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith pwysig hwn am yr holl waith caled y maent wedi'i wneud arno. Rwy'n croesawu'r...
Laura Anne Jones: Weinidog, rwy'n cytuno â phopeth y mae Lynne newydd ei ddweud, a byddwn yn cefnogi'r hyn y mae wedi'i ddweud. Rwy'n hapus iawn fod Llywodraeth Cymru wedi nodi bod hyn yn hanfodol, oherwydd mae'n ofal critigol, y gofal amenedigol. Mae'n gyfnod mor bwysig i'r rhieni ac i'r plant hefyd, fel yr amlinellwyd eisoes. Felly, rwy'n croesawu'r arian ychwanegol sy'n mynd tuag at iechyd meddwl, a byddwn...
Laura Anne Jones: Weinidog, hoffwn eilio hynny—credaf fod Aneurin Bevan yn gwneud gwaith gwych, o'r hyn y gallaf ei weld, ac mae pawb yn gweithio mor galed i ddarparu’r brechlyn hwn cyn gynted â phosibl. Ond ymddengys bod llawer o bethau disynnwyr yn digwydd. Rwy'n cael llawer iawn o e-byst yn fy mewnflwch ynglŷn â chyplau nad ydynt yn cael eu brechu ar yr un pryd. Yn amlwg, rydym yn brechu’r henoed...
Laura Anne Jones: —yn cefnogi cynhyrchiant Cymru, felly nid mater yw hwn o ofyn a allwn ni fforddio adeiladu ffordd liniaru'r M4 hefyd, ond a allwn ni fforddio peidio â gwneud hynny.
Laura Anne Jones: Diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ddatganiad heddiw. Rwy'n croesawu llawer o'r cynigion yn yr adroddiad hwn, yn benodol er mwyn pobl Casnewydd, a'r gwelliannau a argymhellir i'r rhwydwaith rheilffyrdd yn arbennig felly, ynghyd â'r gorsafoedd newydd a gynlluniwyd a'r coridorau bysiau cyflym newydd ledled y rhanbarth a fydd yn cysylltu ag asgwrn cefn y rheilffordd. Rwy'n cydnabod y bydd y...
Laura Anne Jones: Diolch. Prif Weinidog, rydych chi newydd fod â'r haerllugrwydd i ddweud yn gynharach yn y cwestiynau, 'Allwch chi ddim ymddiried yn y Torïaid', ac eto mae pobl Cymru wedi ymddiried ynoch chi i gyflwyno'r brechlyn yn gyflym i geisio achub bywydau pobl Cymru, ac rydych chi wedi eu siomi yn dra helaeth. Croesawaf sylwadau'r Gweinidog iechyd yn gynharach, ond, a dweud y gwir, mae eich sylwadau...
Laura Anne Jones: 3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gyflymu cyfradd brechiadau COVID-19 yng Nghymru? OQ56159
Laura Anne Jones: Mae manteision gweithgarwch corfforol i iechyd a lles yn hysbys iawn, a bydd llawer wedi hen arfer â fi'n tynnu sylw at y rhain drwy gydol fy nau dymor yn y swydd, fel un sy'n dadlau'n frwd dros yr holl fanteision corfforol a meddyliol a ddaw yn sgil gweithgarwch corfforol a chwaraeon. Ond mae ei bwysigrwydd yn ystod y pandemig hwn wedi cynyddu'n ddramatig fel ffordd i bobl hen ac ifanc...
Laura Anne Jones: Diolch, Weinidog. Mae'r cyhoeddiad y bydd ysgolion Cymru yn parhau i fod ar gau nawr tan hanner tymor mis Chwefror yn amlwg wedi cael effaith enfawr ar iechyd meddwl plant. Ac mae’r rhieni hefyd wedi teimlo’r straen wrth geisio gweithio gartref ar yr un pryd, fel y gwyddoch, ac fel y gwn innau. Ond caiff hynny ei waethygu mewn rhai teuluoedd gan fynediad at ddyfeisiau. A gwn fod mwy o...
Laura Anne Jones: Bydd gwybodaeth, sicrwydd a chyllid parhaus yn gwbl allweddol er mwyn cadw ein busnesau yng Nghymru yn fyw eleni ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae'n amlwg, Weinidog, y bydd angen cymorth y Llywodraeth ar fusnesau Cymru, cymorth ariannol am beth amser ar ôl i'r pandemig hwn ddod i ben, ond a allwch roi sicrwydd iddynt y bydd darparu'r cymorth ariannol hwnnw y mae ei wir angen arnynt, ac y bydd...
Laura Anne Jones: 1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am fesurau i alluogi myfyrwyr i ddatblygu eu haddysg yng Nghymru yn ystod y pandemig presennol? OQ56086