Canlyniadau 481–500 o 800 ar gyfer speaker:Hefin David

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (24 Hyd 2018)

Hefin David: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd rhaglen Uwchgyfrifiadura Cymru yn ei chael ar economi Cymru?

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (24 Hyd 2018)

Hefin David: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfradd y busnesau newydd a gaiff eu dechrau yng Nghymru o'i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig?

5. Datganiad gan Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fand Eang (23 Hyd 2018)

Hefin David: Bydd arweinydd y tŷ yn ymwybodol fy mod i wedi ysgrifennu ati unwaith eto ynglŷn ag ystâd Castle Reach and Kingsmead yng Nghaerffili, lle mae tai wedi eu hadeiladu heb unrhyw gysylltedd band eang o gwbl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae swyddogion arweinydd y tŷ swyddogion ac arweinydd y tŷ ei hun wedi bod yn rhagweithiol iawn wrth geisio cyrraedd at ddatrysiad o'r broblem hon. Er hynny,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gweithio Hyblyg (23 Hyd 2018)

Hefin David: Mae'n braf iawn clywed hynny. Mae polisi ar bob lefel yn y DU wedi ymwneud â gweithio sy'n ystyriol o'r teulu, ac mae'n dda clywed bod Llywodraeth Cymru yn ceisio symud y tu hwnt i hynny. Cymerais ran mewn dadl bythefnos yn ôl, yn seiliedig ar yr adroddiad hwn gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau 'Wrth eich gwaith: Rhianta a Chyflogaeth yng Nghymru', ac un o'r pethau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gweithio Hyblyg (23 Hyd 2018)

Hefin David: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ac annog gweithio hyblyg yng Nghymru? OAQ52839

6. Dadl ar Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Diwydiant 4.0 — Dyfodol Cymru (17 Hyd 2018)

Hefin David: Roeddwn am ganolbwyntio'n unig ar argymhellion 3, 7 a 9 yn fy ymateb. O ran argymhelliad 3, sy'n gofyn beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i harneisio arbenigedd a chysylltiadau ledled Cymru ac ymhlith y Cymry ar wasgar, un o'r pethau y buaswn yn ei ddweud yw bod cynnydd yn cael ei wneud yng Nghymru yn y maes hwn mewn prifysgolion, ac maent yn cynnwys arbenigedd o bob rhan o Gymru a thu...

5. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Yr Economi Sylfaenol (17 Hyd 2018)

Hefin David: Hoffwn ddweud 'diolch' wrth Lee Waters a Jenny Rathbone am wneud y daith i Preston; ni allwn wneud hynny fy hun, am resymau teuluol. Ond mae'n wych eu bod wedi cynhyrchu adroddiad, fel y byddech yn ei ddisgwyl, o ganlyniad i'w taith, ac rwyf wedi ei ddarllen gyda diddordeb. Mae'n datgelu bod yna bethau y gellir eu trosglwyddo o fodel Preston i'n cymunedau, heb ormod o drafferth. Rwy'n derbyn...

10. Dadl ar NDM6813 — Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren (10 Hyd 2018)

Hefin David: Os yw hynny'n wir, mae'n gwestiwn dilys pam y rhoddodd y gorau i'r achos llys. O ystyried ei fod yn destun cyllido torfol, rwy'n credu y dylem allu gweld y cyngor cyfreithiol a gafodd yn yr achos llys. [Torri ar draws.] Gwn iddo gael ei ddyfynnu yn y cyfryngau yn dweud iddo roi'r gorau i'r achos llys gan iddo sicrhau'r ddadl hon. Nid wyf yn credu bod hynny'n wir. Felly, hoffwn symud hyn yn ei...

10. Dadl ar NDM6813 — Gwaredu deunyddiau a garthwyd o Fôr Hafren (10 Hyd 2018)

Hefin David: Roeddwn am siarad yn y ddadl hon oherwydd bod etholwyr pryderus wedi cysylltu â mi. Rwy'n credu ein bod yn dechrau cynsail beryglus os ydym yn dechrau cwestiynu barn arbenigwyr gwyddonol. Credaf ein bod wedi gweld y broblem honno yn ein gwleidyddiaeth yn ddiweddar ac mae'n dod yn fwyfwy cyffredin. Credaf fod yn rhaid inni dderbyn bod y profion a gynhaliwyd yn 2009, 2013 a 2017 yn iawn i...

QNR: Cwestiynau i Arweinydd y Ty a'r Prif Chwip (Julie James) (10 Hyd 2018)

Hefin David: A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am y ddarpariaeth o fand eang cyflym iawn yng Nghaerffili?

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Tai ac Adfywio ( 3 Hyd 2018)

Hefin David: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am waith y grŵp cynghori gweinidogol ar lesddeiliaid?

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Wrth eich gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru' (26 Med 2018)

Hefin David: Rwy'n croesawu'r adroddiad, Ddirprwy Lywydd, ac yn cytuno â'r cyfan ohono bron, ond ar y pwynt hwn buaswn yn anghytuno rhywfaint â Jane Hutt, nid ar y peth diwethaf a dywedodd—rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd am absenoldeb rhiant a rennir a'r lefelau isel o ddefnydd ohono—ond ar argymhelliad 3. Cyn i mi ymhelaethu ar hynny, hoffwn nodi'r cyflwyniad—paragraff 1, tudalen 15:...

5. Datganiad gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon: Blaenoriaethau ar gyfer Amgylchedd Hanesyddol Cymru (25 Med 2018)

Hefin David: Mae'n anghyffredin gweld gwleidydd gyda'r fath brofiad yn ymroi i frîff gyda'r fath frwdfrydedd ifanc, sef yr hyn rwy'n credu y mae'r Gweinidog wedi ei wneud dros y 10 mis diwethaf ac sydd wedi arwain at y ddogfen hon, er mae'n rhaid imi ddweud bod gen i gŵyn, sef mai castell mwyaf Cymru, Castell Caerffili, sydd â'r llun lleiaf yn y llyfryn, ond fe fyddech yn disgwyl imi wneud y gŵyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Taliadau Rheoli Ystadau (25 Med 2018)

Hefin David: Ac yn gynyddol felly, mae pobl yn prynu llety rhydd-ddaliad ac yn cael eu gorfodi i dalu'r ffioedd hyn i gwmnïau preifat ar ben eu treth gyngor i gynnal eu hystadau. Yng Nghwm Calon yn Ystrad Mynach yn fy etholaeth i, mae Meadfleet, y cwmni rheoli ystâd yno, wedi cyhoeddi bod y taliadau yn mynd i gynyddu fesul chwe mis o £61 i £78, ac nid oes dim—dim—y gall neb ei wneud. Mae y tu hwnt...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Taliadau Rheoli Ystadau (25 Med 2018)

Hefin David: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i ymdrin â phroblem taliadau rheoli ystadau? OAQ52645

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyfraddau Cyflog ar gyfer Athrawon Cyflenwi (19 Med 2018)

Hefin David: Ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 28 Mehefin, a gofynnais gwestiynau iddi ynglŷn ag athrawon cyflenwi. Un o'r pethau a ddywedodd wrth y pwyllgor oedd: Mae llawer o'r ffocws diweddar wedi bod ar gyflogau isel athrawon cyflenwi. Yn ddiweddar, tynnwyd fy sylw at ddadl ynghylch ysgolion sy'n defnyddio athrawon cyflenwi ar gyfer rhai o'n pynciau...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cyfraddau Cyflog ar gyfer Athrawon Cyflenwi (19 Med 2018)

Hefin David: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gyfraddau cyflog ar gyfer athrawon cyflenwi? OAQ52591

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: Adroddiad Cynnydd ar y Cynllun Cyflogadwyedd (18 Med 2018)

Hefin David: Mae'r Gweinidog wedi crybwyll lansiad Project SEARCH, sy'n helpu pobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau i gael gwaith drwy gynnig cymorth ag interniaethau iddyn nhw gyda'r nod o gael cyflogaeth sicr â thâl iddyn nhw ar ddiwedd y lleoliad. Mae'r fenter i'w chroesawu, ond roeddwn eisiau gofyn i'r Gweinidog yn benodol am dudalen 15 y cynllun, sydd yn cynnwys ymrwymiad i leihau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Melinau Traethawd (18 Med 2018)

Hefin David: Dim ond tua awr yn ôl, ymwelais ag editmygrammar.co.uk, sy'n wefan sy'n dweud ei bod yn cynnig cymorth diogel a dibynadwy i academyddion, a chan esgus bod yn fyfyriwr israddedig blwyddyn gyntaf, cefais sgwrs ar-lein gyda dyn o'r enw 'Frank McAllister', a ddisgrifiodd ei hun fel uwch gynghorydd academaidd. Aeth y sgwrs fel hyn: Gofynnais iddo, 'A ydych chi'n ysgrifennu traethodau?', a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Melinau Traethawd (18 Med 2018)

Hefin David: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddelio â phroblem melinau traethawd? OAQ52612


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.