Canlyniadau 481–500 o 800 ar gyfer speaker:Delyth Jewell

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: Parhad ( 9 Rha 2020)

Delyth Jewell: Heddiw, bydd y Senedd hon yn gwrthod cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil marchnad fewnol, gan wybod ymlaen llaw na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu confensiwn Sewel. Rwy'n deall bod Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnig ar y funud olaf i ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig cyn defnyddio pwerau dirprwyedig. Mae’n rhaid eu bod yn meddwl ein bod yn ffyliaid os ydym yn credu...

3. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Argymhellion Burns — Y Camau Nesaf ( 8 Rha 2020)

Delyth Jewell: Diolch. Fe hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad a mynegi ar goedd hefyd fy niolch i Arglwydd Burns a'i dîm ef am eu gwaith nhw wrth gwblhau'r adroddiad. Mae cymudwyr ar yr M4 a'r cymunedau o amgylch y rhan hon o'r M4 yn haeddu gweld camau gweithredu ar ôl blynyddoedd o drafod a ddechreuodd, wrth gwrs, yn y 90au. Nawr, rydym ni ym Mhlaid Cymru yn croesawu argymhellion yr adroddiad...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 8 Rha 2020)

Delyth Jewell: Yr wythnos hon mae'r brechlyn wedi dechrau cael ei gyflwyno ac mae gobaith ar y gorwel i nifer o bobl. Ond rydyn ni'n dal i wynebu ychydig o fisoedd heriol, a bydd yr ifanc a'r hen yn teimlo hyn yn arbennig. Yn wir, Drefnydd, efallai mai'r ddau grŵp yma, yr ifanc a'r hen, sydd cael eu heffeithio fwyaf gan unigrwydd yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, gan golli allan ar brofiadau a chwmni...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ( 8 Rha 2020)

Delyth Jewell: Bu'n rhaid i'r Prif Weinidog a'i gyd-Weinidogion wneud penderfyniadau eithriadol o anodd yn ystod y pandemig, ac mae pob un ohonom ni yn sylweddoli pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa bellach yng Nghaerffili ac ar draws y de-ddwyrain. Rwyf i newydd wrando ar y drafodaeth rhyngoch chi a Laura Anne Jones, Prif Weinidog. Credaf fod diffyg cysylltiad rhwng difrifoldeb y sefyllfa a rhai agweddau...

8. Dadl Plaid Cymru: Y sector bwyd ( 2 Rha 2020)

Delyth Jewell: Mae'r ddadl hon yn ymwneud â'r sector bwyd, ond yr hyn yr hoffwn siarad amdano yn gyntaf yw'r effaith y mae diffyg bwyd yn ei chael ar ormod o bobl yn ein cymdeithas. Oherwydd, er mai'r DU yw'r seithfed economi gyfoethocaf yn y byd, mae gormod o aelwydydd yn ei chael hi'n anodd fforddio'r bwyd sydd ei angen arnynt i gadw'n iach, ac mae hynny'n effeithio nid yn unig ar iechyd corfforol pobl,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg: Iechyd Meddwl a Llesiant Pobl Ifanc ( 2 Rha 2020)

Delyth Jewell: Mae ein pobl ifanc wedi wynebu cymaint o straen eleni, gydag ansicrwydd ynghylch arholiadau, methu gweld ffrindiau, eu trefn arferol yn diflannu, a gwyddom, fel y dywedwyd, y bydd y pandemig wedi cael effaith anochel ar eu hiechyd meddwl. Ond mae'r ffigurau diweddaraf ar wariant y GIG ar gyfer 2018-19 yn dangos bod llai nag 1 y cant o gyllid y GIG wedi'i wario ar iechyd meddwl plant a phobl...

QNR: Cwestiynau i Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg ( 2 Rha 2020)

Delyth Jewell: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn Nwyrain De Cymru?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun ( 1 Rha 2020)

Delyth Jewell: Diolch, Prif Weinidog. Pan gadarnhawyd y prosiect mewn adroddiad asesu cynllun cam 3 yn 2017, £308 miliwn oedd y gost adeiladu amcanestynedig, ac amcangyfrifwyd mai £428 miliwn fyddai cyfanswm cost y prosiect. Yn ddiweddar, datgelodd y Western Mail rywbeth tebyg i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud, bod y gost adeiladu bellach wedi cynyddu, fel yr adroddwyd ganddyn nhw, i £550 miliwn er...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Deuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun ( 1 Rha 2020)

Delyth Jewell: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gost a amcangyfrifir ar gyfer deuoli'r A465 rhwng Dowlais a Hirwaun? OQ55986

5. 90 Second Statements (25 Tach 2020)

Delyth Jewell: Cafodd Jan Morris fywyd eithriadol, yn chwilota ac agor ffenestri ar fydoedd eraill gyda'i hysgrifennu, yn arloesi a chroesi tiroedd newydd ac agor drysau ar bosibiliadau. Bydd cynifer ohonom yn gyfarwydd â'i llyfrau atgofus am Fenis a Trieste, ond ei gwaith gwych The Matter of Wales a arweiniodd ddarllenwyr i ddarganfod trysorau cudd ein gwlad ein hunain, ei hanobaith a'i herfeiddiwch. Gan...

5. 90 Second Statements (25 Tach 2020)

Delyth Jewell: Cymuned oedd Cymru i Jan—cymuned a unwyd gan drasiedi a gobaith. Mewn erthygl a ysgrifennwyd yn 2011 i alarnadu dros y bywydau a gollwyd yng nglofa'r Gleision, dywedodd bod ei llygaid yn llawn dagrau wrth iddi estyn ei chariad o un pen o Gymru i'r llall—o Lanystumdwy ger afon Dwyfor i gyfeillion dieithr a oedd yn galaru yng nghwm Tawe. Teimlir y galar am golled Jan Morris ar draws...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd (25 Tach 2020)

Delyth Jewell: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o werth am arian trosi'r A465 o Ddowlais Top i Hirwaun yn sgil amcanestyniadau bod y gost wedi cynyddu'n sylweddol?

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (24 Tach 2020)

Delyth Jewell: Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Pleidleisiodd y cyhoedd yng Nghymru o blaid datganoli yn 1997. Ar ôl y mandad cychwynnol hwnnw, rydym ni wedi cael 12 digwyddiad democrataidd pellach sydd wedi caniatáu i bobl Cymru gadarnhau'r farn honno—ar ffurf refferendwm pellach yn 2011, pum etholiad yn y Senedd, a chwe etholiad cyffredinol. Yn y refferenda a'r holl etholiadau cafwyd mwyafrif clir o blaid...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (24 Tach 2020)

Delyth Jewell: 2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y DU? OQ55917

8. Dadl Plaid Cymru: Ardaloedd cymorth arbennig COVID-19 (18 Tach 2020)

Delyth Jewell: Mae cymaint o realiti economaidd y Cymoedd yn ystod y 40 mlynedd diwethaf wedi deillio o ddinistrio'r diwydiannau glo a'r diwydiannau cysylltiedig yn fwriadol gan Lywodraeth Thatcher. Roedd y brad hwnnw fel daeargryn ac mae wedi arwain at sawl ôl-gryniad. Nid yw ein hysbryd cymunedol erioed wedi pylu, ond mae ein lefelau diweithdra'n dal yn ystyfnig o uchel ac mae ein canlyniadau iechyd yn...

3. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) (18 Tach 2020)

Delyth Jewell: Rŷn ni fel plaid yn gefnogol o nifer o agweddau'r ddeddfwriaeth hon, yn enwedig y mesurau i estyn yr hawl i bleidleisio ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 mlwydd oed a hefyd pobl sydd wedi dewis gwneud eu cartref yma yng Nghymru. Mae hynny i'w glodfori ac yn bwysig, a byddwn ni'n falch o bleidleisio o blaid y ddeddfwriaeth heno. Ond rhaid dweud bod cyfle hefyd wedi ei golli yma. Roedd cyfle i...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Tach 2020)

Delyth Jewell: Iawn. Diolch ichi am hynny, Weinidog. O ran y newid diwylliant sydd ei angen, yn amlwg, nid staff awdurdodau lleol, sy'n cynllunio ac yn comisiynu gwasanaethau, yn unig sydd angen y ddealltwriaeth honno a'r tosturi rydych newydd gyfeirio ato. Yn ddiweddar, mae—. Rydym wedi gweld sylwadau anffodus gan gynghorydd awdurdod lleol yng ngogledd Cymru sydd fel pe baent yn awgrymu nad oedd pobl...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Tach 2020)

Delyth Jewell: Wel, diolch am hynny, Weinidog. Hoffwn ategu eich teyrnged i'r gweithwyr yn y trydydd sector ac awdurdodau lleol am yr holl waith y maent wedi'i wneud ar hyn. Ac rwy'n falch eich bod wedi egluro'r sefyllfa. Yn amlwg, gallwch weld o ble y cawsom y ffigurau hynny. Ond rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaethoch hefyd ei bod yn amlwg fod un person sy'n dychwelyd i fyw ar y stryd yn un person yn ormod....

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Tach 2020)

Delyth Jewell: Diolch, Lywydd. Weinidog, adroddwyd bod chwarter y rhai sy'n cysgu ar y stryd a gafodd le i aros yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf nôl yn cysgu ar y stryd. Pam fod hynny wedi digwydd?

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Y Lluoedd Arfog (11 Tach 2020)

Delyth Jewell: 'Celfyddyd o hyd mewn hedd—aed yn uwch / O dan nawdd tangnefedd; / Segurdod yw clod y cledd, / A rhwd yw ei anrhydedd.'


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.