Canlyniadau 501–520 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Economi Blaenau'r Cymoedd (24 Meh 2020)

Alun Davies: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am economi Blaenau'r Cymoedd? OQ55336

Cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Cam-Drin Domestig (24 Meh 2020)

Alun Davies: 2. A wnaiff y Dirprwy Weinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro lefelau cam-drin domestig yn ystod y cyfnod argyfwng? OQ55340

Teyrngedau i Mohammad Asghar AS (17 Meh 2020)

Alun Davies: Cefais fy ethol yr un pryd ag Oscar, fel dau aelod rhanbarthol, yn ôl yn 2007. Ac, wrth gwrs, rydym yn cwrdd â'n gilydd wrth i ni ymwneud â'n busnes yn y Siambr ac yn y Senedd, ond rydych yn dod i adnabod eich gilydd drwy waith y pwyllgorau a phan fyddwch yn ymweld â lleoedd ac yn deall beth yw eich gwaith. Fel Nick Ramsay, deuthum i adnabod Oscar am y tro cyntaf ar y Pwyllgor Cyllid ac...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (10 Meh 2020)

Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n ddiolchgar, Lywydd, i'r Prif Weinidog am eglurder ei ddatganiad y bore yma. Credaf fod ei eglurder wrth siarad yn cymharu’n dda â'r anhrefn parhaus a welwn dros y ffin yn Lloegr, lle rydym yn gweld addewidion yn cael eu rhoi, addewidion yn cael eu torri. Rydym yn gweld arweinyddiaeth wael a dirywiad yng nghefnogaeth y cyhoedd i’r polisïau sy'n cael eu rhoi...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) ( 3 Meh 2020)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd. Prif Weinidog, mae mwyafrif llethol y bobl ym Mlaenau Gwent yn gwbl gefnogol o'r dull yr ydych chi wedi ei fabwysiadu ac mae Llywodraeth Cymru wedi ei fabwysiadu dros y misoedd diwethaf, ac maen nhw'n cydnabod pwysigrwydd parhau â dull gofalus iawn. Mae gen i ddiddordeb mewn deall sut yr ydych chi'n gweld hyn yn symud ymlaen. Dywedasoch mewn cynhadledd i'r...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) (20 Mai 2020)

Alun Davies: Mae'r tri grŵp o fusnesau roeddwn am eich holi yn eu cylch yn cynnwys canolfannau chwarae i blant, mentrau cymdeithasol a'r busnesau bach nad ydynt wedi'u cofrestru ar gyfer TAW ac nad ydynt o reidrwydd yn talu ardrethi busnes, sy'n anadl einioes i economïau lleol ac sy'n cynnwys y bobl y mae angen inni fuddsoddi ynddynt er mwyn cynnal ein seilwaith cymdeithasol ac er mwyn sicrhau eu bod yn...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (20 Mai 2020)

Alun Davies: Rwyf wedi gofyn dau gwestiwn.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (20 Mai 2020)

Alun Davies: Lywydd, rwy'n ddiolchgar am y datganiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud y prynhawn yma. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod y mwyafrif helaeth o bobl Blaenau Gwent yn llwyr gefnogi'r dull o weithredu a fabwysiadwyd ganddo ef a Llywodraeth Cymru dros y ddeufis diwethaf. Maent yn cytuno'n gryf iawn mai ei ddull digyffro a gochelgar ef, dull sy'n rhoi bywydau pobl yn gyntaf, yw'r un sy'n...

6. Datganiad gan y Gweinidog fydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Coronafeirws (COVID-19) ( 6 Mai 2020)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. Mewn atebion i gwestiynau, mae'r Gweinidog wedi canolbwyntio ar rai o'r themâu y mae'n bwriadu eu dilyn, ac rwy'n gobeithio y bydd yn dilyn y themâu hynny. Roedd gennyf feddwl mawr o'r ffordd y diystyrodd y nonsens gan Mark Reckless am gydraddoldeb. Rwy'n credu bod rhaid iddo fod yn sylfaenol i lle rydym fel Llywodraeth ac fel...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Ymateb i Coronafeirws (COVID-19) ( 6 Mai 2020)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma. A gaf fi ofyn iddo am y math o gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i darparu i bobl sy'n hunangyflogedig neu'n dibynnu ar ficrofusnesau am eu hincwm? Rwy'n meddwl yn arbennig am yrwyr tacsi; rwy'n meddwl am bobl sydd wedi dechrau fel peintwyr ac addurnwyr hunangyflogedig, sy'n gweithio ar hyn o bryd heb unrhyw incwm o gwbl ac...

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) ( 6 Mai 2020)

Alun Davies: Diolch, Brif Weinidog. Gofynnais i chi bythefnos yn ôl pa mor ymrwymedig yr oeddech i'r dull pedair Llywodraeth o weithredu, ac fe ddywedoch chi eich bod yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i hynny. Ac mewn egwyddor, mae hynny'n rhywbeth rwy'n cytuno ag ef—byddai bob amser yn well gennyf weld pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gweithio gyda'i gilydd, yn rhannu gwybodaeth ac yn rhannu...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (22 Ebr 2020)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ac am ei ffordd agored o ateb y cwestiynau hyn. Hoffwn ddychwelyd at bwnc caffael, os caf. Gwelsom anhrefn llwyr ddoe wrth i'r Ysgrifennydd Parhaol yn y Swyddfa Dramor gael ei orfodi i ysgrifennu at bwyllgor dethol yn Nhŷ’r Cyffredin i dynnu tystiolaeth, a roddodd brynhawn ddoe i’r un pwyllgor ar fater caffael peiriannau anadlu’r...

14. Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws (24 Maw 2020)

Alun Davies: A allaf bwyso arnoch ynghylch yr archfarchnadoedd? Rwy'n credu bod llawer ohonom yn bryderus am weithwyr hefyd. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi yn eithaf siomedig, dros nos, sydd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r gwaith. Mae'n amlwg nad yw eu gwaith yn hanfodol mewn unrhyw ffordd realistig ar hyn o bryd. A oes pwerau, neu a oes pwerau yn bodoli, i alluogi naill ai'r...

14. Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws (24 Maw 2020)

Alun Davies: Rwy'n cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n cefnogi'r pwerau, rwy'n cefnogi'r defnydd o'r pwerau hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwn, ar ddiwedd y cyfnod ofnadwy hwn o amser yr ydym yn byw drwyddo, wedi dysgu rhai gwersi ac y byddwn yn gallu adolygu lle'r ydym yn sefyll fel Senedd a'r pwerau sydd gan Weinidogion i'n cadw ni'n ddiogel. Diolch.

14. Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws (24 Maw 2020)

Alun Davies: Rwy'n credu bod pob un ohonom, wrth ystyried y materion hyn, yn ystyried ein gwerthoedd, ein swyddi, yn y Siambr hon, ond hefyd ein cyfrifoldebau tuag at ein teuluoedd a'r bobl yr ydym yn eu caru. Mae llawer ohonom wedi bod yn gwylio'r teledu dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gweld yr hyn sy'n digwydd i gyfeillion ar draws y dŵr yn yr Eidal a Sbaen a mannau eraill, wedi gweld dioddefaint...

7. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (24 Maw 2020)

Alun Davies: Roedd hynny'n garedig iawn, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, credaf yr hoffai llawer ohonom ni adleisio'r diolchiadau o bob rhan o'r Siambr y bore yma i'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus, yn sicrhau ein bod i gyd yn ddiogel ac y caiff ein teuluoedd eu cadw'n ddiogel, a hefyd i chi a'ch tîm o Weinidogion a swyddogion sydd...

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog (18 Maw 2020)

Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y mater hwnnw?

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog (18 Maw 2020)

Alun Davies: Lywydd, rwy'n ddiolchgar i chi, ac rwy'n gwybod fy mod yn profi amynedd pawb yn hyn o beth. Mae'r mater a drafodwyd gennym o dan y cwestiwn amserol yn fater sydd o bwys mawr i'r cyhoedd, gan ei fod yn ymwneud â'r adnoddau a sut y caiff yr adnoddau eu dyrannu i Lywodraeth Cymru a sut y mae Llywodraeth Cymru yn rheoli'r adnoddau hynny ar adeg o argyfwng. Mae'n hanfodol sicrhau bod ein...

3. Cwestiynau Amserol: Cefnogaeth i Fusnes (18 Maw 2020)

Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n meddwl bod pob un ohonom yn croesawu'r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi deffro i'r argyfwng sy'n wynebu llawer o bobl ledled y wlad. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol fod dros ddegawd yn awr ers inni achub crwyn y banciau—nawr mae'n bryd cefnogi ein pobl. Mae llawer ohonom yn teimlo bod y Canghellor, yn ei ddatganiad ddoe, wedi...

3. Cwestiynau Amserol: Cefnogaeth i Fusnes (18 Maw 2020)

Alun Davies: 1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth y DU ar gymorth i fusnesau a'r economi a wnaed ar 17 Mawrth 2020? 408


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.