John Griffiths: Credaf ei bod yn amlwg fod y blaned mewn perygl, Ddirprwy Lywydd, ac mae barn mwyafrif helaeth y wyddoniaeth a'r gwyddonwyr ar y materion hyn yn gwneud hynny'n glir. Dyna pam y mae'r IPCC wedi dweud bod newid yn yr hinsawdd yn digwydd yn gynharach ac yn gyflymach na'r disgwyl a bod gennym 12 mlynedd i atal y newid peryglus yn yr hinsawdd a bod rhaid i Lywodraethau weithredu camau radical ar...
John Griffiths: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau o dan berchnogaeth leol?
John Griffiths: Mae'n gymhleth. Ond yr hyn yr ydym ni yn ei wybod yw ein bod yn gweld cynnydd gwirioneddol, unwaith eto, fel yr amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet yn gryno, a'r hyn y mae angen inni ei wneud yw cryfhau hynny, rwy'n credu, a chyflymu ein camre. Fe hoffwn i ddweud tipyn bach, Dirprwy Lywydd, o ran materion sy'n ymwneud â digartrefedd a gwneud yn siŵr pan gaiff pobl eu rhyddhau o'r ddalfa, eu...
John Griffiths: —yn llawer mwy effeithiol nag y buom ni hyd yn hyn. Gwnaf.
John Griffiths: Wel, wyddoch chi, rwy'n credu y gallwn ni edrych yn ôl a gweld hanes drwy lygaid gwahanol, heb ddeall bob amser y rhwystrau a oedd o bosib ar lwybr penodol a allem ni fod wedi hoffi ei weld. Felly, heb roi esboniad trofaus o ble'r oeddem ni a ble'r ydym ni yn awr—
John Griffiths: Rwy'n cytuno i raddau helaeth iawn â'r hyn y mae Leanne Wood newydd ei ddweud, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu bod y system cyfiawnder troseddol yn y Deyrnas Unedig yn ddim llai na thrychinebus ac erchyll. Mae'n annynol, mae'n anghynhyrchiol, mae'n creu llawer o niwed i'n cymunedau, ac mae angen iddi newid. Felly, gorau oll y mwyaf o bwerau y gallwn ni eu cael i Gymru i gael system llawer mwy...
John Griffiths: Serch hynny, Prif Weinidog, ceir llawer gormod o farwolaethau ac anafiadau ar ein ffyrdd o hyd, ac un ymateb pwysig, sy'n datblygu'n gyflym yn rhyngwladol ac yn y DU, yw cynyddu nifer y terfynau cyflymder uchaf 20 mya mewn ardaloedd yng nghanol trefi. Mae hyn yn ei gwneud yn haws i osgoi damweiniau, yn lleihau'r anaf os bydd damwain yn digwydd ac yn galluogi'r strydoedd i gael eu hawlio yn...
John Griffiths: 2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu strategaeth Llywodraeth Cymru i wella diogelwch ar y ffyrdd? OAQ52793
John Griffiths: Diolch ichi am hynny, arweinydd y tŷ. Fel y gwyddoch, ni chyrhaeddodd cam 1 o Cyflymu Cymru bentrefi Langstone, Llanfaches, Trefesgob ac Allteuryn yn Nwyrain Casnewydd, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod cyfarfod wedi digwydd gydag un o'ch swyddogion ac eraill i drafod y problemau. Mae'r trigolion lleol yn y pentrefi hynny'n edrych ymlaen yn eiddgar at gyfnod 2, a thybed—cyhoeddiad yr wythnos...
John Griffiths: 6. A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y ddarpariaeth o fand eang yn Nwyrain Casnewydd? OAQ52711
John Griffiths: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynnydd Llywodraeth Cymru o ran symud tuag at fodel cyllidebu sy'n canolbwyntio mwy ar wario ataliol?
John Griffiths: Croesawaf y ddadl hon heddiw, a'r cyfle i drafod y materion pwysig iawn hyn ynghylch carchardai yng Nghymru ac adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru. Mae gennym ni boblogaeth garchar sy'n tyfu yng Nghymru, fel y noda'r adroddiad, a dyna'r sefyllfa yn Lloegr hefyd. Yn yr un modd, ceir cynnydd yn y nifer o ymosodiadau, achosion o hunan-niwed ac aflonyddwch yn y carchar. Mae gennym ni...
John Griffiths: Ydy, Prif Weinidog, mae'r bont gludo, a adeiladwyd ar droad yr ugeinfed ganrif, yn un o ddim ond chwech o bontydd sy'n gweithio yn y byd heddiw. Fe'i hadeiladwyd yn wreiddiol i gludo gweithwyr dur ar draws afon Wysg i'w gweithle ac mae gan bobl leol lawer iawn o atgofion ohoni. Rwy'n cofio bod ar y bont gludo yn mynd i gemau ysgol, yn yr ysgol gynradd, gan sefyll ar un goes pan oedd yn taro...
John Griffiths: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar gyfer treftadaeth ddiwydiannol yng Nghasnewydd? OAQ52710
John Griffiths: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n sylweddoli ein bod eisoes wedi crybwyll y materion hyn yn y Siambr heddiw. Credaf ei bod yn amlwg fod gan fyrddau gwasanaethau cyhoeddus rôl hanfodol i'w chwarae yn gweithio gyda chymunedau i wella eu cynlluniau a'u strategaethau llesiant, ac yna i wneud yn siŵr eu bod yn cael eu gweithredu'n briodol, gan weithio yn y ffordd drawsbynciol honno ar draws y cyrff...
John Griffiths: 6. Beth yw asesiad Ysgrifennydd y Cabinet o berfformiad byrddau gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52668
John Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd, a chredaf fod pawb wedi ategu pwysigrwydd y materion hyn i'r economi yn ogystal ag i'r unigolion a'r teuluoedd yr effeithir arnynt. Soniodd Janet Finch-Saunders am yr ystod o dystiolaeth a ddaeth i lywio gwaith y pwyllgor, a chredaf fod hynny'n arbennig o bwysig fel sylfaen i'r adroddiad a'r argymhellion a wnaed...
John Griffiths: Mae'n bwysig iawn fod pobl sy'n chwilio am waith yn gwybod bod gweithio hyblyg yn opsiwn a'i fod yn eglur yn hysbyseb a disgrifiad y swydd. Mewn gwirionedd, byddai'n dda cynnwys slogan debyg i slogan Llywodraeth yr Alban, 'hapus i drafod gweithio hyblyg' ar gyfer pob un o hysbysebion swyddi Llywodraeth Cymru, a byddai'n ddefnyddiol cael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth...
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Wrth eich Gwaith: rhianta a chyflogaeth yng Nghymru'. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, naill ai drwy roi tystiolaeth yn ysgrifenedig neu ar lafar, ac yn benodol, y rhai a rannodd eu profiadau personol o wahaniaethu yn y gweithle. Roeddem...
John Griffiths: Fel y Gweinidog ar y pryd a hebryngodd y Ddeddf teithio llesol drwy'r Cynulliad, rwy'n falch iawn fod y pwyllgor wedi gwneud y gwaith craffu ar ôl deddfu hwn. Fel y dywedwyd, roedd yn bolisi a ddaeth drwy'r gymdeithas ddinesig, gyda Sustrans yn amlwg yn chwarae rôl allweddol iawn. Roedd yn tarddu o, ac yn cael cefnogaeth gan y Gymru ehangach, ac roedd yn dda iawn ei datblygu a'i rhoi ar...