Lesley Griffiths: Diolch. Rwyf bob amser yn meddwl bod Caerdydd yn ddinas werdd iawn. Fel y dywedwch, mae llawer o barciau hardd yma. Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau gydag unrhyw awdurdod lleol yn dod ataf mewn perthynas â pharciau newydd ers i hyn ddod yn ôl i fy mhortffolio wrth gwrs, ond yn sicr byddem yn awyddus iawn i edrych ar rinweddau unrhyw gynnig a gâi ei gyflwyno.
Lesley Griffiths: Diolch. Wel, mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU ar y ddeddfwriaeth hon. Rydym yn cydnabod yn llwyr fod anifeiliaid yn fodau ymdeimladol, ac nid wyf yn credu y gallaf ateb yn fwy manwl nag y gwneuthum i atebion blaenorol.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda fy holl gyd-aelodau o'r Cabinet ar faterion sy'n ymwneud â fy mhortffolio. Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi ymrwymo i hyrwyddo lleoedd o ansawdd ac i ddatblygiadau tai newydd gael seilwaith digonol, gan gynnwys mannau gwyrdd.
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n sicr yn edrych ymlaen at y ffotograffau y byddwch yn anfon ataf o Arthur, ac mae'n ddrwg gennyf glywed fod ei gyflwr yn dirywio, oherwydd, fel y dywedwch, nid y marwolaethau'n unig ydyw, ond yr anafiadau y mae'r anifeiliaid hyn yn eu cael. Rwy'n meddwl fy mod wedi ateb rhan o'ch cwestiwn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders. Mae'n rhaid inni fynd drwy broses. Rydym wedi ymrwymo i...
Lesley Griffiths: Wel, pe baech chi'n Weinidog, byddech chi'n cydnabod na allwch fynd o gwmpas yn gwahardd pethau; mae'n rhaid cael tystiolaeth ac mae'n rhaid ichi gael ymgynghoriadau, ac mae hwn yn un o'r pethau rydym yn edrych arnynt. Fe fyddwch yn gwybod am y ddeiseb. Ar ôl bod yn Gadeirydd eich hun, fe fyddwch yn ymwybodol o'r broses yr awn drwyddi gyda hynny. Fe fyddwch wedi darllen, rwy'n siŵr, y...
Lesley Griffiths: Mater i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw'r cais cynllunio. Ni fyddai'n iawn i mi ymyrryd, nac unrhyw Weinidog Cymreig arall. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig iawn—a dyma'r hyn y gofynnais am sicrwydd yn ei gylch gan gyngor Caerffili—yw bod yr arolygiadau dirybudd yn parhau. A hyd yma, rhwng mis Chwefror 2020 a mis Awst eleni, rwy'n gwybod bod wyth arolygiad dirybudd wedi'u cynnal,...
Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n deall eich bod chi hefyd yn dal ati i bwyso mewn perthynas â'r mater hwn, ac edrychaf ymlaen at gyfarfod â chi a Jane Dodds, yr wythnos ar ôl toriad, rwy'n credu, i drafod y sefyllfa'n fwy manwl. Wrth reswm, rwy'n ymwybodol o gynlluniau'r un trac milgwn sy'n dal i fod gennym yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, ysgrifennais at y perchennog yn ôl ym mis Mawrth, ac nid wyf wedi...
Lesley Griffiths: Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 4 a 5 gael eu grwpio. Nid wyf wedi celu fy awydd i fynd i'r afael â phryderon yn ymwneud â lles milgwn rasio yng Nghymru. Mae ein cynllun lles anifeiliaid yn nodi sut y byddwn yn ystyried cyflwyno mesurau pellach. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad y ddeiseb ddiweddar, sydd dan ystyriaeth y Pwyllgor Deisebau ar hyn o bryd.
Lesley Griffiths: Ydw, ond hoffwn nodi ein bod yn dal i edrych ar lunio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Mae'r arolwg yn dal ar agor tan 21 Tachwedd, felly cofiwch annog eich holl gymheiriaid i sicrhau eu bod yn cwblhau'r arolwg a gadewch inni glywed eu barn. Rwyf wedi dweud ar hyd yr amser, os nad yw'n gweithio i ffermwyr tenant, ni fydd yn gweithio i unrhyw un, oherwydd maent yr un mor bwysig â ffermwyr tir,...
Lesley Griffiths: Rwy'n cydnabod hynny'n llwyr, a chodwyd y pryderon hynny'n gynnar iawn—yr adeg hon y llynedd, mae'n debyg, pan gyhoeddodd Llywodraeth y DU eu cynllun bwyd môr. Rwy'n credu ei fod yn ddryslyd iawn, oherwydd byddai wedi bod yn well pe baent wedi rhoi ein cyfran o'r cyllid roedd gennym hawl i'w gael a gallem ni benderfynu beth i'w wneud gyda'r cyllid hwnnw a sut y byddem yn gweithio gyda'r...
Lesley Griffiths: Diolch. Bwriad y cynllun ffermio cynaliadwy yw gwobrwyo pob math o ffermwr, gan gynnwys ffermwyr tenant sy'n rheoli'r tir, er mwyn sicrhau canlyniadau amgylcheddol ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd mewn modd cynaliadwy. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym sector amaethyddol cynaliadwy a gwydn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Lesley Griffiths: Wel, mae sicrhau bod yr arian a ddaw yn lle cronfa'r môr a physgodfeydd Ewrop yn gywir, yn briodol, yn bwrpasol—ei fod yn mynd i ble y mae angen iddo fynd. Mae'n un o'r rhesymau pam y newidiais fformat grŵp cynghori'r Gweinidog. Roeddwn yn meddwl bod hynny'n bwysig iawn i wneud yn siŵr—. Roedd yr un blaenorol mewn bodolaeth ers tua 10 mlynedd ac yn amlwg, mae'r byd wedi newid ac...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu mai fi yw cefnogwr mwyaf brwd y cynhyrchwyr bwyd a diod Cymreig sydd gennym. Rwyf wedi sicrhau eu bod yn cael blaenoriaeth ers imi gael y portffolio hwn. Rydym newydd fod yn SIAL ym Mharis, a neithiwr cynhaliwyd digwyddiad yn Qatar, cyn cwpan y byd, i wneud yn siŵr fod pobl yn ymwybodol o fwyd a diod Cymreig yno hefyd. Ar eich cwestiwn penodol mewn perthynas â'r Unol Daleithiau,...
Lesley Griffiths: Rwy'n credu ei bod yn dda iawn gweld cymeradwyaeth yr undebau amaeth a'r sefydliadau amgylcheddol anllywodraethol, fel y dywedoch chi, yn ogystal â'r gymeradwyaeth drawsbleidiol, os mynnwch chi, i'r ffordd y mae'r Bil amaethyddiaeth wedi dechrau. Rwy'n gwybod y bydd gwelliannau'n cael eu cyflwyno, ac unwaith eto, rydym yn gweithio gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithio i gyflwyno...
Lesley Griffiths: Diolch. Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei eiriau caredig am Christianne Glossop sy'n gadael ei swydd fel prif swyddog milfeddygol cyntaf Cymru ar ôl 17 mlynedd. Yn sicr fe fydd hi'n gadael esgidiau mawr i'w llenwi. Rwy'n gwybod y bydd hi'n falch iawn o glywed eich sylwadau. Ar y cwestiwn ynglŷn â ffermydd sydd ag achosion o TB, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried, a bydd yn cael ei...
Lesley Griffiths: Mae'n debyg y dylwn ddweud i gychwyn nad oes unrhyw achosion o ffliw adar wedi bod mewn adar sy'n cael eu cadw yn sir Ddinbych yn ystod y cyfnod 2021-22 neu'n wir yn ystod y cyfnod presennol o achosion yn 2022-23, ond mae wedi bod yn ddi-baid ar draws y DU. Nid ydym wedi cael seibiant o gwbl. Fel arfer, rydym yn cael peth seibiant yn ystod misoedd yr haf, ond nid ydym wedi cael unrhyw doriad...
Lesley Griffiths: Ar 17 Hydref, cyflwynodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â gweinyddiaethau eraill yn y DU, barth atal ffliw adar. Mae hyn yn berthnasol i Gymru gyfan ac yn gosod rhwymedigaethau cyfreithiol ar geidwaid adar i ddilyn mesurau bioddiogelwch llym. Bioddiogelwch da yw'r amddiffyniad gorau ar gyfer atal ffliw adar mewn adar a gedwir.
Lesley Griffiths: Ie, yn hollol, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei ystyried. Rwyf wedi cael sawl cyfarfod gyda'r RSPCA ac mae swyddogion hefyd wedi cyfarfod â hwy. Rydym wedi bod yn edrych ar enghreifftiau lle mae gwledydd eraill wedi cael y pwerau hynny gyda'u trydydd sector. Hoffwn ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â chi mewn perthynas â Dogs Trust Cymru; mae'n un o fy hoff lefydd i ymweld â hwy.
Lesley Griffiths: Mae cod ymarfer Llywodraeth Cymru ar les cŵn yn hysbysu perchnogion am eu rhwymedigaethau'n ymwneud â rheoli eu cŵn a'r deddfwriaethau sy'n llywodraethu, ac mae llawer ohonynt. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gyflwyno mesurau diogelu pellach drwy'r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir).
Lesley Griffiths: Dydw i ddim yn ymwybodol o unrhyw waith sy'n cael ei wneud gan y sefydliad rydych chi'n cyfeirio ato, ond os yw hynny'n wir, fe wnaf ofyn i'r Gweinidog ysgrifennu at yr Aelod.